13/09/2008

I bwy ddylid dysgu'r Gymraeg?

Yr wyf mewn sefyllfa od parthed fy nosbarthiad fel Cymro Cymraeg. Yn sicr nid ydwyf yn Gymro Cymraeg Iaith gyntaf. Mi gefais fy magu i siarad Saesneg fel iaith yr aelwyd. Yr wyf yn ei chael hi'n haws i siarad, deall, darllen ac ysgrifennu yn y Saesneg nag ydwyf yn y Gymraeg.

Ar y llaw arall nid ydwyf yn ddysgwr chwaith. Dwi ddim yn cofio adeg pan nad oeddwn yn ymwybodol o fodolaeth y Gymraeg nac yn ddeall rhywfaint o'r iaith.

Un o fy nghofiannau cyntaf yw bod yn yr wythnos gyntaf yr ysgol fach a'r athrawon yn penderfynu pwy oedd i fynd i'r ffrwd Cymraeg a phwy oedd i fynd i'r ffrwd Saesneg.

Roedd yr holl blant newydd yn sefyll mewn rhes a'r athrawon yn eu dosrannu. Cymru, Cymru, Saeson, Cymru, Saeson ac ati. Yr oeddwn yn ddeall ystyr y gair Cymru, pobl o'r un cenedl a fi; ond y gair arall yr oeddwn yn clywed oedd Siswrn teclyn i dorri pethau yn fan. Pan gefais fy nedfrydu i'r siswrn mi griais, mi stranciais ac mi bisais fy nhrowsus, ac roedd rhaid i Mam dod i'm casglu o'r ysgol am fod yn hogyn drwg.

Yn ôl y drefn arferol yn y dyddiau hynny chwip din, a gwely heb swper, oedd y canlyniad am imi godi cywilydd ar y teulu. Y bore nesaf roeddwn yn nosbarth y Siswrn, yn casáu'r lle roeddwn ond yn casáu'r Gymru mwy byth. (Yn arbennig hogyn cas ofnadwy o'r enw [Dylan] Iorwerth - lle mae o heddiw tybed?!).

Trwy i Dad defnyddio'r Gymraeg i ddweud wrth Nain bod yr hogyn yn dal i gredu mewn Siôn Corn, cefais wybod nad oedd Siôn Corn yn bod. Diben y Gymraeg oedd siarad mewn iaith yr oeddynt yn tybied nad oeddwn yn ei ddeall!

Wrth imi brifio mi gefais fy annog i ddefnyddio'r Gymraeg oedd gennyf gan nifer o bobl, rhai'n enwog megis Dafydd Elis Thomas ac Emyr Llywelyn, rhai yn llai amlwg megis Mel (beiol) Williams, John Owen, John Hughes (Dai Daps) a'r Parchedigion Cyril ac O.M. Lloyd.

Oherwydd y fath anogaeth yr wyf, bellach, yn weddol hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg ar lafar ac mewn ysgrifen, ond yr wyf yn ymwybodol iawn bod yna frychau mawr yn fy Nghymraeg. Mae Dei Tomos, Radio Cymru, wedi awgrymu mae gwell byddid imi siarad Saesneg yn hytrach na llofruddio'r iaith Gymraeg pob tro byddwyf yn agor fy ngheg a bod fy nhreigliadau yn ymdebygu i Bolo Mints - twll ym mhob un! Coc oen am ddweud y fath beth ond mae ei bwynt yn un ddilys! Mae fy Nghymraeg yn wael - mae angen ei wella!

Mae gormod o arian yn cael ei wario ar ddysgu Cymraeg i ddieithriaid. Os yw'r iaith Gymraeg am barhau mae'n rhaid cadarnhau defnydd y Gymraeg ymysg siaradwyr cynhenid yr iaith ac ymysg pobl, fel fi, sydd wedi codi'r Gymraeg yn naturiol!

Yn ôl y cyfrifiad mae 33% o boblogaeth fy mhlwyf yn gallu'r Gymraeg - mae fy mhrofiad yn dweud mai llai na 5 y cant sy'n defnyddio'r Gymraeg. Rwy'n credu bod mwy o angen cael y 33% i ddefnyddio'r Gymraeg yn feunyddiol yn hytrach na chael gwersi cychwynnol i fewnfudwyr newydd. Ond hyd y gwelaf mai'r cyfan o'r arian sy'n cael ei wario yma ar yr iaith yn cael ei anelu at ddysgwyr newydd. Nid oes dima yn cael ei ddefnyddio tuag at gadarnhau Cymraeg y traean sydd yn honni eu bod yn Gymry Cymraeg yn barod, ond eto'n ansicr eu defnydd o'r Gymraeg!

Gwarth a gwastraff yw defnyddio'r holl adnoddau prin i ddysgu 12 o bobl elfenau sylfaenol iaith mae mil o drigolion y plwyf yn honni eu bod yn eu deallt, ond yn dangos diffyg hyder i'w defnyddio!

3 comments:

  1. 'Mae fy Nghymraeg yn wael - mae angen ei wella!

    Mae dy Gymraeg yn dda iawn HRF...cystal a fy Nghymraeg inna pob blewyn !

    ReplyDelete
  2. Allan o'r miloedd (20,000 dysgwr y flwyddyn yn ôl rhai) sy'n mynychu gwersi Cymraeg i Oedolion, mae'n siwr mai % fechan iawn sy'n mynd ymlaen i siarad yr iaith. Ond sut mae gwybod pwy yw'r rhain ar y dechrau? Mae sawl ffactor yn mynd i effeithio ar pa mor bell yr aiff unigolyn - yr ardal mae'n byw/ ei ffrindiau/ ei waith a'i weithle/ ansawdd y tiwtor / sefyllfa ei deulu

    Mae yna gwpl a ddaeth i fyw i Brion (fy mhentref genedigol), un yn Sais a'i wraig yn Gymraes di-Gymraeg. Roedd y ddau wedi dysgu Cymraeg fel oedolion a phnederfynnu magu eu plant yn Gymraeg. Cymraeg oedd iaith y cartref er bod y Gymraeg yn ail-aith i'r ddau ohonynt.

    Wyt ti'n gweld pobl 'cynhenid' dyffryn Conwy yn awyddus i fynd i ddosbarth nos i ddysgu sut i dreiglo? Dw i'n amau mai nid diffyg cywirdeb iaith sy'n eu topio rhag siarad Cymraeg, ond ffactorau eraill.

    Dw i'n meddwl byddai''n well cyfyngu gwersi Cymraeg yn ôl oed - wedi'r cyfan beth yw'r pwynt dysu Cymraeg i bobl 50+, gan eu bod fwy na thebyg wedi magu plant erbyn hyn, ac yn Saesneg


    - Ond ar y llaw arall, gall sawl un fod yn daid a nain erbyn hyn - bod eu wyrion o wyresau'n mynychu ysgolion Cymraeg.

    Dw i wedi gweld ambell enghraifft yn y cymoedd o Dad-cu (ail-iaith) yn siarad Cymraeg gyda'i wyresau. Digwydd bod fe aeth y tad neu'r fam i ysgol Gymraeg hefyd yn y 70au/80au ond does dim hyder gyda nhw. Mae cael y taid yn siarad Cymraeg wedi dod a'r Gymraeg yn iaith teulu am y tro cyntaf ers sawl cenhedlaeth.

    ReplyDelete
  3. Pan aeth fy nhad ers talwm iawn i Ysgol Syr Hugh Owen cafodd ei roi yn y ffrwd Saesneg ar y sail ei fod yn Babydd a bod ei gyfenw yn un tramor.

    Y Gymraeg oedd iaith ei gartref, a prin bod llyfr Saesneg yn y ty.

    Er bod Nain yn hanner Saesnes a hanner Almaenwraig o ran genedigaeth roedd yn hollol Gymraeg o ran iaith - anghofiodd pob air o Saesneg oedd ganddi yn ei henaint.

    Roedd tad taid yn dod o Norwy, a Chymraes oedd ei fam. Ychydig iawn, iawn o'r defnydd o'r Saesneg a wnaeth ar ol llwyddo (yn anhygoel) i gael ei daflu allan o'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf wedi iddo ymosod ar swyddog.

    ReplyDelete