Showing posts with label Dwyieithrwydd. Show all posts
Showing posts with label Dwyieithrwydd. Show all posts

14/04/2012

Caniatáu cost dwyieithrwydd mewn gwariant etholiadol

Pan gefais fy enwebu fel ymgeisydd ar gyfer yr etholiadau cymunedol mi gefais nodyn gwybodaeth gan y swyddog etholiadau yn nodi'r uchafswm yr oeddwn yn cael gwario ar yr ymgyrch, sef £600 + 5c yr etholwr. Digon teg, rwy’n cefnogi system sy'n sicrhau nad yw'r cyfoethog yn gallu "prynu" etholiad.

Fel mae'n digwydd ni fu'n rhaid imi wario dima goch gan fy mod wedi fy ethol heb gystadleuaeth.

Pe bawn wedi gorfod ymgyrchu byddai'r cyfan o fy neunydd wedi bod yn hollol ddwyieithog, rhywbeth a allasai bod yn anfanteisiol imi mewn plwyf lle mae dim ond traean o'r boblogaeth yn cydnabod eu bod yn ddefnyddwyr y Gymraeg yn ôl cyfrifiad 2001.

Byddai fy nefnydd o'r Gymraeg yn apelio at gyfran o'r Cymry Cymraeg, ond byddai gwrthwynebydd yn gallu cyhoeddi taflen etholiadol uniaith Saesneg efo ddwywaith gymaint o wybodaeth a pholisi ac apêl arni â fy nhaflen ddwyieithog i - am yr union un un pris. Sefyllfa sydd yn rhoi mantais annheg i'r ymgeisydd uniaith Saesneg yn y parthau hyn ac sydd yn hybu defnydd o'r Saesneg yn unig neu'n bennaf.

I gael tegwch, ac i hybu'r iaith onid dylid cael premiwm ar yr uchafswm gwariant yng Nghymru ar gyfer ymgeiswyr sy'n defnyddio'r Gymraeg yn eu deunydd etholiadol? Er enghraifft 33% yn rhagor o wariant i ymgeiswyr sy'n darparu o leiaf traean o'u deunydd etholiadol yn y ddwy iaith?

22/08/2011

Addysg Gymraeg Dwyieithog

Dydy Cymru ddim yn wlad ddwyieithog - mae'n wlad efo dwy iaith. Mae tua chwarter ohonom yn gallu'r ddwy iaith (yr ydym yn ddwyieithog), ond mae tua thri chwarter ohonom yn uniaith Saesneg. Mae'r tri chwarter sydd yn uniaith Saesneg yn gallu byw eu bywydau trwy eu un iaith. Does dim modd i berson dwyieithog dewis iaith, mae'n rhaid iddo neu iddi ddefnyddio'r ddwy - nid oes unrhyw gyfartaledd. Saesneg yw'r unig iaith hanfodol yng Nghymru heddiw. Gellir byw bywyd cyflawn heb y Gymraeg, does dim modd byw bywyd cyflawn heb y Saesneg.

Mae ysgolion honedig dwyieithog yn ficrocosm o'r twyll bod Cymru yn wlad ddwyieithog. Mae modd i ddisgyblion mynd trwy gyfnod addysg 3 i 19 ym mhob un o ysgolion dwyieithog Cymru, gan gynnwys rhai naturiol dwyieithog Gwynedd, heb dderbyn namyn mwy nag ambell i leson bach yn Welsh. Does dim modd i'r un plentyn mewn ysgol ddwyieithog fondigrybwyll derbyn yr un safon o addysg Gymraeg ag sydd ar gael mewn ysgolion Penodedig Cymraeg; mae'n rhaid i bob disgybl mewn ysgol ddwyieithog cyfaddawdu a derbyn rhywfaint o'i addysg trwy gyfrwng y Saesneg.

Mae diffyg ysgolion penodedig Gymraeg yn y Fro Gymraeg, a'r myth bod ysgolion Y Fro yn naturiol ddwyieithog yn gwneud niwed i'r iaith. Pwynt yr wyf wedi ei rhefru amdano ers deng mlynedd ar hugain heb fawr o gefnogaeth; rwy'n falch o weld rhywfaint o gefnogaeth yn dod o du blog Plaid Wrecsam a Blog Bnanw bellach!

Y broblem i addysg Gymraeg yn y Fro yw y byddai 90%, os nad mwy, o rieni yn dewis addysg Gymraeg cyflawn i'w plantos. Byddai 10% yn swnllyd gâs yn ei wrthwynebu, a byddid delio efo'r 10% yn creu problemau a phrotestiadau gwleidyddol i Wynedd, i Fôn, i Geredigion ac i Gaerfyrddin nad ydynt am eu hwynebu, gan fyddai'r gwrthwynebwyr casaf ymysg yr etholwyr sydd wedi ymddeol yn di blant i'r Fro!

Yr unig ffordd o achub yr iaith yw dweud naw wfft i'r protestwyr a sicrhau bod mwyafrif yr ysgolion yn y Fro yn ysgolion Cymraeg go iawn, yn hytrach nag ysgolion ffug dwyieithog sy'n lladd yr iaith.

05/06/2010

Polisi Cyfartaledd Iaith y GIG?

Dyma sgan o fersiwn Ochor Cymraeg llythyr a danfonwyd i gyfaill imi yn niweddar:



Be 'di pwynt polisi ddwyieithog lle mae'r blychau sydd yn cynnwys y wybodaeth sy'n unigryw i'r derbynnydd yn y Saesneg ar ochor Gymraeg y ffurflen?

Reitiach byddid i'r wybodaeth cael ei ddanfon yn uniaith Saesneg na gorfod dioddef y fath doconistiaeth sarhaus o ddwyieithrwydd!