12/06/2007

Diolch o Galon, Tomos Cwc!

I'r rhai ohonom sydd wedi bod yn dilyn y frwydr iaith dros y blynyddoedd does dim byd newydd, syfrdanol, neu unigryw yn hanes Thomas Cook. Mae o'n hen-hen stori. Yr ydym wedi clywed yr un hanes am fwyty yng Nghaernarfon, siop ym Metws y Coed, archfarchnad yn y Bala ac ati ac ati. Mae'r fath sarhad ar yr iaith yn digwydd mor aml, bron gellir cytuno a Rhodri Morgan bod y fath beth yn boring bellach.

Ond mae Thomas Cook wedi gwneud cymwynas a'r iaith, bron iawn, trwy ddewis yr adeg gorau un i brofi rhagfarn cwmnïau preifat tuag at yr iaith.

Yr un peth sydd wedi nodweddu gwahaniaeth barn rhwng Llafur a'r Enfys yw bod pleidiau’r enfys ill tri yn gytûn bod angen gwell ddeddfwriaeth iaith (er, yn anghytuno a sgôp y fath ddeddfwriaeth). Mae agwedd Thomas Cook wedi cryfhau’r cytundeb rhwng pleidiau'r enfys ac wedi rhoi sail i ddadl Plaid Cymru bod rhaid i Ddeddf Iaith bod yn bwnc canolog mewn unrhyw drafodaethau Cochwyrdd.

Dyma'r tro cyntaf yn fy mywyd hir, imi weld pob un o'r pedwar prif blaid yn uno i gondemnio cwmni am sarhau'r iaith mewn ffordd mor groch. Er nad ydyw agewdd Thomas Cook yn unigryw o bell ffordd, ysywaeth, bydd amseriad yr achos yma yn sicr o arwain at gryfhau hawliau'r iaith mewn rhyw fodd neu'i gilydd. Felly diolch o galon Tomos Cwc.

3 comments:

  1. Cytuno Alwyn. Roedd geiriau Carwyn Jones neithiwr, 'cwbwl anerbyniol', yn gwbwl ddiamwys!

    Gobeithio y bydd hyn yn gosod momentwm i unrhyw drafodaethau pellach rhwng y pleidiau ond rhaid, dwi'n credu, cael consensws mor llydan a phosib - dylai unrhyw ddeddwriaeth newydd gael ei ystyried yn fanwl ac yn dreiddgar -nid ar chwarae bach mae creu deddfwriaeth mor bwysig.

    At dy bwynt ynglyn a Sosialaeth, fe ddarllenais i ar flog Adam Price bod sosialaeth yn un o gonglfaeni cyfansoddiad y blaid, a hynny ers yr 80au. Pwy benderfynodd hyn? Oedd mwyafrif mawr o blaid? Cefais fy synnu braidd, rhaid imi ddweud, am fy mod i'n nabod digon o Bleidwyr sydd ddim yn sosialwyr (er fy mod i yn ystyried fy hun y un!). Wela i ddim golwg o'r cyfansoddiad ar wefan y Blaid, ond dwi'n bwriadu cael gafael ar gopi...

    ReplyDelete
  2. Dwi'n cofio dyddiau y 'Welsh cheque' yn siopau Gogledd Cymru yn yr 80au, a gorfod gadael nwyddau yn y siop gan eu bod yn gwrthod derbyn siec Gymraeg.
    Anodd credu felly fod ymateb ddirmygus fel hyn tuag at yr Iaith Gymraeg yn dal i barhau.
    Ond [ diolch i Tomos Cwc],dwi'n meddwl fod 'na oleuni i'w weld ar y gorwel...

    ReplyDelete
  3. Rhaid cyfaddef, er yr holl brotestio sydd wedi bod yn digwydd a chondemniad y gwleidyddion, fy mod wedi fy nghythruddo yn llwyr gan agwedd Thomas Cook mewn atebiad i ebost a yrrais at y cwmni.

    Mae'n amlwg nad yw eu hagwedd wedi newid o gwbwl.

    Mae'r ateb a gefais i'w weld ar fy mlog.

    ReplyDelete