Yr wyf, fel Cristion, yn croesawu penderfyniad yr Uchel Lys, bod mynnu bod aelodau Cyngor yn fynychu cyfnod gweddi yn anghyfreithiol.
Pe byddwn yn aelod o gyngor, mi fyddwn, yn ddiamheuaeth, yn gofyn ar i Dduw fy arwain yn fy mhenderfyniadau cyn pob cyfarfod, ond mater bersonol rhwng fi a fy Nuw byddai hynny, nid mater i'r cyngor yn ei gyfanrwydd.
Ers bron i ganrif mae Cymru wedi bod yn wald seciwlar o ran ei reolaeth, a da o beth yw hynny.
Nid ydwyf yn gwybod am unrhyw cyngor Sir na Chymuned yng Nghymru sydd a gweddïau yn eitem ar eu agenda.
Er gwaetha'r ffaith bod y dyfarniad yn un England and Wales, rwy'n amau mae at Loegr a'i Eglwys Wladol mae'r ddyfarniad wedi ei anelu!
Ond mae yna elfen o'r dyfarniad sydd yn peri pryder imi. Mae'r dyfarniad yn ddweud mae lle seciwlar yw man cyfarfod cyngor.
Mae cyngor fy nghymuned i yn cyfarfod yn festri y capel MC lleol, mangre sydd, yn amlwg, ddim yn seciwlar!
Mewn cymunedau gwledig trwy Gymru a Lloegr, Festri'r Capel neu Neuadd yr Eglwys yw'r unig mannau lle gellid cynnal cyfarfodydd, megis cyfarfod o Gyngor Cymuned. Mae dyfarniad yr Uchel Lys yn awgrymu y byddai modd herio unrhyw benderfyniad a wneir gan gyngor sy'n cwrdd mewn lle o addoliad!
Rwy'n credu bod y Cyngor Gymuned yn hollbwysig i'r drefn democrataidd, ond os na chaniateir i gynrychiolwyr y gymuned cyfarfod mewn adeilad at iws grefyddol, bydd ambell i gyngor lleol yn cael ei orfodi i ddod i ben!
Pan fynychais gyfarfod o brif bwyllgor Cyngor Gwynedd yn ddiweddar cefais fy synnu gan y ffaith eu bod yn ymuno mewn gweddi cyn cychwyn ar yr agenda.
ReplyDeleteRwy'n rhyw ddeall pam dy fod yn codi'r pwynt, ond nid oes gennyt unrhyw beth i'w boeni yn ei gylch fan hyn.
ReplyDeleteMae capeli ac yn y blaen yn lefydd defnyddiol iawn er mwyn cynnal cyfarfodydd ac ati, ac nid oes gennyf broblem o fath yn y byd gyda defnyddio cyfleusterau o'r fath. Rwy'n aelod o gôr sy'n ymarfer pob wythnos mewn festri capel ac rwy'n berffaith hapus gyda hynny. Mae'n ystafell addas. Nid wyf hyd yn oed yn meddwl ddwywaith chwaith am y ffaith bod ambell un o'n caneuon yn crybwyll duw. Rwy'n hoffi gospel.
Mae angen i fusnes cyfarfodydd cyngor o'r fath fod yn seciwlar, wrth reswm, ond nid wyf yn credu bod y lleoliad o reidrwydd yn broblem. Fel rwyt yn ei ddweud, mewn sawl cymuned dim ond addoldai sydd ar gael ar gyfer cynnal cyfarfodydd. Mae hynny'n iawn gen i, cyn belled nad yw duw ei hun yn cadeirio.
"Pan fynychais gyfarfod o brif bwyllgor Cyngor Gwynedd yn ddiweddar cefais fy synnu gan y ffaith eu bod yn ymuno mewn gweddi cyn cychwyn ar yr agenda."
ReplyDeleteO ddifri?!
Efallai dylwn fynychu'r pethau yma rhyw dro. Mae hynny'n warthus os yn wir.
Gweddi cyn Cyngor llawn Wrecsam hefyd ac yn poeni dim ar neb fel y gwela i hi.
ReplyDeleteOs yw'r weddi'n ran o gyfarfod swyddogol y cyngor yna mae'n warthus a dylai fod yn anghyfreithlon.
ReplyDeleteMae gweddi ar ddechrau cyfarfod Cyngor Dinas Caerdydd (yr unig adeg y defnyddir y Gymraeg bron). Cewch ei weld ar y we-lediad: http://www.cardiff.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/72340
ReplyDelete