06/11/2007

Tân Gwyllt Cymreig?

Mae yna nifer o resymau dros beidio â dathlu gwyl Guto Ffowc. Yn amlwg mae'n wyl Prydeinllyd - yn cael ei ddathlu ar raddfa Brydeinig ac yn cael ei gynnal i ddathlu goroesiad Senedd a Brenin Lloegr.

Mae o'n wyl sy'n annog anoddefgarwch crefyddol, yn dathlu ymosodiad ar ryddid barn ac yn clodfori agwedd ffiaidd tuag at drosedd a chosb..

Ond mae'r plantos yn mwynhau noson tân gwyllt a dim ond rhiant crintachlyd bydda am rwystro eu plant rhag ymuno yn yr hwyl o herwydd cywirdeb gwleidyddol.

Be mae rhiant gwladgarol Cymreig am wneud, felly? Be am gael noson tân gwyll i ddathlu digwyddiad cenedlaethol Cymreig yn ystod yr un cyfnod o'r flwyddyn? Oes yna ddigwyddiadau addas ar gael?

1 comment:

  1. Ro'n i'n meddwl am yr un peth. Sut medru'r Cymry yn dathlu gŵyl sy'n coffáu peth sy'n cael eu 'neud gan arwyr Cymru? Ag oedd Guto Ffowc yn arwr i rhai o bobl ond tydy?

    Sori, dydy fy Nghymraeg ddim yn dda i fynegi fy hunan.

    ReplyDelete