Rwy'n cyfrif ar eich cefnogaeth ac yn erfyn ar bob darllenydd sydd â pherthnasau a chyfeillion yn ward Bryn Rhys i gysylltu â hwy er mwyn eu herfyn i bleidleisio i'r ymgeisydd gorau, yr ymgeisydd mwyaf clodwiw, yr ymgeisydd harddaf ei wedd, yr ymgeisydd mwyaf rhadlon ac (wrth gwrs) yr ymgeisydd mwyaf moesol.
Beth yw canran y Cymry sy'n byw yn y ward dyddie 'ma?
ReplyDeleteGret, pob lwc.
ReplyDeletePob lwc!
ReplyDeleteDymuniadau gorau i chdi
ReplyDeleteIe pob lwc yn wir, er nad odw i'n hoff iawn o wleidyddion Annibynnol. Ond gan taw o Sir Gar dwi'n honni mae'n haelodau annibynnol ni braidd yn ddibynnol?
ReplyDeleteDiolch am y dymuniadau da.
ReplyDeleteDienw; rwy'n ansicr o'r niferoedd yn y ward sydd yn enedigol o Gymru ond yn y pentref cyfan, tua 45% sydd wedi eu geni yng Ngwlad y Gân. Mae tua thraean yn honni eu bod yn deall y Gymraeg ond ar amcan byddwn yn dweud mai tua 10% sydd yn ddefnyddwyr rheolaidd o'r Gymraeg.
Cymro i'r Carn, rwy'n ddeall dy bryderon am annibynwyr bondigrybwyll, ond yr wyf yn sefyll etholiad dros gyngor cymuned fach sydd heb fawr o rym a lle mae dadl bleidiol yn hurt. Be ydy gwahaniaethau sylfaenol rhwng egwyddorion asgell dde / asgell chwith, unoliaethol / cenedlaethol parthed pa mor aml dylid torri gwair maes y pentref? Yn wir y prif reswm paham fy mod wedi penderfynu sefyll yw fy ffieidd-dra at ymgais gan y Blaid Geidwadol i ddefnyddio swydd wag ar gyngor y plwyf, bydd yn para am lai na flwyddyn, er mwyn hyrwyddo'r Blaid Geidwadol yn hytrach na lles y llan!