Poni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw?
Poni welwch chwi'r deri'n ymdaraw?
Poni welwch chwi'r môr yn merwinaw'r tir?
Poni welwch chwi'r gwir yn ymgweiriaw?
Poni welwch chwi'r haul yn hwyliaw'r awyr?
Poni welwch chwi'r sŷr wedi'r syrthiaw?
Poni chredwch chwi i Dduw, ddyniadon ynfyd?
Poni welwch chwi'r byd wedi'r bydiaw?
Och hyd atat ti Dduw na ddaw - môr dros dir!
Na beth y'n geidr i ohiriaw?
Can werth ei ail ganu ar y diwrnod y mae Plaid Cymru, o bob plaid, am ail adrodd y Brad yng nghlochdy Bangor yn neuadd Pontrhydfendigaid!
Dyniadon ynfyd - o'r iawn ryw!
Twt,twt,twt! Dros ben llestri! Nid ar chwarae bach y dylid defnyddio'r geiriau hyn!
ReplyDeletePwy sy'n chware bach? Nid fi yn sicr.
ReplyDeletePan fo genedl yn cael ei fradychu mae 'na bethau pwysicach i'w hystyried na llestri!
Os yw fy nealltwriaeth o hanes y tywysogion yn gywir, roedd gan bob un ohonyn nhw rhyw fath o gynghrair gyda rhyw fath o arglwydd, tywysog neu frenin o Loegr ar unrhyw adeg. Felly cam-ddefnyddio a chamdehongli hanes y mae'r person sy'n honni mai bradychu Cymru yw clymbleidio â Llafur. Gwasanaethu Cymru yw'r nod, a diogelu buddiannau Cymru mewn ffordd sy'n debyg ofnadwy i'r hyn a wnaeth tywysogion Gwynedd a Deheubarth canrifoedd yn ôl.
ReplyDelete