Dwi ddim yn fawr o arddwr, nid oes gennyf fawr o ardd. Ond rwy'n gwylio'r rhaglen Byw yn yr Ardd oherwydd bod Beth Gwanas yn hen ffrind ysgol imi (ie, coeliwch chi byth ond mae hi bron mor hen 芒 hen rech flin!).
Ond wedi gwylio'r rhaglen neithiwr dwi dal yn methu deall be sydd gan feicio yn noethlymun o amgylch Caerdydd i wneud efo tyfu moron mewn bwthyn yn Rhydymain; na pham bod pob ymgais i cael linc i'r rhaglen Byw yn yr Ardd yn mynd at dudalen Saesneg??