Mae fy mhlant yn mynychu Ysgol y Creuddyn yn Sir Conwy -ysgol band 2 yn 么l y Cynulliad. Dyma sut mae'n cymharu ag ysgolion eraill y Sir:
Ysgol | Band | % Sy'n Cyrraedd TGAU 5 A*-C |
Ysgol Uwchradd Eirias | Band 1 | 66 |
Ysgol Aberconwy | Band 2 | 40 |
Ysgol Bryn Elian | Band 2 | 56 |
Ysgol Dyffryn Conwy | Band 2 | 46 |
Ysgol y Creuddyn | Band 2 | 66 |
Ysgol Emrys ap Iwan | Band 3 | 44 |
Ysgol John Bright | Band 4 | 50 |
O edrych trwy ffigyrau Cymru gyfan:
Mae Ysgol St Mary the Immaculate yng Nghaerdydd ym mand 1 efo llwyddiant arholiadau o ddim ond 24% pitw, ond mae Ysgol Treforys ym mand 5 gyda llwyddiant o 58% dechau.
Rwy'n derbyn bod yna fwy i addysg na dim ond cyrhaeddiad - ond cyrhaeddiad rwy'n ymofyn i fy mhlantos ta waeth.
Ym mha ysgol y maent yn fwyaf tebygol o gyrraedd eu llawn potensial? Yn Ysgol y Santes Fair, Caerdydd neu yn Ysgol Treforys, Abertawe? Pe bawn yn danfon yr hogs i Ysgol Gorau Cymru, (Sef ysgol Castell Alun, Band 1 a 76%) pa sicrwydd sydd gennyf na fyddant ym mysg y 24% o'r trueiniaid sydd yn methu yno? Yr ateb ydy dwi ddim yn gwybod! Ac os nad ydwyf, fel rhiant, yn gwybod yr ateb i'r fath gwestiynau wedi edrych ar dabl y Cynulliad mae cwestiwn arall yn codi:
Be ddiawl di pwrpas cyhoeddi'r fath lol botas o dabl diwerth?!