Rwyf wedi fy syfrdanu o ddarllen blog diweddaraf Neil Wyn (Clecs Cilgwri).
Mae'r gwron wedi cael cynnig bod yn diwtor Cymraeg ail iaith wirfoddol, llongyfarchiadau iddo a phob hwyl yn y gwaith. Ond mae Neil yn dweud bod rhaid iddo gael Police Check cyn cael ei dderbyn i'r swydd.
Yr wyf i wedi bod yn ystyried mynd ar gwrs hyfforddi dysgu Cymraeg i oedolion sy'n cael ei gynnig gan Brifysgol Bangor. Rwy'n byw mewn pentref lle mae 30 y cant yn siaradwyr Cymraeg cynhenid, 51% a gwybodaeth o'r Gymraeg, a chefnogaeth gyffredinol i'r iaith Gymraeg gan bawb, ond dim darpariaeth ar gyfer dysgu Cymraeg i oedolion.
Ond mae yna sgerbydau yn y cwpwrdd, yr wyf wedi bod o flaen y rhai sydd yn eu hystyried fel fy ngwell ar tua saith achlysur, ac ar dri achlysur am droseddau go iawn (nid rhai protest). Ydy hynny yn golygu nad oes hawl gennyf i ddysgu'r Gymraeg i oedolion eraill?
Rwy'n gobeithio fy mod wedi dysgu fy ngwers o'm mhrofiadau o flaen y llys, ac o'i ddysgu wedi diwygio, ac o ddiwygio yn gallu cyfrannu i'r gymdeithas.
Ond na! Medd yr awdurdodau, unwaith yn droseddwr gwastad yn droseddwr. Byddwn yn methu'r Police Check, nid oes gennyf hawl i geisio cyfrannu at y gymdeithas.
Gan nad oes modd imi gyfrannu fel dyn gonest diwygiedig i gymdeithas, waeth imi droseddu eto a chael fy nghrogi am follt newydd yn hytrach nag hen oen!
Pa ddiben sydd i drio adfer ymddygiad?
A bod yn gwbl onest Alwyn, mae'n peri cryn syndod i minnau bod gwiriad heddlu yn cael ei weithredu os nad ydi'r swydd yn ymwneud a phlant. Os ydi hi'n ymwneud a phlant o gwbl, yna mae gwiriad o'r fath yn orfodol.
ReplyDeleteMi fyddaf i'n dod ar draws gwiriadau o'r fath yn fy ngwaith pob dydd yn lled aml. Fel rheol ni ddaw dim i fyny ar y gwiriad oni bai bod y troseddau yn ymwneud ag ymddygiad amhriodol gyda phlant, neu unrhyw weithred dreisiol (hy 'violent').
Mae gen i record droseddol yn dyddio yn ol i ddyddiau'r ymgyrch sianel Gymraeg - difrodi eiddo, torri i mewn i fastiau a'r math yna o beth. Fyddan nhw byth yn ymddangos ar wiriad.
Mae ‘na lefelau gwahanol o wiriad CRB (criminal records bureau) - Enhanced & Standard. Mae gen i dipyn o record droseddol am bethau gwleidyddol a daeth y rhan fwyaf ohonynt i’r golwg gyda’r Enhanced pan own i’n gwneud ymarfer dysgu. Dyw’r ‘standard’ ddim mor drylwyr. Wnaeth e ddim effeithio ar fy nghais a dyw’r troseddau ddim yn cael eu nodi fel pethau gwleidyddol ond fel bwrgleriaeth a difrod troseddol ac ati. Wn i’m pa fath o wiriad bydden nhw gofyn amdano i ddysgu oedolion rhan amser, ond byswn i’n meddwl bod nhw ond yn cysylltu a’r heddlu lleol a byddai 'na ddim cofnod gyda nhw am hen droseddau.
ReplyDeleteMaen nhw’n dod a’r ‘checks’ ma i swyddi lle nad ydynt yn berthnasol – mae’n eithaf costus i dalu am y checks ‘ma ac mae’r arian fel arfer yn dod mas o’th boced di ac yn mynd i goffrau’r llywodraeth.
Hynod o ddiddorol hy clywed am anturiaethau y chwyldroadwyr....ond, nid dyna oedd pwynt HRF! Roedd e'n gofyn pam y dylai unigolyn drio adfer cymeriad? Dwi yn yr un sefyllfa.....nid record troseddol am brotestio dros y gymdeithas....sydd mewn realiti yn drwydded i swydd amgenach, ond record am mwy nag un gweithred dreisiol.....yn fy ugeiniau. Ond does dim un maddeuant i'w gael. Yr ateb i dy gwestiwn HRF....nid yw cymdeithas na chyfrifiadur yn maddau.
ReplyDeletemanaiblog,
Mae'r ROA yn dweud rhywbeth fel.....'children and vulnerable' nid yn unig plant. Fe allai fod rhywun fel 'na yn y dosbarth nos neu beth bynnag. Shock! Horror! Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r llywodraeth gachlyd 'ma wedi dod a 'subject access' i fodolaeth lle mae unigolyn yn gallu dod o hyd i wybodaeth amdano ef ei hun. Wrth gwrs, mae ambell i gyflogwr wedi bod yn gofyn am hyn.....sydd yn anghywir yn ogystal ag ambell i gonsulate tramor....huh! Nid ydynt wedi gwneud hyn yn anghyfreithiol i'w wneud er eu bod yn gwybod am y camddefnydd ohono ers rhai blynydde.....
Pych - diddorol 'na i dderbyn (?!) ond chwyldroadwr fi!! Cer i grafu nei!! Fi gollas i mas os odd e'n drwydded i swyddi amgenach.
ReplyDeleteMae maddeuant i bawb ond ma Anonymous yn ei bwsho fe bach!