Mi f没m yn sgwrsio yn gynharach efo cyfaill sydd yn ceisio rhoi'r gorau i ysmygu. Roedd o'n cwyno nad oedd o ddim ceiniog yn gyfoethocach er llwyddo i ymatal ers dros fis bellach. Mae o'n defnyddio clytiau nicotin fel cymorth ac mae'n debyg bod y fath bethau yn hynod ddrud.
Roedd ei gwyn yn fy synnu braidd. Mae clytiau, gwm, mewnanadlwyr ac ati i gynorthwyo rhoi'r gorau i ysmygu ar gael ar bresgripsiwn gan y meddyg teulu. Mae presgripsiynau yng Nghymru ar gael am ddim bellach wrth gwrs, felly does dim rhaid i'r un Cymro talu am Therapi Amnewid Nicotin (TAN).
Gan fod perswadio pobl i stopio smygu yn un o gonglfeini polisi y Cynulliad i wella iechyd Cymru, pam nad yw Llywodraeth y Cynulliad yn hysbysebu'r ffaith bod TAN ar gael yn rhad ac am ddim i bawb sydd ei angen?
No comments:
Post a Comment