21/10/2011

Chwip o Bost!

Mae'r ddadl am daro plant yn peri rhywfaint o gyfyng gyngor i mi. Oherwydd fy oedran yr wyf yn rhan o genhedlaeth lle'r oedd cael chwip din gan Dad neu gansen gan Brifathro yn rhan o'r hyn yr oedd plentyn yn derbyn fel digwyddiad arferol.

Mae rhai o ddadleuon y rhai sydd yn erbyn taro plant, a'u condemniadau o'r rhai sydd wedi / yn defnyddio cosb gorfforol yn awgrymu fy mod wedi cael fy magu gan rieni cas ac wedi fy addysgu gan athrawon dieflig. Gallasai dim byd bod ymhellach o'r gwirionedd. Cefais fy magu gan rieni annwyl a chariadus ac athrawon didwyll a phroffesiynol a oedd yn ymddwyn yn unol ag "arfer gorau" eu hoes. Dydy dadl sydd yn dweud wrth blentyn bod ei Daid yn anghenfil creulon, neu'n byrfyrt rhywiol ddim yn llesol i gydlyniad cymdeithasol.

Nid ydwyf yn curo fy mhlant, does dim rheswm imi wneud hynny, fel y gellir disgwyl, mae plant i Dad mor berffaith 芒 mi yn angylaidd. Mae hyn yn rhan o'r newid cymdeithasol sydd wedi digwydd dros yr hanner canrif ddiwethaf.

Pan oeddwn yn blentyn roedd plant yn cael eu hystyried yn naturiol ddrwg, wedi eu geni efo pechod gwreiddiol. Gwaith rhiant oedd eu harwain i ffwrdd o'u stad naturiol. Bellach mae plant yn cael eu hystyried yn greaduriaid ddiniwed yn naturiol dda. Gwaith rhiant ac athro yw cadw'r diniweidrwydd yna trwy ei hannog a'i gwobrwyo. Y broblem efo'r agwedd yma o ddisgyblu plentyn yw bod y mwyaf drwg yn cael y gwobrau gorau am ymddygiad da. Os wyt yn "hogyn da" wrth reddf bydd dim gwobr; ond os wyt yn fastard bach anghynnes gei di wyliau ym mhendraw'r byd am fihafio am chwe mis!

Pan oeddwn yn hogyn drwg yn y chwedegau, ac yn cael chwip din neu gansen, un o rinweddau'r gosb oedd ei fod yn cael ei weinyddu cyn gynted ac oedd y drosedd wedi ei ganfod, roedd y gosb wedi ei dalu o fewn munudau, roedd y gosb yn perthyn i linell amser y drosedd a dyna ddiwedd arni.

Bellach mae'r gosb yn hirfaith. Wedi cael ei ddal yn ddrwgweithredu mae fy mhlentyn yn cael gwybod ei fod am wynebu "cyfnod cosb" ar 么l i lythyr cyrraedd Mam a Dad ac iddynt naill ai cytuno neu apelio yn erbyn y dyfarniad. Mae'r hirfaethrwydd yma yn ymddangos imi fel artaith ac fel 么r bwyslais ar gamymddygiad.

Ymysg y pethau cefais y gansen ac / neu chwip din amdanynt oedd ymladd, ysmygu a dwyn eiddo disgybl arall. Pe bai plentyn ysgol yn cael ei dal yn cyflawni'r fath dor reolau'r ysgol droseddau bellach, byddai'r ysgol yn galw'r Heddlu, byddai Achos Llys a Record Droseddol gan y plentyn am weddill ei oes. Roedd y gansen yn boenus, ond mae'r boen wedi hen ddiflannu - byddai Record Droseddol gennyf byth.

Rwyf mewn cyfyng gyngor gan fy mod yn cytuno bod cosb gorfforol yn annerbyniol, ond rwy'n ansicr bod modd disgyblu amgenach wedi ei chanfod eto!

1 comment:

  1. Anonymous7:39 pm

    Does na ddim ffasiwn beth a plant drwg dyddiau yma. Mae ganddynt i gyd eu labelau. Ond tyda ni gyd yn eistedd rywle ar y spectrwm awtistaidd?

    ReplyDelete