Pan oeddwn yn yr ysgol, amser maith yn ôl,
roedd plant yn cael eu dethol i ddilyn naill ai cwrs CSE neu gwrs
Lefel O. Roedd cael gradd 1 CSE yn cael ei gyfrif yn gyfystyr a gradd
C Lefel O. Mi gefais fy nanfon i'r grŵp CSE ym mhob un pwnc yr
oeddwn yn ei ddilyn, ar wahan i Addysg Grefyddol. Cefais radd B
mewn Addysg Grefyddol Lefel O a gradd 1 mewn saith o bynciau CSE.
Rwyf wastad wedi meddwl pe byddwn wedi cael y cyfle i sefyll
arholiadau Lefel O yn y pynciau lle cefais Gradd 1 CSE a fyddwn wedi
llwyddo cael gradd uwch na'r lefel C cyfystyr?Gan hynny yr oeddwn yn croesawu penderfyniad Syr Keith Joseph i uno'r ddau arholiad trwy greu'r TGAU yn ôl ym 1986, ond ni chafwyd uniad go iawn. Yn ôl yr hyn rwy'n ddeall o addysg fy hogiau mae ambell un yn sefyll arholiad lle mae gradd C TGAU yw'r radd uchaf posib y maent yn gallu ennill, dim ots pa mor ddoeth eu hatebion arholiad. Hynny yw y maent yn sefyll CSE heb y gallu i frolio pe bawn wedi cael y cyfle i sefyll Lefel O!
Os bydd Mr Gove yn llwyddo yn ei ymdrech i ail
gyflwyno Lefel O a CSE i Gwricwlwm Lloegr, mi fydd yn dod a
gonestrwydd yn ôl i'r system arholiad. Os yw Leighton Andrews,
wir yr, yn credu bod y system Lefel O yn Bonkers, mi ddylai sicrhau
bod pob plentyn yng Nghymru yn sefyll un arholiad gyda'r gobaith o
gael y radd uchaf posib, yn hytrach na pharhau a system sy'n cuddio
cyrhaeddiad uchaf disgyblion trwy gynnig dwy radd o gyrhaeddiad uchaf posib
TGAU mewn un system arholiad!