Un o'r pethau a oedd yn arfer bod yn
nodweddiadol o bobl ryddfrydig oedd eu cred bod Rhydd i Bob Un ei Farn ac
i bob Barn ei Llafar, ond yn ystod y blynyddoedd diweddar yr wyf wedi
sylwi bod y chwith, yn arbennig y chwith dosbarth canol addysgiadol, yn ymosod mwy fwy pob dydd ar yr egwyddor bwysig
hon. Eu hoff ffordd o ymosod ar ryddid barn a rhyddid mynegiant barn yw trwy
ddefnyddio termau gosod o sarhad yn erbyn unrhyw un sydd â barn wahanol, ar
bron unrhyw bwnc, sydd ddim yn
cydymffurfio a'u barn uniongred hwy.
Os wyt yn anghytuno ag inteligensia y
chwith ar unrhyw beth sy'n ymwneud a mewnfudo yr wyt yn cael dy labelu yn hiliol, os wyt yn anghytuno a nhw ar unrhyw beth sy'n ymwneud a
chydraddoldeb merched yr wyt yn misogynist neu'n sexist, os wyt yn anghytuno a nhw am unrhyw beth sy'n ymwneud a
phobl LGBT yr wyt yn Homoffôb.
Yr wyf yn hoff iawn o fy meddyg teulu ac yn ei gyfrif yn ffrind
yn ogystal â doctor, mae o'n ddyn a anwyd ar is gyfandir India. Ychydig
flynyddoedd yn ôl mi ddywedais ar fwrdd trafod fy mod i'n meddwl ei fod yn wych
bod y DdU yn fodlon rhoi addysg i bobl o is gyfandir India er mwyn eu dysgu i
fod yn ddoctoriaid ond ei fod yn drist nad ydynt yn cael eu hannog i ddychwelyd
adre i wasanaethu eu cymunedau cynhenid ar ôl graddio. Cefais fy ngalw yn
hiliol, yn Natsi yn gefnogol o bolisi'r BNP o darfon y nigars adre, ac ati. Neb
yn fodlon derbyn fy mhwynt bod yna rhywbeth uffernol o hunanol, ac yn wir
hiliol, o ddwyn y gorau o gymdeithasau
tlawd ac anghenus i'n gwasanaethu ni!
Mis Chwefror diwethaf mi sgwennais bost blog a oedd yn awgrymu bod y rhesymau sy'n cael eu rhoi am ddiffyg
cynrychiolaeth merched mewn gwleidyddiaeth yn anghywir, gan awgrymu bod dynion
yn sefyll fel unigolion tra bod menywod yn sefyll dros yr achos menywaidd a bod
dynion am ennill pob tro o dan y fath amgylchiadau. Rwy'n cytuno efo
cynrychiolaeth gyfartal ond yn anghytuno a rhai o'r awgrymiadau ar sut i
gyrraedd cyfartaledd. Trwy anghytuno ag Efengyl y Chwith yr wyf yn sexist
misogynist.
Mae homophobe yn air sy'n mynd dan fy
nghroen i. Mae'n gymysgedd o Ladin a Groeg ac os oes ystyr i'r gair mae'n
golygu ofn afresymol o'r bod dynol, ond mae'n cael ei ddefnyddio fel gair stoc
i gondemnio unrhyw un sy'n gwyro oddi wrth lwybr cul barn y chwith am yr achos LGBT.
Yr wyf wedi cael profiadau rhywiol efo
dynion eraill (su'n awgrymu y B yn LGBT), mi fûm yn rhannu tŷ ac yn bartner
busnes efo dyn gwrywgydiol am bron i ddeng mlynedd, mae unrhyw awgrym bod
gennyf ofn dirdynnol (sef ystyr phobia) o wrywgydwyr yn nonsens llwyr! Ond gan
imi ddweud fy mod i'n credu bod elfen o ddewis yn perthyn i fywyd rhywiol ac mae uchafbwynt y profiad rhywiol yw genedigaeth plentyn yn htrach na'r profiad o ddwad y mae
pob peth yr wyf yn ddweud yn homoffobia!
Ia POB PETH yr wyf yn ddweud. Bu trafodaeth ar Twitter ddoe am yr enw Cymraeg am fath arbennig o dorth o fara a dyma'r ymateb cefais:
Ia POB PETH yr wyf yn ddweud. Bu trafodaeth ar Twitter ddoe am yr enw Cymraeg am fath arbennig o dorth o fara a dyma'r ymateb cefais:
Rhydd i bob un ei Farn? Dim hyd yn oed am enw torth yn ôl yr inquisition newydd!