Mi fyddai'n deg dweud nad ydwyf ym mysg ffans mwyaf y Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones, naill ai fel Cynghorydd
nac fel blogiwr. Beth bynnag bu gwendidau ei gyd bleidiwr Gwilym Euros fel priod a chynhaliwr cyfraith gwlad, roedd blog Gwilym wastad yn lle i gael trafodaeth fywiog a difyr. Mae blog Aeron wedi bod yn lle sbeitlyd, maleisus braidd, lle mae un yn debycach o weld sylwadau sarhaus a phersonol yn hytrach na thrafodaeth gref.
Mae sylwadau maleisus a wnaed gan Aeron ar ei flog
wedi ei osod mewn dŵr poeth. Y mae o wedi cael ei ddwrdio gan Ombwdsman Cymru a'i wahardd o'r Cyngor am fis gan Pwyllgor Safonau Cyngor Gwynedd am honni bod Dyfed Edwards wedi hedfan i Gaerdydd ar bwrs y sir er mwyn cael sgwrs fach efo Alun Ffred, er gwaetha'r ffaith bod Ffred yn gymydog iddo yng Ngwynedd. Mae'n ymddangos bod sylw Aeron yn un gwbl di sail, yn wir yn gelwydd noeth dan din, gan hynny 'does dim modd cyfiawnhau ymddygiad Aeron.
Ond wedi dweud hyn y mae gennyf
OND!
Trwy ddewis bywyd gwleidyddol ddylai dyn derbyn ei fod am dderbyn sen a gwawd gan aelodau o bleidiau eraill, y ffordd gorau i ymateb i daflu baw yw taflu ddwywaith gymaint o faw yn ôl, yn hytrach na rhedeg at "Mam" i gwyno!
Pwrpas yr Ombwdsman yn wreiddiol oedd amddiffyn y cyhoedd rhag cam weinyddu gan gynghorau, nid ymddwyn fel reffari rhwng cynghorwyr o bleidiau gwleidyddol gwahanol. Mae nifer y cwynion gan un cynghorydd yn erbyn cynghorydd arall yn arafu'r broses i aelodau o'r cyhoedd. Os oedd Dyfed yn teimlo ei fod wedi ei enllibio gan Aeron, ei le oedd mynd at dwrnai i gwyno am enllib, nid camddefnyddio'r Ombwdsman ar gyfer ei gwyn wleidyddol.
Mae'r rhan o'r còd ymddygiad y mae Aeron wedi ei "dorri" yn amlwg yn un sydd i fod i amddiffyn etholwyr rhag cael anfantais gan eu cynrychiolydd
7 (a) yn gofyn i gynghorwyr ‘beidio â defnyddio’u safle yn amhriodol i roi neu i sicrhau mantais neu anfantais i unrhyw berson. Rhan o'r broses wleidyddol yw sicrhau mantais i'ch plaid ac anfantais i bleidiau eich gwrthwynebwyr - cam ddefnydd o'r còd yw ei ddefnyddio i geisio gwahardd gwrthwynebydd gwleidyddol rhag cael mantais wleidyddol!
Mae'r ail sail am y cwyn yn erbyn Aeron yn chwerthinllyd sef
peidio* â chyflawni tramgwydd troseddol na pheri bod un yn cael ei gyflawni – gan na fu dyfarniad yn erbyn Aeron mewn llys troseddol na sifil, nid ydyw wedi cyflawni
tramgwydd troseddol na pheri bod un yn cael ei gyflawni – mae ei "gosbi" am dorri'r rhan yma o'r còd, gan hynny yn gwbl anghyfiawn!
Yr hyn sy'n peri mwyaf o ofid imi yw'r
cosb sydd wedi ei osod ar y cynghorydd. Beth bynnag ein barn am Aeron fel unigolyn neu fel gwleidydd, yfo ydoedd dewis pobl Llanwnda i'w cynrychioli ar Gyngor Gwynedd. Trwy ei wahardd ef am fis nid yr unigolyn yn unig sy'n cael ei wahardd, mae pobl Llanwnda yn cael eu cosbi trwy eu hamddifadu rhag cael cynrychiolydd ar y cyngor hefyd – mae hynny'n hynod annheg i bobl Llanwnda!
A chyn i selogion y Blaid fy slagio am amddiffyn Aeron, rwy’n credu bod pob un o'r sylwadau uchod yr un mor berthnasol parthed
cwynion Llafur yn erbyn Cynghorwyr y Blaid yng Nghaerffili! hefyd!
*(Dyma eiriad y drosedd yn ôl Golwg360. Byddwn yn teimlo bod "
peidio â chyflawni tramgwydd troseddol" yn rhinwedd - rhywbeth i Jac Codi Baw Golwg ei hystyried o bosib!)