11/11/2011

e-ddeiseb:Adalw Cynlluniau Datblygu Lleol

Deiseb i'r Cynulliad gwerth ei gefnogi

e-ddeiseb:Adalw CDLl (Cynlluniau Datblygu Lleol)


Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adalw r holl Gynlluniau Datblygu Lleol ledled Cymru ac i roi r gorau i ddefnyddio amcanestyniadau poblogaeth a gyhoeddir gan y Gyfarwyddiaeth Ystadegau ac a ddefnyddir i chwyddo niferoedd y tai mewn cynlluniau datblygu lleol.

Galwn am i r holl CDLl, waeth pa mor bell maent wedi cyrraedd, gael eu hatal ar unwaith er mwyn i lefel y twf mewn tai gyd-fynd ag anghenion lleol gwirioneddol.Rydym ni sydd wedi llofnodi isod o r farn fod yr holl CDLl sy n cael eu llywio gan amcanestyniadau poblogaeth Llywodraeth Cymru heb eu hystyried yn fanwl, eu bod yn sylfaenol wallus ac yn niweidiol i gymunedau Cymru.Nid yw r math hwn o gynllunio yn gynaliadwy, ac nid oes ar bobl Cymru mo i angen na i eisiau. Er mwyn atal y niwed sydd eisoes yn cael ei wneud, ac i atal niwed a dinistr pellach na ellir eu gwrthdroi yn ein cymunedau, ein hamgylchedd a n hunaniaeth ledled Cymru, apeliwn ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar unwaith.

2 comments:

  1. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  2. Maent yn adeiladu mewn cartrefi Nghasnewydd ar gyfer pobl lle nad oes unrhyw waith ar eu cyfer. Mae gwallgofrwydd. Byddant yn cael eu ghettoes mewn ychydig o flynyddoedd.

    ReplyDelete