Mae fy mhlant yn mynychu Ysgol y Creuddyn yn Sir Conwy -ysgol band 2 yn 么l y Cynulliad. Dyma sut mae'n cymharu ag ysgolion eraill y Sir:
Ysgol | Band | % Sy'n Cyrraedd TGAU 5 A*-C |
Ysgol Uwchradd Eirias | Band 1 | 66 |
Ysgol Aberconwy | Band 2 | 40 |
Ysgol Bryn Elian | Band 2 | 56 |
Ysgol Dyffryn Conwy | Band 2 | 46 |
Ysgol y Creuddyn | Band 2 | 66 |
Ysgol Emrys ap Iwan | Band 3 | 44 |
Ysgol John Bright | Band 4 | 50 |
O edrych trwy ffigyrau Cymru gyfan:
Mae Ysgol St Mary the Immaculate yng Nghaerdydd ym mand 1 efo llwyddiant arholiadau o ddim ond 24% pitw, ond mae Ysgol Treforys ym mand 5 gyda llwyddiant o 58% dechau.
Rwy'n derbyn bod yna fwy i addysg na dim ond cyrhaeddiad - ond cyrhaeddiad rwy'n ymofyn i fy mhlantos ta waeth.
Ym mha ysgol y maent yn fwyaf tebygol o gyrraedd eu llawn potensial? Yn Ysgol y Santes Fair, Caerdydd neu yn Ysgol Treforys, Abertawe? Pe bawn yn danfon yr hogs i Ysgol Gorau Cymru, (Sef ysgol Castell Alun, Band 1 a 76%) pa sicrwydd sydd gennyf na fyddant ym mysg y 24% o'r trueiniaid sydd yn methu yno? Yr ateb ydy dwi ddim yn gwybod! Ac os nad ydwyf, fel rhiant, yn gwybod yr ateb i'r fath gwestiynau wedi edrych ar dabl y Cynulliad mae cwestiwn arall yn codi:
Be ddiawl di pwrpas cyhoeddi'r fath lol botas o dabl diwerth?!
Cytuno bod yr holl beth yn ffars. ond...
ReplyDeleteBANDIAU YSGOLION UWCHRADD CYMRAEG
I'r rhai sydd gyda diddordeb dwi wedi rhoi'r ysgolion Uwchradd Cymraeg yn 么l bandiau'r llywodraeth isod. Noder mai dim ond ysgolion Gymraeg lle mae 100% o'r pynciau heblaw am Saesneg, neu o leiaf 80% o'r pynciau heblaw am Cymraeg/Saesneg (2A) yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg i BOB disgybl dwi wedi cynnwys, sef 37 ysgol Uwchradd yng Nghymru. Mae hyd at 55 ysgol uwchradd yn cynnig rhai pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg i'r disgyblion, ond yn yr 18 ysgol uwchradd ychwanegol yma, mae canran helaeth o'r disgyblion yn derbyn eu haddysg yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Saesneg (ysgolion categori 2B/2C/2CH) ac felly nid ydynt wedi eu cynnwys.
BAND 1
Gwynedd, Ysgol Brynrefail
Gwynedd, Ysgol Tryfan
Sir Benfro, Ysgol y Preseli
Abertawe, Ysgol Gyfun Gwyr
Castell-Nedd Port Talbot, Ysgol Gyfun Ystalyfera
Bro Morgannwg, Ysgol Gyfun Bro Morgannwg
Caerffili, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
BAND 2
Gwynedd, Ysgol Dyffryn Ogwen Bethesda
Gwynedd, Ysgol Botwnnog
Gwynedd, Ysgol Y Gader
Gwynedd, Ysgol Y Moelwyn
Gwynedd, Ysgol Glan y Mor
Conwy, Ysgol y Creuddyn
Sir Fflint, Maes Garmon
Wrecsam, Ysgol Morgan Llwyd
Caerdydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Caerdydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr
Ceredigion, Ysgol Gyfun Penweddig
Sir Gaerfyrddin, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
BAND 3
Gwynedd, Ysgol Dyffryn Nantlle
Gwynedd, Ysgol Eifionydd
Gwynedd, Ysgol Uwchradd Tywyn
Sir Ddinbych, Ysgol Uwchradd Glan Clwyd
Abertawe, Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Torfaen, Ysgol Gyfun Gwynllyw
Sir Gaerfyrddin, Ysgol Gyfun Y Strade
BAND 4
Gwynedd, Ysgol Y Berwyn
Gwynedd, Ysgol Ardudwy
Gwynedd, Ysgol Friars
Rhondda Cynon Taf, Ysgol Gyfun Llanhari
Rhondda Cynon Taf, Ysgol Gyfun Cymer Rhondda
Rhondda Cynon Taf, Ysgol Gyfun Rhydywaun
Ceredigion, Ysgol Dyffryn Teifi
Sir Gaerfyrddin, Ysgol Gyfun Maes-Yr-Yrfa
BAND 5
Gwynedd, Ysgol Syr Hugh Owen
Rhondda Cynon Taf, Ysgol Gyfun Garth Olwg
YSGOL NEWYDD - DIM BAND
Penybont, Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd
Dyna fi wedi mynd i un o'r ysgolion 'waethaf' yng Nghymru felly! Ond dydw i ddim yn ctuno efo'r bandiau yma - dydyn nhw'n dweud dim am a mor dda yw'r cyfleusterau na'r athrawon, dim ond am lwyddiant y disgyblion. Fe fuodd my mrodyr i yn Ysgol Tryfan, sydd yn y band uchaf, ac fe fues i yno am gyfnod. Allai'm dweud ei fod yn ysgol gwell, dim ond fod y disgyblion yn dod o gefndir mwy dosbarth canol ac yn cael mwy o gefnogaeth gartref na'r disgyblion oedd yn Ysgol Syr Hugh. Roedd athrawon Syr Hugh yn wych ar y cyfan ac fe gefais i bob cefnogaeth ganddyn nhw, ond doedd rhai o fy nghyd ddisgyblion ddim yn gweld gwerth addysg am nad oedd gan eu rhieni swyddi a doedden nhw ddim yn disgwyl cael swyddi chwaith. Dw i'n cofio bachgen ifanc clyfar yn mynegi mewn geiriau hollol glir i fi nad oedd am drafferthu yn yr ysgol am nad oedd dim pwynt gan nad oedd unrhyw swyddi ar gael a mai byw mewn ty cyngor fel ei fam a'i dad fyddai fo beth bynnag.
ReplyDelete