Yr wyf wedi pleidleisio bellach, ac ar ôl dwys ystyried mi bleidleisiais DYLID o blaid y Bleidlais Amgen.
Megis yn achos refferendwm adran 4 Deddf Llywodraeth Cymru'r mis diwethaf, teimlaf imi gael fy ngorfodi i bleidleisio Ie /DYLID yn erbyn fy ewyllys oherwydd hurtrwydd y cwestiwn a ofynnwyd.
Rwy'n casáu’r system AV, dydy o ddim yn deg, dydy o ddim yn gyfrannol, dydy o ddim hyd yn oed yn sicrhau mae'r ail ddewis sy'n cael ei hethol, gan fod ail ddewis y ddwy blaid sydd ar y brig yn cael ei hanwybyddu!
O'r holl systemau tecach na Chyntaf i'r Felin dyma'r gwaethaf un, yn miserable little compromise, fel y dywedodd rhywun rhywle.
Y drwg, wrth gwrs, yw pe bawn wedi pleidleisio Na! Dim Digon Da bydda fy mhleidlais wedi ei ddwyn fel un o blaid Cyntaf i'r Felin. Pe bawn wedi ymatal fy mhleidlais byddai hynny hefyd wedi ei ddwyn fel un o ddiffyg diddordeb yn y pwnc, yn awgrymu fy mod yn ddigon hapus efo’r system bresennol.
Mi ystyriais ddifetha fy mhleidlais fel protest, ond methodd yr ymgyrch difetha magu digon o stêm i gael effaith bwrpasol, bydd nifer y pleidleisiau a ddifethwyd yn llai na'r 5% cadw ernes mewn etholiad cyffredinol.
Pleidleisio Dylid oedd yr unig fodd o ddatgan anfodlonrwydd a Chyntaf i'r Felin, yn anffodus.
Mae yna rywbeth hurt braidd mewn refferendwm ar bleidleisio'n amgen, sydd ddim yn caniatáu inni wneud dewis mwy amgen nac Ie a Na amrwd!
Rhesymeg da, ac esboniad cryno. Rwy'n cytuno â chi 100% ar hyn.
ReplyDelete