09/03/2012

Purdeb Iaith v Bratiaith?

Rwyf newydd gael cyfle i wrando ar Pawb a’i Farn ar y Sky+, roeddwn yn siomedig o glywed yr un hen ddadl wag am iaith pur v bratiaith ar y rhaglen. Ym mha iaith arall gellir cael trafodaeth mor ddiystyr?

Y mae gan bob iaith ei phuryddion, ei academyddion, ei arbenigwyr; mae gan bob iaith ei siaradwyr cymedrol cywir ac mae gan bob iaith siaradwyr (gan gynnwys siaradwyr cynhenid) sydd a’u crap ar yr iaith yn gac. Pam bod disgwyl i’r Gymraeg bod yn wahanol?

Nid ydwyf yn dymuno talu arian da am lyfr sydd yn llawn gwallau sillafu a gramadeg, boed yn llyfr Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg neu mewn unrhyw iaith arall, mae 'na fan a lle ar gyfer cywirdeb iaith! Ond, ar y llaw arall, nid ydwyf am ddiystyru cymydog sy’n fy nghyfarch efo cyfarchiad sy’n cynnwys cam dreigliad neu ramadeg gwael!

Er mwyn i iaith byw mae’n rhaid iddi gael amddiffynwyr ei phuredd, y rhai sy’n gallu dyfarnu ar gywirdeb ac anghywirdeb, ond mae’n rhaid iddi gael siaradwyr sydd yn ei ddefnyddio heb falio botwm corn am gywirdeb eu gramadeg na’u hieithwedd hefyd! Pobl sy’n credu bod eu hiaith yn “digon da” hyd yn oed os nad ydyw yn berffaith cywir.

Pe baem yn mynnu mae dim ond Saeson sy’n siarad Saesneg pur sy’n cael defnyddio’r Fain, byddai ton o ddistawrwydd tua’r dwyrain o Glawdd Offa!

Bydd dewis rhwng purdeb iaith NEU fratiaith yn lladd yr Iaith Gymraeg - er mwyn i’r iaith ffynnu mae’n rhaid coleddu'r ddwy!

2 comments:

  1. Cytuno. Yn anffodus mae hwn yn un o'r pynciau hawdd hynny sy'n sicr o ddenu ymateb chwyrn, ac mae rhaglenni trafod yn manteisio arno'n aml. Mae'n rhwystredig bod y lol yma'n destun cymaint o sylw ar raglen "materion cyfoes".

    ReplyDelete
  2. Dwed y gwir wi'n meddwl bod dadl ffug yw e weithiau. Y pwynt fyw bwysig ydy trio sicrhau bod pawb yn defnyddio cywair iawn yn y sefyllfa sy 'da nhw ar y pryd.
    Imi mae siarad yn glir a phobl ti ddim yn nabod ydy'r peth pwysicaf.

    ReplyDelete