Un o'r pethau a oedd yn arfer bod yn
nodweddiadol o bobl ryddfrydig oedd eu cred bod Rhydd i Bob Un ei Farn ac
i bob Barn ei Llafar, ond yn ystod y blynyddoedd diweddar yr wyf wedi
sylwi bod y chwith, yn arbennig y chwith dosbarth canol addysgiadol, yn ymosod mwy fwy pob dydd ar yr egwyddor bwysig
hon. Eu hoff ffordd o ymosod ar ryddid barn a rhyddid mynegiant barn yw trwy
ddefnyddio termau gosod o sarhad yn erbyn unrhyw un sydd â barn wahanol, ar
bron unrhyw bwnc, sydd ddim yn
cydymffurfio a'u barn uniongred hwy.
Os wyt yn anghytuno ag inteligensia y
chwith ar unrhyw beth sy'n ymwneud a mewnfudo yr wyt yn cael dy labelu yn hiliol, os wyt yn anghytuno a nhw ar unrhyw beth sy'n ymwneud a
chydraddoldeb merched yr wyt yn misogynist neu'n sexist, os wyt yn anghytuno a nhw am unrhyw beth sy'n ymwneud a
phobl LGBT yr wyt yn Homoffôb.
Yr wyf yn hoff iawn o fy meddyg teulu ac yn ei gyfrif yn ffrind
yn ogystal â doctor, mae o'n ddyn a anwyd ar is gyfandir India. Ychydig
flynyddoedd yn ôl mi ddywedais ar fwrdd trafod fy mod i'n meddwl ei fod yn wych
bod y DdU yn fodlon rhoi addysg i bobl o is gyfandir India er mwyn eu dysgu i
fod yn ddoctoriaid ond ei fod yn drist nad ydynt yn cael eu hannog i ddychwelyd
adre i wasanaethu eu cymunedau cynhenid ar ôl graddio. Cefais fy ngalw yn
hiliol, yn Natsi yn gefnogol o bolisi'r BNP o darfon y nigars adre, ac ati. Neb
yn fodlon derbyn fy mhwynt bod yna rhywbeth uffernol o hunanol, ac yn wir
hiliol, o ddwyn y gorau o gymdeithasau
tlawd ac anghenus i'n gwasanaethu ni!
Mis Chwefror diwethaf mi sgwennais bost blog a oedd yn awgrymu bod y rhesymau sy'n cael eu rhoi am ddiffyg
cynrychiolaeth merched mewn gwleidyddiaeth yn anghywir, gan awgrymu bod dynion
yn sefyll fel unigolion tra bod menywod yn sefyll dros yr achos menywaidd a bod
dynion am ennill pob tro o dan y fath amgylchiadau. Rwy'n cytuno efo
cynrychiolaeth gyfartal ond yn anghytuno a rhai o'r awgrymiadau ar sut i
gyrraedd cyfartaledd. Trwy anghytuno ag Efengyl y Chwith yr wyf yn sexist
misogynist.
Mae homophobe yn air sy'n mynd dan fy
nghroen i. Mae'n gymysgedd o Ladin a Groeg ac os oes ystyr i'r gair mae'n
golygu ofn afresymol o'r bod dynol, ond mae'n cael ei ddefnyddio fel gair stoc
i gondemnio unrhyw un sy'n gwyro oddi wrth lwybr cul barn y chwith am yr achos LGBT.
Yr wyf wedi cael profiadau rhywiol efo
dynion eraill (su'n awgrymu y B yn LGBT), mi fûm yn rhannu tŷ ac yn bartner
busnes efo dyn gwrywgydiol am bron i ddeng mlynedd, mae unrhyw awgrym bod
gennyf ofn dirdynnol (sef ystyr phobia) o wrywgydwyr yn nonsens llwyr! Ond gan
imi ddweud fy mod i'n credu bod elfen o ddewis yn perthyn i fywyd rhywiol ac mae uchafbwynt y profiad rhywiol yw genedigaeth plentyn yn htrach na'r profiad o ddwad y mae
pob peth yr wyf yn ddweud yn homoffobia!
Ia POB PETH yr wyf yn ddweud. Bu trafodaeth ar Twitter ddoe am yr enw Cymraeg am fath arbennig o dorth o fara a dyma'r ymateb cefais:
Ia POB PETH yr wyf yn ddweud. Bu trafodaeth ar Twitter ddoe am yr enw Cymraeg am fath arbennig o dorth o fara a dyma'r ymateb cefais:
Rhydd i bob un ei Farn? Dim hyd yn oed am enw torth yn ôl yr inquisition newydd!
Does neb yn unman wedi atal na llesteirio dy hawl i fynegi barn. Mae sylw Sara'n od ac afresymol, o ystyried y pwnc, ond mater arall yw hynny.
ReplyDeleteRhydd i bawb ei farn - gwir. Ond mae perffaith hawl hefyd gan @Sara_huws i ddewis â phwy mae'n dymuno cynnal sgwrs. Sgwrs yw Twitter ar ddiwedd y dydd. Os wyt ti wedi ysgriennu rhywbeth gwirion dyw hi ddim yn syndod os ydyd pobol yn dewis peidio dy gynnwys yn eu cwmniaeth.
ReplyDeleteGwirion oedd dy bost gwreiddiol, nid homoffobig, yn fy marn i. Mae'n drist nad wyt o hyd yn gallu deall pa mor anymunol oedd y peth nid yn unig i rieni hoyw sy'n rhoi magwriaeth dda i'w plant ond hefyd i rieni heteorywiol sydd am wahanol resymau yn mabysiadu yn hytrach nac esgor ar blant.
Oes gan Sara yr hawl i ddweud bod fy marn am etemoleg gair sy'n ymwneud a bara yn annerbyniol oherwydd ein bod yn anghytuno am wleidyddiaeth rhyw? Dyna'r cwestiwn am ryddid barn.
DeleteWrth gwrs bod ganddi. Mae hi'n defnyddio ei rhyddid barn hi i feirniadu dy farn dithau. Fel yna mae'r system yn gweithio.
DeleteSo mae anghytundeb am wleidyddiaeth rhywioldeb yn reswm dros ymwrthod ag etemoleg enw torth?
DeleteUnwaith yn rhagor, mae hynny'n amherthnasol. Mae ganddi berffaith hawl i'th anwybyddu ar y sail ei bod hi jyst yn casáu'r enw Alwyn neu oherwydd dy farn am golff (beth bynnag yw honno) os mai dyna'i dymuniad. Does gan y ffordd mae Sara'n ymateb i unrhyw beth rwyt ti'n ei ddweud ddim y mymryn lleiaf o effaith ar dy ryddid mynegiant.
DeleteDw i wedi dweud droeon fy mod yn credu bod ei hymateb braidd yn wirion, felly dw i ddim yn siwr be'n rhagor rwyt ti'i eisiau gen i. Dy gamddealltwriaeth ynghylch ystyr y cysyniad o ryddid mynegiant ydi unig asgwrn y gynnen i fi.
Cytuno â'r mwyafrif o'r uchod. Mewn geiriau eraill, nid ystyr rhyddid mynegiant yw'r hawl i fynnu bod pobl eraill yn cymryd sylw.
ReplyDeleteNac ydy, dydy o ddim yn fater arall! Mae ymateb Sara yn un "bwysig" ac "elfenol". Mae'r ffaith bod Sara yn gallu anwybyddu fy marn i am derm berthnasol i fara ar y sail fy mod yn "homoffob" yn hytrach nag un sy'n gwybod rhywbeth am fara yn engraifft pur o anioddefgarwch anystyrlon.
ReplyDeleteHwyrach. Ond does gan hynny ddim byd o gwbl i'w wneud â rhyddid mynegiant.
ReplyDeleteOes, oherwydd bod Sara yn ymwrthod a fy marn am etemoleg y dorth ar sail rhagfarn rhywiol
DeleteDdim yn ymddangos dy fod yn deall. Does neb yn dy rwystro rhag dweud dy ddweud, ond mae ganddynt bob hawl i'th anwybyddu. Am ba bynnag reswm. Nid yw rhyddid mynegiant yn gwarantu cynulleidfa.
DeleteAlwyn, wyt ti wir yn meddwl nad oes gan bobol yr hawl i dy anwybyddu? Dyw rhyddid mynegiant ddim yn gyfystyr â hawl i wrandawiad.
ReplyDeleteFe allet ti gladdu'r cyfan pe bait yn cyfaddef yr hyn wyt yn gwybod yn dy galon - bod dy awgrym nad yw rhieni sydd a phlant mabwysiedig yn rhannu'r un profiadau a rhieni "naturiol" yn dwp ac yn sarhaus.
Mae gan bawb yr "hawl i fy anwybyddu", ond nid fy anwybyddu gwnaeth Sara, ond fy sarhau yn gwbl di sail.
DeleteA gyda llaw nid ydwyf erioed wedi gwneud sylwadau negyddol, fel dy rai di uchod, am blant mabwysiedig na'r rhieni a'u mabwysiadwyd.
Mae Sara yn ymwrthod a fy marn i am etemoleg y gair Bloomer ar y sail fy mod yn homoffôb! Be petai wedi ei wrthod ar y sail fy mod yn ddu, neu'n fenyw, neu'n wrywgydiwr?
DeletePe bawn wedi ymateb i'w hetemoleg hi ar y sail ei bod hi'n fenyw neu yn lesbian a fyddai hynny wedi gwneud fflewj o wahaniaeth i etemoleg y gair?
Trafod torth oeddem. Ffasisciaeth oedd awgrym Sara bod fy marn wleidyddol /rhywiol yn berthnasol i etemoleg y gair!
Dyma a ddywedaist
ReplyDelete"Sori am fod yn Homoffôb ond mae'n ymddangos i mi mae'r gwahaniaeth rhwng bod yn rhywiol a gwrywgydiol yw'r ofn o dderbyn y cyfrifoldeb o fagu'r genhedlaeth nesaf o Gymry, yr ofn o dderbyn y cyfrifoldeb am ganlyniadau naturiol y profiad rhywiol!"
Sut wyt ti'n medwl bod hynny's swnio i rieni hoyw sy'n magus plant mewn byd digon rhagfarnllyd? Dywedaist yr hyn ddywedaist. Mae'r ystyr yn eglur i bawb.
Yn wir. Mae'r paragraff yna'n homoffobig, Alwyn, a dyna'i diwedd hi. Mwydro amherthnasol yw hollti blew am etymoleg y gair "homoffobia".
ReplyDeleteEr hynny, rwy'n fwy na pharod i wrando ar yr hyn sydd gennyt i'w ddweud am darddiad enwau gwahanol fathau o fara. Ond fy newis i yw hynny.
Homoffobig - yn dangos bod gentyf ofn afresymol o homo! Gair hyll afresymol diwerth diystyr
DeleteHomoffobia a dyna'i diwedd hi! Dim dadl, dim reswm, dim rseymeg dim caniatad i farn amgen; barn dim yn wahanol i'r Inquisición, ar anghrediniwr mawr yn dangos ei ymdebygrwydd i'r mwyaf anrhyddfrydig. Jesiwit Newydd wyt ti nid anghrediniwr
DeleteDiolch oll am brofi fy mhwynt am uniongredaeth jesiwitaidd y chwith crachaidd.
ReplyDeleteNA - does dim ryddid, hyd yn oed i wneud pwynt am enw torth!
Rhyfeddod yntydi, mae myfi yr homoffôb, yr hilgi, y misogonist, y sexist adain dde yw'r un sy’n fodlon pledio achos rhyddid barn tra fo chwi'r chwith bondigrybwyll Gymreig yn sathru ryddid dan draed uniongredaeth cul y Chwith Prydeinig
ReplyDeleteYr unig ryfeddod yw dy fod yn llwyddo i ysgrifennu cymaint heb feddu ar y gallu i ddarllen. Mae hyn yn fater eithriadol o syml, ond nid oes arwydd dy fod yn gwneud yr ymdrech lleiaf i ddeall.
DeleteTi sy'n methu deall pwynt syml.
ReplyDeleteMi wnes i ymateb i sylw am enw torth o fara.
Yr wyf o'r herwydd yn cael fy erlyn am beidio a chydymffurfio a barn "dderbyniol" am berthnasau rhywiol
Sy'n golygu nad oes gennyf yr hawl i wneud sylw am etemoleg enw torth, gan nad yw fy marn wleidyddol yn "dderbyniol".
Dyna Ffasgiaeth
Wrth gwrs bod gen ti'r blydi hawl: fe wnes di'r sylw. Fe wnes i ac eraill ei ddarllen. Dw i wedi cytuno'n barod nad oedd ymateb Sara'n arbennig o synhwyrol, ond dydi hi heb ymyrryd â'th hawliau o gwbl (a ni fyddai modd iddi wneud hynny hyd yn oed petai'n ddymuniad ganddi).
DeleteWrth gwrs....rwyt ti'n hollol gywir Alwyn. Dal dy dir!
ReplyDeleteBeth tasai Alwyn yn "homoffôb" (neu'n hiliol neu'n fysogynist)? Fyddai hynny'n rheswm ei alltudio'n llwyr rhag pob trafodaeth neu fforwm yn y byd mawr gwâr? Wrth gwrs na.
ReplyDeleteFel mae'n digwydd, dydw i ddim yn credu ei fod coleddu rhagfarn yn erbyn cârgrwpiau'r chwith. Mae ef yn dadlau yn rhesymol, nid yn rhagfarnllyd. Ond mater arall yw hwnna.
Nawr, beth tasai Sara Huws annwyl wedi dewis troi ei chefn a chau ei chlustiau am fod Trydarwr yn groenddu neu'n Iddew neu'n anabl? Baswn yn amddiffyn ei hawl i wneud hynny, ond beth fyddai byddin y chwith yn ei wneud pe tasai wedi dewis rhoi'r rheswm am ei diffyg gwrandawiad?
"Clywais dy fod di'n uffernol o groenddu/hoyw/Iddewig/anabl, so, ym, di dy farn di ddim yn golygu llawer i mi" (*!)
Sara fach cadwa dy rhagfarnau i di dy hunan, a gad i bawb drafod ystyr y dorth.
Gyda llaw Dylan nid dim ond mater o anghytundeb neu ddiffyg hoffter personol yw'r achos. Danfonwyd cwyn o "atgasedd" i Heddlu'r Gogledd parthed fy mlog ar wrywgydiaeth, pe na bawn wedi bod yn gwbl eglur fy mod am sefyll fy nhir ac amddiffyn fy hawl i ddweud fy nweud yn hytrach na dderbyn Cerydd Brif Gwnstabl neu bledio'n euog a derbyn dirwy fach mewn Llys Ynadon byddwn wedi cael fy erlyn gan y wladwriaeth am ddweud yr hyn ddywedais. Byddai dim syndod imi pe bai rhai o fy sylwadau uchod wedi eu cyfeirio at yr heddlu yn barod. Mae amddiffyn fy hawl i fynegi barn am enw torth rŵan, tra ei fod yn gyfreithlon imi wneud hynny, yn fater o egwyddor canys os na wnaf bydd y siampêns yn anghyfreithloni fy hawl i fynegi'r fath barn os cant gyfle.
ReplyDeleteDw i'n cofio hynny, ac fe ddywedais ar y pryd bod mynd at yr heddlu yn ddwl ac anfoesol. Dw i wedi trafod pethau fel hyn hyd syrffed bron ar fy mlog fy hun, felly dylai fy marn fod yn eglur. Petai rhywun yn bygwth defnyddio'r gyfraith yn dy erbyn oherwydd rhyw farn a fynegaist ar y we, ni fyddai gen ti amddiffynnwr cadarnach na fi. Dylet ti wybod hynny erbyn hyn.
DeleteFelly Alwyn, rwy'n cymnryd y byddet yn ddigon parod i drafod rygbi, ristetiau cawl neu'r Eurovision Song Contest â Nick Griffin?
ReplyDeleteDydw i ddim yn gymharu dy sylwadu di â'i wallgofrwydd yntau am eiliad - ond mae hawl gan @Sara_huws i wneud ei sylw os ydy hi'n teimlo'n gryf ynghylch dy flog gwreiddiol.
Byswn i ddim wedi gwneud beth wnaeth @Sara_huws er fy mod yn meddwl bod dy bortreuad o bobol hoyw fel pobol sy'n chwenych pleser tra'n osgoi cyfrifoldeb yn sarhaus, yn anwybodus ac yn blentynaidd.
Serch hynny, nid ti yw'r "victim" yn fan hyn. Roedd dy eiriau di yn llawer fwy creulon i eraill nac oedd ymateb @Sara_huws i ti.
Ac wedi elwch tawelwch fu...
ReplyDeleteEfallai bod Alwyn wedi sylwi ei gamgymeriad.
Tebycach yw ei fod allan am beint!
Allan yn siopa fel mae'n digwydd, dydy Alwyn heb bod i dŷ tafarn ers cyn 'Dolig gwaetha'r modd, a dydy fy marn am ryddid barn yn newid dim dan dylanwad y dafarn
DeleteMae'n debyg na fyddai Nick Griffin yn bodlon trafod rygbi, reseitiau na chanu efo fi am resymau tebyg i rai Sara.
ReplyDeleteMae rhyw yn bleser, mae magu plant yn gyfrifoldeb ac mae gan pobl hoyw a phobl sdrêt yr un hawl i gael y fath bleser ac i gymryd y fath gyfrifoldeb, nid creulondeb yw dweud hynny ond mynegi ffaith diymwad.
Mae'r ymosodiadau ffyrnig arnat ti, Alwyn, gan rai sydd wedi traethu uchod ar dy flogiad diweddaraf ar " Y Chwith a Rhyddi Barn " yn dangos yn eglur i mi dy fod wedi taro'r holen ar ei phen pan ddywedi fod y dosbarth arbennig hwnnw o bobl yr wyt ti'n cyfeirio atynt yn ' ... defnyddio termau gosod o sarhad yn erbyn unrhyw un sydd a barn wahahnol ar bron unrhyw bwnc, sydd ddim yn cydymffurfio a'u barn uniongred hwy. ' Dyna'n union fy mhrofiad innau hefyd o'r bobl hynny sydd yn hoffi eu hystyried eu hunain ond ychydig yn is na'u harwyr personnol hwy ar yr Aswy Law. Eithr y gwir amdani yw nid pobl o ddeall ydynt mewn gwirionedd. Nid y nhw yw meddylwyr praffaf yr oes. Dydy nhw ddim yn gallu defnyddio'u hymennydd i feddwl o gwbl. Nid ydynt yn gallu pwyso a mesur tystiolaeth a thynnu casgliadu cywir. Nid yw eu myfyrdodau yn adlewyrchu realiti gwrthrychol ar unrhyw fater dan sylw. Ar boen tynnu nyth cacwn ar fy mhen, fe hoffwn ddweud fy mod innau hefyd wedi dod dan lach blogiwr ar y we ac wedi cael fy nghyudduo'n anghymedrol ganddo, er enghraifft, o fod yn hilydd yn unig oblegid fy mod wedi mynegi barn nad oedd ef yn ei choleddu ar yr un pwnc. Enw'r blogiwr hwnnw yw Dylan Llyr. Stalin bach o ddyn ydyw ef yn fy marn i ac fel y diweddar J. V. Stalin mae Dylan yn deall yn reddfol fod syniadau'n llawer mwy trech nag arfau. Dyma mewn cymreigiad amherffaith, o bosibl, o'r Iaith Fain yr hyn a ddywedodd J. V. Stalin ar un adeg ar y pen hwnnw: ' Nid ydym yn caniatau i'n dinasyddion fod yn berchnogion arfau. Pam ddylem adael iddynt goleddu syniadau ? ' Onid y lleiafrif lleiaf ar wyneb y ddaear yw'r unigolyn ? Sut felly y medr Dylan Llyr a'i debyg gyhoeddi eu bod o blaid hawliau lleiafrifol os ydynt yn gwadu'r hawl i fynegiant a rhyddid barn i bobl eraill ?
ReplyDeleteChware teg i Dylan, er nad ydym yn cydwel yn aml y mae o'n bodlon cael trafodaeth lawn yn egluro pam ei fod yn arddel ei safbwynt ac yn ymwrthod a fy un i yn hytrach na jest condemnio safbwynt amgen efo geiriau stoc fel hommoffob / sexist ac ati
DeleteDiolch. Dw i bob tro'n egluro fy hun yn llawn. Yn achos Dafydd, mae gwrthwynebu pob mewnfudwr mwslemaidd yn bolisi hiliol (gan mai tramorwyr brown yw'r bobl yma fel rheol) felly roedd y cyhuddiad yn ddilys. Rhoddais y rhesymau ar y pryd. Os nad yw Dafydd yn hoffi cael ei alw'n hiliol, dylai roi'r gorau i arddel syniadau hiliol. Hawdd.
DeleteRhaid chwerthin ar y syniad fy mod yn union fel Stalin oherwydd fy mod wedi meiddio anghytuno. Mae Dafydd yn euog o wneud yr union beth y mae newydd fy nghyhuddo innau (yn gyfeiliornus) ohono. Rhyfedd o fyd.
Ha ha ha. Amlwg nad oes fawr o bwynt ffwdanu â phobl sy'n amddifad o'r gallu i ddarllen. Hwyl.
ReplyDeleteYn diddorol iwn mae yna erthygl am dy gyfaill yr Athro Dawkins ar "Comment is Free" heddiw sydd yn euog o'r bai yr wyf yn cwyno amdano uchod
Deletehttp://www.guardian.co.uk/commentisfree/2013/apr/22/richard-dawkins-islamophobic
Yn galw yr Athro in Islamophobe, ac yn gyndomnio ei sylwadau am y grefydd, ond dim gair o ddadl ynghylch PAM, fo sylwadau Dawkins yn anghywir neu'n anebyniol
Ych. Mae'r ffaith bod Andrew Brown yn cael ei dalu i ysgrifennu'r stwff yma'n un o ddirgelion mawr y byd. Sothach diwerth.
DeleteMae cryn dipyn o ddadlau tebyg wedi bod yn ddiweddar, gyda chyhuddiadau bod rhai anffyddwyr amlwg (Sam Harris yn arbennig) yn euog o islamoffobia. Mae egin o wirionedd mewn ambell achos a bod yn onest (a nid yw Dawkins ei hun yn hollol ddi-fai chwaith). Ysu braidd i ysgrifennu am hyn ar fy mlog pan ddof adref wythnos nesaf.
Nid yw d'ymateb dibrisiol a sarhaus i'm sylw blaenorol uchod yn rhyfeddu dim arnaf fi, Dylan. Rwyf wedi hen arfer gyda dy agwedd llebanaidd tuag ataf ar adegau ar y we. Nid yw dy anfoesgarwch uchod yn adlewyrchu'n dda arnat ti oblegid fe ddengys yn glir i bawb sydd yn darllen dy sylwadau ar y rhyngrwyd mai blaidd mewn croen dafad ydwyt ti mewn gwirionedd. Mae d'ymddygiad yn gywilyddys o ystyried dy fod wedi ennill cynffon academaidd ar ol d'enw o rywyle anhysbys i mi'n y gorffennol. Hefyd mae cynnwys d'ail frawddeg yn ffeithiol anghywir. Yli, er dy wybodaeth, fe ddechreuais ddarllen er yn gynnar iawn, iawn ar fy mywyd ddegawdau lawer yn ol pan oeddet ti, fel fasa'n nhw'n ei ddweud yn Pesda erstalwm, yn dal yn bagdad. A mwy na hynny rwyf yn gallu deall bob peth yr wyf yn ei ddarllen. Y cwestiwn mawr ydyw: A wyt ti'n gallu gwneud hynny hefyd ? Fe gyhuddaist ti fi unwaith yn anghymedrol yn un o dy flogiadau o fod yn hilydd yn unig oblegid fy mod wedi mynegi barn nad oeddet ti'n ei choleddu ar yr un pwnc ac o dro i dro wedi hynny fe wnaethost ensyniadau cyffelyb eraill o'r un math yn f'erbyn. Mae ' hiliaeth ' y dwthwn hwn yn un o'r geiriau a ddefnyddir amlaf gan rai sy'n honni bod o blaid hawliau lleiafrifol ond sydd mewn gwirionedd yn gwrthwynebu rhyddid barn. Beth yn union yw dy ddiffiniad di o'r gair, Dylan ? A oes ystyr neilltuol iddo erbyn hyn yn dy farn di ? Onid madfall symudliw o air ydyw y mae gorddefnydd ohono mewn perygl ddiraddio'i effeithiolrwydd fel rhybydd yn erbyn perygl gwirioneddol ? Trwy orddefnyddio'r gair ' hilydd ' neu ' hiliaeth ' mae pobl fel ti, Dylan, yn osgoi archwilio'r fath faterion mewn dull empiraidd a chan hynny'n tywyllu dealltwriaeth pobl ar faterion cymdeithasol o dragwyddol bwys i bob un copa walltog ohonom ? Onid yw'n bryd i ti brofi i'r byd a'r betws mai nid pincas sydd gennyt yn dy benglog ?
ReplyDeleteYr unig beth ar ôl i'w wneud yw rhoi'r ddolen berthnasol a gadael i unrhyw ddarllenwyr benderfynu drostynt eu hunain.
ReplyDeleteBeth yn union yw dy ddiffiniad di o'r gair ' hilydd ' a ' hiliaeth ' , Dylan ?
ReplyDelete