Yr wyf
wedi bod mewn cyfyng gyngor parthed pleidleisio yn yr Etholiadau Comisiynydd
Heddlu.
Mae'r
syniad o gael pleidleisio am y fath swydd yn fy ffieiddio. Fel cenedlaetholwr yr
wyf wedi cael y profiad o gael fy erlyn yn droseddol o ganlyniad i weithredu ar
egwyddorion gwleidyddol ac ar y cyfan yr wyf wedi cael y system droseddol, er
gwaethaf ei ragfarn o blaid y drefn, yn weddol onest a diduedd. Rwy'n casáu'r
syniad mae "gwleidydd" bydd yn trefnu polisi'r heddlu o hyn
allan.
Y mae
Plaid Cymru a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd wedi penderfynu peidio ag ymladd yr
Etholiadau Comisiynydd, pe bai gan y Blaid ymgeisydd byddwn yn gallu bwrw
pleidlais yn hyderus dros eu hymgeisydd, ond heb ymgeisydd swyddogol gan y Blaid
y mae gennyf ofn pleidleisio ac ofn peidio a phleidleisio.
Fel
unigolyn mae Tal Michael yn hen foi iawn, ond rwy'n casáu'r Blaid Lafur a phrin
fy mod am greu'r argraff bod y Blaid Lafur ar ei fyny yng Nghymru (canys dyna
fydd canlyniad ethol 4 Comisiynydd Llafur) trwy bleidleisio
iddo.
Gwan
yw'r gair caredicaf y gallwn ddod ar hyd iddo i ddisgrifio'r ymgeisydd
Ceidwadol. Weithiau mae pleidiau gwleidyddol yn datgan eu gobeithion am ennill
trwy ddewis "rhywun rhywun" i sefyll yn eu henw yn hytrach nag ymgeisydd gwerth
chweil; "rhywun rhywun" i'w aberthu yw'r ymgeisydd Ceidwadol - unigolyn nad yw'r
blaid yn disgwyl ennill yn ei henw - ac (yn ddistaw bach) yn gobeithio i'r
nefoedd na chaiff ei hethol yn annisgwyl.
Sydd
yn gadael yr annibynwyr. Mi wnes i roi dwys ystyriaeth i sefyll fel ymgeisydd
annibynnol, ond wedi ymchwilio i'r oblygiadau mi ddois i'r canlyniad y byddai
cost sefyll - yn gwbl annibynnol - o ennill yn fwy na chyflog y swydd am ei
thymor, sydd yn gwneud imi amau argymhellion yr ymgeiswyr
annibynnol.
Pa mor
annibynnol ydynt?
Pwy
sy'n ariannu eu hymgyrchoedd?
Mi
fyddai'n loes calon imi i beidio a phleidleisio - yr wyf yn ddisgynnydd i rai
o'r sawl cafodd eu troi allan ym 1859 ac i Hen Nain a phleidleisiodd yn ei
phenwynni am y to cyntaf ym 1928; mae pleidleisio yn ddyletswydd imi. Gan hynny
yr wyf wedi penderfynu bwrw fy mhleidlais dros Winston Roddick, ymgeisydd
annibynnol sydd a hen hanes o wasanaethu'r genedl trwy amryfal ffurf heb
lygredd, a gan hynny yn un gellid ei drystio; ond o ddweud hynny dan afael fy
nhrwyn yn dynn iawn y byddwyf yn bwrw pleidlais iddo!
Cytuno
ReplyDeleteRoeddwn yn bwriadu sbwylio fy mhleidlais, ond gan fod Dafydd El wedi datgan ei gefnofaeth i'r ymgeisydd Llafur byddaf innau hefyd yn pleidleisio i Winston Roddick.
ReplyDeleteDwi hefyd am bleidleisio i Winston Roddick
ReplyDeleteYr wyf innau wedi bod yn pendroni nes i'r arglwydd fy argyhoeddi mai Mr Roddick sy'n haeddu fy mhleidlais.
ReplyDelete