20/11/2012

Y Bont Di Baent Cyn Annibyniaeth

Gwylier Dragon's Den yr wythnos nesaf, mae yna siawns go lew y byddwyf yn serennu ar y rhaglen, gan fy mod wedi meddwl am gynllun busnes sydd yn sicr o wneud miliynau o bunnoedd.

Yr wyf newydd brynu duster yn siop punt Llandudno, ac am fuddsoddiad o £100,000 rwy'n fodlon rhoi ecwiti o 10% yn fy nuster os oes Draig sy'n fodlon cefnogi fy nghais am y gwaith o gael gwared â'r llwch ar y silff hir sy'n cadw adroddiadau Comisiwn Cymreig Diwerth yn Y Llyfrgell Genedlaethol.

Roedd y syniad o gael contract ar beintio'r bont dros y Fforth yn syniad go lew. Gwendid y cynllun busnes oedd bod y bont yn aros yr un faint a bod system o'i beintio'n llwyr cyn dechrau contract newydd yn rhwym o ddigwydd rhywbryd.

Ond bydd fy nghynllun i o dystio'r silffoedd lle mae Adroddiadau Comisiynau ar Lywodraethu Cymru yn cael eu cadw byth yn dod i ben - gan eu bod yn tyfu yn gynt na chant eu hanwybyddu, a bydd angen eu dystio am oes oesoedd!

Ew! - Dyma un arall yn dod i chwyddo'r gwaith di ddiwedd!

17/11/2012

Mandad Mawr Winston

Yr wyf wedi derbyn ambell i ddatganiad i'r wasg gan fudiadau sy'n pryderu am y system ddemocrataidd oherwydd cyn lleied a bleidleisiodd yn etholiadau'r Heddlu echddoe. Nid ydwyf am eu hatgynhyrchu hwy, er y byddai gwneud hynny yn fodd o lenwi twll yn fy niffig blogio diweddar.

Yn bersonol yr wyf yn hynod, hynod falch bod cyn lleied wedi pleidleisio.

Yn wahanol i etholiadau rhanbarthol eraill, megis Rhestr Rhanbarthol y Cynulliad a rhestr Cymru gyfan Etholiad Ewrop - i'r unigolyn bu'r bleidlais Comisiynydd, ond efo dim ond 35K pleidlaisa chyn lleied a 15% o'r etholwyr mae Winston Roddick wedi derbyn teirgwaith mwy o bleidleisiau personol na enillwyd gan unrhyw AC o etholaethau tririogaeth Heddlu'r Gogledd a thua dwywaith mwy o bleidleisiau yn fwy nag unrhyw AS o'r Gogledd. Er gwaethaf cyfyngiadau ei swydd, er gwaethaf y diffyg hyder yn y bleidlais, Winston Roddick yw'r person etholedig gyda'r mandad personol mwyaf yng Ngogledd Cymru heddiw - a dyna berygl yr etholiadau hyn! Dychmygwch y grym moesol byddai gan unigolyn a etholwyd i'r swydd pe bai 70 neu 80% ohonom wedi bwrw pleidlais. Dychmygwch yr her y byddai ei farn "democrataidd" ef yn rhoi ar unrhyw bwnc boed tu mewn neu du allan i gyfyngiadau ei swydd.

Bydd y canfyddiad bod gan ambell i Gomisiynydd Heddlu Ceidwadol rhagor o fandad na'r holl ASau Ceidwadol mewn ambell i ranbarth yn creu anghydfod, a bydd yr anghydfod yn arwain at ddiddymu’r drefn yn o fuan, bydd y diffyg pleidleisiau yn cael ei ddefnyddio fel esgus am U dro ac yn rhoi ochenaid o ryddhad i ambell i AS Dorïaidd sy'n ofni gweld Comisiynydd poblogaidd yn anelu am ei sedd!

Nid ydwyf yn rhagweld ail etholiad ar gyfer yr uchel arswydus swydd hon!

27/10/2012

Beio'r Gymraeg am Bedoffilia

Yn ddi-os mae yna tebygrwydd rhwng achos Jimmy Savile ac achos John Owen. Ar y lefel isaf mae'r ddau achos yn halogi cof gwylwyr. Roeddwn yn mwynhau gwylio Jim Will Fix It - mi ddanfonais gais i'r rhaglen, na chafodd ei gwireddu ysywaeth (neu ddiolch byth - o bosib!) Roeddwn yn credu bod Pam Fi Duw ymysg y rhaglenni Cymraeg gorau a darlledwyd erioed! Mae meddwl fy mod yn mwynhau rhaglenni lle'r oedd y cyfranwyr ifanc yn dioddef trais, tra fy mod yn cael blas gwylio yn codi cyfog arnaf, ac yn gwneud i mi deimlo'n euog.

Yn ddi-os fe wnaeth y sefydliad cyfryngau Cymraeg amddiffyn John Owen, fel cyfrannwr talentog a phoblogaidd, yn yr union un modd ac amddiffynnwyd Jimmy Savile fel cyfrannwr poblogaidd i'r cyfryngau Saesneg.

Mae yna wersi a gwybodaeth werthfawr yn Ymchwiliad Clywch dylid eu dwys hystyried gan y rai sy'n ymchwilio i achos Savile, ac yr wyf yn mawr obeithio y bydd Comisiynydd Plant Cymru yn rhannu profiad gyda'r ymchwiliadau i ymddygiad Savile y DU.

Mae achos John Owen yn profi nad yw cefndir iaith yn amddiffyn plant rhag eu cam-drin a bod drygioni a ffieidd-dra yn perthyn i bob grŵp cymdeithasol, gan gynnwys y Cymry Cymraeg, ac nad yw bod yn "Gymro-dda" yn amddiffyniad, nac yn nacâd.

Ond os ydym ni'r Cymry am ymchwilio i'n gwendidau ein hunain gan geisio sicrhau nad oes John Owen arall yn ein mysg prin fod ein gorchwyl yn cael ei wneud yn haws os yw dyn, megis Karl Francis yn honni mae'r Gymraeg sy'n gyfrifol am y cam drin.

Sori, Karl ond prin oedd y Gymraeg ar wefusau Syr Jimmy; mae beio'r Gymraeg, nid yn unig yn sarhau'r Gymraeg, ond mae'n amlygu rhyw duedd ymysg y sawl sy'n gam drin i chwilio am unrhyw esgus arall ond eu tueddiadau eu hunain am eu hymddygiad ysgeler! Megis Cymro di-gymraeg sy'n casáu'r iaith ond sydd a'i enw ar y rhestr gam drin rhywiol yn beio'r iaith Gymraeg fel achos cam drin!

23/10/2012

Dal fy Nhrwyn Dros Winston

Yr wyf wedi bod mewn cyfyng gyngor parthed pleidleisio yn yr Etholiadau Comisiynydd Heddlu.

Mae'r syniad o gael pleidleisio am y fath swydd yn fy ffieiddio. Fel cenedlaetholwr yr wyf wedi cael y profiad o gael fy erlyn yn droseddol o ganlyniad i weithredu ar egwyddorion gwleidyddol ac ar y cyfan yr wyf wedi cael y system droseddol, er gwaethaf ei ragfarn o blaid y drefn, yn weddol onest a diduedd. Rwy'n casáu'r syniad mae "gwleidydd" bydd yn trefnu polisi'r heddlu o hyn allan.

Y mae Plaid Cymru a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd wedi penderfynu peidio ag ymladd yr Etholiadau Comisiynydd, pe bai gan y Blaid ymgeisydd byddwn yn gallu bwrw pleidlais yn hyderus dros eu hymgeisydd, ond heb ymgeisydd swyddogol gan y Blaid y mae gennyf ofn pleidleisio ac ofn peidio a phleidleisio.

Fel unigolyn mae Tal Michael yn hen foi iawn, ond rwy'n casáu'r Blaid Lafur a phrin fy mod am greu'r argraff bod y Blaid Lafur ar ei fyny yng Nghymru (canys dyna fydd canlyniad ethol 4 Comisiynydd Llafur) trwy bleidleisio iddo.

Gwan yw'r gair caredicaf y gallwn ddod ar hyd iddo i ddisgrifio'r ymgeisydd Ceidwadol. Weithiau mae pleidiau gwleidyddol yn datgan eu gobeithion am ennill trwy ddewis "rhywun rhywun" i sefyll yn eu henw yn hytrach nag ymgeisydd gwerth chweil; "rhywun rhywun" i'w aberthu yw'r ymgeisydd Ceidwadol - unigolyn nad yw'r blaid yn disgwyl ennill yn ei henw - ac (yn ddistaw bach) yn gobeithio i'r nefoedd na chaiff ei hethol yn annisgwyl.

Sydd yn gadael yr annibynwyr. Mi wnes i roi dwys ystyriaeth i sefyll fel ymgeisydd annibynnol, ond wedi ymchwilio i'r oblygiadau mi ddois i'r canlyniad y byddai cost sefyll - yn gwbl annibynnol - o ennill yn fwy na chyflog y swydd am ei thymor, sydd yn gwneud imi amau argymhellion yr ymgeiswyr annibynnol.

Pa mor annibynnol ydynt?

Pwy sy'n ariannu eu hymgyrchoedd?

Mi fyddai'n loes calon imi i beidio a phleidleisio - yr wyf yn ddisgynnydd i rai o'r sawl cafodd eu troi allan ym 1859 ac i Hen Nain a phleidleisiodd yn ei phenwynni am y to cyntaf ym 1928; mae pleidleisio yn ddyletswydd imi. Gan hynny yr wyf wedi penderfynu bwrw fy mhleidlais dros Winston Roddick, ymgeisydd annibynnol sydd a hen hanes o wasanaethu'r genedl trwy amryfal ffurf heb lygredd, a gan hynny yn un gellid ei drystio; ond o ddweud hynny dan afael fy nhrwyn yn dynn iawn y byddwyf yn bwrw pleidlais iddo!

27/09/2012

Ceidwadaeth Seisnig Conwy

Cefais bwt o lythyr oddi wrth fy AS Guto Bebb ychydig yn ôl yn fy ngwahodd i un o gyfres o gyfarfodydd cyhoeddus agored i holl etholwyr Etholaeth Conwy. Mi dderbyniais y gwahoddiad, gan fynychu cyfarfod yng Ngwesty'r Imperial Llandudno neithiwr. Doedd o ddim yn cyfarfod "agored", rwy'n credu mai myfi oedd yr unig un yn y cyfarfod nad oedd yn aelod o'r Blaid Geidwadol , er, o ystyried, mae'n bosib bod ambell un o'r mynychwyr yn aelodau o UKIP neu'r BNP.

Nid ydwyf yn fy nydd wedi teimlo mor anghyffyrddus yng nghwmni cyd-ddyn ac a deimlais neithiwr.

Cafwyd nifer o gwestiynau am "fewnfudo" a pha mor andwyol ydoedd mewn cyfarfod hynod wyn (roedd ddwy o dras Asiad ac un dyn du allan o 150 yn y cyfarfod), clywyd yr holl retoric am iaith a thras ac amddiffyn Prydeindod rhag y pla estron heb i unrhyw un o'r cwynwyr man ystyried y ffaith eu bod hwy yn Saeson wedi mewnfudo i Gymru.

Cafwyd trafodaeth am y rheilffyrdd, gan gynnwys disgrifiad manwl o'r daith i Rugby (y dref nid y gêm) o Gyffordd Llandudno a chwynion am y cysylltiadau i Lundain - dim cwyn (wrth gwrs) am y daith o Ogledd Cymru i gêm rygbi yng Nghaerdydd!

Roeddwn wedi bwriadu gofyn i Guto cwestiwn am ddatganoli i gynghorau lleol, ond ar ôl ddwy awr o glywed lol botas mi gollais fy limpyn ar achos hawl pobl gyfunrywiol i briodi. Mae pawb sydd wedi darllen fy mhyst yn gwybod mae nid fi yw'r arwr gorau i amddiffyn y fath achos, ac o golli fy limpyn mae'n bosib fy mod wedi gwneud mwy o ddrwg na lles.

Ond wir yr, yr wyf wedi fy siomi. Yr wyf yn Genedlaetholwr gweddol geidwadol, yr wyf ym mhell i'r dde o'r consensws cenedlaetholgar Cymreig, yr oeddwn yn credu bod gennyf rywbeth yn gyffredin a Syr Wyn, Guto, Glyn a David Melding, fel pobl a oedd am greu Cenedl Gymreig Ceidwadol, ond ni chlywais air o genedlgarwch Ceidwadol Cymreig gan Guto neithiwr, yr hyn glywais oedd cydymdeimlad i farn Middle England sydd wedi mudo i Middle England on Sea (aka Llandudno) - i ble aeth y Cymro Dwymgalon o'r enw Guto Bebb?

15/08/2012

Plus ça change, plus c'est la même chose

Mi fûm yn chwilota drwy ysgrifau'r diweddar Parch O. M. Lloyd yn gynharach heno a dod ar draws y cofnod canlynol:
Hydref 7, 1966

GWARTH — Cymdeithas yr Iaith

Credaf ei bod yn warth y modd y trinnir rhai o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Nid af ati’n awr i restru’r cosbau a ddodwyd ar bawb ohonynt, ond yr enghraifft ddiweddaraf yw gwaith ynadon Pontypridd yn dedfrydu i ddau fis o garchar Neil Jenkins, athro ysgol ym Merthyr Tudful. Mae’n wir fod swm y dirwyon y gwrthyd ef eu talu wedi codi i £22 /10/0. Ond dealler nad gwrthod talu fel y cyfryw y mae ef, canys talai (megis y gwnâi eraill) pe câi ffurflen treth modur yn Gymraeg, a’i wysio yn yr un iaith. Y mae’r gosb yn ffyrnig ac anghyfiawn. Dan yr amgylchiadau ffars yw uniaethu cyfiawnder a chyfraith gwlad. Cofier nad yn erbyn y gyfraith y mae protest y rhai ifainc hyn ond yn erbyn y modd y gweinyddir hi. Aeth heibio bron ganrif ers pan ymgyndynnodd bachgen o Lanuwchllyn rhag y "Welsh Not" yn yr ysgol. Meddai Syr O. M. Edwards: "Na, nid aeth y tocyn erioed oddi am fy ngwddf, dioddefais wialenodiad bob dydd fel y dôi diwedd yr ysgol." Bellach aeth cansen y Welsh Not o’r ysgolion i’r llysoedd, a dyma’r driniaeth ffyrnig, ffiaidd, ffôl, a roddir i Gymro yn ei wlad ei hun am geisio mynnu parch i’w famiaith. Mae hyn o anghyfiawnder yn ormod i’w oddef, ac mae’r awdurdodau yn gwahodd terfysg a thrwbl.
Dau Ddeddf Iaith, Mesur Iaith, statws swyddogol, Cynulliad Cenedlaethol, Bwrdd Iaith, Comisiynydd Iaith a 46 o flynyddoedd yn niweddarach, dim ond enw'r ddiffynnydd ac un neu ddau o eiriau eraill sydd rhaid ei newid er mwyn troi erthygl 1966 O. M. i erthygl sy'n ymdrin a charchariad Jamie Bevan Dydd Llun diwethaf. Er gwaethaf yr holl hawliau y mae'r Gymraeg wedi ei hennill dros y blynyddoedd mae'n warthus bod rhai pethau yn ymddangos yr un fath o hyd.

24/07/2012

Siôn Ffenest - y Dyn Mwyaf Llygredig ym Mhrydain!

Mae'n ymddangos nad yw'r broblem osgoi treth yn cael ei achosi gan yr hynod gyfoethog yn ffidlan eu cyfrifon - mae'n cael ei achosi gan bobl fel fi yn rhoi ffeifar neu debyg i gyfaill am fy helpu allan pan nad yw fy modur yn gweithio - yn ôl un o weinidogion San Steffan David Gauke

Yr wyf hefyd yn chware fy rhan yng nghreu pwll o lygredd drwy dalu fy nglanhawr ffenestri £4:00 mewn arian parod bob mis, heb feddwl am ofyn am dderbynneb TAW, nac hyd yn oed yn gwirio bod y ffenestri wedi cael eu glanhau yn iawn. Gallasai fy nihiryn o lanhawr ffenestri bod wrthi yn casglu miloedd o bedair punnoedd i mewn i gyfrif banc dirgel yn ynysoedd y Cayman pob mis, a thrwy hynny yn cael effaith andwyol iawn ar hynt a helynt economi'r Deyrnas Gyfunol - oherwydd ffyliaid fel fi!

Och a Gwae!

Yr wyf yn erfyn ar y rhai sydd wedi ymrwymo i brotestio yn erbyn osgoi treth i rhoi'r gorau i brotestio yn erbyn pobl di nod fel Syr Phillip Green ar unwaith - dyn bach diniwed ar ymyl y broblem ydyw ef!

Mae'n amlwg mae'r gwir ddrwg yn y caws yw'r cabál llawer mwy llygredig a ffiaidd a arweinir gan neb llai na'r anfaddaeol Siôn Ffenest o Sir Conwy!

13/07/2012

Pethau sy'n mynd dan fy nghroen - meddyginiaethau amgen.

Mae tudalen llythyrau fy mhapur lleol wedi ei lenwi ers rai wythnosau gan bobl sy'n cefnogi ac yn gwrthwynebu'r hyn a elwir yn feddyginiaethau amgen, mae'r holl drafodaeth gan y naill blaid a'r llall yn codi fy ngwrychyn. Mae sôn am feddyginiaeth / triniaeth amgen yn nonsens o derm.

Dwi ddim am gogio gwybod am holl rinweddau / ffaeleddau pethau megis Aquipuncture, Homeopathi, Reci ac ati.

Yr hyn yr wyf yn gwybod yw, os wyt yn sâl - ac mae triniaeth yn dy wella TRINIAETH ydyw, nid triniaeth amgen.

Os oes gennyf gur yn fy mhen bydd modd ei wella trwy lyncu Asbirin neu Baracetamol, dydy'r naill ddim yn amgen i'r llall, mae'r ddau yn gwneud yr un job mae'r ddau yn feddyginiaethau ac yn driniaethau sy'n cael gwared â'r cur yn fy mhen.

Mae therapyddion aroglau yn honni bod clywed gwynt lafant cystal, os nad gwell modd i gael gwared â chur yn y pen. Nid ydwyf erioed wedi ceisio gwyntio lafant o ddioddef o benmaenmawr pe bai'r fath driniaeth yn mynd trwy'r holl brofion y mae unrhyw feddygaeth arall yn mynd trwyddi byddwn yn ymlwybro, wedi noson fawr, tuag at goeden lafant fy nghymydog er mwyn cael iachâd - ond heb y prawf wyddonol sydd y tu cefn i bethau megis Asbirin, gwell imi adael llonydd i'r ardd drws nesaf gan fo asbirin, yn ddi-os, yn well na ASBO ar ôl noson ar y pop!

Mae triniaeth yn trin, dyw'r hyn sy'n gwneud rhywbeth amgen i drin ddim yn driniaeth!

09/07/2012

Sarn y Cawr, boson Higgs, a'r Creu

Yr unig ran o ynysoedd Prydain nad ydwyf erioed wedi ymweld â hi yw'r Chwe Sir yng Ngogledd yr Iwerddon. Trwy'r rhan fwyaf fy oes y mae wedi bod, ysywaeth, yn lle rhy beryglus i ymweld â hi yn arbennig i un sydd yn Genedlaetholwr pybyr ac yn Brotestant pybyr a gan hynny mewn perygl o bechu'r ddwy gymuned.

Gan fod yr heddwch i'w weld yn cydio yn y dalaith, rwy'n gobeithio cael ycyfle i ymweld â'r parth yn y dyfodol agos

Ar ben fy rhestr o bethau i'w gweld ar ymweliad i Ogledd yr Iwerddon yw Sarn y Cawr (The Giant'sCauseway).

Mae'r gwyddonwyr yn dweud bod Sarn y Cawr wedi ei greu tua 60 miliwn o flynyddoedd yn ôl o ganlyniad i ffrwydron folcanig a symudiad platiau tectonig. Mae traddodiad yn dweud bod y cawr Fiann McCool wedi adeiladu'r sarn er mwyn cael cwffio efo cawr arall oedd yn byw yn yr Alban.

Bu rhywfaint o anniddigrwydd yng Ngoledd yr Iwerddon yn niweddar rhwng anghredinwyr a chreawdwyr o'r ddau draddodiad crefyddol oherwydd bod Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (perchnogion y safle) wedi penderfynu caniatáu rhoi lle yng nghanolfan ymwelwyr y Sarn i farn creawdwyr bod y safle yn perthyn i Oed y Byd yn eu barn nhw, sef ychydig dros 6 mil o flynyddoedd - ond pam lai?,

Mae rhai yn credu mai olion llongau gofod yw Sarn y Cawr. Mae dyfalu am longau gofod wedi bod yn rhan amlwg o fytholeg y byd yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf, rhan cyn bwysiced a hanes cewri a thylwyth teg mewn oesau a fu. Mae'n debyg bod trefnwyr yr arddangosfa wedi gwrthod rhoi lle i'r eglurhad yma - rhag eu cywilydd!

Pan fo hanesion Beiblaidd Genesis yn cael eu dysgu fel ffaith wyddonol mewn ysgolion ffwndemental eithafol yn yr Amerig, rwy'n cytuno a'r anffyddwyr sy'n brwydro yn erbyn y fath lol; ond rwy'n methu'n llwyr a gweld gwahaniaeth rhwng y ffwndamentalwyr crefyddol Americanaidd sy'n dymuno dysgu'r creu fel ffaith a'r ffwndamentalwyr wrth grefyddol ym Mhrydain sy'n gwrthwynebu dysgu AM hanes y creu yn ein hysgolion. Cymreig

Heb ddysgu am y creu mae'n amhosibl deall pwnc cannoedd o luniau gorau'r byd, mae barddoniaeth a llenyddiaeth gorau Ewrop yn llawn o gyfeiriadau at hanes y creu. Yn wir oni bai am hanes y creu byddai'r Higgs' boson erioed wedi cael ei amgyffred heb sôn am gael ei ddarganfod yr wythnos diwethaf!

Dwi ddim yn credu bod Fiann McCool wedi adeiladu Sarn y Cawr, dwi ddim yn credu bod y byd wedi ei greu mewn chwe diwrnod, ond mi fyddai fy mywyd yn dlotach pe na bawn wedi cael cyfle i ddysgu am y fath eglurhad am ffenomenau sy'n anodd eu dirnad. Does dim rhaid inni gredu ein mythau ond mae dysgu amdanynt yn hollbwysig i'n hunaniaeth

04/07/2012

Carwyn Jones yn chware Jeopardy

Pan oeddwn tua naw oed daeth fy Hen Fodryb Doli ar ymweliad i'r hen wlad yn ôl o'r America gyda'i siwtcesys yn llawn o anrhegion i holl aelodau'r teulu. Yng ngŵydd Anti Doli, yr oeddem ni'r plant yn cael ein hannog i ddangos ein diolchgarwch didwyll iddi am ei rhoddion; ond yn y sgyrsiau, nad oedd y plant i fod i glywed, roedd yr oedolion yn cyhuddo Anti Doli o fod yn hen witch (efo treigliad amheus) am floeddio ei chyfoeth a cheisio dangos bod hi'n byw mewn gwell byd na ni! Roeddwn yn gytûn a'r oedolion - fy mhresant i oedd gêm bwrdd wedi ei selio ar raglen Teledu Americanaidd. Heb deledu yn y tŷ ac efo fawr o amgyffred o ble oedd yr Amerig (ar wahân i'r ffaith ei fod dros y môr o'r Bermo), prin fod gêm o'r fath am fy nghyffroi.

Roedd o'n gêm wirion hefyd!

Byrdwn y gêm oedd dyma'r ateb: be di'r cwestiwn? A dim ots os oedd eich cwestiwn yn un ddilys ar gyfer yr ateb - oni bai mae'r ateb ar y cerdyn ydoedd, nid oedd yn ddigon dda! Twt lol botas maip! Yn groes i ddymuniad Anti Doli yr oeddwn yn falch o gredu; bod y fath lol ddim ar gael y Mhrydain. Ond yr oeddwn yn anghywir!

Rhyw pum mlynedd ar ôl ymweliad Anti Doli dechreuwyd darlledu trafodion Senedd San Steffan ar y Radio. Am gyfnod bûm yn wrandäwr brwd, ond yn fuan cefais fy nadrithio, yn bennaf gan fod sesiwn "Cwestiynau i'r Prif Weinidog" yn fy atgoffa o gêm bwrdd Anti Doli – yr oedd yn amhosibl cysylltu'r cwestiwn o'r ateb a roddwyd!

Un o'r rhesymau imi ddyfod yn Genedlaetholwr oedd gwrando ar y darllediadau radio cyntaf yna o San Steffan. Cefais fy magu i gredu mai system seneddol Prydain oedd y gorau yn y byd; ond o glywed y trafodion yr oeddwn yn sicr bod modd i Gymru gwneud yn well na hynny!

Cefais fy siomi o'r ochor orau o gychwyn y Cynulliad Genedlaethol o glywed Rhodri Morgan yn ateb cwestiynau yn onest. Hwyrach nad oedd y theatr wleidyddol yno ond roedd y chwa o onestrwydd yn well. Yn aml iawn roedd Rhodri Morgan yn ateb cwestiynau nad oedd o'n gwybod yr atebion iddynt trwy ddweud "smoi'n gwybod - na'i 'mofyn ateb" Gonestrwydd gwych!

Yn anffodus mae'n well gan Carwyn Jones chware gêm Anti Doli.

Dyma un o'i atebion o'r Cofnod Cyfarfod Llawn (sydd eto i'w gyfieithu ar lein):

There are issues that the leader of Plaid Cymru needs to clarify for the people of Wales. First, does she agree with her colleague Bethan Jenkins that Martin McGuinness, the Deputy First Minister of Northern Ireland, is naive in shaking the Queen’s hand? Secondly, she knows that the leader of her parliamentary party, Elfyn Llwyd, met Argentinian diplomats. I accept Elfyn Llwyd’s explanation for why he met them, but does she support the right of the people of the Falkland islands to self-determination? She raises issues of defence; I am sure that there are issues in Plaid Cymru that would be very interesting for the people of Wales to have clarified.

Be oedd y Cwestiwn?

A ddylid lleoli arfau niwclear yng Nghymru? Coeliwch neu beidio!

Callia Carwyn! - Mae'r bobl sy'n cael eu llywodraethu gan Lywodraeth Cymru yn haeddu gwell na lol San Steffan a gêm wirion Anti Doli!



22/06/2012

Gonestrwydd Mewn Arholiad

Pan oeddwn yn yr ysgol, amser maith yn ôl, roedd plant yn cael eu dethol i ddilyn naill ai cwrs CSE neu gwrs Lefel O. Roedd cael gradd 1 CSE yn cael ei gyfrif yn gyfystyr a gradd C Lefel O. Mi gefais fy nanfon i'r grŵp CSE ym mhob un pwnc yr oeddwn yn ei ddilyn, ar wahan i Addysg Grefyddol. Cefais radd B mewn Addysg Grefyddol Lefel O a gradd 1 mewn saith o bynciau CSE.

Rwyf wastad wedi meddwl pe byddwn wedi cael y cyfle i sefyll arholiadau Lefel O yn y pynciau lle cefais Gradd 1 CSE a fyddwn wedi llwyddo cael gradd uwch na'r lefel C cyfystyr?

Gan hynny yr oeddwn yn croesawu penderfyniad Syr Keith Joseph i uno'r ddau arholiad trwy greu'r TGAU yn ôl ym 1986, ond ni chafwyd uniad go iawn. Yn ôl yr hyn rwy'n ddeall o addysg fy hogiau mae ambell un yn sefyll arholiad lle mae gradd C TGAU yw'r radd uchaf posib y maent yn gallu ennill, dim ots pa mor ddoeth eu hatebion arholiad. Hynny yw y maent yn sefyll CSE heb y gallu i frolio pe bawn wedi cael y cyfle i sefyll Lefel O!

Os bydd Mr Gove yn llwyddo yn ei ymdrech i ail gyflwyno Lefel O a CSE i Gwricwlwm Lloegr, mi fydd yn dod a gonestrwydd yn ôl i'r system arholiad. Os yw Leighton Andrews, wir yr, yn credu bod y system Lefel O yn Bonkers, mi ddylai sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn sefyll un arholiad gyda'r gobaith o gael y radd uchaf posib, yn hytrach na pharhau a system sy'n cuddio cyrhaeddiad uchaf disgyblion trwy gynnig dwy radd o gyrhaeddiad uchaf posib TGAU mewn un system arholiad!

Cefais CSE gradd 3 yn y Ffrangeg unclassified yn y Gymraeg, ond gradd 1 Saesneg Iaith a gradd 1 Llenyddiaeth Saesneg!

20/06/2012

Llwyddiant Etholiadol i Genedlaetholwyr Llydewig


Llongyfarchiadau  twym galon i Paul Molac o Union Democratique Bretonne; y cenedlaetholwr Llydewig cyntaf i gael ei ethol i Lywodraeth Canolog Ffrainc.

Paul yw cadeirydd Mudiad Ysgolion Dwyieithog Llydaw Div Yezh ac mae o'n gyn-Gadeirydd Cyngor Diwylliannol Llydaw.

O holl wladwriaethau Ewrop, Ffrainc yw'r un mwyaf anoddefgar o genhedloedd ac ieithoedd lleiafrifol o fewn ei thiriogaeth; mae ethol Paul yn garreg filltir bwysig yn hanes hawliau ieithyddol a gwladgarol pob un o'r gwledydd Celtaidd - newyddion gwych!

19/06/2012

A ddylai'r Blaid a'r Rhyddfrydwyr ail feddwl am etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu?



Yn ôl yr hyn rwy'n deall ni fydd Plaid Cymru na'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnig enwebiadau ar gyfer etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu.

Roedd son bod y Blaid yn fodlon rhoi cefnogaeth ymarferol i ymgeisydd annibynnol cenedlaetholgar. Wedi edrych ar y posibiliadau o sefyll yn annibynnol, rwy'n credu ei fod yn gwbl amhosibl gwneud hynny mewn ardaloedd Heddlu enfawr megis Dyfed Powys a'r Gogledd; o ran costau, adnoddau ac ymarferoldeb heb gefnogaeth plaid neu fudiad torfol tebyg .

Mae'n ymddangos fellu mae'r dewis bydd Llafurwr, Ceidwadwr neu unigolyn efo mwy o bres na sens!

06/06/2012

Ffydd mewn gwyddoniaeth

Mae wyth munud wedi pump bellach wedi mynd heibio, ac er gosod y larwm er mwyn ei gwylio roedd gormod o gymylau yn yr awyr i mi gael cip ar Fenws yn clipio'r haul – am siom!

Ond roedd rhaglen Horizon neithiwr am y posibilrwydd o weld y ffenomena wedi bod yn ddigon diddorol i wneud imi godi'n blygeiniol er mwyn ceisio ei gweld. Roedd hefyd yn rhaglen a oedd yn codi nifer o gwestiynau am yr hyn sydd gan ffydd a gwyddoniaeth yn gyffredin, er gwaetha'r ffaith bod ambell i anffyddiwr yn honni bod gwyddoniaeth wedi profi bod diwinyddiaeth yn ymarfer academaidd dibwynt.

Y peth cyntaf i nodi yw bod gwyddonwyr yn gallu mynd dros ben llestri yn eu brwdfrydedd dros eu pwnc fel eu bod yn methu ffeithiau gwbl amlwg, yn yr union fodd ac mae ambell i hen bregethwr yn ei wneud. Brawddeg agoriadol y rhaglen oedd un gan hogan llawer iau na fi yn honni na fydd Fenws yn trawslunio'r haul eto yn ystod fy mywyd i, bywyd fy mhlant na bywyd fy wyrion. Mae'n debyg bod y ffenomena yn digwydd pob 106 i 108 mlynedd. Gan fod tipyn mwy na 108 mlynedd wedi mynd rhagddo ers dyddiadau geni fy nau daid a fy nwy nain, rwy'n mawr obeithio bydd gennyf wyrion ac wyresau dal ar dir y byw ymhen ychydig dros ganrif!

Yr ail beth i nodi yw cymaint o arian, adnoddau diriaethol ac adnoddau ymenyddol sy'n cael eu gwario ar chwilio am fywyd yn y bydysawdau, er gwaetha'r ffaith nad oes, hyd yn hyn, dim fflewj o brawf am ei bodolaeth - gwariant ar ffydd pur yn hytrach nag ar adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn wybyddus!

Y trydydd pwynt o ddiddordeb yn y rhaglen oedd yr orffwylltra, braidd, o geisio crafu'r posibilrwydd bod yna fywyd yn ein cysawd ni trwy chwilio am fywyd ar gymylau Fenws yn hytrach nac ar ei dir. Roedd hynny'n ymddangos fel desperation braidd o ran y gred gyffredinol mae ei'n blaned ni yw'r unig un yn y cysawd hwn sy'n gallu cynnal bywyd.

Y peth mwyaf amlwg i mi yn y rhaglen oedd mai Ffydd, Gobaith, Cariad oedd spardyn y cyflwynwyr, a'r mwyaf o rhai hyn ydoedd cariad at eu gwyddor .- rwy’n siŵr fy mod wedi clywed am y fath ymrwymiad rhywle arall!

07/05/2012

Rag lleol am ddim?

Rwy'n siarad ar fy nghyfer yma am bwnc rwy'n gwybod dim yn ei gylch; ond ymysg y sôn am ddiffyg cyfryngau Cymreig a pherchnogaeth estron yr ychydig sydd; derbyniais gopi o'r North Wales Pioneer papur sy'n cael ei ddosbarthu yn y parthau hyn yn rhad ac am ddim i'r rhan fwyaf o dai.

Sut mae'r papurau 'ma 'n gweithio?

A oes modd i genedlaetholwyr creu papurau tebyg trwy'r sustem cwmni cydweithredol mewn ardaloedd megis Wrecsam, Y Drenewydd ac ati lle nad yw'r achos cenedlaethol yn cael llawer o sylw?

05/05/2012

Canlyniad y Blaid, Leanne, y Cŵin a'r Rag Lleol

Gan wybod bod y Blaid Lafur am ennill tir sylweddol wedi etholiad trychinebus 2008, rwy'n credu bod Plaid Cymru wedi cael etholiad eithaf dechau Dydd Iau diwethaf, roedd ambell i siom, ond prin ei fod yn drychineb.

Er gwaethaf hynny fe ymddengys bod y cyllyll allan gan ambell i Bleidiwr siomedig yn sgil yr etholiadau. Mae Phil Bowen yn rhoi y bai yn glir ar ysgwyddau Leanne Wood a'i ymrwymiad i'r achos gweriniaethol! Roedd barn Leanne am y Frenhiniaeth yn wybyddus cyn ei hethol yn arweinydd y Blaid; os oedd y farn yna am golli pleidleisiau i Blaid Cymru camgymeriad oedd ei hethol, ac mae'n fater dylai aelodau'r Blaid wedi eu hystyried dau fis yn ôl yn hytrach na grwgnach amdani rŵan.

Pe bai Leanne wedi dechrau cow-towio i'r Brenhiniaeth wedi ei dewis yn arweinydd y Blaid, mae'n debyg mae cwyno am ei dauwynebogrwydd byddai'r esgus dros golledion y Blaid!

Yn bersonol rwy'n amheus iawn bod y Frenhiniaeth a barn Leanne amdani wedi gwneud fliwj o wahaniaeth i'r canlyniadau! Hyd yn oed pe bai Leanne wedi canu God Sêv o ben tŵr y castell, colli byddai hanes y Blaid yng Nghaerffili 'run fath.

Mae Ifan Morgan Jones yntau yn cyfeirio at yr un pwnc gan din ymdroi a methu dod i ganfyddiad pendant.
Mae'n debyg mae'r gwahaniaeth rhwng Ifan a Leanne yw nad yw hi'n eistedd ar y ffens!

Mae yna un pwynt ym mhost Ifan yr wyf yn anghytuno'n gref ag ef sef bod y mwyafrif o’r Cymry yn cael eu holl newyddion o’r cyfryngau Llundeinig. Hwyrach eu bod yn cael llawer o'u newyddion o'r cyfryngau Llundeinig ond yn fy mharth bach i o Gymru byddwn yn tybio bod tua 90% o'r brodorion hefyd yn darllen y papur lleol (y North Wales Weekly News yma), ond prin yw'r hanesion yn y papur lleol am weithgaredd Y Blaid yn gyffredinol na chynghorwyr unigol y Blaid yn benodol.

Pe bawn yn gyfarwyddwr etholiadau Plaid Cymru (neu unrhyw blaid arall) byddwn yn hyfforddi cynghorwyr a changhennau ar sut i baratoi "datganiad i'r wasg" sy'n ddeniadol a defnyddiol ac yn mynnu bod pob cynghorydd a changen yn danfon datganiad o'r fath yn wythnosol i'w papurau lleol.

Megis a nododd Cai cyn yr etholiad mae stori "hurt" gan ymgeisydd craff yn gallu creu newyddion tudalen blaen mewn ambell i bapur lleol – mae angen y tudalennau blaen yna ar gynghorwyr y Blaid os am adeiladu cefnogaeth driw yn lleol!

03/05/2012

Hashtag etholiadol?

Er mwyn dilyn yr etholiadau ar Drydar heno ac yfory a fydd #tag ar gyfer y canlyniadau yn gyffredinol; rhai Cymru;  rhai'r Alban, rhai siroedd arbennig; llwyddiannau pleidiau unigol ac ati?

27/04/2012

Etholiadau Diwrthwynebiad = detholiadau annemocrataidd?

Pan glywais fy mod wedi fy ethol heb gystadleuaeth ar gyfer fy nghyngor cymuned fy nheimlad oedd un o siomedigaeth bersonol, yr oeddwn yn dymuno cystadleuaeth ac yn awchu am ymgyrch. Rwy'n ddiolchgar i Owen ap Gareth o Gymdeithas Newid Etholiadol Cymru am ddangos imi hunanoldeb y fath deimladau.

Y pwynt pwysicach yw bod y bobl yr wyf wedi fy nethol i'w cynrychioli wedi eu hamddifadu o ddewis democrataidd.

Mae'n debyg bod y 93 cynghorydd Sir sydd eisoes wedi eu hethol yn ddiwrthwynebiad yng Nghymru wedi amddifadu hyd at 140,000 o bleidleiswyr Cymru rhag mynegi barn yn yr etholiadau Cyngor Sir. Mae diffyg mandad democrataidd y cynghorau cymuned yn waeth byth; yng Nghonwy yn unig, dim ond 11 o'r 71 adran etholaethol gymunedol sy'n cynnal etholiad - ystadeg sy'n gwatwar y syniad o ddemocratiaeth leol.

Gan fy mod yn agnostig, braidd, ar achos pleidleisio cyfrannol nid ydwyf am gefnogi achos Cymdeithas Newid Etholiadol Cymru, ond mae eu hadroddiad am yr etholiadau lleol (PDF) yn un gwerth ei ddarllen a gwerth cnoi cil yn ei gylch!

21/04/2012

Darllediad Etholiadol Plaid Cymru




Croeso ddigon llugoer fu i ddarllediad etholiadol Plaid Cymru ar gyfer yr etholiadau cyfredol. Mae Blog Banw yn dyfynnu nifer o negeseuon Trydar sy’n cwyno am y ffilm ac yn mynd ati i ategu ei feirniadaeth ef amdano. "Rwy’n teimlo bod hwn yn gam gwag iawn fel darllediad gwleidyddol, oes mae na le i gael neges cadarnhaol ac nid mynd lawr yr un trywydd â’r Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr trwy ymosod ar ei gilydd mewn rhyw gormes diddiwedd. Ond mam fach darllediad rydych yn ‘Gymry’ oedd darllediad Plaid Cymru yn hytrach na darllediad ‘rydych yn Gymry, rydym ni’n Gymry, dyma beth hoffwn ni wneud dros Gymru’ dyna beth oedd ei angen."



Rwy'n anghytuno ar feirniadaeth, mae perswadio pobl bod pleidleisio dros blaid arbennig yn beth "naturiol" iddyn nhw ei wneud yn hanfodol i lwyddiant parhaol. Mae neges sy'n dweud wrth bobl Cymru bod y Blaid yn gymaint o ran o dirwedd Cymru a'r mynyddoedd, bod cefnogi'r blaid genedlaethol mor naturiol a chefnogi'r tîm cenedlaethol yn neges bwerus dros ben yn fy marn i. Mae Blog Banw yn ddweud "Fe wnawn nhw ddim pleidleisio i ‘Blaid Cymru’ am ei fod yn blaid Cymreig, pe tasai’r feddylfryd hynny’n gweithio byddwn ni wedi ennill sawl etholiad erbyn naw". Mi fyddwn i'n dadlau i'r gwrthwyneb, mae'r meddylfryd hynny'n gweithio (mae'n gweithio i'r Blaid Lafur), y rheswm pam bod y fath feddylfryd heb weithio i'r Blaid yn y gorffennol yw oherwydd bod y fath neges heb ei ddefnyddio yn ddigon effeithiol gan y Blaid yn y gorffennol.



Wrth gwrs fel un sy'n ymhyfrydu ym manion "diwinyddol" gwleidyddiaeth mi fyddwn i'n cael mwy o blas ar ddarllediad llawn polisïau cadarn, ond prin yw'r bobl sy'n gwirioni'r un fath a fi. I'r mwyafrif "addewidion gwag" a "chelwydd gwleidyddion i'w anghofio wedi'r etholiad" yw polisïau. Mewn un peth rwy'n cytuno a'r sosialydd Trotsky mae cael polisïau didwyll yn bwysig i fudiad gwleidyddol ond slogan dda i fynd efo'r polisi bydd yn perswadio pobl i gefnogi polisi nid ei gynnwys; mae'r slogan ei fod yn naturiol i bobl Cymru cefnogi Plaid Cymru yn un da dylid ei wthio a'i gwthio yn ddi-baid nes iddi dreiddio i isymwybod pob pleidleisiwr yng Nghymru.

15/04/2012

Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfrannu

.
Dyma Fy ymateb i'r drafodaeth ar y Maes:

Er mae dyma'i neges gyntaf mae'r hwyliwr yn gwneud pwynt digon teg. Rhyw pum - chwe blynedd yn ôl mi fûm yn danfon deg neu ragor o negeseuon y dydd i'r Maes, mae hynny wedi mynd lawr i neges neu ddwy'r flwyddyn bellach. Hwyrach ei fod yn rhan o natur y we bod ffurfiau o gymdeithasu / trafod yn newid gyda ffasiwn. Cyn ymuno a Maes-e yr oeddwn yn aelod o nifer o restrau e-lythyr ac yn cael hyd at fil o e-lythyrau'r dydd, rwy'n dal yn aelod o nifer o restrau tebyg ond yn cael dau neu dir ymateb dyddiol ganddynt bellach.

Pan oeddwn yn cyfrannu'n gyson i'r Maes yr edefydd wleidyddiaeth, hanes ac iaith oedd fy hoff barthau, ond fe wnaeth y blogiau dwyn y bri allan ohonynt. Bellach mae'r trafodaethau ar flogiau yn lleihau gan fod y Gweplyfr a Thrydar wedi dwyn eu tân - er bod Facebook yn ddechrau edrych yn hen ffasiwn braidd bellach hefyd!

Rwy'n credu bod yna golled i'r Gymraeg o symud oddi wrth barth naturiol Gymraeg fel Maes-e i lwyfannau eraill. Dim ond trwy'r Gymraeg bu modd cyfrannu i'r Maes. Y mae gennyf gyfeillion ar Facebook a dilynwyr ar Twitter sydd yn ddi-gymraeg, ac fel mewn tafarn pan fo naw Cymro Cymraeg yn cymdeithasu yng nghwmni un Sais yr ydym i gyd yn troi i'r Saesneg.

Yr wyf mor euog ac eraill am droi at y fain ar Facebook a Twitter, because I have English friends and followers! Os yw Maes-e bellach yn passé, mae angen creu Bro Gymraeg newydd ar y we er mwyn sicrhau nad yw Cymry Cymraeg yn dod i gredu mai Saesneg yw'r unig iaith cyfoes i gyfythrebu trwyddi ar gyfrifiadur a theclyn.

14/04/2012

Caniatáu cost dwyieithrwydd mewn gwariant etholiadol

Pan gefais fy enwebu fel ymgeisydd ar gyfer yr etholiadau cymunedol mi gefais nodyn gwybodaeth gan y swyddog etholiadau yn nodi'r uchafswm yr oeddwn yn cael gwario ar yr ymgyrch, sef £600 + 5c yr etholwr. Digon teg, rwy’n cefnogi system sy'n sicrhau nad yw'r cyfoethog yn gallu "prynu" etholiad.

Fel mae'n digwydd ni fu'n rhaid imi wario dima goch gan fy mod wedi fy ethol heb gystadleuaeth.

Pe bawn wedi gorfod ymgyrchu byddai'r cyfan o fy neunydd wedi bod yn hollol ddwyieithog, rhywbeth a allasai bod yn anfanteisiol imi mewn plwyf lle mae dim ond traean o'r boblogaeth yn cydnabod eu bod yn ddefnyddwyr y Gymraeg yn ôl cyfrifiad 2001.

Byddai fy nefnydd o'r Gymraeg yn apelio at gyfran o'r Cymry Cymraeg, ond byddai gwrthwynebydd yn gallu cyhoeddi taflen etholiadol uniaith Saesneg efo ddwywaith gymaint o wybodaeth a pholisi ac apêl arni â fy nhaflen ddwyieithog i - am yr union un un pris. Sefyllfa sydd yn rhoi mantais annheg i'r ymgeisydd uniaith Saesneg yn y parthau hyn ac sydd yn hybu defnydd o'r Saesneg yn unig neu'n bennaf.

I gael tegwch, ac i hybu'r iaith onid dylid cael premiwm ar yr uchafswm gwariant yng Nghymru ar gyfer ymgeiswyr sy'n defnyddio'r Gymraeg yn eu deunydd etholiadol? Er enghraifft 33% yn rhagor o wariant i ymgeiswyr sy'n darparu o leiaf traean o'u deunydd etholiadol yn y ddwy iaith?

13/04/2012

Pôl newydd ar fin cael ei gyhoeddi?

Cefais hysbysiad o bôl piniwn gwleidyddol Cymreig newydd gan YouGov heno, nid oes gennyf syniad pwy sydd wedi comisiynu'r pôl; os mae un o'r pleidiau sydd wedi ei gomisiynu fel pôl preifat, hwyrach na ddaw'r canlyniad byth yn gyhoeddus. Rwy'n gobeithio mae pôl ar gyfer un o'r cyfryngau ydyw ac y ddaw ei ganlyniadau yn hysbys cyn bo hir.

Ymysg y cwestiynau arferol am fwriad pleidleisio mewn etholiadau Sansteffan a Chynulliad bu holi am fwriad pleidleisio yn etholiadau cyngor sir, a chyfres o gwestiynau parthed annibyniaeth i Gymru. Beth bynnag bo'r niferoedd o blaid annibyniaeth, does dim ddwywaith bydd y canlyniadau yn cael eu defnyddio i ddirmygu'r achos dros annibyniaeth. Er hynny difyr yw gwybod bod comisiynwyr y pôl yn credu bod Annibyniaeth yn bwnc digon llosg yng Nghymru i fynnu cymaint o gwestiynau parthed y pwnc mewn pôl piniwn.

Yr hyn bydd o ddiddordeb imi bydd gweld os oes cynnydd yn y nifer o Bleidwyr sydd yn cefnogi Annibyniaeth ers pôl ITV/YouGov ym mis Chwefror. Rwy'n amau bod nifer o'r Pleidwyr a oedd yn wrthwynebu annibyniaeth ym mis Chwefror yn cefnogi cynyddoldeb gan mae dyna oedd polisi rhai o ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Blaid ar y pryd; difir bydd gweld os yw ethol arweinydd sydd ddim yn ofni'r gair annibyniaeth wedi cryfhau'r achos ym mysg etholwyr Plaid Cymru.

Os am gael cyfle i gael eich dethol ar gyfer eich holi gan YouGov mewn polau tebyg yn y dyfodol cofrestrwch trwy ddilyn y ddolen yma.

05/04/2012

Dim Etholiad i Gyngor Cymuned Glan Conwy eto byth

Efo dim ond 11 o ymgeiswyr ar gyfer y 12 sedd bydd dim etholiad ar gyfer Cyngor Cymuned Llansanffraid Glan Conwy eto eleni. Er chwilio trwy hen bapurau lleol rwy'n methu gweld unrhyw gyfeiriad at etholiad ar gyfer y Cyngor yma ers diwedd yr Ail Rhyfel Byd (gyda'r eithriad o'r isetholiad imi sefyll llynedd). Rwy'n siŵr nad yw Glan Conwy yn unigryw yn hyn o beth; fe fydd nifer fawr o gynghorau cymuned eraill yng Nghymru yn cael eu cynnal heb etholiad hefyd.

Un o ganlyniadau'r diffyg etholiad yw y byddwyf i yn aelod o'r cyngor heb orfod ymgyrchu na chael fy ngosod yn y fantol i gael fy mhrofi gan fy nghyd bentrefwyr. Byddai nifer yn gweld cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad fel bendith, ond y mae'n sefyllfa sydd yn fy nhristau i. Mi fyddai'n well gennyf i golli mewn etholiad cystadleuol na chael ennill heb gystadleuaeth. Dylai'r cynghorau bach bod yn garreg sylfaen y gyfundrefn ddemocrataidd, mae'r ffaith bod cymaint o gynghorwyr yn cael eu dethol heb etholiad yn gwneud ffars o ddemocratiaeth.

Mae yna bedwar ymgeisydd yma ar gyfer etholiadau'r Cyngor Sir
Sarah Ivonne Lesiter-Burgess Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
John Malcom Spicer Annibynnol
Dan Worsley Plaid Geidwadol Cymru
a'r ymgeisydd bydd yn cael fy nghefnogaeth i
Graham Rees Annibynnol
>

20/03/2012

E lyfrau ar Gwales

Mae gwales.com bellach yn gwerthu e-lyfra ar ffurf e-pub. Mae tua 150 o e lyfrau ar gael i'w lawrlwytho o'r wefan ond dim ond 6 ohonynt yn llyfrau Cymraeg ysywaeth.

Mae yna tair nofel ar gael:Dyn Pob Un Euron Griffith £7.95 Llafnau Geraint Evans £7.95 a Y Tŷ Ger y Traeth Gareth F. Williams £8.95

A thri llyfr ffeithiol yn y gyfres Stori Sydyn, un yn ymdrin â hanes enillwyr Olympaidd Cymru, un arall am hanes gystadleuaeth Miss Cymru ac un am hanes tîm pêl droed Abertawe am £1.99 yr un.

Ac os oes gennych ddiddordeb yn nodweddion cystrawennol y Gymraeg, mae Syntax of Welsh gan David Willis ac eraill ar gael am ddim ond 145 o bunnoedd.

17/03/2012

Gwres Cenedl yn Eirias!

Er bod y sgôr neithiwr wedi bod braidd yn siomedig, yr wyf wedi cael pleser pur o wylio tîm dan ugain Cymru yn chware ym Mharc Eirias yn niweddar. Hoffwn longyfarch Undeb Rygbi Cymru, Cyngor Conwy a'r hogiau am roi cyfle i ni yn y Gogledd cael mwynhau rygbi o'r safon uchaf yn ein bro am bris hynod fforddiadwy.

Bu fod yn rhan o dorf mor frwdfrydig yn gyffrous ac yn brofiad gwych.

Rwy'n sicr bydd nifer o'r chwaraewyr yr wyf wedi cael y pleser o'u gwylio eleni yn rhan o dimoedd rhyngwladol Cymru, yr Alban, Yr Eidal a Ffrainc yng nghwpan y byd 2015. O ran y Cymru ifanc yr wyf wedi eu gweld mae ambell un wedi serennu ac yr wyf yn sicr fy mod wedi gweld ambell i chwaraewr bydd yn cael eu crybwyll fel arwyr Stadiwm y Mileniwm yn y flwyddyn neu ddwy nesaf: Luke Morgan, Sam Davies, Mathew Screech, Ross Jones ac ati.

Rwy’n edrych ymlaen at gemau'r flwyddyn nesaf yn barod! Er bydd un newid mawr i'r awyrgylch y flwyddyn nesaf! Mae'r Alban, yr Eidal a Ffrainc i gyd ym mhell iawn o Fae Colwyn a phrin bu cefnogwyr y gwrthwynebwyr eleni ar Barc Eirias. Blwyddyn nesaf bydd Cymru yn herio timau dan ugain yr Iwerddon a Lloegr. Mae Bae Colwyn ar y ffordd o borthladd Caergybi i Gaerdydd, mae'n ddi-os bydd mwy o gefnogwyr yr Iwerddon y flwyddyn nesaf nag a fu cefnogwyr o wledydd y gwrthwynebwyr eleni, ac mae Lloegr yn agosach a'r Lloegrwys yn agosach byth, bydd yn hanfodol bod cefnogwyr Cymru yn sicrhau eu tocynnau yn gynnar iawn er mwyn sicrhau cefnogaeth gref i'n tîm cenedlaethol!

Gan mae blog gwleidyddol yw'r blog yma'n benodol rhaid gwneud pwynt gwleidyddol. Bu cryn gontrofersi yn yr Alban ar ôl i Brif Weinidog yr Alban cael ei wahardd rhag gwneud sylwadau am gêm yr Alban a Lloegr ar y BBC mis diwethaf. Rwy'n falch o weld nad yw byd rygbi Cymru mor wleidyddol cul! Yn wir caniatawyd i'n Prif Weinidog ni i chware dros Gymru neithiwr!

16/03/2012

Llongyfarchiadau Leanne - mae'r frwydr cenedlaethol yn poethi!

Hoffwn gynnig longyfarchiadau mawr i Leanne Wood ar gipio arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Does dim dirgelwch yn y ffaith bod yna gwahaniaethau barn enfawr rhwng fy ngwleidyddiaeth de o'r canol fi a gwleidyddiaeth chwith Leanne. Yn wir yr wyf wedi lambastio gwleidyddiaeth Leanne yn rheolaidd ers dechrau blogio; yn ddi-os nid ydwyf yn disgwyl i hynny newid.

Y pyst lle rwyf wedi anghytuno a Leanne yw'r rhai sydd wedi denu'r nifer fwyaf o sylwadau gan y sawl sydd yn cytuno a hi a'r sawl sy'n cytuno a mi; dyna i mi yw cryfder Leanne fel arweinydd plaid wleidyddol; mae hi'n wleidydd sydd yn gallu tanio dadl ffyrnig a denu ymateb. Mae gormod o'n gwleidyddion cyfoes yn bobl rhy barchus a chymedrol; pobl sydd ag ofn ypsetio neb; pobl sy'n dilyn y dorf yn hytrach na herio'r bobl i feddwl am lwybr amgen.

Yn ôl yr hen ystrydeb yr unig beth gwaeth na phobl yn siarad amdanat yw bod pobl ddim yn siarad amdanat, ac yn anffodus bu pobl ddim yn siarad llawer am Blaid Cymru, Annibyniaeth na pholisïau amgen i'r consensws canolig yn niweddar. Mae Leanne yn ddynes na ellir peidio siarad amdani, mae hi'n hogan sydd yn gallu creu trafodaeth wleidyddol ffyrnig.

Cyn belled na chaiff ei swcro i mewn i ddyletswyddau parchus arswydus swydd nac yn cael ei llyffetheirio gan gyfaddawdu er lles y swydd, bydd barn glir Leanne, ar holl bynciau pwysig y dydd, yn creu trafodaeth ddifyr a thanllyd yng ngwleidyddiaeth Cymru. Trafodaeth bydd yn llesol, nid yn unig i Blaid Cymru, ond i bob plaid yng Nghymru ac i wleidyddiaeth Cymru'n gyffredinol.

09/03/2012

Purdeb Iaith v Bratiaith?

Rwyf newydd gael cyfle i wrando ar Pawb a’i Farn ar y Sky+, roeddwn yn siomedig o glywed yr un hen ddadl wag am iaith pur v bratiaith ar y rhaglen. Ym mha iaith arall gellir cael trafodaeth mor ddiystyr?

Y mae gan bob iaith ei phuryddion, ei academyddion, ei arbenigwyr; mae gan bob iaith ei siaradwyr cymedrol cywir ac mae gan bob iaith siaradwyr (gan gynnwys siaradwyr cynhenid) sydd a’u crap ar yr iaith yn gac. Pam bod disgwyl i’r Gymraeg bod yn wahanol?

Nid ydwyf yn dymuno talu arian da am lyfr sydd yn llawn gwallau sillafu a gramadeg, boed yn llyfr Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg neu mewn unrhyw iaith arall, mae 'na fan a lle ar gyfer cywirdeb iaith! Ond, ar y llaw arall, nid ydwyf am ddiystyru cymydog sy’n fy nghyfarch efo cyfarchiad sy’n cynnwys cam dreigliad neu ramadeg gwael!

Er mwyn i iaith byw mae’n rhaid iddi gael amddiffynwyr ei phuredd, y rhai sy’n gallu dyfarnu ar gywirdeb ac anghywirdeb, ond mae’n rhaid iddi gael siaradwyr sydd yn ei ddefnyddio heb falio botwm corn am gywirdeb eu gramadeg na’u hieithwedd hefyd! Pobl sy’n credu bod eu hiaith yn “digon da” hyd yn oed os nad ydyw yn berffaith cywir.

Pe baem yn mynnu mae dim ond Saeson sy’n siarad Saesneg pur sy’n cael defnyddio’r Fain, byddai ton o ddistawrwydd tua’r dwyrain o Glawdd Offa!

Bydd dewis rhwng purdeb iaith NEU fratiaith yn lladd yr Iaith Gymraeg - er mwyn i’r iaith ffynnu mae’n rhaid coleddu'r ddwy!

22/02/2012

Cwestiwn Dyrys am Hustings Plaid Cymru

Onid ydyw yn beth od bod Plaid Cymru; plaid sydd yn honni mae hyhi yw'r blaid mwyaf gwerinol, mwyaf dosbarth gweithiol, mwyaf sosialaidd a'r blaid agosaf at guriad cenedl y Cymry yn cynnal ei chyfarfod hustings agored yng Ngwesty mwyaf ecscliwsif ein gwlad?

Yn nhafarndai poer a lludw mae ennill y frwydr nid mewn gwestai serennog!

19/02/2012

Sianel 62 yn cychwyn heno

Sianel 62
Sianel deledu newydd yn cychwyn heno Bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio sianel deledu Cymraeg newydd – Sianel 62 – nos Sul yma (19eg Chwefror) am 8pm fel rhan o’n dathliadau hanner canmlwyddiant. Y bwriad yw dangos rhaglenni heriol, gwleidyddol, doniol, dychanol, dwys ac ysgafn bob nos Sul rhwng 8-10yh ar sianel62.com.

Mae hwn yn brosiect nid yn unig i ddathlu hanner canmlwyddiant y Gymdeithas, ond hefyd yn brotest yn erbyn diffyg rhaglenni heriol am y Gymru gyfoes ar hyn o bryd. Mi fydd y sianel yn cynnig llwyfan newydd i leisiau amgen ac unigryw sydd yn tueddu cael eu hanwybyddu gan y darlledwyr traddodiadol.

Sianel ‘ifanc ei naws’ fydd hi, a phobol gyffredin yn y gymuned fydd yn datblygu’r syniadau a chynhyrchu’r rhaglenni o dan arweinyddiaeth tîm proffesiynol. Mae llwyddiant y fenter yn ddibynnol ar bobl yn cyfrannu, felly cysylltwch gyda ni trwy ebostio Greg Bevan – greg@cymdeithas.org – os gallwch fod o gymorth o ran cynnig syniadau, cyfarwyddo, cynhyrchu, ffilmio neu gyflwyno.

Bydd y darllediad cyntaf yn cynnwys hanes teulu Caerdegog yn Ynys Môn, clipiau comedi, Tynged yr Iaith 2, cerddoriaeth gan fandiau sy’n perfformio yng ngŵyl Hanner Cant ym Mhontrhydfendigaid ym mis Gorffennaf, a llawer mwy.

Cofiwch: Heno, 8pm, sianel62.com

18/02/2012

Sut Guto?

Rwy'n ddiolchgar i Guto Bebb AS am ei ymateb i ran o fy mhost diwethaf.

Yn y post mi ddywedais:

Y broblem fwyaf sydd gennyf efo darlith Guto yw'r darn yr wyf yn cytuno mwyaf ag ef:

Gadewch i do newydd o Gymry weld ymhellach na diogelwch swydd y sector gyhoeddus, gan ystyried sut y mae modd iddynt gyfrannu’n llawer mwy effeithiol i ddyfodol eu teuluoedd a’r gymdeithas ehangach trwy anelu i berchnogi eu heconomi fel ein heiddo ni fel Cymry.

Deud da, ond sut mae mynd ati?

Y rheswm pam nad ydwyf yn mentro yw diffyg ffyrling i'w mentro!

Heb arian wrth gefn sut bydd modd i'r to newydd fentro a pherchnogi'r economi?

Hawdd dweud, Guto – ond sut mae gwneud?

Ymateb Guto oedd:

Fe fu i mi sefydlu siop lyfrau (sy'n dal i fasnachu er i mi werthu) efo £3,000, tafarn efo £800 ag menter ymgynghorol gyda gorddrafft o £1000. Rŵan oes 'na honiad for hynny yn swm gormodol?

Am bymtheg mlynedd fe fu i mi gynnal cyrsiau busnes yn fisol trwy Wynedd, Môn a rhannau o Bowys a Chonwy. Rhwng y nawdegau cynnar a 2010 fe syrthiodd niferoedd y Cymry Cymraeg oedd yn mynychu o tua 50% i lai na 15%. Gan amlaf yr oedd y buddsoddiad dan sylw gan yr unigolion yn ymestyn o £200 neu lai i fawr mwy na £5,000. Ydi hynny'n amhosib i Gymry Cymraeg?

Wrth gwrs, yr oedd y staff oedd yn cynnig grantiau, asesu grantiau, datblygu strategaethau ayyb oll yn Gymry iaith gyntaf ac oll, yn naturiol ddigon, yn gweithio i'r sector gyhoeddus.

Dowch fois - hyder!

Nid ydwyf yn amau geirwiredd Guto, yr wyf wedi clywed straeon tebyg o fentro ychydig yn troi allan i fod yn llwyddiannau mawr yn niweddar. Yn ôl rhaglen deledu ddiweddar gan fuddsoddi £30 ym 1970 (tua £500 heddiw) y cychwynnwyd yr archfarchnad Iceland sydd bellach werth biliwn a hanner o bunnoedd.

Ar y radio yn niweddar roedd sôn am hogyn ysgol 11 oed a brynodd bocs o felysion o gyfanwerthwr efo'i bres poced deng mlynedd yn ôl, sydd bellach yn berchen ar gwmni gwerthu melysion byd eang sy'n troi miliynau o bunnoedd pob blwyddyn.

Fel gormod o ddynion canol oed trist byddwn wrth fy modd gwario ymddeoliad cynnar fel perchennog tafarn. Os oeddwn yn gwybod sut i wneud hynny am £800 byddai fy enw uwchben drws rhyw dafarn bach gwledig cyn pen y mis.

Mae yna dafarn ar werth yn fy mhentref ar hyn o bryd. Chwe Chan Mil amhosibl yw pris y gofyn nid Wyth Gant!

Pe byddwn yn gwybod sut mae modd i fy mhlant buddsoddi eu pres poced mewn busnes bydd yn arwain at greu cwmni rhyngwladol llwyddiannus byddwn yn atal eu pres poced ac yn eu cloi yn y twll dan staer hyd iddynt gytuno i fuddsoddi eu harian yn y fath fenter!

Nid diffyg mentergarwch, na diffyg hyder, na swydd fras yn y sector breifat, na diogi, na moethusrwydd byw ar y wlad sy'n rhwystro Cymry fel fi rhag cychwyn busnes ond diffyg gwybodaeth.

Os oes modd cychwyn busnes llwyddiannus am £200, fel mae Guto yn honni, mae modd i'r tlotaf yn ein cymdeithas benthyg hynny o Undeb Credyd. Efo'r wybodaeth briodol, prin yw'r di waith yr wyf i'n eu hadnabod na fyddent yn neidio at y fath gyfle!

Mae'r cwestiwn yn sefyll "Sut Guto"?

15/02/2012

Tynged yr Iaith a Thynged yr Economi

Rwyf wedi mwynhau cyfres y BBC o raglenni parthed hanner canmlwyddiant Tynged yr Iaith yn arw; un o'r cyfraniadau mwyaf difyr bu cyfraniad fy AS lleol Guto Bebb.

Roedd Taid Guto a Saunders yn gyfoedion ac yn gyfeillion ac yn cyd gyfrannu at yr achos Genedlaethol o allu gweld Cymru o du maes i'r ymerodraeth Brydeinig. Cyn i Ambrose Bebb syrthio allan gyda chefnogaeth Saunders i'r Almaen yn ystod yr ail rhyfel byd roedd y ddau o'r un anian wleidyddol hefyd. Dewis da, gan hynny, oedd dewis Guto fel cenedlaetholwr asgell dde i draddodi un o ddarlithoedd dathlu Tynged yr Iaith.

Mae darlith Guto i'w glywed ar yr I-Player am ychydig ac mae testun ei ddarlith i'w gweld am gyhyd a bydd modd ar wefan y BBC.

Rwy'n cytuno a llawer o'r hyn mae Guto yn ei ddweud. Yn sicr mae'n rhaid i'r Gymraeg bod yn iaith gwaith er mwyn goroesi, ac yn sicr mae angen dirfawr ar waith sector breifat yn y bröydd Cymraeg, nid jest jobs ar y Cyngor.

Rhan o broblem dadl Guto a dadl Saunders yw bod dadleuon y naill fel y llall wedi ei selio ar eirwiredd dyfyniad gan R W Lingen ym Mrad y Llyfrau Gleision Whether in the county or among the furnaces, the Welsh element is never found at the top of the social scale. Ym 1847 roedd yna bobl Cymraeg eu hiaith ar ben y raddfa gymdeithasol. Yn y cyfnod yma bu Syr Robert Williams Vaughan yn AS Ceidwadol a'r olaf o bendefigion Cymru i gyflogi bardd a thelynor llys. Bu David Davies Llandinam y dyn cyntaf i gyfnewid siec am filiwn o bunnoedd, a bu Gwenynen Gwent yn hybu'r Gymraeg yn ardal Llanofer. Mae dadl sydd wedi ei selio ar nonsens, boed gan Gomisiynwyr Addysg, Saunders neu Guto am fod yn nonsens!

Mae Guto yn lladd ar y "Sector Cyhoeddus" sydd wedi gwneud bywydau bras Cymreig gan Gymry i'w hunain, heb lawn ystyried gwir natur gwasanaeth cyhoeddus.

Prin fod pawb yn y gwasanaeth cyhoeddus yn y dosbarth canol. Mae glanhawyr ysbytai, pobl hel sbwriel, gweinyddion cinio ysgol ac ati yn cael eu cyflogi gan wasanaethau cyhoeddus, mae nifer ohonynt yn Gymry Gymraeg mewn swyddi lle mae'r Gymraeg yn angenrheidiol / dymunol, ond prin eu bod yn weithwyr dosbarth canol hunanol!

Ac wrth gwrs pan draddodwyd darlith Saunders ystyrid nyrsiaid, heddweision, athrawon, clercod cyngor ac ati yn dosbarth gweithiol.

Mae yna rywbeth gwrthun yn y ffaith bod aelod o'r blaid sydd wedi ceisio perswadio'r aelodau yma o'r dosbarth gweithiol eu bod yn uwch na hynny yn condemnio cefnogwyr y Gymraeg yn y sector gyhoeddus am wneud yr Iaith yn iaith dosbarth canol Pan fo'r un blaid wedi ceisio "creu" y ddosbarth y mae'n condemnio!

Y broblem fwyaf sydd gennyf efo darlith Guto yw'r darn yr wyf yn cytuno mwyaf ag ef:

Gadewch i do newydd o Gymry weld ymhellach na diogelwch swydd y sector gyhoeddus, gan ystyried sut y mae modd iddynt gyfrannu’n llawer mwy effeithiol i ddyfodol eu teuluoedd a’r gymdeithas ehangach trwy anelu i berchnogi eu heconomi fel ein heiddo ni fel Cymry.


Deud da, ond sut mae mynd ati?

Y rheswm pam nad ydwyf yn mentro yw diffyg ffyrling i'w mentro!

Heb arian wrth gefn sut bydd modd i'r to newydd fentro a pherchnogi'r economi?

Hawdd dweud, Guto – ond sut mae gwneud?

14/02/2012

Baner ac Amserau Glan Conwy

O gofnodion y Cyngor dyddiedig 13.12.2011

"7. 2011/12-7:10.3 Polyn Fflag - yn dilyn trafodaeth, cytunwyd i archebu dau bolyn a dwy fflag, y Ddraig a’r Undeb. Gobeithir y byddent yn eu lle erbyn Gŵyl Dewi.
Mewn nifer o gyfarfodydd diweddar mae'r Cyngor Cymuned wedi nodi ei fod yn "anwleidyddol".

Pan fo ddyfodol yr Undeb yn achos o gontrofersi gwleidyddol ddwys, gyda'r posibilrwydd y daw i ben cyn pen ddwy flynedd os yw'r Alban yn pleidleisio am annibyniaeth, onid gosodiad hynod wleidyddol byddai chwifio Jac yr Undeb yn ein pentref?

Nid oes gan Gymru presenoldeb ar Jac yr Undeb, mae baner yr Undeb yn pwysleisio mae rhan o Deyrnas Lloegr yw Cymru, ac mae hynny'n sarhad ar bob Cymro Gwladgar, ac yn osodiad hynod bleidiol gwleidyddol.

Fel Cymro gwladgarol nid ydwyf yn dymuno gweld Baner yr Undeb yn cael ei chwifio dros y pentref Cymreig yr ydwyf yn byw ynddi, os yw hynny'n golygu na fydd y Ddraig yn chwifio yn ein pentref chwaith - iawn.

Dydy Cyngor ein cymuned heb ei hethol. Yn sicr nid ydyw wedi ei greu ar sail wleidyddol rhwng gwahaniaeth barn unoliaethwyr a chenedlaetholwyr, a oes gan y cyngor, gan hynny, yr hawl moesol i hoelio ei faner ar fast yr Undeb heb unrhyw ymgynghoriad?

Os am gwyno e-bost Clerc y Cyngor yn ol gwefan y Cyngor yw:

jd.gc@talktalk.net

11/02/2012

Crefydd a Chyngor

Yr wyf, fel Cristion, yn croesawu penderfyniad yr Uchel Lys, bod mynnu bod aelodau Cyngor yn fynychu cyfnod gweddi yn anghyfreithiol.

Pe byddwn yn aelod o gyngor, mi fyddwn, yn ddiamheuaeth, yn gofyn ar i Dduw fy arwain yn fy mhenderfyniadau cyn pob cyfarfod, ond mater bersonol rhwng fi a fy Nuw byddai hynny, nid mater i'r cyngor yn ei gyfanrwydd.

Ers bron i ganrif mae Cymru wedi bod yn wald seciwlar o ran ei reolaeth, a da o beth yw hynny.

Nid ydwyf yn gwybod am unrhyw cyngor Sir na Chymuned yng Nghymru sydd a gweddïau yn eitem ar eu agenda.

Er gwaetha'r ffaith bod y dyfarniad yn un England and Wales, rwy'n amau mae at Loegr a'i Eglwys Wladol mae'r ddyfarniad wedi ei anelu!

Ond mae yna elfen o'r dyfarniad sydd yn peri pryder imi. Mae'r dyfarniad yn ddweud mae lle seciwlar yw man cyfarfod cyngor.

Mae cyngor fy nghymuned i yn cyfarfod yn festri y capel MC lleol, mangre sydd, yn amlwg, ddim yn seciwlar!

Mewn cymunedau gwledig trwy Gymru a Lloegr, Festri'r Capel neu Neuadd yr Eglwys yw'r unig mannau lle gellid cynnal cyfarfodydd, megis cyfarfod o Gyngor Cymuned. Mae dyfarniad yr Uchel Lys yn awgrymu y byddai modd herio unrhyw benderfyniad a wneir gan gyngor sy'n cwrdd mewn lle o addoliad!

Rwy'n credu bod y Cyngor Gymuned yn hollbwysig i'r drefn democrataidd, ond os na chaniateir i gynrychiolwyr y gymuned cyfarfod mewn adeilad at iws grefyddol, bydd ambell i gyngor lleol yn cael ei orfodi i ddod i ben!

25/01/2012

Dêt, Rhamant, Leanne a'r Gymraeg

Heddiw yw dydd y Santes Dwynwen, a gan fy mod yn rhamantydd o Gymro, heddiw hefyd yw pen-blwydd fy mhriodas! Aw!

Dechreuodd fy nghwrs cariadol trwy ddweud wrth yr hon sydd bellach yn wraig imi fy mod am ymweld â Phorth y Rhondda ar gyfer rali Plaid Cymru tua deunaw mlynedd yn ôl. Doedd y Mrs 'cw erioed 'di bod i'r Sowth a'i gofyn am gael rhannu'r anturiaeth o fynd i'r deheubarth oedd ein dêt cyntaf.

Fel mae'n digwydd yr ymweliad yna a Phorth y Rhondda oedd y tro cyntaf imi ddod ar ddraws hogan ifanc o'r enw Leanne Wood hefyd, prin bu ein sgwrs ond yr oedd yn sgwrs uniaith Cymraeg. Rwyf wedi cyfarfod a Leanne rhyw bedwar neu pum gwaith yn y cyfamser a'r Gymraeg bu iaith ein cyfathrach ar bob un o'r achlysuron hynny!

Mae 'na ryw syniad sy’n cael ei awgrymu bod rheswm dros / yn erbyn cael Leanne yn arweinydd y Blaid yw'r ffaith nad ydyw hi'n Gymraes Gymraeg. Mae'r fath honiad yn dwt lol botas, mae Leanne (boed yn fanteisiol neu'n anfanteisiol) yn siaradwraig Cymraeg coeth. Mae hi'n anhyderus ei Chymraeg, hwyrach, ond er hynny yn eithaf rhugl.

Mae yna ryw dwpdra gwleidyddol sy'n cael ei choleddu ar y we bod diffyg Cymraeg Leanne yn mynd i gyfrif o'i phlaid mewn etholiad cyffredinol fel rhyw fath o "brawf" mae nid Plaid y Gymraeg mo Plaid Cymru! Mae'r un twpdra yn awgrymu na chaiff ei hethol yn arweinydd gan fod mwyafrif yr etholwyr ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid yn Gymry Cymraeg. Mae'r ddau gysyniad yn anghywir,

Yr wyf wedi nodi hyd at syrffed mae ffolineb yw gwadu'r ffaith bod Plaid Cymru yn cefnogi annibyniaeth. Y cysyniad sydd gan bobl am y Blaid yw ei fod YN cefnogi annibyniaeth ac mae gwadu annibyniaeth yn wneud i'r Blaid edrych yn ddauwynebog ac yn dwyllodrus. Mae'r un yn wir am yr iaith! Mae PAWB yn gwybod bod Plaid Cymru yn gefnogol i'n hiaith, byddai ceisio gwadu hynny yn ffolineb twyllodrus, mi fyddai'n troi cefn ar sylfaen creiddiol heb ennill unrhyw hygrededd.

Rwyf yn gwbl hyderus bod Leanne Wood yn hollol gefnogol i'r iaith, does dim rhaid i gefnogwyr yr iaith poeni am ei hymrwymiad i'n hiaith. O gael ei hethol yn arweinydd bydd y Gymraeg cyn bwysiced os nad yn bwysicach i Blaid Cymru o dan ei gwarchodaeth.

24/01/2012

O Na Fyddai Duw yn Sais!

Gen 11:3
Dywedasant, Dewch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr a'i ben yn y nefoedd, a gwnawn inni enw, rhag ein gwasgaru dros wyneb yr holl ddaear. Disgynnodd yr ARGLWYDD i weld y ddinas a'r tŵr yr oedd y bobl wedi eu hadeiladu, a dywedodd, Y maent yn un bobl a chanddynt un iaith; y maent wedi dechrau gwneud hyn, a bellach ni rwystrir hwy mewn dim y bwriadant ei wneud. Dewch, disgynnwn, a chymysgu eu hiaith hwy yno, rhag iddynt ddeall ei gilydd yn siarad.

Felly gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear, a pheidiasant ag adeiladu'r ddinas. Am hynny gelwir ei henw Babel, oherwydd yno y cymysgodd yr ARGLWYDD iaith yr holl fyd, a gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear.

Pe bai Duw yn Sais mi fyddai wedi bloeddio ar adeiladwyr Tŵr Babl "Why can't you speak English you ignorant scum" a byddai heddwch wedi bod yn y byd o'r dydd hwnnw ac wedi para am oes oesoedd. Amen!

18/01/2012

Rygbi'r Chwe Gwlad yn y Gogledd


Bydd holl gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad dan ugain eleni a'r flwyddyn nesaf yn cael eu chwarae yn stadiwm newydd Parc Eirias Bae Colwyn. Hoffwn annog cefnogwyr y bel hirgron yn y Gogledd i geisio eu mynychu.

Mae'r profiad o weld gêm ryngwladol yng Nghaerdydd y tu hwnt i bocedi nifer fawr o gefnogwyr y gamp yn y Gogledd o ystyried pris tocyn, pris teithio a phris aros dros nos.

Dim ond Pum Punt bydd pris cefnogi Cymru ar Barc Eirias!

Dewch yn llu i gefnogi Cymru a Rygbi'r Gogs!

Bydd nifer o'r chwaraewyr bydd yn chware yn y gemau dan ugain yn sêr yng ngharfanau Cymru a'r gwledydd eraill cyn bo hir. Dyma gyfle i'w gweld cyn y dônt yn enwog, bydd yn rhoi'r hawl i ddyn brolio o'n i yno yn ei gêm gyntaf! Pan ddaw'r enwogrwydd a'r gogoniant!

Bydd cefnogaeth gref gan gefnogwyr Rygbi'r Gogledd i'r gornestau yn profi i'r WRU bod diddordeb yn y gamp yn y Gogledd ac yn eu hannog i barhau a'u buddsoddiad mewn datblygu Rygbi i'r north o Fannau Brycheiniog.

Mae tocynnau ar gael trwy Venue Cymru, Cyngor Conwy a siopau Tesco ar hyd yr arfordir ogleddol.

11/01/2012

Blogiadur

Mae'r Blogiadur yn ceisio bod yn ffynhonnell ar gyfer pob blog Cymraeg (mae adran Gymreig ar ei chyfer hefyd) sy'n cael ei gyhoeddi. Bu nifer o sylwadau i fy mhost blaenorol gan bobl sydd a phroffil yn y blogosffer, ac yn ol Golwg bu ymatebion eraill na welais. Os ydych yn cadw blog Cymraeg neu Gymreig rhowch wybod i'r blogiadur er mwyn imi fwynhau pob un o'ch perlau o ddoethineb, nid jyst y rhai lle'r ydych yn fy nghyhuddo o Rwtch gwrth- hoyw!

10/01/2012

Pwy Maga Blant?

Rwy'n methu deall Gwleidyddiaeth Rhyw, boed o ran Cristionogion Selog, neu o ran yr Anffyddwyr Milwriaethus.

I mi mae rhyw yn hwyl, peth pleserus a dymunol!

Pan oeddwn yn laslanc roedd pleser ar gael rhwng llaw, cylchgrawn a phidlan unig.

Pan oeddwn yn fyfyriwr roedd cyd gwancio dros luniau budron yn hwyl. Roedd arbrofi rhywiol efo hogiau eraill yn hwyl fawr hefyd. Yr wyf wedi hen ymwrthod a rhagfarnau crefyddol sy'n honni bod fy mhrofiadau rhywiol glaslancaidd yn diffinio fy rhywioldeb! Ond mae hynny'n frad i'r lobi wrywgydiol! Nid ydwyf yn edifar am y fath brofiadau, nid ydwyf yn gofyn maddeuant nid ydwyf am eu gwadu - yr oeddynt yn bleserau pur, yn hwyl fawr!

Ond nid gwagio ceilliau neu wlychu pidlan yw wir ystyr profiad rhywiol!

Does dim profiad i'w gymharu â gweld plentyn yn cael ei eni, dim i gymharu â chlywed babi yn dweud y gair Dad am y to cyntaf, dim artaith sy'n brifo mwy na gollwng eich plentyn i'r byd mawr a phoeni na ddaw'n ôl, dim poen mwy na weld dy eilun yn laslanc, yn cyflawni'r un hen blydi camgymeriadau a chyflawnaist di yn ddeunaw oed (gan gynnwys yr ofn bod ei arbrofion am negyddu dy obeithion o fod yn Daid).

Sori am fod yn Homoffôb ond mae'n ymddangos i mi mae'r gwahaniaeth rhwng bod yn rhywiol a gwrywgydiol yw'r ofn o dderbyn y cyfrifoldeb o fagu'r genhedlaeth nesaf o Gymry, yr ofn o dderbyn y cyfrifoldeb am ganlyniadau naturiol y profiad rhywiol!

Mae canlyniad rhyw rhwng gwr a gwraig yn gallu magu oes o gyfrifoldebau!

Dymuno hwyl rywiol heb gyfrifoldeb yw cuddio tu nol i'r bathodyn hoyw!

06/01/2012

Pwy fydd PC Plaid Cymru?

Rhwng etholiadau am arweinyddiaeth Y Blaid ac etholiadau ar gyfer cynghorau mis Mai, prin bu'r sylw ar y blogospher Cymreig, hyd yn hyn, am etholiadau eraill 2012, sef yr etholiadau ar gyfer Comisynydd Heddlu ar gyfer Pedwar Awdurdod Heddlu Cymru.

Mae'n debyg bydd yr Etholiadau Comisynydd yn rhai pleidiol, gyda Llafur, Y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, Y Democratiaid Rhyddfrydol, pleidiau llai ac ambell i annibynnwr yn taflu eu helmedau i'r cylch, ac mae'n debyg mai ar sail plaid bydd yr etholwyr yn pleidleisio.

Mae yna rywfaint o ansicrwydd parthed pa mor bwysig bydd yr etholiadau hyn.

Dibwys braidd yw'r sawl sydd wedi sefyll etholiadau ar sail rhanbarth yng Nghymru hyd yn hyn. Heb Googlo er mwyn atgof rwy'n gallu enwi dim ond dau o ASEau rhanbarth Cymru, ac mae fy mhen yn wag parthed enwau'r sawl a safodd o'r brîf bleidiau ond na chawsant eu hethol. Rwy'n gallu enwi y rhan fwyaf o ACau etholaethol Gogledd Cymru, ond dim ond un AC rhanbarthol gyda sicrwydd - ac yr wyf yn credu bod gennyf fy mys ar bỳls gwleidyddiaeth Cymru!

Mae'n bosibl bydd enw'r Comisiynydd a etholir yn y pedwar awdurdod mor angof i'r mwyafrif ac enw eu ASE a'u AC Rhanbarthol.

Ond gan fod cyfraith a threfn yn bwnc mor allweddol yn meddwl etholwyr ar gyfer etholiadau ar bob lefel arall gallasai'r Pedwar Comisynydd bod yn wleidyddion llawer mwy amlwg nac hyd yn oed Prif Weinidog Cymru; a gallai’r ail yn y ras, os yw yn brathu tîn y Comisiynydd yn aml ar ôl yr etholiad dod yn ffigwr amlwg iawn yn ei blaid / ei phlaid.

Gallasai dewis yr ymgeisydd cywir ar gyfer etholiadau'r Comisynydd profi yn bwysicach na dewis arweinydd Plaid yn nyfodol gwleidyddiaeth ein gwlad!

03/01/2012

Cyfarchion Tymhorol?!

Cwestiwn pellach am e-lyfrau

Rwy'n ddiolchgar i Siôn, Ifan Morgan Jones a libalyson am eu hymateb i fy mhost blaenorol parthed e-lyfrau.

Mae tua ugain o e-lyfrau Cymraeg ar gael o'r Lolfa a chwaneg ar y gweill.

Diolch i'r Lolfa am wneud eu e-lyfrau yn rhatach na'r fersiynau coed meirwon! Sioc i mi oedd canfod bod yn rhatach prynu llyfr yn Tesco a W. H. Smith na lawr lwytho un o'u gwefan ar gyfer fy e-darllenydd. Ond efo pob diolch a pharch i'r Lolfa prin fod ugain o lyfrau yn namyn piso dryw yn y môr o gymharu â'r cannoedd o lyfrau sydd yn ei hol-gatalog ac o dan ei hawlfraint sydd allan o brint bellach! Dyma'r llyfrau hoffwn i weld ar gael ar gyfer fy e-narllenydd!

Nododd libalyson prosiect Llyfrgell o'r Gorffennol casgliad ar-lein o lyfrau o ddiddordeb diwylliannol cenedlaethol sydd allan o brint ers amser maith, ac sy'n annhebygol o gael eu hailargraffu. Syniad gwych sydd wedi ei hariannu gan Llywodraeth Cymru, ond ers wyth mlynedd bellach, hyd y gwelaf, wedi llwyddo i ddigido dim ond deg llyfr Cymraeg a llai byth o rai Eingl-Gymreig!

Yr wyf wedi ceisio rhoi llyfrau Cymraeg a Chymreig sydd allan o brint a hawlfraint ar lein, ond mewn HTML yn hytrach nag ar ffurf e-lyfr:

Cerddi'r Bugail,
Hanes Methodistiaeth Corris
The Autobiography of a Supertramp
A Story of Two Parishes Dolgelley & Llanelltyd

ac ati!

Yr wyf yn berchen ar lyfrau megis nofelau Daniel Owen, Geiriadur Charles, Cofiant John Jones Talsarn a chlasuron eraill sydd, am wn i, ym mhell allan o hawlfraint. Os nad yw ein llyfrgelloedd, y Cyngor Llyfrau a chyrff llywodraethol eraill am dderbyn y cyfrifoldeb o wneud llên Cymru ar gael ar lein, sut mae modd i mi cyfrannu'r llyfrau hoffwn i'w rhannu?

Sut mae creu e-lyfr, sut mae creu argaeledd ar ei chyfer wedi ei chreu?

27/12/2011

Cwestiwn Dyrys am e-lyfrau.

Trwy garedigrwydd Siôn Corn cefais ddarllenydd e-lyfrau yn fy hosan eleni!

Gwych, rwy’n falch o'i gael, ond rwy'n ansicr o'i werth!

Er chwilio a chwalu rwy'n methu cael hyd i e-lyfrau Cymraeg - Am siom!

Lle mae cyfraniad y Cyngor Llyfrau i Lyfrgell e-lyfrau Cymraeg a Chymreig?

Hwyrach bod e-lyfrau Clasurol Cymraeg ar gael! Ond hyd y gwelaf nid ydynt ar gael ar gyfer fy mheiriant bach i!

Er mwyn i'r iaith barhau mae angen y Gymraeg ar y Kindel a'r Kobo ac mae angen i geidwaid cyhoeddiadau yn y Gymraeg sicrhau eu bod ar gael ar gyfer eu darllen yn y ffurf diweddaraf hefyd!!

09/12/2011

Brwydr Bandiau Ysgolion Cymru

Gan fy mod yn rhiant yr wyf wedi edrych ar y bandio ysgolion ac wedi cymharu ysgol fy mhlant ag ysgolion eraill, ond wedi gwneud dwi ddim mymryn yng nghallach.

Mae fy mhlant yn mynychu Ysgol y Creuddyn yn Sir Conwy -ysgol band 2 yn ôl y Cynulliad. Dyma sut mae'n cymharu ag ysgolion eraill y Sir:

YsgolBand % Sy'n Cyrraedd TGAU 5 A*-C
Ysgol Uwchradd EiriasBand 166
Ysgol AberconwyBand 240
Ysgol Bryn ElianBand 256
Ysgol Dyffryn ConwyBand 246
Ysgol y CreuddynBand 266
Ysgol Emrys ap Iwan Band 344
Ysgol John BrightBand 450
Er bod sgôr arholiadau Ysgol y Creuddyn yn cyfateb i sgôr Ysgol Eirias mae Eirias yn well ysgol na'r Creuddyn. Ysgol Aberconwy yw'r ysgol waethaf yn y Sir o ran canlyniadau ond eto mae'n rhannu band efo'r Creuddyn. Ysgol John Bright yw'r ysgol waethaf yn y sir o ran bandio - ond eto mae ei chanlyniadau yn well na thair o ysgolion eraill y sir. Sut mae modd i riant gwneud sens allan o'r fath ffigyrau?

O edrych trwy ffigyrau Cymru gyfan:

Mae Ysgol St Mary the Immaculate yng Nghaerdydd ym mand 1 efo llwyddiant arholiadau o ddim ond 24% pitw, ond mae Ysgol Treforys ym mand 5 gyda llwyddiant o 58% dechau.

Rwy'n derbyn bod yna fwy i addysg na dim ond cyrhaeddiad - ond cyrhaeddiad rwy'n ymofyn i fy mhlantos ta waeth.

Ym mha ysgol y maent yn fwyaf tebygol o gyrraedd eu llawn potensial? Yn Ysgol y Santes Fair, Caerdydd neu yn Ysgol Treforys, Abertawe? Pe bawn yn danfon yr hogs i Ysgol Gorau Cymru, (Sef ysgol Castell Alun, Band 1 a 76%) pa sicrwydd sydd gennyf na fyddant ym mysg y 24% o'r trueiniaid sydd yn methu yno? Yr ateb ydy dwi ddim yn gwybod! Ac os nad ydwyf, fel rhiant, yn gwybod yr ateb i'r fath gwestiynau wedi edrych ar dabl y Cynulliad mae cwestiwn arall yn codi:

Be ddiawl di pwrpas cyhoeddi'r fath lol botas o dabl diwerth?!

30/11/2011

Ymennydd ar streic?

Hwyrach mae fi sy'n dwp, ond rwy'n cael anhawster deall prif ddadl y Torïaid yn erbyn streic heddiw, sy'n cael ei ail adrodd hyd at syrffed sef bod yr undebau yn anghyfrifol am gynnal streic tra bod trafodaethau yn mynd rhagddynt.

Yn fy marn fach i dyma'r union adeg i fynegi barn ac arddangos cryfder teimlad, trwy streicio ac ati.

Onid afraid braidd byddid protestio ar ôl i drafodaethau dod i ben, ar ôl cael cytundeb neu ar ôl i benderfyniad cael ei wneud?

28/11/2011

Pam?

Mae'n anhygoel, amhosibl dirnad paham bod dyn, sydd i bawb arall a phob rheswm i fyw, yn penderfynu dod a'i fywyd i ben.

I ni a oedd yn adnabod Gary Speed fel ffigwr cyhoeddus, roedd ei fywyd a'i yrfa yn edrych yn berffaith. Un o brif sêr y gêm pêl droed yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf. Y Rheolwr Cymreig a gododd Cymru o faw isa’r domen i'r deugain uchaf yn y byd mewn dim ond blwyddyn, ein gobaith gorau i weld Cymru yn un o brif gystadlaethau pêl droed y byd ers tair cenhedlaeth.

Yn ôl un o'i gyfeillion, Robbie Savage, roedd bywyd personol Mr Speed i'w weld yn berffaith hefyd, roedd ganddo wraig hynaws a dau blentyn galluog ag addawol.

Ar ryw wedd roedd gan Gary Speed y fath o fywyd y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn breuddwydio amdani. Dydy ei hunanladdiad ddim yn gwneud synnwyr i ni! ....... A dyna'r cyfyngder i nifer o bobl sydd yn dewis hunaladdiad – y teimlad na all neb arall deall fy mhroblemau. O'u hanner crybwyll mae cyfeillion, ar y gorau yn eu hanwybyddu ac ar y gwaethaf yn eu trin fel jôc – gan greu'r gwacter o deimlo nad oes lle i droi na lle i gael cymorth na chydymdeimlad.

Mae yna gymorth ar gael, mae yna le i fynd lle na fydd neb yn chwerthin, na beirniadu na dweud ystrydeb na thorri cyfrinach. Os ydych yn teimlo nad yw bywyd yn werth ei fyw bellach cysylltwch â'r Samariaid:

08457 90 90 90.

Heddwch i lwch Gary Speed 1969-2011

25/11/2011

Llwyddiant i Mebyon Kernow

Llongyfarchiadau i Loveday Jenkin, cyn arweinydd MK ar gipio sedd ar Gyngor Cernyw ar gyfer ei phlaid neithiwr.

Loveday Jenkin (MK) – 427
John Martin (Rhydd Dem) – 262
Linda Taylor (Ceid) – 227
Phil Martin (Ann) – 177
Robert Webber (Llaf) – 80

Stat Porn Od

Yr wyf i a fy nghymdogion wedi bod yn cael trafferthion efo'r llinell ffôn ers dros wythnos, diolch i'r drefn daeth dyn bach caredig o gwmni BT acw pnawn' ddoe i drwsio'r gwall. Gan fod fy nghysylltiad â'r we yn dod trwy'r llinell ffôn hefyd yr wyf wedi methu cael mynediad i'r WWW ers dros wythnos chwaith!

Dydy stat-porn ddim yn rhywbeth sydd yn fy mhoeni lawer, prin ar y diawl y byddwyf yn gwirio faint o bobl sydd wedi ymweld â fy mlogiau a fy ngwefannau. Ond wedi wythnos o ddiffyg mynediad i'r we mi wiriais y ffigyrau er mwyn canfod faint o iawndal i fynnu am ddiffyg gwasanaeth.

Ond dyma beth od, mae mwy o bobl wedi ymweld â Blog Hen Rech Flin a Blog Miserable Old Fart yn ystod yr wythnos diwethaf nag erioed o'r blaen! Nid Cymry sy'n eiddgar am fy marn ar bynciau llosg y dydd mohonynt, ysywaeth, ond bobl sy'n dod o barth .UA - sef yr Iwcrain - yn chwilio am Poni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw? Darn o farddoniaeth a bostiais fel ymateb i'r glymblaid rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur yn ôl yn 2007

A oes gan unrhyw un unrhyw syniad paham bod Marwnad Gruffudd ab yr Ynad Goch i Llywelyn ein Llyw Olaf o'r fath diddordeb cyfoes i bobl yr Iwcrain?

11/11/2011

e-ddeiseb:Adalw Cynlluniau Datblygu Lleol

Deiseb i'r Cynulliad gwerth ei gefnogi

e-ddeiseb:Adalw CDLl (Cynlluniau Datblygu Lleol)


Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adalw r holl Gynlluniau Datblygu Lleol ledled Cymru ac i roi r gorau i ddefnyddio amcanestyniadau poblogaeth a gyhoeddir gan y Gyfarwyddiaeth Ystadegau ac a ddefnyddir i chwyddo niferoedd y tai mewn cynlluniau datblygu lleol.

Galwn am i r holl CDLl, waeth pa mor bell maent wedi cyrraedd, gael eu hatal ar unwaith er mwyn i lefel y twf mewn tai gyd-fynd ag anghenion lleol gwirioneddol.Rydym ni sydd wedi llofnodi isod o r farn fod yr holl CDLl sy n cael eu llywio gan amcanestyniadau poblogaeth Llywodraeth Cymru heb eu hystyried yn fanwl, eu bod yn sylfaenol wallus ac yn niweidiol i gymunedau Cymru.Nid yw r math hwn o gynllunio yn gynaliadwy, ac nid oes ar bobl Cymru mo i angen na i eisiau. Er mwyn atal y niwed sydd eisoes yn cael ei wneud, ac i atal niwed a dinistr pellach na ellir eu gwrthdroi yn ein cymunedau, ein hamgylchedd a n hunaniaeth ledled Cymru, apeliwn ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar unwaith.

04/11/2011

Rali Datganoli Darlledu i Gymru

Neges gan CyIG:

Am 12.30 prynhawn dydd Mawrth Tachwedd 8fed dewch draw i alw am DDATGANOLI DARLLEDU I GYMRU ar risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd. Fe gynhelir trafodaeth ar y pwnc hwn yn y Cynulliad Cenedlaethol y diwrnod hwnnw ac mae’n rhaid mynnu fod ein gwleidyddion yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif ac nid yn osgoi eu dyletswydd. Bydd gêm rygbi sumbolaidd yn cael ei chwarae ar risiau’r Senedd ar drothwy’r drafodaeth i ddangos fel mae ein gwleidyddion wedi methu â chymryd cyfrifoldeb yn y maes hwn hyd yn hyn, drwy fodloni yn hytrach ar basio’r bêl. Ond pobl Cymru ddylai fod â’r cyfrifoldeb dros bob agwedd ar ddarlledu yng Nghymru, ac mae’n hen bryd i ni wneud hynny yn gwbl glir.

Diolch eto am eich cefnogaeth, a gobeithio y byddwch yn parhau i fod yn rhan o’n hymgyrch.

Yn gywir,

Bethan Williams
Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

02/11/2011

Rwy'n teimlo'n ddryslyd braidd.

Ers cychwyn y tipyn yma o flog yr wyf wedi mynegi fy anfodlonrwydd bod Plaid Cymru yn llai nag eglur parthed ei hagwedd tuag at Annibyniaeth. Yr wyf wedi cael fy nghondemnio yn hallt gan aelodau'r Blaid, wedi fy ngalw'n fradwr, yn Dori, yn faw isa’ domen ac ati.

Ond heddiw gwelaf dau o flogwyr mwyaf brwd y Blaid yn condemnio AC amlwg, a chyn gweinidog Plaid Cymru am beidio a chytuno a pholisi creiddiol Plaid Cymru o gefnogi annibyniaeth!

Mae BlogMenai a Syniadau yn condemnio Rhodri Glyn am ddweud ei fod am weld Cymru fel un o fotor-rhanbarthau Ewrop yn hytrach na gwlad annibynnol. Digon teg rwy'n cytuno 100%.

Dyma wrthwynebiad i agwedd Plaid Cymru tuag at ffawd ein gwlad yr wyf wedi bod yn brwydro yn ei herbyn ers dros ugain mlynedd bellach! Braf gweld cefnogwyr y Blaid yn deffro i'r hyn y mae cenedlaetholwyr sydd wedi cael anhawster ag aelodaeth o'r Blaid wedi bod yn dweud ers peth amser!

OND; rwy'n ddeall sefyllfa Rhodri Glyn, Dafydd Êl, Cynog Dafis a Dafydd "nefar ,nefar" Wigley, i raddau. Y maent yn hynafgwyr o oedran cyffelyb i mi sydd wedi gorfod rhoi llwyddiant etholiadol yn erbyn ideoleg yn y fantol mewn cyfnod lle nad oedd ideoleg genedlaethol yn boblogaidd.

Mi fu'n hawdd i mi rhoi'r ideoleg yn flaenaf a dweud naw wfft i'r Blaid; er gwell er gwaeth!

Mae'n debyg nad oedd mor hawdd i eraill i fod mor "bur"!

Rwy'n falch bod y Blaid yn puro ei hunan parthed Cenedlaetholdeb, ond rhaid diolch i'r sawl a fu'n fodlon halogi eu hunain er mwyn cadw'r achos yn fyw hefyd! Wrth symud yr achos cenedlaethol ymlaen - peidiwch a bod yn ôr feirniadol o'r sawl sydd wedi cadw'r fflam yng nghyn trwy'r dyddiau du!

Y cam nesaf tuag creu Plaid Genedlaethol cynhwysfawr llwyddianus - cael gwared a chac:

2.2 To ensure ....Decentralist Socialism.

21/10/2011

Chwip o Bost!

Mae'r ddadl am daro plant yn peri rhywfaint o gyfyng gyngor i mi. Oherwydd fy oedran yr wyf yn rhan o genhedlaeth lle'r oedd cael chwip din gan Dad neu gansen gan Brifathro yn rhan o'r hyn yr oedd plentyn yn derbyn fel digwyddiad arferol.

Mae rhai o ddadleuon y rhai sydd yn erbyn taro plant, a'u condemniadau o'r rhai sydd wedi / yn defnyddio cosb gorfforol yn awgrymu fy mod wedi cael fy magu gan rieni cas ac wedi fy addysgu gan athrawon dieflig. Gallasai dim byd bod ymhellach o'r gwirionedd. Cefais fy magu gan rieni annwyl a chariadus ac athrawon didwyll a phroffesiynol a oedd yn ymddwyn yn unol ag "arfer gorau" eu hoes. Dydy dadl sydd yn dweud wrth blentyn bod ei Daid yn anghenfil creulon, neu'n byrfyrt rhywiol ddim yn llesol i gydlyniad cymdeithasol.

Nid ydwyf yn curo fy mhlant, does dim rheswm imi wneud hynny, fel y gellir disgwyl, mae plant i Dad mor berffaith â mi yn angylaidd. Mae hyn yn rhan o'r newid cymdeithasol sydd wedi digwydd dros yr hanner canrif ddiwethaf.

Pan oeddwn yn blentyn roedd plant yn cael eu hystyried yn naturiol ddrwg, wedi eu geni efo pechod gwreiddiol. Gwaith rhiant oedd eu harwain i ffwrdd o'u stad naturiol. Bellach mae plant yn cael eu hystyried yn greaduriaid ddiniwed yn naturiol dda. Gwaith rhiant ac athro yw cadw'r diniweidrwydd yna trwy ei hannog a'i gwobrwyo. Y broblem efo'r agwedd yma o ddisgyblu plentyn yw bod y mwyaf drwg yn cael y gwobrau gorau am ymddygiad da. Os wyt yn "hogyn da" wrth reddf bydd dim gwobr; ond os wyt yn fastard bach anghynnes gei di wyliau ym mhendraw'r byd am fihafio am chwe mis!

Pan oeddwn yn hogyn drwg yn y chwedegau, ac yn cael chwip din neu gansen, un o rinweddau'r gosb oedd ei fod yn cael ei weinyddu cyn gynted ac oedd y drosedd wedi ei ganfod, roedd y gosb wedi ei dalu o fewn munudau, roedd y gosb yn perthyn i linell amser y drosedd a dyna ddiwedd arni.

Bellach mae'r gosb yn hirfaith. Wedi cael ei ddal yn ddrwgweithredu mae fy mhlentyn yn cael gwybod ei fod am wynebu "cyfnod cosb" ar ôl i lythyr cyrraedd Mam a Dad ac iddynt naill ai cytuno neu apelio yn erbyn y dyfarniad. Mae'r hirfaethrwydd yma yn ymddangos imi fel artaith ac fel ôr bwyslais ar gamymddygiad.

Ymysg y pethau cefais y gansen ac / neu chwip din amdanynt oedd ymladd, ysmygu a dwyn eiddo disgybl arall. Pe bai plentyn ysgol yn cael ei dal yn cyflawni'r fath dor reolau'r ysgol droseddau bellach, byddai'r ysgol yn galw'r Heddlu, byddai Achos Llys a Record Droseddol gan y plentyn am weddill ei oes. Roedd y gansen yn boenus, ond mae'r boen wedi hen ddiflannu - byddai Record Droseddol gennyf byth.

Rwyf mewn cyfyng gyngor gan fy mod yn cytuno bod cosb gorfforol yn annerbyniol, ond rwy'n ansicr bod modd disgyblu amgenach wedi ei chanfod eto!

17/10/2011

Pwy sydd am ladd Alain Rolland?

Yn ddi-os mae nifer o bobl wedi cael eu siomi mae dyfarniad dadleuol yn hytrach na safon y chware sydd yn gyfrifol am fethiant Cymru i gyrraedd ornest derfynol Cwpan Rygbi'r Byd.


Mae nifer o Gymry, a phobl o wledydd eraill sydd yn hoff o'u rygbi wedi mynegi eu siom, eu hanghrediniaeth a hyd yn oed eu dicter am ganlyniad Cymru v Ffrainc. Ond o ddilyn y Blogiau, y Trydar a'r Weplyfr nid ydwyf wedi gweld unrhyw awydd gan neb o'r rai a siomwyd y dylid lladd y dyfarnwr Alain Rolland!


Er gwaethaf pennawd Y Metro: Rugby World Cup semi-final referee Alain Rolland receives death threats. Does dim yng nghorff yr erthygl i gefnogi honiad y pennawd bod unrhyw un am ladd y creadur.

Mae'r erthygl yn cyfeirio at Several Facebook groups have been set up for fans to vent their fury at Irishman Rolland for his handling of the loss to France, with one gaining more than 8,000 followers. Heb ddyfyniad o'r un o'r miloedd o sylwadau i brofi bod unrhyw un wedi bygwth iechyd na bywyd y dyfarnwr druan!



Ond nid ddefnyddwyr Facebook yw'r unig berygl i'r dyfarnwr. Mae ein Brif Weinidog yn ddarpar lofrudd hefyd, yn ôl y papur Llundeinig:

Even first minister of Wales Carwyn Jones joined the protest!

Ond be gwyr papurau Llundain am ddial y Cymry? Nid lladd ein gwrthwynebwyr yn y traddodiad Seisnig yw ein traddodiad ni o ymdrin â gelynion. Yr hyn yr oedd y Cymry yn arfer gwneud oedd ysbaddu a dallu gelynion, ond does dim pwrpas bygwth hyd yn oed hynny i Monsieur Rolland, gan ei fod eisoes, yn amlwg, yn ddall ac heb geilliau!

12/10/2011

Hen Silff – Cyfrol Newydd

Mae yna silff arbennig iawn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru! Y silff lle mae adroddiadau Comisiynau Cymreig yn cael eu cadw!

Mae'n silff sydd ychydig yn llychlyd, oherwydd does neb byth yn mynd yno er mwyn darllen y cyfrolau. Yr unig amser y mae rhywun yn ymweld â'r silff yw pan fydd hen lyfrgellydd yn ymlwybro yno i roi cyfrol newydd arall ar y silff.

Mae'r silff yn dal Adroddiad Kilbrandon, Adroddiad Richards, Adroddiad Emyr Jones Parry, Adroddiadau dau Gomisiwn Holtham a llawer, llawer o rai eraill.

Y newyddion da yw bydd raid i lwch y silff cael ei chwythu ffwrdd unwaith eto a bydd rhaid gwaredu a'r we pryf cop, er mwyn gwneud lle ar gyfer cyfrol newydd sbon danlli- Adroddiad Silk - Hwre a Haleliwia!

Y newyddion drwg yw y bydd Adroddiad Silk yn dod yn rhan o'r malurion sydd eisoes ar y silff, a bydd yn fuan yn cael sylw'r llwch a'r we pry cop - bydd dim gobaith i'r adroddiad cael sylw go iawn gan wleidyddion y Bae na Sansteffan!

07/10/2011

E-deiseb i'r Cynulliad ar Gartrefi Cymdeithasol

Mai Royston Jones (Jac o' the north) wedi cyflwyno’r ddeiseb isod i'r Cynulliad:

E-ddeiseb: Dyrannu Tai Cymdeithasol yng Nghymru


Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r system ddiffygiol a ddefnyddir i ddyrannu tai cymdeithasol yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, gall unigolyn nad yw erioed wedi ymweld â Chymru fod yn gymwys i gael tŷ cymdeithasol, a hynny o flaen rhywun a aned ac a fagwyd yng Nghymru. Mae’r sefyllfa hon yn deillio o system bwyntiau sy’n rhoi blaenoriaeth i geisiadau gan bobl ddigartref, pobl sy’n byw mewn tai yr ystyrir eu bod yn anaddas a phobl a gafodd eu rhyddhau’n ddiweddar o sefydliadau arbennig, ac ati.

Ar yr olwg gyntaf, mae’r strategaeth hon yn ymddangos yn strategaeth glodwiw; serch hynny, pan gaiff ei chymhwyso ar lefel y Deyrnas Unedig, gwelwn lif diddiwedd o bobl sydd â ‘phroblemau’ ac sy’n hanu o’r tu allan i Gymru yn amddifadu pobl Cymru o’r cyfle i gael tai cymdeithasol. Yn rhy aml, bydd y datblygiadau hyn yn difetha cymunedau.

Er mwyn datrys y broblem hon, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno system lle byddai’n rhaid i unigolyn fyw yng Nghymru am gyfnod o bum mlynedd cyn y byddai’n gymwys i gael tŷ cymdeithasol. Yr unig eithriadau fyddai ffoaduriaid gwleidyddol a phobl eraill sy’n ceisio dianc o sefyllfaoedd lle maent yn cael eu herlid.
Gellir arwyddo'r ddeiseb trwy ddilyn y dolen YMA

01/10/2011

Gwahardd Aeron - cam gwag i ddemocratiaeth!

Mi fyddai'n deg dweud nad ydwyf ym mysg ffans mwyaf y Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones, naill ai fel Cynghorydd nac fel blogiwr. Beth bynnag bu gwendidau ei gyd bleidiwr Gwilym Euros fel priod a chynhaliwr cyfraith gwlad, roedd blog Gwilym wastad yn lle i gael trafodaeth fywiog a difyr. Mae blog Aeron wedi bod yn lle sbeitlyd, maleisus braidd, lle mae un yn debycach o weld sylwadau sarhaus a phersonol yn hytrach na thrafodaeth gref.

Mae sylwadau maleisus a wnaed gan Aeron ar ei flog wedi ei osod mewn dŵr poeth. Y mae o wedi cael ei ddwrdio gan Ombwdsman Cymru a'i wahardd o'r Cyngor am fis gan Pwyllgor Safonau Cyngor Gwynedd am honni bod Dyfed Edwards wedi hedfan i Gaerdydd ar bwrs y sir er mwyn cael sgwrs fach efo Alun Ffred, er gwaetha'r ffaith bod Ffred yn gymydog iddo yng Ngwynedd. Mae'n ymddangos bod sylw Aeron yn un gwbl di sail, yn wir yn gelwydd noeth dan din, gan hynny 'does dim modd cyfiawnhau ymddygiad Aeron.

Ond wedi dweud hyn y mae gennyf OND!

Trwy ddewis bywyd gwleidyddol ddylai dyn derbyn ei fod am dderbyn sen a gwawd gan aelodau o bleidiau eraill, y ffordd gorau i ymateb i daflu baw yw taflu ddwywaith gymaint o faw yn ôl, yn hytrach na rhedeg at "Mam" i gwyno!

Pwrpas yr Ombwdsman yn wreiddiol oedd amddiffyn y cyhoedd rhag cam weinyddu gan gynghorau, nid ymddwyn fel reffari rhwng cynghorwyr o bleidiau gwleidyddol gwahanol. Mae nifer y cwynion gan un cynghorydd yn erbyn cynghorydd arall yn arafu'r broses i aelodau o'r cyhoedd. Os oedd Dyfed yn teimlo ei fod wedi ei enllibio gan Aeron, ei le oedd mynd at dwrnai i gwyno am enllib, nid camddefnyddio'r Ombwdsman ar gyfer ei gwyn wleidyddol.

Mae'r rhan o'r còd ymddygiad y mae Aeron wedi ei "dorri" yn amlwg yn un sydd i fod i amddiffyn etholwyr rhag cael anfantais gan eu cynrychiolydd 7 (a) yn gofyn i gynghorwyr ‘beidio â defnyddio’u safle yn amhriodol i roi neu i sicrhau mantais neu anfantais i unrhyw berson. Rhan o'r broses wleidyddol yw sicrhau mantais i'ch plaid ac anfantais i bleidiau eich gwrthwynebwyr - cam ddefnydd o'r còd yw ei ddefnyddio i geisio gwahardd gwrthwynebydd gwleidyddol rhag cael mantais wleidyddol!

Mae'r ail sail am y cwyn yn erbyn Aeron yn chwerthinllyd sef peidio* â chyflawni tramgwydd troseddol na pheri bod un yn cael ei gyflawni – gan na fu dyfarniad yn erbyn Aeron mewn llys troseddol na sifil, nid ydyw wedi cyflawni tramgwydd troseddol na pheri bod un yn cael ei gyflawni – mae ei "gosbi" am dorri'r rhan yma o'r còd, gan hynny yn gwbl anghyfiawn!

Yr hyn sy'n peri mwyaf o ofid imi yw'r cosb sydd wedi ei osod ar y cynghorydd. Beth bynnag ein barn am Aeron fel unigolyn neu fel gwleidydd, yfo ydoedd dewis pobl Llanwnda i'w cynrychioli ar Gyngor Gwynedd. Trwy ei wahardd ef am fis nid yr unigolyn yn unig sy'n cael ei wahardd, mae pobl Llanwnda yn cael eu cosbi trwy eu hamddifadu rhag cael cynrychiolydd ar y cyngor hefyd – mae hynny'n hynod annheg i bobl Llanwnda!

A chyn i selogion y Blaid fy slagio am amddiffyn Aeron, rwy’n credu bod pob un o'r sylwadau uchod yr un mor berthnasol parthed cwynion Llafur yn erbyn Cynghorwyr y Blaid yng Nghaerffili! hefyd!



*(Dyma eiriad y drosedd yn ôl Golwg360. Byddwn yn teimlo bod "peidio â chyflawni tramgwydd troseddol" yn rhinwedd - rhywbeth i Jac Codi Baw Golwg ei hystyried o bosib!)