Pan glywais fy mod wedi fy ethol heb gystadleuaeth ar gyfer fy nghyngor cymuned fy nheimlad oedd un o siomedigaeth bersonol, yr oeddwn yn dymuno cystadleuaeth ac yn awchu am ymgyrch. Rwy'n ddiolchgar i Owen ap Gareth o Gymdeithas Newid Etholiadol Cymru am ddangos imi hunanoldeb y fath deimladau.
Y pwynt pwysicach yw bod y bobl yr wyf wedi fy nethol i'w cynrychioli wedi eu hamddifadu o ddewis democrataidd.
Mae'n debyg bod y 93 cynghorydd Sir sydd eisoes wedi eu hethol yn ddiwrthwynebiad yng Nghymru wedi amddifadu hyd at 140,000 o bleidleiswyr Cymru rhag mynegi barn yn yr etholiadau Cyngor Sir.
Mae diffyg mandad democrataidd y cynghorau cymuned yn waeth byth; yng Nghonwy yn unig, dim ond 11 o'r 71 adran etholaethol gymunedol sy'n cynnal etholiad - ystadeg sy'n gwatwar y syniad o ddemocratiaeth leol.
Gan fy mod yn agnostig, braidd, ar achos pleidleisio cyfrannol nid ydwyf am gefnogi achos Cymdeithas Newid Etholiadol Cymru, ond mae eu hadroddiad am yr etholiadau lleol (PDF) yn un gwerth ei ddarllen a gwerth cnoi cil yn ei gylch!
Showing posts with label Etholiadau 2012. Show all posts
Showing posts with label Etholiadau 2012. Show all posts
27/04/2012
21/04/2012
Darllediad Etholiadol Plaid Cymru
Croeso ddigon llugoer fu i ddarllediad etholiadol Plaid Cymru ar gyfer yr etholiadau cyfredol. Mae Blog Banw yn dyfynnu nifer o negeseuon Trydar sy’n cwyno am y ffilm ac yn mynd ati i ategu ei feirniadaeth ef amdano. "Rwy’n teimlo bod hwn yn gam gwag iawn fel darllediad gwleidyddol, oes mae na le i gael neges cadarnhaol ac nid mynd lawr yr un trywydd â’r Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr trwy ymosod ar ei gilydd mewn rhyw gormes diddiwedd. Ond mam fach darllediad rydych yn ‘Gymry’ oedd darllediad Plaid Cymru yn hytrach na darllediad ‘rydych yn Gymry, rydym ni’n Gymry, dyma beth hoffwn ni wneud dros Gymru’ dyna beth oedd ei angen."
Rwy'n anghytuno ar feirniadaeth, mae perswadio pobl bod pleidleisio dros blaid arbennig yn beth "naturiol" iddyn nhw ei wneud yn hanfodol i lwyddiant parhaol. Mae neges sy'n dweud wrth bobl Cymru bod y Blaid yn gymaint o ran o dirwedd Cymru a'r mynyddoedd, bod cefnogi'r blaid genedlaethol mor naturiol a chefnogi'r tîm cenedlaethol yn neges bwerus dros ben yn fy marn i. Mae Blog Banw yn ddweud "Fe wnawn nhw ddim pleidleisio i ‘Blaid Cymru’ am ei fod yn blaid Cymreig, pe tasai’r feddylfryd hynny’n gweithio byddwn ni wedi ennill sawl etholiad erbyn naw". Mi fyddwn i'n dadlau i'r gwrthwyneb, mae'r meddylfryd hynny'n gweithio (mae'n gweithio i'r Blaid Lafur), y rheswm pam bod y fath feddylfryd heb weithio i'r Blaid yn y gorffennol yw oherwydd bod y fath neges heb ei ddefnyddio yn ddigon effeithiol gan y Blaid yn y gorffennol.
Wrth gwrs fel un sy'n ymhyfrydu ym manion "diwinyddol" gwleidyddiaeth mi fyddwn i'n cael mwy o blas ar ddarllediad llawn polisïau cadarn, ond prin yw'r bobl sy'n gwirioni'r un fath a fi. I'r mwyafrif "addewidion gwag" a "chelwydd gwleidyddion i'w anghofio wedi'r etholiad" yw polisïau. Mewn un peth rwy'n cytuno a'r sosialydd Trotsky mae cael polisïau didwyll yn bwysig i fudiad gwleidyddol ond slogan dda i fynd efo'r polisi bydd yn perswadio pobl i gefnogi polisi nid ei gynnwys; mae'r slogan ei fod yn naturiol i bobl Cymru cefnogi Plaid Cymru yn un da dylid ei wthio a'i gwthio yn ddi-baid nes iddi dreiddio i isymwybod pob pleidleisiwr yng Nghymru.
Subscribe to:
Posts (Atom)