Mae nifer o sylwadau ar y blogiau gwleidyddol ac yn edeifion gwleidyddol Maes-e yn niweddar wedi profi bod yna gnewyllyn o genedlaetholwyr Cymreig sy' ddim yn derbyn y farn Sosialaidd.
Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru yn perthyn i'r canol neu'r dde o'r sbectrwm gwleidyddol. Yn anffodus ers dechrau'r wythdegau bu don o sosialwyr yn honni mae achos sosialaidd yw'r achos cenedlaethol; ers canol y nawdegau mae'r don wedi troi yn llif. Bellach yr unig ddadl genedlaethol, bron iawn, sy'n cael ei gynnig yw'r ddadl sosialaidd ac mae'r mwyafrif o Bleidwyr yn derbyn y ddadl yna, yn erbyn eu synhwyrau cynhenid, gan nad ydynt yn clywed dadl amgen.
Gan hynny yr wyf yn croesawu galwad Sanddef Rhyferys am fforwm i genedlaetholwyr sy' ddim yn Sosialwyr i gyd drafod er mwyn ceisio datblygu syniadau cenedlaethol y de a'r canol ac i geisio lledaenu neges cenedlaetholdeb Cymreig o bersbectif sydd ddim yn un Sosialaidd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno a'r fath fforwm mae rhagor o fanylion ar flog Ordivicius.
Yr wyf wedi agor trafodaeth ar yr un testun ar Faes-E. Os ydych yn aelod o'r Maes gwell bydd trafod yno yn hytrach nag yn fy mlwch sylwadau.
oi sou helio estive aki gostei muito quer uma parceria passe no meu blog pegue o selo e cole seu blog que eu colo o seu no meu valeu
ReplyDeletehttp://mercadodaspulgas.blogspot.com
Cais gan rhywun o Bortiwgal yn chwilio am ddolen yw'r uchod, mi gredaf.
ReplyDeleteGwahoddiad i ymweld a'i flog ydy.
ReplyDeleteOnd at y pwnc: serch rhai sylwadau ar fy mlog innau, nid cais i holltu Plaid Cymru sydd yma (dwi ddim yn aelod felly nid fy mhroblem i ydy gwleidyddiaeth fewnol y blaid), eithr cais i greu fforwm ar gyfer rhan o'r sbectrwm gwleidyddol ymhlith cenedlaetholwyr sydd heb gartref iddyn nhw eu hunain i leisio eu syniadau.
This comment has been removed by the author.
ReplyDeleteClwb Cenedlaetholwyr Libertaraidd
ReplyDelete