Mae yna nifer o resymau dros beidio â dathlu gwyl Guto Ffowc. Yn amlwg mae'n wyl Prydeinllyd - yn cael ei ddathlu ar raddfa Brydeinig ac yn cael ei gynnal i ddathlu goroesiad Senedd a Brenin Lloegr.
Mae o'n wyl sy'n annog anoddefgarwch crefyddol, yn dathlu ymosodiad ar ryddid barn ac yn clodfori agwedd ffiaidd tuag at drosedd a chosb..
Ond mae'r plantos yn mwynhau noson tân gwyllt a dim ond rhiant crintachlyd bydda am rwystro eu plant rhag ymuno yn yr hwyl o herwydd cywirdeb gwleidyddol.
Be mae rhiant gwladgarol Cymreig am wneud, felly? Be am gael noson tân gwyll i ddathlu digwyddiad cenedlaethol Cymreig yn ystod yr un cyfnod o'r flwyddyn? Oes yna ddigwyddiadau addas ar gael?
Dwi'm yn gweld llawar o'i le efo'r peth i ddeud y gwir. dydi'r hanas tu ol i'r peth ddim yn bwysig i blant bach - yr unig beth pwysig iddyn nhw ydi'r tan gwyllt. prin bo nhw'n gwbod be di ystyr y peth beth bynnag ac unwaith ma nhw'n dysgu hynny, ma nhw fel arfar di dechra magu'u cenedlaetholdeb cymreig eu hunan os ydio gynnyn nhw o gwbwl a dydi'r wyl ma ddim am gal effaith ar eu barn nhw.
ReplyDeleteag i ddeud y gwir, does na'm lot o bobl sy hyd yn oed yn cofio be di ystyr yr wyl bellach. ma'n golygu run peth iddyn nhw â'r plant!
a fysa cychwyn tan gwyllt cymreig yn achosi i ni gal yn galw'n extremists a ballu. a prin iawn fysa'r cymry fydda'n newid eu ffor eniwe.
Dwi di meddwl yr un peth. Yr oedd Guto Ffowc yn sefyll i fyny yn erbyn popeth oedd yn bod efo'r sefydliad ar y pryd, ond eto, yr oedd fo ei hun yn derfysgydd pabyddol.
ReplyDeleteMethu ffindio fo rwan, ond wedi gweld sôn yma:
http://books.google.co.uk/books?hl=en&id=sfvnNdVY3KIC&dq=tegwared&prev=http://books.google.co.uk/books%3Fq%3Dtegwared%26lr%3D&pg=PP1&printsec=0&lpg=PP1&sig=dJ0IhfeWRkqbD-sBhGPvxa9qDL8#PPT1,M1
am goelcyrth. Traddodiad o gynnau goelcyrth o gwmpas mis Tachwedd a Mai, a'r diwylliant eglwysaidd anglicanaidd a'r sefydliad Seisnig yn ceisio ei atal.