Mae'n debyg bod heddiw wedi ei bennu yn Ddiwrnod Cefnogi Siopau Bach.
Mae Undeb yr Annibynwyr am inni brynu ein nwyddau heddiw yn siop y pentref yn hytrach na'r archfarchnadoedd mawr.
Syniad clodwiw iawn rwy'n siŵr. Yn anffodus y cyntaf imi glywed am y cynllun oedd wrth imi godi copi o'r Cymro yn Tesco 'pnawn yma - yr unig siop yn yr ardal hon sy'n gwerthu'r papur.
Yn anffodus y cyntaf imi glywed am y cynllun oedd wrth imi godi copi o'r Cymro
ReplyDeleteA minnau. Ond a dweud y gwir dw'i'n gwario rhan fwyaf fy arian mewn siop fach leol eisoes: y Spar
Syniad da iawn , ond syniad gwell fyth fasa cefnogi y siopau bychan fwy nag unwaith y flwyddyn.
ReplyDeleteMae llawer iawn o'r siopau bychain wedi cau yn ein tref ni. Siop y bwtshar oedd yr un diwethaf , a rwan mae'r dyn oedd yn rhedeg y siop yn torri cig yn un o'r archfarchnadoedd yn yr ardal!
Mae gwasanaeth gwell i'w gael mewn siop fechan ..mwy o sylw , cludiant am ddim o siopau sy'n gwerthu nwyddau trydanol ayb.