Newyddion da o lawenydd mawr! Mae'n debyg y bydd Cymru yn cael cystadlu fel gwlad annibynnol yng Nghystadlaeaeth Can Ewrofision o hyn allan. Mae papur newyddion yr Alban,
The Herald, yn adrodd bod y corff sy'n gyfrifol am redeg y gystadleuaeth wedi dweud wrth Alyn Smith ASE yr SNP nad oes dim i rwystro'r Alban rhag cystadlu ar ei liwt ei hun. Os nad oes dim i rwystro'r Alban does dim modd bod yna rhwystr i Gymru chwaith.
gwych! Mae cystadlu yn yr Eurovision yn profi ein bod yn genedl go iawn ... a dwi ddim yn cellwair chwaith!
ReplyDeleteDyma'r math o strategaeth mae'r SNP yn gwneud yn wych ond mae Plaid Cymru yn meddwl ei fod yn rhy isel iddynt - ffylied! Dewch mlaen Plaid, cewch chi byth mo'ch ail-ethol ar 'competent government' -c ofiwch RhCT!