02/11/2011

Rwy'n teimlo'n ddryslyd braidd.

Ers cychwyn y tipyn yma o flog yr wyf wedi mynegi fy anfodlonrwydd bod Plaid Cymru yn llai nag eglur parthed ei hagwedd tuag at Annibyniaeth. Yr wyf wedi cael fy nghondemnio yn hallt gan aelodau'r Blaid, wedi fy ngalw'n fradwr, yn Dori, yn faw isa’ domen ac ati.

Ond heddiw gwelaf dau o flogwyr mwyaf brwd y Blaid yn condemnio AC amlwg, a chyn gweinidog Plaid Cymru am beidio a chytuno a pholisi creiddiol Plaid Cymru o gefnogi annibyniaeth!

Mae BlogMenai a Syniadau yn condemnio Rhodri Glyn am ddweud ei fod am weld Cymru fel un o fotor-rhanbarthau Ewrop yn hytrach na gwlad annibynnol. Digon teg rwy'n cytuno 100%.

Dyma wrthwynebiad i agwedd Plaid Cymru tuag at ffawd ein gwlad yr wyf wedi bod yn brwydro yn ei herbyn ers dros ugain mlynedd bellach! Braf gweld cefnogwyr y Blaid yn deffro i'r hyn y mae cenedlaetholwyr sydd wedi cael anhawster ag aelodaeth o'r Blaid wedi bod yn dweud ers peth amser!

OND; rwy'n ddeall sefyllfa Rhodri Glyn, Dafydd Êl, Cynog Dafis a Dafydd "nefar ,nefar" Wigley, i raddau. Y maent yn hynafgwyr o oedran cyffelyb i mi sydd wedi gorfod rhoi llwyddiant etholiadol yn erbyn ideoleg yn y fantol mewn cyfnod lle nad oedd ideoleg genedlaethol yn boblogaidd.

Mi fu'n hawdd i mi rhoi'r ideoleg yn flaenaf a dweud naw wfft i'r Blaid; er gwell er gwaeth!

Mae'n debyg nad oedd mor hawdd i eraill i fod mor "bur"!

Rwy'n falch bod y Blaid yn puro ei hunan parthed Cenedlaetholdeb, ond rhaid diolch i'r sawl a fu'n fodlon halogi eu hunain er mwyn cadw'r achos yn fyw hefyd! Wrth symud yr achos cenedlaethol ymlaen - peidiwch a bod yn ôr feirniadol o'r sawl sydd wedi cadw'r fflam yng nghyn trwy'r dyddiau du!

Y cam nesaf tuag creu Plaid Genedlaethol cynhwysfawr llwyddianus - cael gwared a chac:

2.2 To ensure ....Decentralist Socialism.

2 comments:

  1. Anonymous11:36 am

    Postiad da iawn yr Hen Rech. A cymodlon iawn hefyd.

    ReplyDelete
  2. Anonymous5:07 pm

    Beth mae rhai bobol heb sylweddoli fod yr SNP wedi gwaredu y gewnwyn allan o'r gair 'Anibyniaeth', ac ei fod yn sydydn syniad ddigon barchus!

    Mae'r Gwanwyn Arabaidd hefyd wedi mddalu agweddau bobol tuag at hawliau gwerinol y bobol. Pethau yn edrych lan, bois bach!

    ReplyDelete