08/10/2008

Fine Gale ac Annibyniaeth i Gymru!

Mae gan Blog Menai post hynod ddiddorol sy'n cymharu ffawd Fine Gale yn yr Iwerddon ym 1948 a Phlaid Cymru yn 2008. Mae Cai (yr awdur) yn honni bod Fine Gale, trwy glymbleidio, ym 1948 wedi ei hachub rhag clwy’ etholiadol marwol ac wedi ei chynorthwyo i ddyfod yn un o'r chwaraewyr mwyaf yng ngem wleidyddol yr Ynys Werdd.

Mae Blog Menai yn awgrymu bod penderfyniad Plaid Cymru i glymbleidio a Llafur yn mynd i gael yr un effaith. (Oni fyddai'r Glymblaid Enfys a wrthodwyd gan y Blaid yn gymhariaeth decach i sefyllfa FG ym 1948?)

Y gwendid sylfaenol yn nadl Blog Menai yw'r gwahaniaeth rhwng sefyllfa gyfansoddiadol yr Iwerddon ym 1948 a sefyllfa gyfansoddiadol Cymru yn 2008. Roedd yr Iwerddon, i bob pwrpas, yn wlad annibynnol ym 1948. Mae Cymru heddiw yn parhau i fod yn rhan annatod o'r DU.

Os ydy Plaid Cymru yn ceisio fod yn fwy berthnasol i bobl Cymru trwy bwysleisio ei hochor gymdeithasol yn hytrach na'i hochor genedlaethol, be sy'n digwydd i'r achos cenedlaethol?

Dyma graidd anghytundeb Blog Menai a Blog yr Hen Rech Flin.

Ers imi ddilyn y fath bethau mae polau piniwn wedi dangos bod rhwng 8 a 13 y cant yn cefnogi annibyniaeth i Gymru. Hynny yw, o dderbyn y margins of error bondigrybwyll, mae'r gefnogaeth i annibyniaeth wedi bod yn sefydlog ar 10% ers pum mlynedd ar hugain a rhagor. Yn yr un cyfnod mae llwyddiant etholiadol Plaid Cymru wedi cynyddu (er gwaethaf ambell i siom) yn aruthrol.

Mae gan y Blaid llawer mwy o gynghorwyr rŵan nag oedd ganddi 25 mlynedd yn ôl a phresenoldeb ar y mwyafrif llethol o gynghorau sir. Mae'r Blaid bellach yn rhan o Lywodraeth Cymru. Mae gan y Blaid aelod weddol saff yn Senedd Ewrop a siawns go lew am ail un y flwyddyn nesaf. Bydd gan y Blaid (bron yn ddi-gwestiwn) mwy o ASau ar ôl yr etholiad San Steffan nesaf na fu ganddi yn ei hanes. Gyda lot o waith caled a joch go dda o lwc mae modd i'r Blaid treblu nifer ei gynrychiolwyr seneddol yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Ond pa ddiben yr holl lwyddiannau hyn os yw'r niferoedd sy'n cefnogi annibyniaeth yn aros yn eu hunfan?

I mi, byddid gweld y Blaid yn colli pob un sedd ar bob cyngor plwy a sir, yn y Cynulliad, San Steffan ac Ewrop ond gweld y nifer sy' bendant o blaid annibyniaeth yn dyblu yn fwy o arwydd llwyddiant na gweld y Blaid yn ennill pob un sedd etholedig yn y wlad a'r niferoedd sy'n cefnogi annibyniaeth yn aros yn ystyfnig yn ei unfan.

Diben y Blaid Genedlaethol yw ennill rhyddid i'n gwlad - nid enill etholiadau er mwyn enill etholiadau. Diben Plaid Cymru yw cael mwy o bobl i dderbyn achos annibyniaeth yn hytrach nag ennill mwy o bleidleisiau "cymdeithasol". Mae'r ystadegau yn awgrymu bod y glymblaid a Llafur wedi methu enill yr un enaid i'r achos. O ran achos y genedl, yn hytrach na llwyddiant y Blaid, mae'r glymblaid wedi bod yn fethiant llwyr.

07/10/2008

Edward Leigh a Iaith yr Iesu

Nid ydwyf yn un o ffans pennaf Edward Leigh AS. Mae o'n un o'r Ceidwadwyr yna sydd yn parhau i efengylu dros bolisïau mwyaf eithafol Thatcheriaeth. Ond ar flog yr eithafwyr Thatcheraidd, The Cornerstone Group, mae yna gopi o erthygl gan yr AS a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn The Catholic Herald.

Mae'n erthygl ddiddorol sydd yn son am un o effeithiau rhyfel Irac sydd ddim yn cael ei drafod yn aml; effaith y rhyfel ar gymdeithas Gristionogol Asyria. Mae'r Eglwys yn Asyria yn un bwysig o ran y traddodiad Cristionogol yn gyntaf gan mae hi yw ceidwad beddrod y proffwyd Nahum ac yn ail gan mae Asyriaid Ninefe yw'r bobl olaf i siarad yr Aramaeg, sef yr iaith pob dydd byddai'r Iesu yn ei ddefnyddio.

30/09/2008

Plaid Siomedigaeth nid Blaid Chwerwedd

Yr wyf wedi adnabod y Cynghorydd Dyfrig Siencyn ers dyddiau ein plentyndod. Yr oeddwn yn adnabod, ac yn parchu, ei dad a'i fam. Yr oeddwn yn mynychu'r Ysgol Sul efo ei ddiweddar wraig a Glyn, ei dad yng nghyfraith, oedd y dylanwad unigol all-deuluol pwysicaf ar fy mywyd yn ystod fy nglaslencyndod. Nid oes gennyf unrhyw awydd, na diddordeb, mewn cefnogi unrhyw sen ar ei enw da. Mae Dyfrig yn ddyn da, mae o wedi rhoi oes o wasanaeth i'w gwlad ac mae o'n gynghorydd didwyll a diwyd.

Wedi dweud hynny yr wyf yn credu bod rhai o ymosodiadau Cai Larson ar Lais Gwynedd parthed sen honedig a wnaed yn erbyn Dyfrig gan Gwilym Euros yn methu pwynt sylfaenol. Sef pam bod pobl yng Ngwynedd wedi dewis ethol 13 o gynghorwyr Llais Gwynedd i wrthwynebu Plaid Cymru.

Mae Cai yn honni mae Casineb at y Blaid a Chwerwedd at y Blaid sydd wedi arwain at fodolaeth a chefnogaeth i Lais - mae hyn yn gwbl anghywir. Siomedigaeth yw'r teimlad pwysicaf.

Mae fy nhad wedi pleidleisio i Blaid Cymru ers y pumdegau cynnar, ers y tro cyntaf iddo gael pleidleisio wedi ei Wasanaeth Cenedlaethol.

Dydy dad erioed wedi bod yn amlwg yn y Blaid, ond mae o wedi bod yn driw. Ar ôl i Dafydd El ennill yn '74 fy nhad wnaeth cymoni a pheintio swyddfa etholaeth gynta’r Blaid er mwyn troi'r twll o le rhataf roedd y Blaid yn gallu fforddio i ymddangos fel lle eithaf dechau i AS barchus cynnal wasanaeth etholaethol ynddo!

Cafodd fy nhad hartan ar ddiwrnod etholiad cyngor yn yr wythdegau. Roedd o'n gwrthod mynd yn yr ambiwlans oni bai ei fod yn stopio wrth y bwth pleidleisio er mwyn iddo gael bwrw ei bleidlais olaf dros y Blaid cyn mynd ar ei ffordd i'r ysbyty i farw. Diolch byth nid farw bu ei ran, ac y mae o wedi cael cyfleoedd lawer i bleidleisio o blaid y Blaid mewn sawl etholiad ers hynny.

Ym mis Mai, yn 75 oed, fe bleidleisiodd fy nhad yn erbyn Plaid Cymru am y tro cyntaf yn ei fywyd! Roedd o'n torri ei galon o deimlo ei fod wedi ei orfodi i'r fath sefyllfa. Fe roddodd ei gefnogaeth i Lais Gwynedd oherwydd ei fod wedi ei siomi yn arw bod Plaid Cymru, o bob plaid, wedi penderfynu amddifadu ei or-wyrion ac wyresau rhag addysg Gymraeg leol wych o'r radd flaenaf.

Yn bersonol yr wyf wedi fy siomi efo Plaid Cymru ers rai blynyddoedd. Fy siomedigaeth fwyaf yw diffyg brwdfrydedd y Blaid dros gefnogi achos annibyniaeth a'i chwilfrydedd o blaid Sosialaeth Brydeinig.

Mae rhai o gynghorwyr Llais Gwynedd, Alwyn Gruffudd, Gwilym Euros, Seimon Glyn, Now Gwynys ac ati wedi bod yn graig i'r achos cenedlaethol ers blynyddoedd. Nid casineb tuag at achos y genedl sydd wedi troi'r fath bobl yn erbyn y Blaid, na chwerwedd personol. Bydda bob un ohonynt yn falch o fod yn aelodau o Blaid Genedlaethol Cymru.

Y gwir amdani yw bod Plaid Cymru wedi colli ei ffordd, wedi anghofio ei sylfaen ac wedi siomi rhai o'i gefnogwyr gwresocaf a mwyaf brwd. Yn hytrach na galw'r cefnogwyr yna'n enllibwyr dan din sur, fel mai Cai yn gwneud, llesach i'r Blaid byddid syrthio ar fai, a cheisio cael y siomedig yn ôl i'r babell, cyn i Lais Gwynedd cael ei droi yn Llais Cymru Gyfan!

27/09/2008

Diolch Rhodri!

Pan oeddwn tua 17 oed roedd fy rhieni yn ofidus iawn o fy nghefnogaeth i Gymdeithas yr Iaith. Roeddynt yn teimlo bod cefnogi'r iaith yn hwb i bobl fel Dafydd Iwan a'i griw, ond rhywbeth oedd am wneud niwed i blentyn tŷ cyngor di niwed fel fi.

Offrwm aberth bydda restio hogyn bach Mr a Mrs Wmffras yn hytrach na weithred wladgarol arwrol. O herwydd eu pryder cefais siars gan Mam a Dad i beidio â mynychu protest arbennig yn erbyn tai haf yn Harlech. Er gwaethaf eu siars mi fynychais y brotest. Fel rhan o'r brotest fe dorrodd y protestwyr twll yng nghefn sied gweithwyr y safle.

Tra bod Cadeirydd y Gymdeithas wrthi'n gwneud araith, mi sylwais fod camerâu'r BBC yn cael eu hanelu ataf i. Doeddwn i ddim am i Mam a Dad fy ngweld ar newyddion Cymreig y BBC yn gwneud yr hyn cefais siars i'w beidio â'i gwneud, felly dyma fi'n rhedeg trwy'r sied, a thrwy'r twll yn ei chefn er mwyn ffoi y camerâu. Ond och a gwae cefais fy ffilmio yn dod allan o'r twll gan HTV mewn modd oedd yn awgrymu mae fi oedd y fandal creodd y twll! Dangoswyd y ffilm ar raglenni newyddion Cymraeg a Saesneg HTV, ac yr oeddwn mewn dŵr poeth efo'r rhieni am ddyddiau wedi'r darllediadau.

Rwy'n hynod o ddiolchgar i Rhodri Williams, un o fawrion y Gymdeithas ar y pryd, am sicrhau nad oes raid i brotestiwr arall dioddef y fath embaras! Diolch iddo bydd camerau HTV, byth eto, yn ffilmio ochor arall stori newyddion y BBC!

Cerdyn Adnabod Saesneg - dim diolch!

Rwyf wedi bod yn ansicr erstalwm am rinweddau'r dadleuon yn erbyn cael cerdyn adnabod swyddogol. Yr wyf byth a beunydd yn cael fy ngofyn am brawf o bwy ydwyf. Agor cyfrif banc, tynnu pres allan o'r cyfrif sydd gennyf yn barod. Benthyg ffilm, codi llythyr o'r swyddfa bost, cael cerdyn darllen llyfrgell, amgueddfa neu archifdy a chant a mil o bethau eraill.

Oherwydd fy iechyd 'dwi ddim yn cael gyrru ac rwy'n anghysurus wrth deithio tramor, felly nid oes gennyf drwydded gyrru na thrwydded teithio, y ddau brawf adnabod mwyaf derbyniol i'r rhai sy'n mynnu prawf adnabod. Yr wyf wedi cael fy ngwrthod rhag derbyn ambell i wasanaeth trwy fethu darparu prawf adnabod derbyniol. Mi fuaswn, gan hynny, yn croesawu ffurf ar brawf adnabod cydnabyddedig sy' ddim yn ddibynnol ar fy ngalluoedd na fy ymarferion; prawf adnabod derbyniol sy' jyst yn dweud mai fi di fi - rhywbeth megis cerdyn adnabod gwladol.

Un o'r rhesymau pam fod rhai yn gwrthwynebu cardiau adnabod yw oherwydd y ffordd y maent wedi eu cam ddefnyddio mewn gwledydd a chyfnodau gwahanol i roi adnabyddiaeth i unigolyn nad yw yn gallu cydnabod ei hunaniaeth trwyddi. Megis cardiau adnabod yr Almaen yn y 30au neu De'r Affrig hyd y 90au. Hyd heddiw, doeddwn i ddim yn credu bod ddarpar gardiau adnabod y DU am gael eu defnyddio yn y fath modd.

Yn ôl stori ar wefan BBC Cymru, sydd heb ei ailadrodd ar unrhyw wasanaeth newyddion arall, mae'r Swyddfa Gartref wedi gwrthod cais i gynnwys y Gymraeg ar gardiau adnabod. Does dim modd imi gario cerdyn adnabod uniaith Saesneg, bydda'r fath gerdyn ddim yn cydnabod fy hunaniaeth i, mi fyddai'n rhoi ffug adnabyddiaeth imi, mi fyddai'n wrthyn.

Sylwadau pellach yn y Fain

26/09/2008

Anwireddau Gwir Gymru

Onid oes yna rywbeth chwerthinllyd yn y ffaith bod mudiad o'r enw Gwir Gymru yn lansio ei hymgyrch trwy raffu anwireddau?

Mae'r Mudiad True Wales (creadigaeth y BBC yw'r cyfieithiad o'r enw i'r Gymraeg, wrth gwrs) yn honni maen nhw yw'r unig rai sydd yn cynrychioli barn y mwyafrif sydd am i Gymru parhau yn rhan o'r Deyrnas Gyfunol. Maent am wneud hyn trwy ymgyrchu yn erbyn pwerau ychwanegol i'r Cynulliad mewn refferendwm os gelwir un o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Anwiredd cyntaf y mudiad yw honni eu bod yn ymgyrchu yn erbyn i'r Cynulliad i gael ragor o bwerau. Celwydd noeth. Dyma fudiad sydd yn gwrthwynebu bodolaeth y Cynulliad y gwir yw mai eu dymuniad yw diddymu'r Cynulliad. Ond bydd cefnogi eu hymgyrch ddim yn diddymu'r Cynulliad - dydy diddymiad ddim ar yr agenda.

Yr ail anwiredd yw eu honiad bod cefnogi eu hymgyrch yn mynd i rwystro'r Cynulliad rhag cael pwerau ychwanegol. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn sicrhau bod holl bwerau ychwanegol y ddeddf ar gael i'r Cynulliad trwy'r drefn eLCO. Os na chynhelir refferendwm neu os cynhelir refferendwm gyda chant y cant yn pleidleisio na bydd y ddeddf yn sefyll a bydd y pwerau ar gael o hyd o dan y drefn gyfansoddiadol drwsgl.

Trydydd anwiredd y mudiad yw eu honniad bod cefnogwyr datganoli yn cefnogi annibyniaeth. Mae'n wir fod yna rhai sydd yn gweld datganoli fel cam ar y ffordd i annibyniaeth. Mae Elin Jones, Adam Price ac eraill wedi mynegi'r safbwynt yna yn eithaf clir. Ond mae awgrymu bod y mwyafrif o ddatganolwyr, pobl megis Glyn Davies, Carwyn Jones a Peter Black yn grypto genedlaetholwyr yn lol botas maip.

Pedwerydd anwiredd y mudiad yw eu honiad bod pleidlais na yn mynd i newid barn neu ddigalonni'r sawl ohonom sydd yn credu mewn annibyniaeth. Beth bynnag fo ganlyniad refferendwm dwi ddim yn mynd i newid fy marn parthed annibyniaeth. I'r gwrthwyneb gall bleidlais na bod yn hwb i achos annibyniaeth. Bydd pleidlais na yn brawf bod y ddadl araf bach a phob yn dipyn wedi chwythu ei blwc a bod angen ymgyrch gref i fynnu'r holl hog fel petai.

Pumed anwiredd, ac anwiredd mwyaf yr ymgyrchwyr yw eu honiad nad ydynt yn fradwyr gwrth Cymreig. Beth arall yw pobl sydd a chyn lleied o ymddiriedaeth yn gallu eu pobl eu hunain i gael y mymryn lleiaf o hunain reolaeth ond bradwyr gwrth Cymreig ffiaidd budron a baw isa'r domen?

Mae ymateb swyddogol y rhai sydd o blaid datganoli i ddyfodiad Celwyddgwn Cymru wedi bod yn siomedig:

Fe ddywedodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, nad oedd angen sefydlu ymgyrch Ie cyn bod Confensiwn Cymru Gyfan, o dan gadeiryddiaeth Syr Emyr Jones Parry, yn casglu'r farn gyhoeddus yng Nghymru am bwerau ychwanegol.


Rhaid imi gytuno a'r farn a mynegwyd gan Gadeirydd y Blaid ar ei flog ychydig ddyddiau yn ôl:
Opinion polls can help to inform that judgement, but they should never be allowed to become the determinant. There is otherwise a risk that we wait until the polls show that the argument has been clearly won before we start to present the case; and I don't understand how anyone would ever expect to decisively win any argument without putting the case.


Mae angen ymgyrch IE rŵan. Wrth gwrs does dim rhaid iddi fod yn ymgyrch swyddogol. Bydd ymgyrch poblogaidd cystal. Onid dyna un o'r honiadau sydd yn cael ei wneud dros rym y we ei allu i greu ymgyrchoedd poblogaidd creiddiol?

Mae True Wales wedi gollwng y fantell, os nad yw'r gwleidyddion traddodiadol am ei godi a oes le i gefnogwyr datganoli ar lein ei godi a rhedeg gyda hi?

19/09/2008

Lansiad BBC Alba

Yr wyf wedi gwylio'r noson agoriadol o BBC Alba bellach, ac ar y cyfan mae o wedi bod yn lansiad llwyddiannus i'r sianel.

Fe ddechreuodd pethau efo A Chuirm, be fydda'r Gwyddelod yn galw'n ceilidh a ni'n galw'n noson lawen. Yn bersonol 'dwi ddim yn hoff iawn o raglenni megis Noson Lawen. Rwyf wrth fy modd yn mynychu noson o'r fath ond dwi ddim yn teimlo bod modd trosglwyddo'r profiad o fod yno i raglen teledu. Ond o raglen o'r fath mi oedd o'n enghraifft ddigon dechau, a hyd yn oed ar y teledu mae canu di gyfeiliant yr ynysoedd yn gallu danfon gwefr i lawr yr asgwrn cefn.

Yr ail raglen oedd yr un wnaeth plesio fwyaf, Eilbheas. Drama am hogyn yn cael ei blagio gan ysbryd Elvis. Roedd o'n ddrama ddwys a doniol gyda stori dda - drama gwerth ei wylio mewn unrhyw iaith.

Y drydedd raglen oedd rhaglen ddogfen am lofrudd o'r enw Peter Manuel. Mae'n debyg mae'r gwron hwn oedd llofrudd enwocaf yr Alban. Clywes i erioed amdano o'r blaen ac roedd ei hanes yn un ddigon erchyll. Rwy'n ansicr os dylid cofio "enwogion" o'r fath. Mae pob rhaglen amdanynt yn eu clodfori mewn ffordd annymunol. Wedi dweud hynny roedd y rhaglen yn un hynod ddiddorol.

Daeth y noson i ben efo ail hanner yr A Chuirm.

Yn sicr byddwyf yn gwylio'r sianel eto, yn arbennig os glywaf am hanes drama newydd yn cael ei ddarlledu. Llongyfarchiadau mawr i bawb ar BBC Alba a phob lwc i'r dyfodol.

BBC Alba

Bydd sianel deledu newydd yn ddechrau darlledu yn yr iaith Aeleg am 9 o'r gloch heno. Bydd y sianel ar gael ar rif 168 ar Sky a thrwy ddarparwyr digidol eraill.

Os hoffech ddysgu ychydig o Aeleg er mwyn dilyn rhai o'r rhaglenni mae'r BBC yn cynnig gwersi ar lein Beag air Bheag (ychydig wrth ychydig)

17/09/2008

Taro naw yn methu'r traw?

Roedd Rhaglen Taro Naw heno yn un hynod difir, ac yn codi pwynt werth ei hystyried: a ydy Addysg Gymraeg cyfoes yn mynd ar ol quantity yn hytrach na quality? (sori am yr idiom Saesneg)

Fe gafwyd crybwyll yn y ffilm agoriadol, ond nid yn y drafodaeth, o bwynt hynod bwysig yn y cyd-destun yma - bod safon Saesneg ambell i ddisgybl yn wan hefyd.

O wrando ar Saesneg llafar Saeson uniaith, rwyf o'r farn bod safon ieithyddol y mwyafrif mawr ohonynt yn gachlud, i ddweud y lleiaf. Yr hyn sy'n cadw safon yr iaith Saesneg yw'r lleiafrif o ddefnyddwyr safonol yr iaith.

Er nad ydwyf yn Gymro Cymraeg iaith gyntaf, rwy'n ddigon hen i gofio pobl oedd bron yn uniaith Gymraeg pymtheng mlynedd ar hugain yn ôl, yn siarad Cymraeg gwan ar y naw. Onid dyma natur pob iaith? Bod safon y mwyafrif yn gachlud ac mae lleiafrif bach sydd yn "cynnal safon"?

Nid dewis rhwng niferoedd a safon mo frwydr yr iaith!

I gadw'r iaith yn fyw mae angen y ddwy - mae angen miloedd i siarad y Gymraeg yn wych neu'n wachul, ond mae angen cannoedd o Gymreigwyr da i gadw safon hefyd.

Sydd yn dod a fi yn ôl i'r post blaenorol - mae angen sicrhau bod canran dechau o arian dysgu'r Gymraeg i oedolion yn cael ei anelu at loywi Cymraeg siaradwyr naturiol a dysgwyr llwyddiannus yn hytrach na chael ei anelu yn ormodol at ddysgwyr o'r newydd yn unig!

A thra fy mod yn rantio ar y pwnc, dyma gais i'r Eisteddfod Genedlaethol - mae 'na gystadleuaeth ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn be am gystadleuaeth gyffelyb i Loywr y Flwyddyn hefyd?

Mae Clecs Cilgwri yn cynig barn amgen am y rhaglen

13/09/2008

I bwy ddylid dysgu'r Gymraeg?

Yr wyf mewn sefyllfa od parthed fy nosbarthiad fel Cymro Cymraeg. Yn sicr nid ydwyf yn Gymro Cymraeg Iaith gyntaf. Mi gefais fy magu i siarad Saesneg fel iaith yr aelwyd. Yr wyf yn ei chael hi'n haws i siarad, deall, darllen ac ysgrifennu yn y Saesneg nag ydwyf yn y Gymraeg.

Ar y llaw arall nid ydwyf yn ddysgwr chwaith. Dwi ddim yn cofio adeg pan nad oeddwn yn ymwybodol o fodolaeth y Gymraeg nac yn ddeall rhywfaint o'r iaith.

Un o fy nghofiannau cyntaf yw bod yn yr wythnos gyntaf yr ysgol fach a'r athrawon yn penderfynu pwy oedd i fynd i'r ffrwd Cymraeg a phwy oedd i fynd i'r ffrwd Saesneg.

Roedd yr holl blant newydd yn sefyll mewn rhes a'r athrawon yn eu dosrannu. Cymru, Cymru, Saeson, Cymru, Saeson ac ati. Yr oeddwn yn ddeall ystyr y gair Cymru, pobl o'r un cenedl a fi; ond y gair arall yr oeddwn yn clywed oedd Siswrn teclyn i dorri pethau yn fan. Pan gefais fy nedfrydu i'r siswrn mi griais, mi stranciais ac mi bisais fy nhrowsus, ac roedd rhaid i Mam dod i'm casglu o'r ysgol am fod yn hogyn drwg.

Yn ôl y drefn arferol yn y dyddiau hynny chwip din, a gwely heb swper, oedd y canlyniad am imi godi cywilydd ar y teulu. Y bore nesaf roeddwn yn nosbarth y Siswrn, yn casáu'r lle roeddwn ond yn casáu'r Gymru mwy byth. (Yn arbennig hogyn cas ofnadwy o'r enw [Dylan] Iorwerth - lle mae o heddiw tybed?!).

Trwy i Dad defnyddio'r Gymraeg i ddweud wrth Nain bod yr hogyn yn dal i gredu mewn Siôn Corn, cefais wybod nad oedd Siôn Corn yn bod. Diben y Gymraeg oedd siarad mewn iaith yr oeddynt yn tybied nad oeddwn yn ei ddeall!

Wrth imi brifio mi gefais fy annog i ddefnyddio'r Gymraeg oedd gennyf gan nifer o bobl, rhai'n enwog megis Dafydd Elis Thomas ac Emyr Llywelyn, rhai yn llai amlwg megis Mel (beiol) Williams, John Owen, John Hughes (Dai Daps) a'r Parchedigion Cyril ac O.M. Lloyd.

Oherwydd y fath anogaeth yr wyf, bellach, yn weddol hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg ar lafar ac mewn ysgrifen, ond yr wyf yn ymwybodol iawn bod yna frychau mawr yn fy Nghymraeg. Mae Dei Tomos, Radio Cymru, wedi awgrymu mae gwell byddid imi siarad Saesneg yn hytrach na llofruddio'r iaith Gymraeg pob tro byddwyf yn agor fy ngheg a bod fy nhreigliadau yn ymdebygu i Bolo Mints - twll ym mhob un! Coc oen am ddweud y fath beth ond mae ei bwynt yn un ddilys! Mae fy Nghymraeg yn wael - mae angen ei wella!

Mae gormod o arian yn cael ei wario ar ddysgu Cymraeg i ddieithriaid. Os yw'r iaith Gymraeg am barhau mae'n rhaid cadarnhau defnydd y Gymraeg ymysg siaradwyr cynhenid yr iaith ac ymysg pobl, fel fi, sydd wedi codi'r Gymraeg yn naturiol!

Yn ôl y cyfrifiad mae 33% o boblogaeth fy mhlwyf yn gallu'r Gymraeg - mae fy mhrofiad yn dweud mai llai na 5 y cant sy'n defnyddio'r Gymraeg. Rwy'n credu bod mwy o angen cael y 33% i ddefnyddio'r Gymraeg yn feunyddiol yn hytrach na chael gwersi cychwynnol i fewnfudwyr newydd. Ond hyd y gwelaf mai'r cyfan o'r arian sy'n cael ei wario yma ar yr iaith yn cael ei anelu at ddysgwyr newydd. Nid oes dima yn cael ei ddefnyddio tuag at gadarnhau Cymraeg y traean sydd yn honni eu bod yn Gymry Cymraeg yn barod, ond eto'n ansicr eu defnydd o'r Gymraeg!

Gwarth a gwastraff yw defnyddio'r holl adnoddau prin i ddysgu 12 o bobl elfenau sylfaenol iaith mae mil o drigolion y plwyf yn honni eu bod yn eu deallt, ond yn dangos diffyg hyder i'w defnyddio!

09/09/2008

Blogio Cynhadledd y Blaid

Rwyf wedi cael gwahoddiad i flogio'n fyw o Gynhadledd Plaid Cymru.

Rwy'n hynod ddiolchgar i'r Blaid am y gwahoddiad. Rwy’n credu bod y Blaid y flaengar am gynnig y fath wasanaeth. Ac, o ystyried rhai o'r pethau cas yr wyf wedi dweud yn erbyn y Blaid ar y blog 'ma, mae'n gynnig dewr a rhyddfrydig hefyd.

Yn anffodus, oherwydd dyletswyddau teuluol, mae'n rhaid imi ymwrthod y cynnig eleni.

Gobeithio bydd rhai o'r blogwyr eraill sydd wedi cael yr un cynnig yn gallu ei dderbyn. Edrychaf ymlaen at ddarllen eu cyfraniadau.

Mae blogio'r gynhadledd wedi bod yn rhan allweddol o ymgyrchoedd ymgeiswyr Arlywyddol yr UDA eleni. Mae'n annhebyg bydd blogio Cynhadledd Aberystwyth mor ddylanwadol - ond mae'r hyn sy'n bwysig ochor arall i'r Iwerydd heddiw fel arfer yn magu pwysigrwydd yma ym mhen y rhawd. Pwy a ŵyr?

Rwy'n cicio fy hunan fy mod yn methu derbyn y gwahoddiad eleni, ac yn gobeithio mae nid camgymeriad gweinyddol oedd fy ngwadd!

Gobeithiwn y caf wahoddiad tebyg eto gan y Blaid. Ac os caf fod mor hy, gan TUC Cymru, Plaid Lafur Cymru, Ceidwadwyr Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Llais ac ati, hefyd!

02/09/2008

Lle mae'r Fangre bellach?

Blwyddyn yn ôl roedd bron i bob tŷ tafarn a siop yng Nghymru yn arddangos arwydd, o dan deddf dim smygu'r Cynulliad, yn mynegi'r ffaith bod Ysmygu yn y Fangre Hon yn Erbyn y Gyfraith!

Fy nealltwriaeth oedd bod y ddeddf yn erbyn ysmygu mewn llefydd cyhoeddus yn un Gymreig, a bod yr arwydd awdurdodedig y mae'n rhaid ei arddangos, o dan y ddeddf, yn arwydd ddwyieithog.

Wrth deithio drwy Gymru yn ystod gwyliau'r haf yr wyf wedi sylwi bod nifer o lefydd wedi hepgor arwyddion dwyieithog swyddogol y Cynulliad bellach ac wedi eu cyfnewid am rai uniaith Saesneg corfforaethol.

Ydy arwyddion uniaith Saesneg Marstons, Punch, Spar ac Asda yn gyfreithiol yng Nghymru? Oes lle inni gwyno i'r awdurdodau bod y cwmnïau hyn, ac eraill, yn tramgwyddo'r ddeddf trwy beidio ag arddangos yr arwyddion dwyieithog priodol o dan y ddeddf mwyach?

31/08/2008

Deffrwch Gymry Cysglid Gwlad y Gân

Roedd y ffaith bod dau gôr Cymraeg yn canu yn y rownd olaf o Last Choir Standing yn atgoffa dyn o hanes Caradog a'i angen i brofi mae Cymru yw Wlad y Gân drwy fynd i Lundain, i'r Crystal Palace, er mwyn ennill clod Prydain oll o blaid canu gorawl Cymreig.

Fe brofodd y ddau gôr Cymraeg /Cymreig, eto byth, heno - bod breuddwyd Carodog yn fyw o hyd, ysywaeth!

Llongyfarchiadau mawr i Gôr Tim Rhys, (côr a oedd yn canu o dan enw Cymraeg unwaith -rwy'n siŵr), ar enill y gystadleuaeth. Llongyfarchiadau mwy o lawer i Ysgol Glanaethwy am ddod yn ail, a thrwy hynny osgoi'r wobr o orfod bychanu eu hunain trwy ganu i Gwin Lloegr.

27/08/2008

Dail Cymraeg

Croeso cynnes i wefan Cymraeg newydd Dail y Post. Yn ogystal â'r newyddion a chwaraeon diweddaraf o'r Gogledd yn y Gymraeg, mae'r gwefan yn cynnwys tair blog Gwleidyddol Cymraeg gan Ieuan Wyn Jones, Dafydd Wigley a Tom Bodden.

22/08/2008

Anabledd yr Eisteddfod

Mae 'na gŵyn yn y rhifyn cyfredol o Golwg am ddiffyg darpariaeth i bobl sydd yn byw gydag anabledd yn yr Eisteddfod.

Mae Meri Davies o Lanelli wedi ysgrifennu at drefnwyr yr Eisteddfod i fynegi ei siom a'i rhwystredigaeth am y ddarpariaeth.

Hoffwn ategu fy nghefnogaeth i sylwadau Ms Davies. Mi fûm yn gwthio fy ngwraig mewn cadair olwyn yn yr Eisteddfod eleni ac roedd y profiad yn artaith.

Gallwn sgwennu deg blogbost cyn llawn fynegi fy rhwystredigaeth am y ddiffyg darpariaeth Eisteddfodol ar gyfer pobl sy'n byw ag anabledd a'r anhawesterau cyfarfum yn Ngharedydd eleni.

Mae'r Eisteddfod yn defnyddio'r un esgus eleni am ddiffyg mynediad i bobl sydd yn byw ag anabledd ac a ddefnyddiwyd y llynedd a'r flwyddyn cynt; sef eu bod yn ymgynghori a'r "Disability Access Group" lleol.

Sawl aelod o DAG Caerdydd a ymwelodd â Maes Eisteddfod cyn eleni?

Heb syniad o be ydi Eisteddfod a oes modd i DAG Caerdydd gwybod unrhyw beth am anghenion Eisteddfodwyr sy'n byw gydag anabledd?

Hoffwn awgrymu yn garedig i'r Eisteddfod eu bod yn creu eu DAG eu hunnain o Eisteddfodwyr Pybyr

- megis Meri Davies sydd yn ymweld â phob Eisteddfod mewn cadair olwyn, neu un fel fi sydd yn gwthio cadair olwyn y musus 'cw trwy bob eisteddfod -

yn hytrach na dibynnu ar y grwpiau lleol sydd yn gwybod rhywfaint am anabledd, bid siŵr, ond sy'n gwybod ff**c oll am Eisteddfota i'r anabl!

Ac, ol nodyn, os ydy'r DAGs lleol mor dda - pam nad yw yr un ohonnynt wedi sicirhau lwp yn y pafiliwn hyd yn hyn?

18/08/2008

Leanne Wood, Comiwnydd neu Genedlaetholwr?

Papur ymgyrchu swyddogol Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr yw The Weekly Worker. Mae fersiwn o'r papur ar gael ar line. Pob wythnos mae'r papur yn cynnwys colofn sydd yn ddiolch i gefnogwyr y Blaid sydd wedi cyfrannu yn ariannol i'r cyhoeddiad.

Wrth Gwglo am wybodaeth am Blaid Cymru cefais hyd i rifyn Mai 22ain 2008 o'r cyhoeddiad sydd yn cynnwys y diolch rhyfeddol:

Our fighting fund received help from an unexpected source this week - Plaid Cymru Welsh assembly member Leanne Wood donated a handy £25

Be yn y byd mae aelod etholedig o Blaid Cymru yn gwneud yn ariannu plaid arall?

Onid oes yna reolau gan Blaid Cymru sydd yn gwahardd aelodau rhag cefnogi pleidiau sydd yn sefyll etholiadau yn ei herbyn?

Rwyf wedi credu ers talwm bod yr adain chwith yn niweidio'r Blaid trwy osod Sosialaeth o flaen cenedlaetholdeb, yn wir dyma'r prif reswm paham nad ydwyf yn aelod o'r Blaid bellach. Ond cefais sioc o ddarllen bod y gefnogaeth yma mor eithafol bod un o brif ladmeryddion adain chwith Plaid Cymru yn mynd cyn belled ag i ariannu'r Blaid Gomiwnyddol.

Mae'n hen bryd i Leanne penderfynu lle mae ei theyrngarwch - i genedlaetholdeb Cymreig neu i Gomiwnyddiaeth Prydain Fawr.

15/08/2008

Noddwyd y post hwn gan Ganolfan Croeso Caerdydd!

Ymddiheuriadau mawr i'r darllenwyr ffyddlon sydd wedi bod ar bigau drain yn disgwyl am bron i bythefnos am un o berlau doethineb yr Hen Rech Flin.

Doedd dim bwriad gennyf ymweld â'r Eisteddfod eleni, ond wedi cael blas ar fwrlwm yr ŵyl at y teledu penderfynodd y teulu bach, ar amrant, i fynd i lawr i'r Brifddinas am ddiwedd y brifwyl. Wedi cael blas ar ymweld â Chaerdydd - yn hytrach na mynd yna ar fusnes, penderfynasom aros ychydig yn ychwanegol, er mwyn fwynhau'r ddinas fel ymwelwyr pur.

Er fy mod yn byw yn y Gogledd eithaf, yr oeddwn yn credu fy mod yn weddol gyfarwydd â'r brifddinas. Rwy'n mynd yna'n aml, o leiaf chwe gwaith y flwyddyn. Rwy'n mynd i dribiwnlysoedd, yn ymweld â'r Senedd yn gwneud pytiau i'r cyfryngau ac ati, ond prin iawn fu fy ymweliadau fel twrist.

Roedd yr wythnos yma yn agoriad llygad! Mae 'na gymaint i'w fwynhau yng Nghaerdydd, ac mae'r lle yn ganolfan mor rhwydd i deithio o 'na i gannoedd o atyniadau Deheubarth Cymru a Gorllewin Lloegr.

Wedi cael wythnos annisgwyl o wyliau gwych rwyf yn annog y Gogs, ac eraill, sydd dim ond yn gweld Caerdydd fel cyrchfan busnes neu le i weld gem pêl, i ddwys ystyried y Brifddinas fel canolfan gwyliau gwerth chweil. Cewch chi ddim o'ch siomi!

Mi af i Gaerdydd ar fy ngwyliau eto! Ond yr wyf yn ôl rŵan! A bydd y blogbyst yn byrlymu unwaith eto, (Neu yn ymddangos ddwywaith pob wythnos o leiaf)

04/08/2008

Coron i flogiwr.

Damnia, mae fy ngobeithion mae fy mlog i fyddai'r un i'w llefaru yng nghystadleuaeth 122 Eisteddfod y Bala newydd dderbyn glec angheuol gan fod blogiwr arall newydd ennill Goron Brifwyl Caerdydd.

Llongyfarchiadau mawr i Hywel Griffiths o Flog Hywel.

Achos "Annibyniaeth"

Rwyf newydd ddanfon cyfraniad i'r blog Annibyniaeth i Gymru. Mae'r blog wedi bod yn segur am rai misoedd, yn anffodus.

Mae Annibyniaeth yn flog cyfansawdd - un sydd a mwy nag un cyfrannydd. Mantais blog cyfansawdd yw bod modd cyfrannu iddi unwaith yn y pedwar amser, does dim angen "mynd yn rheolaidd" fel petai.

Rwy'n siŵr bod nifer o flogwyr o anian genedlaethol sydd yn teimlo fel gwyntyllu barn wleidyddol o bryd i'w gilydd ond yn teimlo byddai'n "amherthnasol" i’w blogiau hwy. Mae'n debyg bod yna amryw un sydd yn darllen blogiau sy'n teimlo fel dweud ei ddweud dros annibyniaeth i Gymru yn achlysurol, ond nid mor aml ag i gyfiawnhau blog bersonol.

Os hoffech wneud cyfraniad achlysurol i Annibyniaeth cysyllta â Hedd trwy Maes-e, neu fi trwy e-bost (cyfeiriad ar y bar ochor).

Afraid dweud, mae dim ond y sawl sydd yn gefnogol i achos annibyniaeth bydd yn cael eu derbyn fel cyfranwyr :-)

03/08/2008

Gwobrau Blogiau gwleidyddol

Nid ydwyf yn o'r hoff o'r syniad o wobrau am "fynegi barn".

Pan oeddwn yn blentyn rhoddais gynnig ar gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus yn Eisteddfod yr Urdd, a chael y feirniadaeth Alwyn oedd y mwyaf brwd ac argyhoeddedig o'r cystadleuwyr - ond does dim modd caniatáu i'w farn eithafol cael llwyfan cyhoeddus yn yr Eisteddfod!

Pe bawn wedi ffrwyno fy marn eithafol ar gyfer y flwyddyn ganlynol, roedd y feirniadaeth yn awgrymu bod y gallu i gael llwyfan a bri cenedlaethol yna. Ond roedd ac mae'n well gennyf fi ddweud fy nweud yn onest yn hytrach nac ildio i wobr.

Wedi dweud hynny mae dyn yn byw yn y byd sydd ohoni ac mae gwobrau yn cael eu cynnig ac yn gallu bod yn fodd i hyrwyddo barn.

Mae'r blogiwr enwog Iain Dale yn cyhoeddi rhestrau o flogiau gwleidyddol "gorau" yn flynyddol. Mae dod yn uchel ar ei restrau yn gallu cael effaith boddhaol ar y niferoedd sy'n darllen blogiau.

Does dim modd i flog Cymraeg dod i frig y rhestr, wrth gwrs, ond braf bydde gweld ambell un yn y 100 uchaf.

Dyma'r brif blogiau Iaith Gymraeg sydd yn cael eu cyfrif fel blogiau Gwleidyddol:

Hen Rech Flin
Blog Dogfael
Blog Menai
Gwilym Euros Roberts
Blog Answyddogol
Gwenu dan Fysiau

I noddir blogiau hyn danfonwch e-bost i toptenblogs*@*totalpolitics.com.(gwaredwch y sêr) gyda'r pwnc neges "Top Ten", rhestra nhw yn ôl eich dewis o un i chwech ac ychwanega 4 arall atynt i wneud y chwech yn ddeg. (Os yn brin o syniadau mi awgrymaf Miserable Old fart, Ordovicius, Cambria Politico, Amlwch to Magor)

Mae yna ddewis ehangach o flogiau gwleidyddol Cymreig ar gael YMA

Cyn i neb dweud yn wahanol, does dim byd twyllodrus na dan din yn y post yma. Mae hyrwyddwyr y wobr yn erfyn ar flogwyr i ofyn am fôt ar eu blogiau, er mwyn rhoddi bri eang i'r gystadleuaeth.

Cyhwfan Banner Tibet

Mae'r blogiwr Cymreig Damon Lord wedi cychwyn ymgyrch i geisio tanlinellu dioddefaint pobl gwlad Tibet i gyd redeg a'r Gemau Olympaidd ym Meijing.

Mae Tibet wedi ei oresgyn gan Ymerodraeth Gomiwnyddol China ers 1951 ac mae'r rhai sydd yn mynnu rhyddid gwleidyddol a chrefyddol i'r wlad yn dioddef o dan ormes enbyd.

Un o'r pethau mae Damon yn awgrymu gwneud yw cyhwfan banner Tibet ar flogiau fel arwydd o gadernid a'r wlad a'i bobl dros gyfnod y gemau. Peth digon dinod ar un flog bach cefn gwlad - ond os oes miloedd neu filiynau o flogwyr yn gwneud yr un fath ... Pwy a wŷr - gall wneud gwahaniaeth. Gan hynny hoffwn eich annog i:

Chwifio'r Faner Dros Dibet

ac i chi annog eich darllenwyr a'ch cyfeillion i wneud yr un fath.



Saesneg / English

01/08/2008

Llefarwch fy mlog!

Wrth wenu dan ei fys,
Fe gododd Rhys Wynne ffỳs,
Am wobr hael am flogiad gwael,
Wedi ei ddyfarnu gan Ddogfael.

Mae'r flogodliad uchod yn cyfeirio at bost gan Gwenu dan Fysiau sy'n son am gystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn cynnig gwobr o £200 am ysgrifennu blog. Fel mae nifer wedi dweud yn y sylwadau i gofnod Rhys, mae yna rywbeth od ar y naw am gofnod blog sydd ddim ar y we. Yr hyn sydd yn gwneud post ar flog yn bost ar flog yw ei lleoliad ar y we. Heb fod ar y we mae'n gofnod dyddiadur, llythyr i olygydd y Cymro neu ddarn cyffredin o lenyddiaeth. Fel mae Nic yn nodi Mae blog heb HTML fel englyn heb gynghanedd.

Rwyf wedi sylwi ar gystadlaethau tebyg mewn eisteddfodau blaenorol, yn gofyn am dudalennau we sydd ddim i'w cyhoeddi ar y we er mwyn eu cadw yn ddienw ac yn anhysbys cyn y feirniadaeth. Wrth chwilio trwy restr testunau Eisteddfod y Bala 2009 roeddwn yn hanner ddisgwyl cystadleuaeth am dudalen Facebook nad wyt yn cael son amdani wrth dy ffrindiau rhag torri amodau'r ŵyl.

Cefais hyd i rywbeth llawer llawer gwell yn y rhestr testunau, sef cystadleuaeth rhif 122 Darllen Blog Amser rhwng 3 a 5 munud Gwobrau 1 £60; 2 £30, 3 £20.

Byddai'n anrhydedd mawr pe dewiswyd erthygl o'r blog yma fel un i'w adrodd ar lwyfan yr Eisteddfod, felly mae'n rhaid imi godi fy mhyst i safon gwerth eu llefaru. Dyma sydd i gyfrif am y flogodliad cychwynnol:

Fel bod y cystadleuwyr fel un dyn
Yn dewis darllen o flog yr Hen Rech Flin.

I ddod yn fuan:
Telyneg am broblemau bins Sir Conwy
Soned i ymryson DI ac Elfyn am lywyddiaeth y Blaid
Cywydd i ymadawiad Brown o'r brif weinidogaeth (wedi ei osod ar gainc Alwyn o'r Blog Wen - rhag ofn bod yr Ŵyl Gerdd Dant am ddilyn arweiniad yr Eisteddfod.)

Costau a gwisg ysgol?

I bob rhiant mae'r wisg ysgol yn gost ychwanegol sy'n brathu ar ddiwedd un o gyfnodau drytaf y flwyddyn sef diwedd gwyliau'r haf. Mae gan rhai ohonom blant mor afresymol ag i benderfynu cael hwb prifiant dros wyliau'r Nadolig hefyd!

Newyddion da o lawenydd mawr, felly yw clywed bod Asda yn cynnig Gwisg ysgol am ddim ond pedair punt.

Gyda M&S, Tesco ac eraill yn cynnig gwisgoedd ysgol am brisiau rhad mae'n debyg mae'r wisg ysgol bydd ateb 2008 i Ryfel Ffa 1996.

Ond, yn anffodus bydd nifer o rieni yn colli allan, gan fod eu hysgolion yn gwneud elw allan o fynnu bod rhaid i blant gwisgo dillad sydd yn cynnwys logo'r ysgol.

Bydd crys chwys glas yn costio punt yn Asda, bydd crys o'r un ansawdd gyda logo'r ysgol yn costio £15 o'r ysgol neu o siop sydd yn noddi'r ysgol.

Pam na all ysgolion gwerthu bathodynnau i'w gwnïo, neu hyd yn oed eu pinio, ar wisg ysgol rad yn hytrach na mynnu bod rhieni yn cael eu gorfodi i dalu crocbris am ddilledyn sydd yn cynnwys brodwaith o'r bathodyn?

25/07/2008

Llongyfarchiadau i John Mason AS!

A oes angen dweud mwy!

Hwre i'r SNP - canlyniad bendigedig!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!

22/07/2008

Rhethreg a phwyntio bys

Mae Budd-dal Analluogrwydd (IB) yn fudd-dal ffiaidd cas, gythreulig.

Dydy o ddim yn fudd-dal sydd angen ei wella na'i diwygio, mae'n fudd-dal sydd angen ei ddiddymu a'i gyfnewid am system llawer mwy addas i'r rhai sy'n byw efo salwch neu anabledd.

Mae'n fudd-dal negyddol, oherwydd ei fod yn tanlinellu'r hyn y mae dyn yn methu gwneud yn hytrach na'r hyn y mae o'n gallu gwneud. Bydd nifer o bobl yn ystod eu gyrfaoedd yn gorfod wynebu sefyllfa lle mae'n amhosibl iddynt barhau yn eu gyrfa flaenorol. Os ydy dyn yn colli swydd o dan yr amgylchiadau hyn bydd yn derbyn budd-dal analluogrwydd, ond dydy'r budd-dal ddim yn cydnabod ei fod yn gorfod rhoi gora i'w gyrfa bresennol yn unig. Mae'r budd-dal yn ei osod mewn categori sydd yn dweud ei fod yn methu gwneud UNRHYW waith

Mae'n fudd-dal sydd yn gwneud pobl yn salach.

Mae pawb wedi clywed am yr effaith plasebo, mae'n siŵr. Bydd unigolyn sâl yn derbyn ffisig siwgr ac yn teimlo'n well oherwydd ei fod yn credu bod rhywbeth yn cael ei wneud i'w gwella. Mae yna effaith gwrth plasebo yn digwydd hefyd. O bwysleisio'r problemau sydd yn codi o afiechyd, wrth feddwl am ddim byd ond y drwg, wrth gyfri melltithion yn hytrach na bendithion, mae salwch yn gallu gwaethygu.

Trwy ei bwyslais ar analluogrwydd mae IB yn creu effaith gwrth blasebo, mae'n gwneud pobl yn salach na allasent fod.

Mae IB yn sicrhau nad yw pobl yn ceisio gwella eu hiechyd.

Mae yna jôc (nid ei fod yn un ddoniol iawn) sy'n dweud pe bai Iesu Grist yn mynd i Ferthyr yn iachau'r llesg a'r sâl bydda'r bobl sydd ar fudd-daliadau yn ei groeshoelio. Ond mae yna bwynt i'r jôc:

Os wyt yn colli swydd oherwydd salwch ac yn derbyn IB o ganlyniad mi fyddi'n derbyn swm dechau yn fwy na'r sawl sydd ar lwfans chwilio am waith. Os wyt yn gwella ei di nol i'r budd-dal is. Onibai bod yna gobaith da o ennill swydd newydd, wedi gwella, yr wyt yn cael dy gosbi am dy iachâd. Yn yr ardaloedd lle mae'r canrannau uchaf yn derbyn y taliadau mae'r gobeithion am swyddi newydd yn bur isel. Does dim diben gwella!

Cafwyd enghraifft yn niweddar yn Sir Benfro o ddyn oedd, yn ddi-os, wedi cael salwch difrifol. Fe ddywedodd y meddyg wrtho i wneud ymarfer corff er mwyn iddo wella. Cafodd ei ffilmio yn gwneud yr ymarfer corff, a'i herlyn am dwyllo'r system budd. Mi fyddai'n well pe bai o wedi anwybyddu'r meddyg a heb drafferthu cryfhau ei iechyd trwy ymarfer corff!

Y peth gwaethaf am IB yw'r ffaith ei fod yn fudd-dal sydd yn cael ei gam ddefnyddio, nid gan y rhai sydd yn ei hawlio, ond gan Lywodraethau.

Ers dyddiau Thatcher, trwy Major a Blair hyd Brown mae Llywodraethau wedi annog pobl i dderbyn y budd-dal negyddol yma yn hytrach na lwfans chwilio am waith, oherwydd nad ydy'r sâl a'r anabl yn cyfri yn ystadegau diweithdra.

Mae'n fudd-dal da am ffugio faint o bobl sydd, gwir yr, heb waith.

Mae'n fudd-dal sydd hefyd yn un defnyddiol i'w defnyddio ar gyfer rhethreg giaidd sy'n pwyntio bys at y sâl a'r anabl sydd yn ei dderbyn, a'u gosod fel enghreifftiau o'r rhai sydd yn rhy ddiog i godi oddi ar eu tinau i wella eu bywydau eu hunain.

Papur gwyrdd diwethaf y Llywodraeth i fynd i'r afael a budd-dal analluogrwydd yw'r bedwaredd tro, o leiaf, i'r Llywodraeth Lafur cyhoeddi cynlluniau i fynd i'r afael a'r broblem. Cafwyd papur bron yn gyffelyb union ddwy flynedd yn ôl.

Rhethreg pwyntio bys, eto, yw'r ymgais yma, nid ymgais i fynd i'r afael a'r broblem.

Ond waeth peidio pwyntio bys, mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n derbyn y budd-dal yma yn wirioneddol sâl. Edrychwch ar bron i bob un ardal lle mae'r budd-dal yma yn cael ei dderbyn gan niferoedd mawr a chymharer y cyfartaledd oedran marwolaeth.

Mae llawer o son wedi bod am y ffaith bod pobl yn marw yn ofnadwy o ifanc yn Nwyrain Glasgow. Cyfartaledd sydd yn is na rhai o wledydd tlota’r byd. Mae pobl Glasgow yn marw oherwydd safonau iechyd isel – dyna pam mae dyma'r ardal sydd hefyd a'r nifer uchaf o bobl ar IB. Dydy nhw ddim yn marw'n ifanc er mwyn cafflo'r sustem!

Mae angen ddifrifol i wneud rhywbeth am y bron i 3 miliwn sydd yn derbyn y budd-dal afiach yma.

Mae angen sicrhau bod pob cymorth yn cael i roi i bobl sy'n sâl i wireddu eu potensial o fewn eu gallu.

Mae angen cynlluniau gwella iechyd cynhwysfawr yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Mae angen sicrhau bod gwaith safonol ar gael yn yr ardaloedd mwyaf tlawd ac afiach er mwyn sicrhau bod gôl gwaith yn gyraeddadwy i'r rhai sydd am wella eu byd trwy wella eu hiechyd.

Wrth gwrs does dim disgwyl i unrhyw lywodraeth i wneud y fath beth, gan nad yw'n opsiwn rhad nac yn un bydd yn apelio at y cŵn. Llawer haws yw gadael y sâl ar y domen a phwyntio bys bygythiol pob hyn a hyn.

18/07/2008

Mwgyn da'r methiant

Mae rhai yn credu mai jôc pen tymor ydyw, hwyl fach ddiniwed. Rwy'n anghytuno!

Mae'n debyg bod Rhodri Glyn wedi ei daflu allan o dafarn yng Nghaerdydd nos Fawrth am danio sigarét neu sigâr yn y bar.

Deddf gan y Cynulliad yw'r ddeddf dim smygu mewn tafarn. Deddf a gefnogwyd gan Blaid Cymru, deddf yr oedd y Blaid yn cwyno yn groch amdani dwy flynedd cyn ei basio gan nad oedd gan y Cynulliad yr hawl i'w basio ar y pryd.

Mae'n ddeddf yr wyf yn ei gefnogi, tra'n ddeall ei fod wedi pechu ambell un oedd yn arfer mwynhau mygyn gyda pheint. Mae'r ffaith bod un o aelodau amlycaf plaid a oedd yn hynod gefnogol i'r ddadl dros wahardd ysmygu mewn tafarnau wedi ei ddal yn ei hanwybyddu yn achos o embaras dirfawr, dydy o ddim yn jôc.

Rhodri Glyn yw'r gweinidog sydd wedi torri addewid y Blaid i greu papur dyddiol. Yr un sydd wedi torri'r addewid am Goleg Ffederal. Yr un sydd wedi methu cael LCO Deddf Iaith, a'r un gwnaeth ffŵl o'i hun a'i wlad yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn. Bellach mae o wedi ategu at yr embaras trwy ysmygu mewn tŷ tafarn wedi iddo bleidleisio o blaid gwahardd ysmygu mewn tai tafarnau!

Mae'r gwron yn fethiant ac yn embaras, mae angen adrefnu mainc blaen y Blaid. Mae'n rhaid gollwng y ffŵl!



English Version

Y cyfle gorau?

Mae colofn Adam Price AS yn y rhifyn cyfredol o Golwg yn pledio achos cynnal refferendwm ar bwerau estynedig i'r Cynulliad ar yr un diwrnod ag etholiadau Cynulliad 2011.

Fy marn bersonol yw bod refferendwm yn ddianghenraid ac mae cam gwag gan Blaid Cymru oedd peidio â mynnu dileu'r cymal refferendwm o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, wrth drafod clymblaid, blwyddyn yn ôl. Ond wedi mynd mae'r hyn a fu ac mae'n rhaid byw gyda realaeth refferendwm bellach am wn i.

Mae Adam yn gwneud pwynt teg parthed refferendwm annibyniaeth yr Alban yn tarddu ar refferendwm Cymru

Gyda’r mesur yn cael ei gyflwyno yn Ionawr 2010 y tebyg yw y bydd y refferendwm – ar agor trafodaethau annibyniaeth - yn yr Hydref. Beth bynnag yw’r canlyniad, bydd ymgyrch yr Alban yn cysgodi'r cwestiwn tra gwahanol fydd o’n blaenau ni yng Nghymru

Rwy'n cytuno a'r pwynt yma. Ond yn fy marn i os oes rhaid cynnal refferendwm gwell yw ei gynnal yn y tymor byr, cyn i'r Alban cael refferendwm ar annibyniaeth. Bydd llawer o gyhoeddusrwydd yn cael ei roi i refferendwm yr Alban. O'r eiliad y mae'r mesur yn cael ei gyflwyno i'r Senedd yn Holyrood refferendwm ar annibyniaeth bydd ym meddwl pleidleiswyr Cymru. Oherwydd esgeulustod y Blaid i hyrwyddo rhinweddau annibyniaeth yn ystod y chwarter canrif diwethaf bydd y refferendwm yn cael ei golli, heb amheuaeth.

Mae Adam yn dadlau mae rheswm da dros cynal y refferendwm a'r etholiad ar yr un diwyrnod yw oherwydd bod cefnogwyr datganoli yn fwy tebygol o fynd allan i bleidleisio mewn etholiad y Cynulliad nag ydy gwrthwynebwyr datganoli. Mae'n debyg ei fod yn gywir, ond rwy'n gweld y ddadl yma yn ddiffygiol am nifer o resymau.

Yn gyntaf prin bydd y fath cynllun yn fanteisiol i blaid Mr Price. Bydd cynnal y refferendwm a'r etholiad yr un diwyrnod yn temtio'r gwrth datganolwyd i'r bwth pleidleisio am y tro cyntaf ar ddiwrnod etholiad. Prin y byddant yn cefnogi Plaid Cymru wedi cyrraedd yno!

Yn ail mae Plaid Cymru wedi ffeirio cefnogaeth i fesurau Llafur ar ddatganoli am "fanteision" sinigaidd ddwywaith o'r blaen. Ym 1979 y tric oedd cynal y refferendwm ar Ddydd Gŵyl Dewi, ym 1997 y tric oedd cynal y refferendwm wythnos ar ôl yr Alban. Methiannau bu'r triciau sinigaidd hyn ar y ddau achlysur, yn wir yr oeddynt yn mêl ar fysedd yr ymgyrchwyr Na fel prawf pendant am yr angen i dwyllo'r etholwyr i gefnogi datganoli.

Os oes rhinweddau yn yr alw am chwaneg o bwerau i'r Cynulliad gellir ennill y dydd heb roi mêl i'r gwrthwynebwyr, a heb chware triciau dan dîn etholiadol.
Yn drydydd. Os yw hawliau deddfwriaethol yn ddigon pwysig i fyny refferendwm ar eu cyfer, maent yn ddigon pwysig i haeddu ymgyrch ar wahân i egluro rhinweddau / ffaeleddau'r achos yn iawn ac yn glir ac yn groyw heb eu drysu yng nghanol ymgyrch etholiadol.

Ac yn olaf sut bydd dyn yn gwybod sut i bleidleisio yn yr etholiad os nad yw yn gwybod os bydd y cynrychiolydd yn cael ei ethol i gynulliad ymgynghorol neu senedd ddeddfwriaethol? A fydd gan bob plaid dau faniffesto yn 2011 un ar gyfer y posibilrwydd o ganlyniad ie a'r llall rhag pleidlais na?

English

15/07/2008

Sesiwn neu Olympiad?

Pan oeddwn yn noldrwms glaslencyndod; y dyddiau pan oedd creadur rhwng bod yn hogyn ac yn ddyn, ac yn dechrau lladd ar bawb a phopeth yn ei fro a dweud does dim byd imi yma, mae bywyd yn boring mi gefais fy rhwydo gan ddyn ifanc (nad oedd llawer yn hyn na fi) Ywain Myfyr, i wneud fy rhan wrth drefnu Gŵyl Werin Geltaidd Dolgellau.

Dwi ddim am frolio a dweud fy mod yn geffyl blaen yn yr achos, ond roeddwn yn rhan ohoni. Roedd bod yn rhan yn wefreiddiol. Pan oedd hogiau cyfoed trwy Gymru benbaladr yn cwyno nad oedd dim yma i ni, yr oeddwn yn rhan o greu y rhywbeth i ni yma yn Nolgellau. Profiad celfyddydol a gwleidyddol arbennig.

Daeth yr Ŵyl Werin Geltaidd i ben ac yn ei lle daeth y Sesiwn Fawr. Yr un byrdwn fu i'r Sesiwn: gallwn, gallwn gael y gorau i ganu yn Nolgellau. Afraid cwyno ar eraill am ddim byd yn digwydd, trwy ein gwaith ein hunain gallwn greu rhywbeth sy'n digwydd.

Teg yw nodi fy mod wedi cwyno yn groch am ambell i artist sydd wedi ymddangos yn y Sesiwn. Roedd Goldy Looking Chain yn ddim byd ond ffieidd-dra wedi ei lapio yn barchus mewn Ddraig Goch. Roedd clywed darpar brifardd yn malu efo'r band Genod Droog yn gwneud i ddyn i boeni am ddyfodol cerdd dafod. Er fy nghwyn roedd y Marian yn llawn ar gyfer yr erthyl grwpiau yma, a chefais lond ceg ar faes yr ŵyl ac ar Faes-e am fy nghwynion!

Er cwyno, cefais wledd llynedd. Yn nyddiau'r Ŵyl Werin bydda rywun, pob blwyddyn, yn sicr o grybwyll y Dubliners fel grŵp i'w gwahodd, a'r trysorydd yn dweud Na! Rhy Ddrud. Roedd bod ym mlaen y dorf yn clapio, dawnsio a chyd ganu a'r Dubliners yn Nolgellau llynedd yn gwireddu breuddwyd oes imi.

Mae'n bosib mae Sesiwn Fawr eleni, bydd y Sesiwn olaf un. Mae'r nawdd a'r grant a arferid rhoi i wyliau, fel y Sesiwn, bellach wedi ei glustnodi ar gyfer gemau Olympaidd Llundain. Mae'n debyg bod Wakestock, Y Faenol, Gwyl y Gelli a Pharti Ponti, hefyd o dan fygythiad, yn ogystal â channoedd o wyliau llai.

Dwi ddim yn wrthwynebus i Gemau Olympaidd Llundain fel y cyfryw. Os byddwyf fyw cyhyd, trwy ras Dduw, dyma fydd yr unig achlysur caf i fynychu gemau o'r fath. Ond a ydy lladd, am byth, nifer mawr o wyliau Cymru, megis y Sesiwn, yn bris teg i'w dalu am fis o chware yn Llundain?

14/07/2008

Babi Newydd

Llongyfarchiadau i Huw Lewis AC a'i wraig Lynne Neagle AC ar enedigaeth eu hail blentyn bwrw'r Sul

13/07/2008

Lembo druan wedi colli cariad

Newyddion trist iawn yn y News of the World heddiw.

MP Lembit Opik has been DUMPED by his Cheeky Girls fiancée, the News of the World can reveal.

GIRL POWER: singer Gabriela has ditched MP Lembit
Furious Gabriela Irimia is refusing to see the Lib-Dem politician or take his calls after a series of bust-ups.

12/07/2008

Llafur i gadw Dwyrain Glasgow

Yn ôl pôl piniwn sydd i'w cyhoeddi yn y Sunday Telegraph yfory mae'n ymddangos bod y Blaid Lafur am gadw sedd Ddwyrain Glasgow gyda mwyafrif eithaf iach.

Labour is on course to win this month’s crucial by-election in Glasgow East, according to an opinion poll.
The ICM survey for the Sunday Telegraph puts the party on 47 per cent of the vote with its nearest challenger, the Scottish National Party (SNP), on 33 per cent.

Liberal Democrats are on nine per cent and the Conservatives on seven per cent.

The poll, the first conducted within the rock-solid Labour seat, is a big boost for Gordon Brown.


Diweddariad. Mae blog UK Polling Report yn awgrymu nad yw'r pôl, o bosib, cystal i Lafur ac mae'r ffigyrau noeth yn awgrymu.

09/07/2008

Dim Maddeuant

Rwyf wedi fy syfrdanu o ddarllen blog diweddaraf Neil Wyn (Clecs Cilgwri).

Mae'r gwron wedi cael cynnig bod yn diwtor Cymraeg ail iaith wirfoddol, llongyfarchiadau iddo a phob hwyl yn y gwaith. Ond mae Neil yn dweud bod rhaid iddo gael Police Check cyn cael ei dderbyn i'r swydd.

Yr wyf i wedi bod yn ystyried mynd ar gwrs hyfforddi dysgu Cymraeg i oedolion sy'n cael ei gynnig gan Brifysgol Bangor. Rwy'n byw mewn pentref lle mae 30 y cant yn siaradwyr Cymraeg cynhenid, 51% a gwybodaeth o'r Gymraeg, a chefnogaeth gyffredinol i'r iaith Gymraeg gan bawb, ond dim darpariaeth ar gyfer dysgu Cymraeg i oedolion.

Ond mae yna sgerbydau yn y cwpwrdd, yr wyf wedi bod o flaen y rhai sydd yn eu hystyried fel fy ngwell ar tua saith achlysur, ac ar dri achlysur am droseddau go iawn (nid rhai protest). Ydy hynny yn golygu nad oes hawl gennyf i ddysgu'r Gymraeg i oedolion eraill?

Rwy'n gobeithio fy mod wedi dysgu fy ngwers o'm mhrofiadau o flaen y llys, ac o'i ddysgu wedi diwygio, ac o ddiwygio yn gallu cyfrannu i'r gymdeithas.

Ond na! Medd yr awdurdodau, unwaith yn droseddwr gwastad yn droseddwr. Byddwn yn methu'r Police Check, nid oes gennyf hawl i geisio cyfrannu at y gymdeithas.

Gan nad oes modd imi gyfrannu fel dyn gonest diwygiedig i gymdeithas, waeth imi droseddu eto a chael fy nghrogi am follt newydd yn hytrach nag hen oen!

Pa ddiben sydd i drio adfer ymddygiad?

Dryswch Holtham Calman

I ddathlu pen blwydd y glymblaid rhwng Plaid Cymru a Llafur, mae Llywodraeth Cymru'n un wedi lansio comisiwn i archwilio ar y modd y mae Cymru yn cael ei hariannu - Comisiwn Holtham.

Gwych - hen bryd - pob hwyl i'r comisiwn, gobeithio'n wir y caiff llwyddiant.

Ond yn ôl BBC Wales (ond nid BBC Cymru) bydd Comisiwn Holtham yn gyd redeg a chomisiwn Calman.

Comisiwn Calman yw'r corff a sefydlwyd gan wrthbleidiau Senedd yr Alban mewn sbeit ac yn unswydd i geisio tanseilio Llywodraeth leiafrifol yr SNP.

Be ff@#*c, gan hynny, mae corff a sefydlwyd fel rhan o gytundeb llywodraethol sy'n cynnwys Plaid Cymru yn gwneud yn rhoi cyfreithlondeb i gorff a sefydlwyd i danseilio ei chwaer blaid yn yr Alban?



English

08/07/2008

Noblo'r Ffefryn

Dwi ddim yn gwsmer da i siop y bwci. Swllt pob ffodd ar y Grand National neu buntan ar y Loteri yw hyd fy mhrofiad o gyngwystlo.

Er hynny yr wyf yn gwybod bod y bwci yn trefnu'r ods nid ar allu ceffyl i ennill ras, ond ar faint sydd eisoes wedi ei facio, er mwyn sicrhau bod y siop yn ennill ar bob canlyniad. Pe bawn yn rhoi miliwn ar ebol asyn, yr ebol asyn bydda'r ffefryn wedyn ta waeth am ei obeithion o ennill.

Nid ydwyf erioed wedi rhoi bet ar ganlyniad etholiad. Pe bawn yn gwneud hynny mae'n debyg y byddwn yn rhoi fy mhres ar yr un nad oeddwn am ennill, er mwyn cael cysur o weld fy mhleidiol un yn colli. Os yw'r SNP yn ennill yn Nwyrain Glasgow, bydd hynny yn wobr ddigonol i mi. Bydd enillion ar fet £10 i Lafur yn help i liniaru'r gost o foddi gofidiau!

Dyma paham nad ydwyf yn iawn ddeall yr obsesiwn, bron, sydd gan ambell i sylwebydd gwleidyddol ar bwy mae'r bwci yn cyhoeddi'n ffefryn etholiadol. Mae barn y bwci wedi ei selio ar faint o arian sydd wedi eu gosod, a dim oll i wneud a barn yr etholwyr.

Oes yna unrhyw un mewn unrhyw etholaeth yn newid ei bleidlais ar sail ods y bwci? Roeddwn wedi meddwl pleidleisio i'r Torïaid ond gan fod y Blaid bellach ar 3/2 rwyf wedi newid fy meddwl!

Ta waeth, pe bai pobl yn cael eu dylanwadu gan brisiau'r bwci, gallasid gwyro canlyniadau etholiadau trwy i'r rhai sydd ag arian i losgi bacio asynnod.

Mae'r Herald yn awgrymu bod hyn, yn wir, yn digwydd yng Nglasgow:

But don't place your money until you hear the apocryphal tale of the election agent encountered in the street during one campaign with a large wad of banknotes protruding from his sports jacket.

His plan was simple. Having collected £1000, a sizeable sum, from committed supporters, he was hotfooting it to the local betting shop to skew the odds so wildly that there could be no comeback for the opposition. It was one week out from the vote and the agent reckoned timing was everything. He was right - once the money was over the counter all bets were off and the agent's man was the bookie's surefire winner.


Beth yw'r “pris” ar ddemocratiaeth lawr yn siop y bwci?


English Translation

07/07/2008

Cywilydd Flynn

Bydd isetholiad dwyrain Glasgow yn un bwysig. Ar y naill ochor mi fydd yn fesur o ba mor amhoblogaidd yw llywodraeth Gordon Brown. Os na all y Blaid Lafur dal ei gafael ar sedd mor draddodiadol gadarn i'r blaid a hon yn ardd gefn Mr Brown mae ei ddyddiau fel Prif Weinidog yn brin iawn. Ar y llaw arall bydd yr is-etholiad yn fesur o boblogrwydd llywodraeth Alex Salmond. Bydd gwneud marc mewn llefydd fel Glasgow yn hanfodol os yw Salmond am ennill llywodraeth fwyafrifol yn 2011 ac am lwyddo efo'i refferendwm ar annibyniaeth.

Does dim rhyfedd felly bod y frwydr un un galed ac am fod yn un fudur hefyd mae'n debyg. Er hynny rwyf wedi fy siomi ar yr ochor orau o ddarllen y blogiau a'r sylwadau ar safleoedd papurau newyddion yr Alban bod neb, hyd yn hyn wedi troi at y sectyddiaeth ffiaidd sydd wedi bod yn rhan mor annymunol o wleidyddiaeth y ddinas yn y gorffennol.

Siom felly oedd darllen blog Cymreig a chanfod bod y fath baw yn cael ei grybwyll gan un o'n ASau ni, Paul Flynn:

But there is deep reassuring loyalty from the ‘Labour until I die’ folk of Glasgow. There are more of them in this constituency than anywhere else in Scotland. Religion may be a factor with a Baptist SNP candidate and a Labour one with an Irish name.


Cywilydd!

04/07/2008

Beicio'n Borcyn a Thyfu Tatws yn Saesneg!

Dwi ddim yn fawr o arddwr, nid oes gennyf fawr o ardd. Ond rwy'n gwylio'r rhaglen Byw yn yr Ardd oherwydd bod Beth Gwanas yn hen ffrind ysgol imi (ie, coeliwch chi byth ond mae hi bron mor hen â hen rech flin!).

Ond wedi gwylio'r rhaglen neithiwr dwi dal yn methu deall be sydd gan feicio yn noethlymun o amgylch Caerdydd i wneud efo tyfu moron mewn bwthyn yn Rhydymain; na pham bod pob ymgais i cael linc i'r rhaglen Byw yn yr Ardd yn mynd at dudalen Saesneg??

26/06/2008

Cyngwystl Amgylcheddol Pascal

Mae 'na wrthdaro difyr ar yr amgylchedd rhwng dau flog Cymreig ar hyn o bryd.

Ar y naill ochor mae Paul Flynn A.S. Yn dadlau yn groch o blaid gwneud pob dim i geisio atal cynhesu byd eang. Mae'r AS yn cyhuddo'r rhai sydd ddim yn credu mewn cynhesu byd eang o fod yn wadwyr sydd yn tanseilio ymgais i achub y byd rhag trychineb.

Ar y llaw arall mae'r Ddraig Sinigaidd yn cyhuddo Mr Flynn o derfysgaeth trwy godi ofnau ar bobl ar gefn propaganda di-sail.

Mae'r ddau yn cyflwyno eu dadleuon gydag arddeliad ac angerdd. Mae'r ddau yn cyflwyno pwyntiau dilys a'r ddau yn cefnogi eu hachosion ar sail yr hyn y maent yn galw gwyddoniaeth gadarn.

Mae'n anodd dewis pa ochr i gefnogi, yn arbennig i un fel fi sy ddim yn deall llawer o'r dystiolaeth wyddonol gan y naill ochor na'r llall.

Un ffordd o ymdrin â'r cyfyng gyngor yw trwy addasu Cyngwystl Pascal:

Os ydym yn gwrthod y dadleuon bod llygredd dynol yn achosi cynhesu byd eang ac yn gwneud dim, ond yr ydym yn anghywir, bydd y canlyniad yn drychinebus i'r byd.

Ond os ydym yn derbyn bod llygredd dynol yn achosi cynhesu byd eang ac yn gweithredu i'w lleihau, pa ots os ydym yn anghywir yn y pen draw? Bydd yr ymdrechion i leihau llygredd ac i lanhau'r byd yn llesol ta waeth.


Translation

Guto Drwg

Mae yna stori ddiddorol am Guto Harri, y newyddiadurwr Cymreig a ffrind gorau Boris Johnston, ar Flog Kezia Dugdale.



Translation

23/06/2008

Blog Elfyn

Braf yw gweld Elfyn Llwyd AS yn ymuno a byd y blogwyr. Mae'n debyg mae blog dros dro bydd gan yr Aelod dros Ddwyfor Meirion, tra pery ei ymgeisyddiaeth dros lywyddiaeth Plaid Cymru.

Siom ta waeth yw nad oes modd gosod sylwadau ar y blog. Rwy'n dallt y broblem o sylwadau hurt gallasai blog o'r fath ei denu ac yn deall pam na fyddai Elfyn yn dymuno gadael i sylwadau o'r fath amharu ar ei ymgyrch. Ond heb y gallu i roi sylw does dim modd i gefnogwyr llawr gwlad mynegi eu cefnogaeth a does dim modd i'r aelodau ansicr gofyn cwestiynau dilys i'r ymgeisydd..

Chwilia am yr opsiwn gwirio sylwadau ar dy ddasfwrdd, Elfyn, os wyt am i'r flog bod yn ffordd i bontio efo aelodau cyffredin y Blaid!

11/06/2008

Cyflwr yr Undeb

Llongyfarchiadau i Sanddef af ei flog Cyflwr yr Undeb. Dyma enghraifft o fyd y blogiau yn cynnig gwasanaeth unigryw sydd ddim ar gael gan y cyfryngau traddodiadol, sef adroddiadau rheolaidd trwy lygad Cymro o'r pethau pwysig sy'n digwydd yn yr Undeb Ewropeaidd.

06/06/2008

Dolen Frenhinol Ddiangen

Mae Dolen Cymru yn elusen wych. Fe'i sefydlwyd tua chwarter canrif yn ôl gan y cenedlaetholwr Dr Carl Clows i brofi bod modd i wlad fach fel Cymru cael effaith werth chweil ar lwyfan y byd trwy efeillio Cymru a gwlad o faint cyffelyb yn y byd sy'n datblygu.

Does dim ddwywaith bod y ddwy wlad yn y ddolen wedi cael bendith o'r cyswllt.

Un o'r bendithion mae o wedi rhoi i Gymru yw ei fod yn “achos cenedlaethol” sydd wedi uno'r genedl. Mae'n cael ei weld fel achos gwerth chweil gan y de a'r chwith, gan genedlaetholwyr a gan unoliaethwyr. Mae Merched y Wawr a'r WI, yr Urdd a'r Sgowtiaid, cymunedau gweledig a chymunedau trefol, oll wedi dangos brwdfrydedd cyffelyb dros yr achos.

Pam, felly, bod yr elusen wedi dewis dryllio'r undod yma trwy wahodd y Tywysog Harri i fod yn noddwr i'r elusen? Heb y nawdd brenhinol doedd yr achos ddim yn un gwrth frenhinol, roedd yn elusen gyffredin, fel nifer o rhai cyffelyb.

Efo'r nawdd newydd sy'n cael ei ddathlu heddiw mae Dolen Cymru wedi troi o achos sy'n uno'r genedl i un sy'n gwahanu’r genedl.

Beth bynnag eich barn am y frenhiniaeth mae'n rhaid derbyn ei fod yn achos sy'n rhannu yn hytrach nag uno Cymru. Mae rhai yn caru'r holl rwysg ac yn caru'r sefydliad mae eraill yn ei chasáu a chas perffaith.

Beth bynnag fo'r achos o blaid neu yn erbyn y frenhiniaeth, be oedd diben tynnu'r fath dadl i mewn i Ddolen Cymru?

01/06/2008

Protest Eisteddfodol

Cynhaliwyd Cymanfa Ganu i gloi wythnos Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy yng Nghapel Seion, Llanrwst heno. Aeth tua 800 o eisteddfodwyr i'r gymanfa. Yr wyf wedi cyfeirio at Gapel Seion, Llanrwst mewn post blaenorol.

Dyma'r capel a benderfynodd wneud tenant tŷ’r capel yn ddigartref dros gyfnod y Nadolig llynedd.

Heddiw aeth y cyn denant ati i gynnal protest am ei gamdriniaeth, wrth i bobl cyrraedd Seion ar gyfer y gymanfa. Er bod protest eisteddfodol yn rhan o draddodiad Cymru bellach, dyma gredaf yw'r tro cyntaf i brotest cael ei gynnal mewn cymanfa ganu. Cafodd Myfyr, y cyn denant, cefnogaeth a chroeso cynnes gan y rhan fwyaf o'r cymanfawyr.

Dyma rhai lluniau o'r brotest un dyn.


Galwyd yr heddlu gan un o'r blaenoriaid i geisio atal y brotest.




Hywel Gwynfryn yn holi Myfyr am ei brotest.


"Hen Flaenoriaid Creulon Cas yn Mynd i Seion heb ddim gras ac yn troi tenant y ty capel allan o'i gartref - dyna ichi gristionogion" yw'r geiriad ar y bwrdd.

28/05/2008

Efo Ffrindiau fel hyn....

Pob tro y bydd Radio Cymru neu S4C yn chwilio am lais i siarad dros Gristionogaeth Gymreig, maen nhw'n galw ar y Parch Aled Edwards OBE, prif weithredwr CYTÛN

Bron yn ddieithriad bydd Aled yn lladd ar yr Efengyl Gristionogol draddodiadol ac yn ochri gyda'r anghredinwyr a'r sawl sydd am blygu glin i Bâl, o dan y camargraff bod eangfrydiaeth a chynhwysedd yn rhinweddau Cristionogol, a bod Na fydded iti dduwiau eraill ger fy mron i yn syniad cyfyng hen ffasiwn.

Pe na bai hynny yn ddigon drwg, fe ymddengys bod Aled yn casáu ei gyd Cristionogion gymaint, fel ei fod am ymarfer defodau'r grefydd Fwdw yn eu herbyn; yn parchu ymgais Herod i ladd y Crist trwy lofruddio plant bach diniwed ac yn cydymdeimlo a thrais Nero yn erbyn yr eglwys fore. Ac mae ganddo fwy o barch at gyd gefnogwyr Man U, na sydd ganddo tuag at ei gyd Gristionogion.

Efo dyn o'r math yn brif lais cydweithrediad yr eglwysi Cymreig a oes syndod bod capeli yn cau?

Gyda llaw nid enllib yn erbyn y dyn yw'r sylwadau hyn, dim ond ail adrodd yr hyn y mae o wedi cyfaddef ar ei flog!

26/05/2008

Hedfan

Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd rhan yn y sioe Hedfan. Sioe Ysgolion Uwchradd Eisteddfod yr Urdd eleni. Rwyf wedi gweld nifer o sioeau eisteddfodol yn fy nydd, yn sicr roedd hon ymysg y goreuon.

Roedd Tomos Wyn, Dwysan Lowri, Elgan Llŷr Thomas a Rhys Ruggiero yn sefyll allan fel sêr y bydd Cymru yn sicr, a'r byd tu hwnt o bosib, yn dod i glywed llawer mwy amdanynt yn y dyfodol.

Roedd llawer mwy o dalent yn cael ei arddangos yn y sioe unigol hon nac a ddangoswyd yn y cyfan o sioeau Prydeinllyd Mr Cowell.

Roedd fy meibion, Rhodri a Deiniol, hefyd yn rhan o'r sioe ac yn gwneud fi mor browd o fod yn dad iddynt. Da iawn hogiau - a phawb arall oedd yn gysylltiedig â'r sioe - am noson wych o ddawn ac adloniant.

24/05/2008

Hys-bys i Siôn Ffenest

Ymysg y danteithion a datgelwyd trwy ryddhau manylion am gostau aelodau seneddol yw bod Barbara Follett, AS Llafur Stevenage a gwraig yr awdur Cymreig Ken Follett wedi hawlio £1,600 am olchi ffenestri ei fflat yn Llundain. Mae'n debyg bod y ffenestri wedi eu golchi 18 gwaith mewn blwyddyn am gost o £94 y tro.

Gai awgrymu bod Ms Follett yn cysylltu â Siôn Ffenest, golchwr ffenestri Glan Conwy, sy' ddim ond yn codi £4.50 y tŷ!

21/05/2008

e-Ddeiseb y Cynulliad

Yn ei phost diweddaraf mae Bethan Jenkins AC yn tynnu sylw at safle e-ddeiseb y Cynulliad, ac yn rhoi sicrwydd inni y bydd llywodraethwyr Cymru yn rhoi mwy o sylw i ddeisebau o'r fath na mae llywodraethwyr San Steffan yn rhoi i'w safle deisebau hwy.

Dyma rest o'r deisebau sydd yn agored a hyn o bryd:

Petition to stop the fluoridation of the public water supplies in Wales

Petition to upgrade a roundabout in Morriston, Swansea, to traffic lights

Petition to abolish the Cleddau Bridge tolls

Petition for the Welsh Assembly Government to provide Cysgliad for free

Petition against Castle Care Home in Seven Sisters

Petition for funding a pilot psychological traffic calming scheme

Petition to introduce a Welsh honours system

Petition to improve the safety of a car park at St. Illtyd Primary School in Llantwit Major

Petition for more funding for the Foundation Phase Programme

Fel y gwelwch Saesneg yw iaith yr holl ddeisebau, gan gynnwys yr un i ofyn am ddarparu Cysgliad am ddim. Hwyrach bod angen deiseb newydd yn galw ar lywodraeth y Cynulliad i sicrhau bod pob deiseb yn cael ei gyhoedd yn y Gymraeg!

16/05/2008

Pethau sy'n mynd dan fy nghroen #2

Yn ôl arwyddion ar draws y plwy 'ma, ceir ddirwy o fil o bunnoedd am ganiatáu i gi baeddu mewn lle cyhoeddus, os na chodir y cac gan berchennog y ci.

Rheol dda, mae baw ci yn ych ac yn ffiaidd. Mae baw ceffyl yr un mor ych ac yr un mor ffiaidd â baw ci, ond bod lwmpyn y ceffyl tua dengwaith mwy na chynnyrch ci bach.

Prin y gwelir baw ci ar y lon tu allan i'r tŷ 'ma, gan fod ceidwaid cŵn yn cadw at y rheolau ac yn codi pob cachiad. Ond mae'r lon yn drewi o gachu ceffylau.

O roi dirwy i berchennog ci am beidio a glanhau baw ar ôl yr anifail, oni ddylid rhoi mwy o ddirwy i berchenogion ceffylau am ganiatáu i'w hanifeiliaid hwy baeddu heb i'r perchenogion glanhau ar eu holau?

15/05/2008

Pethau sy'n mynd dan fy nghroen #1

Newydd fod i siop leol, lle'r oedd yr hogan ar y til yn mynnu pacio fy magiau plastic.

Er mwyn hwyluso agor pob bag roedd hi'n llyfu ei bysedd – ych a fi!

Nid ydwyf yn dymuno cael poer dieithryn ar hyd fy neges, diolch yn fawr!.

Mae'n rhaid bod y fath ysglyfaethdra yn groes i bob deddf iechyd a diogelwch. Pam felly, ei fod yn digwydd mewn siopau o bob maint?

11/05/2008

Eglurhad o'r Alban

Os wyt wedi drysu efo'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban ar hyn o bryd rhwng Llafur a'r SNP - Dyma eglurhad!

02/05/2008

Dafydd Iwan a Dic Parri allan?

Yn ol y son mae Dafydd Iwan, llywydd y Blaid a Dic Parri arweinydd y Blaid ar Gyngor Gwynedd i'll dau wedi colli eu seddi ar Gyngor Gwynedd i Lais Gwynedd

Mae fy nai, Gethin Williams o Lais wedi curo fy hen gyfaill Peredur Jenkins o'r Blaid yn ardal gwledig Dolgellau.

01/05/2008

Roedd Nain yn Iawn

Pe bawn, wrth ymweld â fy niweddar nain yn y Bermo, yn gadael bwyd ar y plât heb ei fwyta bydda hi'n fy nwrdio gan ddweud bod gwastraffu bwyd fel bwydo'r Diafol. Byddwn yn chwerthin ar ei hagwedd hen ffasiwn wirion.

Yn ôl blog Paul Flynn AS

“Half the food produced in the UK is wasted. If waste could be used across Europe for energy generation, the continent would no longer need gas from Russia”

Yn bwysicach byth bydda ddefnyddio gwastraff bwyd i greu ynni yn lleihau'r angen am do newydd o orsafoedd pŵer niwclear.

Hwyrach bod nain yn llygad ei lle wedi'r cyfan!

23/04/2008

Post di-enw

Mae 'na ambell i flogiwr sy'n credu bod y Royals yn cael gormod o sylw ar y teledu. Mae gan y dyn pwynt, am wn i. Ond gellir dadlau nad ydynt yn cael hanner y sylw dylid rhoi iddynt. Er enghraifft pa bryd glywsoch enw mab hynaf Twm Bontnewydd (Arglwydd Eryri) yn cael ei grybwyll ar y newyddion diwethaf?

19/04/2008

Dydy byddardod ddim yn Jôc - Jac!

Hwyrach bod y cylchgrawn Golwg yn credu bod y ffaith nad oes modd i bobl drom eu clyw cael defnyddio system lŵp mewn cyfarfodydd lle mae cyfieithu ar y pryd yn digwydd yn rhywbeth digon doniol i gynnwys mewn colofn dychan.

Fel Cymro Cymraeg, eithriadol drwm fy nghlyw, dwi ddim yn gweld y jôc. Os ydwyf am fynychu cyfarfod cyhoeddus mae'n rhaid imi ddibynnu ar system lŵp i wybod be sy'n cael ei ddweud. Oherwydd anghenion cyfieithu rwy'n cael fy amddifadu o'r hawl i fynychu cyfarfodydd cyhoeddus lle mae offer cyfieithu yn cael eu defnyddio. O fynychu cyfarfod o'r fath y gwasanaeth sydd ar gael i mi yw clywed dim sy'n cael ei ddweud yn Saesneg a chlywed cyfieithiad o'r hyn sy'n cael ei ddweud yn y Gymraeg.

Ers 18 mlynedd, bellach, rwyf wedi bod yn cwyno am y broblem yma. Da oedd gweld sylw yn cael ei roi i'r broblem mewn cylchgrawn cenedlaethol am y tro cyntaf. Ond siom oedd darllen y sylw yna yng ngholofn Jac Codi Baw yn hytrach nag mewn erthygl difrifol.

27/03/2008

Madog a Merica

Wele’n cychwyn dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg;
Wele Madog ddewr ei fron,
Yn gapten ar y llynges hon.
Mynd y mae i roi ei droed,
Ar le na welodd dyn erioed:
Antur enbyd ydyw hon,
Ond Duw a’i dal o don i don.

Hwyrach nad oes fawr o sail hanesyddol pur i hanes Madog ab Owain Gwynedd yn canfod America (ac yn bwysicach byth yn cofio lle 'roedd o'r ail waith), ond mae myth Madog yn rhan bwysig o hanes a diwylliant Cymru a'r Amerig.

Madog oedd hawl y Brenhinoedd Tuduraidd (etifeddion Owain Gwynedd) i Ogledd yr America, heb yr hawl yna galasa hanes America a Phrydain 'di bod yn dra gwahanol. Dychmyga'r Amerig heb ei chyn hanes Prydeinig neu'r Ymerodraeth Brydeinig pe na bai Gogledd yr Amerig wedi bod yn rhan ohono!

Ym 1953 gosodwyd plac i gofio am Madog ym Mobile Bay, Alabama, lle tybiwyd y glaniodd Madog. Yn anffodus mae'r Plac wedi ei dynnu o na yn niweddar oherwydd bod y safle, Fort Morgan (a enwyd ar ôl Gymro), yn safle o bwys hanes milwrol yr UDA.

Mae Cymdeithas Cymry Alabama am i'r plac cael ei roi yn ôl yn ei le. Mae 'na ddeiseb ar lein i gefnogi eu hymgyrch. Manylion pellach yma:

Cymdeithas Cymry Alabama

22/03/2008

Y Blaid Boblogaidd

Mae rhywun yn swyddfa Plaid Cymru, sydd heb ddim byd gwell i'w gwneud mae'n debyg, wedi bod yn cadw cyfrif o faint o ymddangosiadau teledu mae aelodau o'r Cynulliad wedi eu gwneud ers mis Mai diwethaf. Dyma’r Siart:

Rhodri Morgan: 211
Ieuan Wyn Jones: 188
Elin Jones: 73
Rhodri Glyn Thomas: 59
Edwina Hart: 55
Jane Hutt: 35
Jane Davidson: 27
Carwyn Jones: 24
Brian Gibbons: 22
Andrew Davies: 16

Arwydd o lwyddiant y Blaid, medd llefarydd, yw'r ffaith bod gweinidogion Plaid Cymru ar y brig. Byddid disgwyl i'r Prif weinidog a'i ddirprwy bod yn y safle cyntaf a'r ail safle. Ond cyn clochdar bod Elin Wyn Jones yn y trydydd safle a Rhodri Glyn yn y bedwaredd mae'n rhaid cofio pam bod nhw mor "boblogaidd". Yn achos Elin dau drychineb ym maes amaeth sy'n gyfrifol: clefyd y tafod glas a chlyw’r traed a'r genau. Bu Rhodri ar y bocs yn amddiffyn nifer o benderfyniadau anffodus megis gorfod talu miliynau i achub Canolfan y Mileniwm ac amddiffyn y ffaith bod y llywodraeth wedi torri addewid parthed papur dyddiol.

Nid da yw pob ymddangosiad ar y sgrin fach!

21/03/2008

Atgyfodi Cymru Annibynol?

Wrth fynd trwy hen bapurau cyn eu rhoi i'r bin ailgylchu does ar draws llythyr yn y Daily Post dyddiedig Dydd Llun Mawrth 17 2008. Llythyr a methais ei ddarllen ar y diwrnod.

Mae'r llythyr yn un gan W Jones, Nantperis yn gofyn am bobl i gynnig eu henwau fel ymgeiswyr i Blaid Cymru Annibynnol / WIP i sefyll yn wardiau Tremadog, Bethel, Aberdaron, Morfa Nefyn, Nant Llanystumdwy a Llanrug.

Roeddwn yn credu bod CA/IWP wedi hen farw bellach - ydy'r llythyrwr yma o ddifri bod y blaid wedi ei hatgyfodi ac yn chwilio am ymgeiswyr go iawn? Ynteu jôc neu dric dan din sydd yma er mwyn corddi dipyn mewn wardiau lle mae Llais Pobl Gwynedd yn bwriadu sefyll?

29/02/2008

Amser lladd lol y refferendwm

Yn ystod trafodaethau clymblaid y Cynulliad ym Mis Mai a Mehefin llynedd y cwestiwn tyngedfennol oedd y gobaith am refferendwm am bwerau ychwanegol i'r Cynulliad.

Teg dweud fy mod yn gwrthwynebu refferenda, ar unrhyw bwnc, heb fodolaeth Deddf Refferendwm Cyffredinol. Mae'r syniad bod refferendwm yn cael ei galw ar fympwy llywodraeth yn wrthun i mi. Os yw refferenda am gael eu defnyddio fel ffordd o dderbyn barn y cyhoedd fel rhan o'n system llywodraethu yna mae'n rhaid wrth sbardun cyfreithiol i'w galw yn hytrach na mympwy plaid y llywodraeth.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn cynnwys sbardun galw refferendwm sy'n gymhleth iawn:

Os yw 41 allan o 60 o aelodau'r Cynulliad yn pleidleisio o blaid refferendwm,
Ac mae Ysgrifennydd Cymru yn cytuno
Ac mae Tŷ'r Cyffredin
A Thŷ'r Arglwyddi yn gytûn hefyd
Yna mi fydd yn fater i'r Cyfrin Gyngor penderfynu!

Democracy in Action!

Lol i ddal Gymru'n ôl yw'r holl gachu refferendwm yma!

Pe bai refferendwm yn cael ei gynnal fory a phawb yn pleidleisio NA, bydda bob grym Deddf 2006 ar gael i'r Cynulliad, ta waeth, trwy'r system LCO; sy'n golygu bod y cymal refferendwm yn afraid.

Onid ydy'n hen bryd i genedlaetholwyr a datganolwyr dweud naw wfft i'r refferendwm a chychwyn ymgyrch am annibyniaeth neu, o leiaf, y cam nesaf ar daith esblygiad datganoli yn hytrach na pharhau i chware gem gwirion y refferendwm afraid?

26/02/2008

Ffon Bagl Grantiau

Tua dwy flynedd yn ôl dechreuodd fan y Royal Banc of Scotland parcio tu allan i'r tŷ 'cw am awron neu ddau bob pnawn Gwener. Eu dewis lle oedd y lle mae'r wraig yn arfer parcio ei char. Roedd deiliaid fan y RBS yn gwneud dim ond bwyta brechdanau ac yn yfed te o fflasg yn ystod eu hoe yn lle parcio ni.

Dyma gwyno:

A oes raid i bobl yr RBS parcio yn lle ni o hyd o hyd i fwyta eu brechdanau?

Oes! Daeth yr ateb. Nid parcio i fwyta eu brechdanau ydynt, ond parcio er cynnig gwasanaeth bancio gwledig, dan nawdd grantiau Ewropeaidd y Cynulliad!

Gwych! Rwy'n fodlon ildio'r lle parcio am gynllun mor glodwiw!

Ond eto, deunaw mis ar ôl yr eglurhad does neb wedi mynd at y cerbyd i dderbyn gwasanaeth bancio gwledig, a does neb o'r cerbyd wedi dod ataf fi i, na neb arall yn y stryd, i ddweud pa wasanaethau bancio gwledig sydd ar gael!

Mae'n ymddangos imi mae ffug wasanaeth, er mwyn ennill grant yn unig, sy'n cael ei gynnig gan fan yr RBS, nid gwasanaeth gwledig go iawn. Ac mae'n rhaid gofyn: be di diben miliynau o bunnoedd o nawdd Ewropeaidd Amcan Un, os mae sioe, a lle panned a brechdan yw eu hunig ganlyniadau, yn hytrach na rhywbeth sydd yn hybu gwasanaethau gwledig go iawn?

Onid oes gormod o ddiwylliant grantiau er mwyn grantiau yng Nghymru bellach, yn hytrach na diwylliant grantiau er wella Cymru go iawn?

Grant am Eisteddfod, grant am bapur newyddion, grant am lyfrau, grant am fan i sefyll yn stond tu allan i dŷ'r Hen Rech Flin - be di'r gwahaniaeth?

Os ydy Cymru a'r Gymraeg am lwyddo mae'n rhaid iddynt sefyll ar eu dwy droed, ac o ddefnyddio grantiau, eu defnyddio fel modd i osod yr hen wlad ar ei draed yn hytrach na'u defnyddio fel ffon bagl o esgus am dlodi a dibyniaeth barhaus!

24/02/2008

Gwna fi'n Sgotyn!

Mae nifer o drefi a phentrefi Seisnig ar y ffin rhwng Lloegr a’r Alban yn cefnogi symud y ffin er mwyn eu gwneud yn Sgotiaid, o ganlyniad i lwyddiannau llywodraeth lleiafrifol yr SNP ers mis Mai diwethaf, yn ôl y Sunday Express

Gwelaf dim bai arnynt, mae llywodraeth Alex Salmond wedi bod mor llwyddiannus fel fy mod i bron a bod am ymgyrchu i symud y ffin gymaint i'r de ag i gynnwys Llansanffraid Glan Conwy!

23/02/2008

Fynes-Clinton ar lein

Dim byd i wneud efo gwleidyddiaeth, ond nodyn yr oeddwn wedi bwriadu ei osod ar seiat defnyddio’r iaith Maes-e, ond bod y Maes yn cael trafferthion ar hyn o bryd.

Mae clasur o lyfr Cymraeg , The Welsh vocabulary of the Bangor district, gan O H Fynes-Clinton (1913) bellach ar gael ar lein. Fel mae'r teitl yn awgrymu mae'r llyfr yn astudiaeth fanwl o eirfa Cymraeg Bangor a'r cylch ar droad y ganrif ddiwethaf. Mae'r ceisio cael hyd i gopi printiedig o'r llyfr megis ceisio cael hyd i aur ac yn costio rhywbeth tebyg. Braf yw gweld ei fod ar gael am ddim bellach ar y we.

http://www.archive.org/details/welshvocabularyo00fyneuoft

19/02/2008

Mensh i Ddyfrig

Mae Dyfrig, pen bandit y cylchgrawn Barn yn ymffrostio yn ei bost diweddaraf dwi wedi llwyddo i gael mensh ym mlog Vaughan Roderick.

Twt lol botas, mae Vaughan yn desparet ac yn ddolenni at unrhyw fath o flog.

Dyma anrhydedd go iawn - yr wyt newydd gael mensh ar flog yr Hen Rech Flin!

15/02/2008

Tyngu Llw Cymraeg

Mae gan y North Wales Weekly News, papur wythnosol arfordir y Gogledd, colofn o bytiau bach difyr o'r enw The Insider, colofn debyg i Jac Codi Baw yn Golwg. Yn ei golofn ddyddiedig Chwefror 14 eleni mae'r colofnydd yn nodi bod ymchwil wedi ei wneud i ddefnydd y Gymraeg gan reithgorau yn Llys y Goron Caernarfon. Canlyniad yr ymchwil oedd mai dim ond 9 aelod o 8 rheithgor (cyfanswm o 96 o aelodau) wedi dewis cymryd y llw yn y Gymraeg. (Yn anffodus does dim modd cael hyd i ddolen i'r golofn nac unrhyw ffynhonnell arall i'r stori)

Caernarfon yw'r dref Gymreiciaf yng Nghymru sydd yn cynnal Llys y Goron, er rhaid nodi bod dalgylch y llys yn eang ac yn cynnwys rhai ardaloedd lle mae'r iaith ar ei wanaf . Yn ôl cyfrifiad mae 55% o bobl yn nalgylch y llys yn rhugl yn y Gymraeg a nifer mwy yn gallu rhywfaint o'r Gymraeg.

Gan mae dim ond darllen brawddeg oddi ar gerdyn sydd raid gwneud i dyngu'r llw, prin fod angen rhugledd arbennig yn y Gymraeg ar gyfer y gorchwyl. Os yw adroddiad yr Insider yn gywir mae'r ffaith mae dim ond tua deg y cant o reithwyr Llys y Goron Caernarfon yn dewis defnyddio’r Gymraeg ar gyfer tyngu yn siomedig o isel.

Er fy mod wedi methu cael hyd i ffynhonnell sy'n cadarnhau stori'r Insider, mae ei honiad yn adlewyrchu ymchwil a wnaed llynedd gan Cheryl Thomas a Nigle Balmer ar ran y Weinyddiaeth Cyfiawnder a oedd yn edrych ar gynrychiolaeth lleiafrifoedd ar reithgorau.

Yn ôl Thomas a Balmer siaradwyr Cymraeg yw'r unig leiafrif sydd ddim i'w gweld yn cael eu cynrychioli yn deg ar reithgorau. Yn nalgylch Llys y Goron Caernarfon honnodd 55% o'r boblogaeth eu bod yn rhugl yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2001, ond yng nghyfnod ymchwil Thomas & Balmer dim ond 32% o'r rheithwyr oedd yn honni eu bod yn rhugl yn y Gymraeg. Mae casgliad yr ymchwiliad am y gwahaniaeth yma yn un diddorol.

The census shows that 16.5% of the population in Wales speaks, reads and writes Welsh. However, as Figure 4.31 below shows, this is not reflected in the proportion of those summoned for jury service for Welsh courts who declared that they were fluent in Welsh (6.4%). It may well be that when asked to declare whether they were fluent when there may have been a possibility of having to perform an official function using the Welsh language (jury service), the respondents were less optimistic (or perhaps more realistic) about their level of proficiency in Welsh.


Mae'r anfodlonrwydd yma sydd gan Gymry Cymraeg cynhenid i ddefnyddio'r Gymraeg yn llawer mwy o fygythiad i'r iaith nac ydy'r mewnlifiad. Mae taclo'r broblem yma yn bwysicach na ddeddf iaith, papur dyddiol a choleg ffederal er mwyn sicrhau parhad yr iaith. Mae'n rhaid rhoi pwysau ar Rhodri Glyn i noddi ymchwil drylwyr i ganfod pam bod yna ffasiwn anfodlonrwydd i ddefnyddio'r Gymraeg ymysg siaradwyr cynhenid ac i geisio ffurf i oresgyn y broblem.

11/02/2008

Ewrofision i Gymru?

Newyddion da o lawenydd mawr! Mae'n debyg y bydd Cymru yn cael cystadlu fel gwlad annibynnol yng Nghystadlaeaeth Can Ewrofision o hyn allan. Mae papur newyddion yr Alban, The Herald, yn adrodd bod y corff sy'n gyfrifol am redeg y gystadleuaeth wedi dweud wrth Alyn Smith ASE yr SNP nad oes dim i rwystro'r Alban rhag cystadlu ar ei liwt ei hun. Os nad oes dim i rwystro'r Alban does dim modd bod yna rhwystr i Gymru chwaith.

Therapi Amnewid Nicotin

Mi fûm yn sgwrsio yn gynharach efo cyfaill sydd yn ceisio rhoi'r gorau i ysmygu. Roedd o'n cwyno nad oedd o ddim ceiniog yn gyfoethocach er llwyddo i ymatal ers dros fis bellach. Mae o'n defnyddio clytiau nicotin fel cymorth ac mae'n debyg bod y fath bethau yn hynod ddrud.

Roedd ei gwyn yn fy synnu braidd. Mae clytiau, gwm, mewnanadlwyr ac ati i gynorthwyo rhoi'r gorau i ysmygu ar gael ar bresgripsiwn gan y meddyg teulu. Mae presgripsiynau yng Nghymru ar gael am ddim bellach wrth gwrs, felly does dim rhaid i'r un Cymro talu am Therapi Amnewid Nicotin (TAN).

Gan fod perswadio pobl i stopio smygu yn un o gonglfeini polisi y Cynulliad i wella iechyd Cymru, pam nad yw Llywodraeth y Cynulliad yn hysbysebu'r ffaith bod TAN ar gael yn rhad ac am ddim i bawb sydd ei angen?

05/02/2008

Crempog Super Duper?

Wele'n gwawrio Dydd Mawrth Ynyd, Dydd Mawrth Crempog i rai!

Super Duper Tuseday i'r mwyafrif, ysywaeth!

Be di'r nodwedd wleidyddol bwysicaf i ti am heddiw?

Obama neu Hilary i guro?

Neu fod neb wedi dod i glapio am wy wrth dy ddrws?

Wy, neu Obama/Clinton; Gymro?

Dydd Mawrth Ynyd Cymreig neu ddydd Mawrth wleidyddol Americanaidd yw heddiw i ti?

Os gweli di'n dda gai Glinton
Mae'n ngheg yn grimp am Glinton!


Yw Dydd Mawrth crempog y Cymro Cyfoes!

Pwy bynag sy'n enill y ras cyn etholiadol yn yr UDA heddiw, mae'n amlwg bod traddodiad y Cymro wedi ei golli yn llwyr ymysg halibalw traddodiadau etroniaid!

26/01/2008

Ffobia iaith Murphy

Yn ôl Vaughan Roderick does dim rhaid i ddatganolwyr poeni am y ffaith bod Paul Murphy yn wrthwynebus i ddatganoli. Bydd hynny, yn ôl Golygydd Materion Cymreig y BBC, yn amharu dim a'i allu i gyd weithio a Rhodri Morgan a'r Cynulliad er lles Cymru.

Mae unrhyw un sydd yn disgwyl i Mr Murphy luchio ceisiadau am ddeddfwriaeth i'r bin er mwyn amddiffyn sofraniaeth San Steffan yn cam-ddarllen y dyn. Os oes 'na LCO dadleuol (ac mae'n sicr y bydd na rai) ceisio cyfaddawd rhwng y cynulliad a San Steffan fyddai ymateb greddfol yr ysgrifennydd newydd. Yn unswydd oherwydd ei fod sgeptig fe fydd aelodau seneddol yn fwy pario i wrando arno fe nac ar ei ragflaenydd.

Un o'r LCOau dadleuol bwriedir eu cyflwyno i San Steffan cyn bo hir yw un cynhwysfawr ar ddeddfwriaeth ieithyddol gan Rhodri Glyn. Gan fod hyd yn oed cyfeillion gwleidyddol Paul Murphy yn ddweud ei fod yn casáu'r iaith Gymraeg a'i siaradwyr gymaint bod ei agwedd at yr iaith yn ymylu at fod yn ffobia, nid ydwyf yn rhannu hyder Vaughan.

25/01/2008

St Dwynwen yn ASDA?

Ar dudalen 19 o'r rhifyn cyfredol o'r North Wales Weekly News mae 'na hysbyseb gan gwmni ASDA yn atgoffa pobl mae heddiw yw Dydd Gŵyl Santes Dwynwen.

Gwych, rhagorol, llongyfarchiadau i gwmni rhyngwladol am gydnabod gŵyl Gymreig, ac ati.

Mae'r hysbys yn dangos bwnsiad o rosod ecstra spesial sydd ar gael i'ch cariad am ddim ond £8. Gwin Cymreig Cariad am hanner y pris arferol a chardiau Diwrnod Santes Dwynwen Hapus am £1.20.

Gan fod Diwrnod Santes cariadon Cymru yn digwydd bod yn ben-blwydd fy mhriodas hefyd, dyma ymweld ag ASDA Llandudno er mwyn prynu'r holl nwyddau hyn ar gyfer fy annwyl wraig. Yn anffodus doedd dim un ohonynt ar gael, a doedd gan y bobl yn customer services dim clem am yr hysbyseb, ei hystyr, na'i pherthnasedd i'w siop hwy!

Pum sws gariadus allan o ddeg i ASDA am drio!

Dim hyd yn oed un sws fach ar foch am lwyddo, yn anffodus.!

OND 13 o swsys nwydus iawn i Mrs HRF, un am bob blwyddyn ac am fy nioddef cyhyd! XXXXXXXXXXXXX

19/01/2008

Y Swyddfa Brydeinig

Ers dyfodiad datganoli mae rhai wedi bod yn darogan uno Swyddfa Cymru, Swyddfa'r Alban, Swyddfa Gogledd yr Iwerddon a chyfrifoldeb am ranbarthau Lloegr i un adran newydd o Lywodraeth San Steffan. Mae blog Dizzy Thinks yn awgrymu bod y syniad am gael ei wireddu ar ôl etholiadau mis Mai.

Yr hyn sydd yn ddifyr am y stori y tro hwn yw'r awgrym mae nid Adran y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau (Department of the Nations and Regions) bydd enw'r adran newydd. Mae blog Our Kingdom yn awgrymu bydd yr adran yn dod yn rhan o ymgyrch Brown i bwysleisio Prydeindod trwy gael ei henwi Y Swyddfa Brydeinig (The British Office).

Awgrym tafod mewn boch?

Hwyrach!

16/01/2008

Wigley'n Blogio

Blog newydd ar gael gan Plaid Cymru Bontnewydd, sydd yn cynwys post gan neb llai na'r "Arglwydd" Dafydd Wigley.

Methodistiaid Creulon Cas

Methodistiaid creulon cas
Mynd i'r capel heb ddim gras.


Medd yr hen rigwm.

Bydd y rhai sydd yn darllen y blog yma'n rheolaidd a'r rhai sydd yn darllen fy nghyfraniadau ar Faes e yn gwybod fy mod, fel arfer, yn amddiffynnol iawn o gapeli anghydffurfiol Cymru.

Ond weithiau mae geiriau'r rhigwm yn gywir. Weithiau mae pethau yn codi ym mywyd y capel na ellir eu hamddiffyn. Mi glywais yn niweddar am ddigwyddiad o'r fath. Digwyddiad na ellir dim ond ei gondemnio gan bob Cristion a gan bawb arall sydd â syniad o degwch a chyfiawnder.

Cyfeirio ydwyf at benderfyniad Capel Seion (MC) Llanrwst i ddanfon llythyr twrne at denant tŷ'r capel tridiau cyn y Nadolig yn ei orchymyn i adel ei gartref. Ie pan oedd aelodau'r capel yn dathlu tymor ewyllys dda yr oedd y capel yn dangos y ffasiwn ddiffyg ewyllys dda at ei denant. Pan oedd yr aelodau yn cofio am dristwch y ffaith nad oedd lle yn y llety i Joseff a Mair, roedd y blaenoriaid yn defnyddio cyfreithwyr i ddweud wrth y tenant nad oedd lle yn y tŷ iddo ef.

Ar wahân i ystyriaethau crefyddol roedd amseriad danfon y rhybudd yn gyffredinol dan dîn. Cafodd y tenant y rhybudd yn y cyfnod pan oedd pob ffynhonnell am gymorth a chyngor yn cau i lawr am bron i ddeng niwrnod. Cafodd ei adel i ddathlu'r ŵyl mewn ofn ac ansicrwydd heb yr un man i droi am gyngor.

Mae'r rheswm pam bod y tenant yn cael ei wneud yn ddigartref yn achos o sbeit plentynnaidd.

Ychydig wythnosau yng nghynt rhoddwyd rhybudd i’r tenant bod ei rhent am gael byw yn y tŷ capel am gael ei gynyddu dros 60%. Wedi ei frawychu gan oblygiadau'r fath gynnydd mewn rhent ar ei gyllid tlawd fe aeth at Gyngor Conwy i ofyn am gymorth a chyngor i weld os oedd hawl gan y capel i godi ei rhent mor uchel. Cytunodd swyddog o'r Cyngor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Capel i geisio cymod rhesymol rhwng tenant a landlord. Yn hytrach na chytuno i unrhyw fath o gymod penderfynodd y capel i ddod a'r denantiaeth i ben gan fod y tenant wedi bod mor hy ag i feiddio gofyn am gymorth.

Mae penderfynu taflu dyn o'i gartref tridiau cyn y Nadolig am reswm mor sbeitlyd yn awgrymu bod blaenoriaid Seion yn fwy o ddilynwyr i ddysgeidiaeth casineb Peter Rachman nag ydynt o ddilynwyr cariad Iesu Grist.

Os digwydd i aelod o Gapel Seion Llanrwst darllen hyn o eiriau hoffwn erfyn arnynt i bwyso ar flaenoriaid y capel i ailystyried eu penderfyniad i wneud eu tenant yn ddigartref ac i dderbyn cynnig y Cyngor i gymodi. Mae straeon o'r fath yma yn adlewyrchu yn ddrwg, nid yn unig ar y capel unigol, ond ar y ffydd Gristionogol yn ei gyfanrwydd.

Cysylltu ag Eglwys Bresbyteraidd Cymru

15/01/2008

Blog Gwleidyddol Newydd

Ydy From Amlwch to Magor yn ffordd dda o gyfieithu O Fôn i Fynwy?

Rhowch wybod i'r Hen Ferchetan

Pedr a'r Blaidd Barus

Fe fu Peter Hain a minnau yn gyd dramwyo hen lwybrau dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl pan oeddem ni'n dau, nid yn unig yn ifanc ond yn Rhyddfrydwyr Ifanc. Bellach mae ein llwybrau wedi gwahanu. Mae o wedi teithio'n bell ar draffordd enwogrwydd gwleidyddol y Blaid Lafur tra fy mod i ar goll ar gefnffyrdd dinod cenedlaetholdeb yr asgell de Cymreig.

Er gwaethaf ein gwahanu yr wyf yn dal i barchu'r dyn, ac yr wyf yn methu coelio'r honiadau ei fod bellach yn rhyw fath o sleazeball, llwgr, dan dîn.

Er gwaethaf fy ymddiriedaeth yn fy atgofion hoff o'r dyn, does dim ddwywaith ei fod o wedi methu datgan cyfraniadau enfawr i'w ymgyrch i fod yn is arweinydd Llafur. Cyfraniadau dylid wedi eu datgan o dan y drefn sydd ohoni.

Er degwch i Peter, ers iddo ganfod bod llwyth enfawr o faw ar ei aelwyd y mae o wedi bod yn onest ac yn agored parthed ei fodolaeth. Y mae o, hefyd, wedi cydnabod mae ef sydd yn gyfrifol am y baw gan mae ar ei aelwyd ef ydyw, er nad y fo a'i gosododd yna yn y lle cyntaf.

Mae modd i Peter oresgyn y broblem a derbyn dim mwy na chwip dîn bach am ei gamwedd, os ydyw yn parhau a'i agwedd agor a gonest parthed y broblem. Y perygl mwyaf i Hain yw cyfeillion yn ceisio gwneud cymwynas iddo trwy geisio sgubo'r baw dan y carped a phwyntio bys at eraill.

10/01/2008

Blogiau o Gernyw

Dau ( neu ddwy? Cwestiwn i'w gofyn ar Faes-e) Flog sy'n trafod yr ymgyrch genedlaethol yng Nghernyw sydd werth eu gosod ar eich darllenydd yw:

Cornish Democrat. Blog cyfansawdd sydd yn ymdrin â nifer o agweddau o'r sin gwleidyddol yng Nghernyw ac yn cyhoeddi nifer o ddatganiadau gan y Gyngres Geltaidd.

Y Cyng. Dick Cole yw arweinydd Plaid Genedlaethol Cernyw, Mebyon Kernow (Meibion Cernyw) ac yn un sydd yn gwybod o iawn brofiad pa mor ddau wynebog mae'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn gallu bod o gymharu eu hagwedd tuag at Gernyw a'r Gernyweg a'r ffug gefnogaeth y maent yn rhoi i Gymru a'r Gymraeg.

Gan nad ydwyf yn ddeall mawr dim o'r Llydaweg na'r Ffrangeg rwy'n cael anhawster cael dolenni at yr ymgyrch cenedlaethol ac ieithyddol yn Llydaw. Os oes darllenydd mwy amlieithog nag ydwyf i yn gwybod am rai, mi fyddwn yn falch o'u cael er mwyn eu gosod yn y golofn ochor.

09/01/2008

Gwleidydd neu Athrawes?

Os ydy'r hen air yn wir does dim o'r fath beth a chyhoeddusrwydd drwg, mae datganiad diweddaraf Miss Jones bod cau ysgolion Gwynedd yn ddrwg yn sicr wedi codi proffil athrawes Ysgol Llan, nid yn unig yn Eco'r Wyddfa a'r Cambrian News ond trwy Gymru benbaladr.

Yn amlwg mae yna wahaniaeth barn ynghylch proffil cyhoeddus Miss Jones, ond yn y ddadl parthed cynnwys ei sylwadau diweddaraf ymddengys ein bod wedi methu peth sylfaenol.

Hwyrach bod gwerth yn ei barn ar gau ysgolion a diffyg gwerslyfrau, ond parthed ei swydd fel athrawes bydda nifer yn awgrymu mae ei gwaith hi yw peidio â bod yn wleidydd ond i ddysgu plant ei dosbarth mewn ffordd effeithlon ac effeithiol.

Cyn belled a bod ei swydd fel athrawes dosbarth dan sylw, nid matter ffilosoffig mo hwn, pa faint bynnag mae hi'n ceisio ei wneud felly. Y maen matter o weithio o fewn polisïau addysg fel ag y maent yn sefyll ac, yn bwysicach byth, i beidio â thanseilio'r polisïau hynny trwy'r fath sylwadau, faint bynnag y mae hi'n anghytuno a nhw.

Hwyrach ei bod hi'n dechnegol gywir wrth ddweud bod cau ysgolion bach am danseilio addysg Gymraeg, ond nid dyna'r pwynt. Y gwir yw mai cau ysgolion yw polisi Awdurdod Addysg Gwynedd - atalnod llawn.

Hwyrach bod angen dadl ar gau ysgolion, ond nid ei gwaith hi yw ei greu nac i'w cyfrannu tuag ati. Mae'r gwir achos yma un un parthed rôl yr athrawes yn y dosbarth.

Hwyrach bod ganddi farn radical sydd angen ei drafod mewn fforwm cyhoeddus, hwyrach ei bod yn credu bod polisïau addysg y sir yn hurt. Ond creu polisïau addysg yw gwaith y cynghorwyr etholedig nid hi! Os ydy Miss Jones am daflu ei het i'r cylch gwleidyddol yn y dyfodol mi gaiff gwneud ei chyfraniad ar yr adeg yna, yn y cyfamser ei swyddogaeth yw gweithredu polisïau’r Awdurdod Addysg.

Bydd gwneud fel arall a pharhau a'i hymgyrch bersonol i wella safon addysg ei disgyblion, fel y mae hi'n gwneud trosodd a thro yn tanseilio, nid yn unig ei safle hi, ond safle pob athro dosbarth trwy'r sir.


Nodyn
Rhaid cydnabod rhywfaint o len ladrad yn y post yma. Yr wyf wedi ei godi oddi wrth blog Yr Athro Dylan Jones Evans, ond wedi cyfnewid sylwadau'r Athro am Brif Gwnstabl Gogledd Cymru i greu sylwad tebyg am wasanaethydd cyhoeddus arall. Mae nifer o wleidyddion a phapurau newydd a sylwebyddion wedi gwneud sylwadau tebyg i rai Dylan am y Brif Copyn. Am ryw reswm dydy'r sylwadau 'ma ddim yn swnio mor "rhesymegol" o’u addasu i sôn am weithwyr cyhoeddus eraill, megis athrawesau, meddygon na hyd yn oed arbenigwyr academaidd ein prifysgolion!

05/01/2008

Ysgolion Conwy - problem arall i'r Blaid?

Yn dilyn yn ôl traed Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi ei fod am gynnal adolygiad o'i ddarpariaeth addysg gynradd. Mae'r cyngor yn poeni bydd hyd at 3,000 o lefydd gwag yn ysgolion y sir erbyn y flwyddyn 2012, sef bron i dreian y llefydd sydd ar gael ar hyn o bryd.

Yn wahanol i Wynedd dydy Conwy heb ddarparu rhestr o ysgolion sydd dan fygythiad cael eu cau neu eu hadrefnu, ond yn amlwg bydd yr ardaloedd gwledig yn debycach o gael eu heffeithio yn llymach na'r ardaloedd poblog arfordirol. Yr ardaloedd gwledig, fel Nant Conwy, yw'r ardaloedd lle mae Plaid Cymru ar ei gryfaf. Er nad yw'r Blaid yn rheoli yng Nghonwy megis yng Ngwynedd mae hi'n rhan o'r glymblaid sydd yn rheoli. Gan hynny fe all y broses adrefnu ysgolion yng Nghonwy profi mor niweidiol a rhanedig i Blaid Cymru yma ac ydyw yng Ngwynedd.

Yn sicr dydy pethau ddim yn argoeli'n dda i'r Blaid ar gyfer etholiadau cyngor mis Mai yn y gogledd orllewin.

Oherwydd mae clymblaid sydd yn rheoli yng Nghonwy bydd modd i'r bai am gau ysgolion cael ei rhoi ar y Ceidwadwyr a'r cynghorwyr annibynnol hefyd. A gan mae llywodraeth Llafur y Cynulliad a orfododd yr arolygiad ar y cyngor bydd rhaid i Lafur ysgwyddo rhywfaint o'r bai hefyd. Sydd yn gadael y Rhyddfrydwyr Democrataidd fel yr unig un o'r pleidiau mawr heb faw ar eu dwylo. Dim ond pum aelod sydd gan y Rhyddfrydwyr yng Nghonwy ar hyn o bryd, ond mae'r blaid wedi bod yn dipyn o rym yn y sir yn y gorffennol. A fydd adrefnu ysgolion yn fodd i'r Rhyddfrydwyr codi eto? Neu a fydd Llais Pobl Gwynedd yn croesi'r ffin ac yn sefyll yng Nghonwy hefyd?