16/01/2008

Methodistiaid Creulon Cas

Methodistiaid creulon cas
Mynd i'r capel heb ddim gras.


Medd yr hen rigwm.

Bydd y rhai sydd yn darllen y blog yma'n rheolaidd a'r rhai sydd yn darllen fy nghyfraniadau ar Faes e yn gwybod fy mod, fel arfer, yn amddiffynnol iawn o gapeli anghydffurfiol Cymru.

Ond weithiau mae geiriau'r rhigwm yn gywir. Weithiau mae pethau yn codi ym mywyd y capel na ellir eu hamddiffyn. Mi glywais yn niweddar am ddigwyddiad o'r fath. Digwyddiad na ellir dim ond ei gondemnio gan bob Cristion a gan bawb arall sydd â syniad o degwch a chyfiawnder.

Cyfeirio ydwyf at benderfyniad Capel Seion (MC) Llanrwst i ddanfon llythyr twrne at denant tŷ'r capel tridiau cyn y Nadolig yn ei orchymyn i adel ei gartref. Ie pan oedd aelodau'r capel yn dathlu tymor ewyllys dda yr oedd y capel yn dangos y ffasiwn ddiffyg ewyllys dda at ei denant. Pan oedd yr aelodau yn cofio am dristwch y ffaith nad oedd lle yn y llety i Joseff a Mair, roedd y blaenoriaid yn defnyddio cyfreithwyr i ddweud wrth y tenant nad oedd lle yn y tŷ iddo ef.

Ar wahân i ystyriaethau crefyddol roedd amseriad danfon y rhybudd yn gyffredinol dan dîn. Cafodd y tenant y rhybudd yn y cyfnod pan oedd pob ffynhonnell am gymorth a chyngor yn cau i lawr am bron i ddeng niwrnod. Cafodd ei adel i ddathlu'r ŵyl mewn ofn ac ansicrwydd heb yr un man i droi am gyngor.

Mae'r rheswm pam bod y tenant yn cael ei wneud yn ddigartref yn achos o sbeit plentynnaidd.

Ychydig wythnosau yng nghynt rhoddwyd rhybudd i’r tenant bod ei rhent am gael byw yn y tŷ capel am gael ei gynyddu dros 60%. Wedi ei frawychu gan oblygiadau'r fath gynnydd mewn rhent ar ei gyllid tlawd fe aeth at Gyngor Conwy i ofyn am gymorth a chyngor i weld os oedd hawl gan y capel i godi ei rhent mor uchel. Cytunodd swyddog o'r Cyngor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Capel i geisio cymod rhesymol rhwng tenant a landlord. Yn hytrach na chytuno i unrhyw fath o gymod penderfynodd y capel i ddod a'r denantiaeth i ben gan fod y tenant wedi bod mor hy ag i feiddio gofyn am gymorth.

Mae penderfynu taflu dyn o'i gartref tridiau cyn y Nadolig am reswm mor sbeitlyd yn awgrymu bod blaenoriaid Seion yn fwy o ddilynwyr i ddysgeidiaeth casineb Peter Rachman nag ydynt o ddilynwyr cariad Iesu Grist.

Os digwydd i aelod o Gapel Seion Llanrwst darllen hyn o eiriau hoffwn erfyn arnynt i bwyso ar flaenoriaid y capel i ailystyried eu penderfyniad i wneud eu tenant yn ddigartref ac i dderbyn cynnig y Cyngor i gymodi. Mae straeon o'r fath yma yn adlewyrchu yn ddrwg, nid yn unig ar y capel unigol, ond ar y ffydd Gristionogol yn ei gyfanrwydd.

Cysylltu ag Eglwys Bresbyteraidd Cymru

6 comments:

  1. Sôn am roi enw drwg i'r Methodistiaid, ac i Gristnogion hefyd! Dwi'n helpu'r digartref a'r tlodion yn y gegin gawl bob wythnos , a dwi'n gwneud hynny gan fy mod i'n Gristion .
    Mi ddylia blaenoriaid Capel Seion Llanrwst wybod fod mwy i fod yn Gristion na mynd i'r Capel bob wythnos!

    ReplyDelete
  2. Anonymous8:35 pm

    Watsia boi - gei di byth gwahoddiad i bregethu yn Llanrwst eto :-)

    Cytuno bod straeon tebyg yn rhoi enw drwg i'r achos, ac mae angen i gapel Sion ail ystyried.

    ReplyDelete
  3. Anonymous10:25 am

    prin iawn ydi Cristnogion go iawn ymysg y crefyddwyr

    ReplyDelete
  4. Anonymous10:09 am

    Maddeuwch iaith Pesda, ond,..."Typical" yd'r gair cyntaf a ddaw ir cof! Fel hogyn gynt o Dregarth, a fuodd yn mynd i gapel Seilo pan yn llawer iawn llai, a fy Nhaid yn Flaenor yno hefyd....cofio bryd hynny pechu a'r lle am byth wedi i rhyw jadan posh ddweud wrthaf ryw bnawn sul pan picis i mewn ar fyr rybydd...."gwranda rwan Will, os tishio dod i mewn, gwell ti fynd i newid trwsys gynta....a chditha di bod yn chwara ar dy feic a ballu!" Mae'r achos hwn yn dod a'r atgof cas hwnnw yn ol imi ar unwaith .....Onid "car dy gymydog fel ti dy hun" glywisi yn 'rwla gan rywyn dwch!!??? Tebyg bod rhai petha byth yn newid. Cywilidd arnoch!

    ReplyDelete
  5. Anonymous3:11 am

    Rhag Cywilydd Hen R... Flin!

    Mae hen ddigon o bobl yn lladd ar y traddodiad capelaidd ac yn pigo ar bob man gwan crefyddool heb i BREGETHWR ymuno a'r corws!

    Rwyt yn galw dy hyn yn Gristion, rwyt yn derbyn arian prin capelwyr fel tal am bregethu, ond eto yn brathu y llaw sy'n dy fwydo!

    Mae gan y blaenoriaid hawl, yn wir, dyletswydd i gael y rhent fwyaf sydd i'w cael o'r ty capel.

    Rwy'n amau, o dy ffug adroddiad, bod tenant sy'n fodlon talu rhent teg eisioes ar gael gan y Capel. Os felly da iawn! Mae dissgwyl i gapel peidio a chodi rhent teg am letu yn hurt.

    Digon hawdd yw i eraill dweud, yn hunangyfiawn, eu bod yn bwydo y digartref. Ond faint mwy o fwyd i'r digartref bydd ar gael o godi rhent teg ar un unigolyn?

    Sut bod modd i ddyn sy'n pregethu yr efengyl cael ei adnabod, yn gyhoeddus o dan enw mor gywylyddus a Hen R... Flin?

    Ac, wrth ddefnyddio enw mor gomon, lladd ar flaenoriaid a phregethwyr sydd a mwy o synwyr am barch a dyletswydd na sydd yn dy fys bach di?

    Mae angen i ti a dy hoff "denant" dysgu dipyn bach am barch.

    Parch i eraill, parch i drefn a pharch i Dduw!

    ReplyDelete
  6. A rhag dy gywilydd dithau calvin am ymosod yn bersonol ar HRF am drio rhoi cymorth i berson mewn angen.
    Gyda llaw, dwi'n helpu yn y gegin gawl fel rhan o grwp ein heglwys ni.
    Sgin ti wrthwynebiad i hynny?

    ReplyDelete