Yn ôl yr hyn yr wyf yn ddeall mae bron pob Gwyddel yn y Gweriniaeth yn gallu defnyddio'r Gwyddelig ond dim ond 5% sy'n dewis gwneud hynny - a'i dyna berwyl addysg Gymraeg?
Cefais fy nghywiro mewn ymateb gan BlogMenai:
Yn ôl cyfrifiad 2002 roedd yna 1,570,894 o siaradwyr Gwyddelig yn Iwerddon a 2,180,101 nad oeddynt yn siarad yr iaith.
Dydy ystadegau Cai, ddim cweit yn cyfateb i'r ffigyrau swyddogol, ond y maent yn ddigon agos.
Yn ôl yr hyn rwy'n ddeall mae'n rhaid i bob ysgol sydd yn derbyn arian cyhoeddus dysgu'r Gwyddelig i bob disgybl, a bod rhaid i bob athro mewn ysgol gynradd, boed yn derbyn arian cyhoeddus neu beidio, cael cymhwyster i ddysgu trwy'r Gwyddelig. Gan hynny (gyda'r eithriad o'r sawl sydd wedi mewnfudo ar ôl oedran ysgol), y mae bron i bawb yn y Gweriniaeth wedi dysgu'r iaith.
Yn ôl yr ystadegau y mae bron i 60% o'r sawl sydd wedi dysgu'r iaith Wyddelig yn yr ysgol naill ai wedi anghofio'r hyn a ddysgasant neu yn ddewis gwrthod cydnabod eu gallu yn yr iaith.
Mae'r filiwn a hanner (41%) sydd yn cydnabod eu bod yn gallu'r iaith hefyd yn gamarweiniol, gan mae dim ond cyn lleied a 80,000 (2%) sydd yn defnyddio'r iaith fel eu prif ddewis iaith. Sy'n dod a ni yn ôl i'r ddadl gymhleth.
A oes gwerth gwario arian mawr a defnyddio adnoddau di-ri i ddysgu'r iaith i bedwar miliwn, pan fo cyn lleied a 2% ohonynt yn dewis defnyddio'r iaith wedyn? Nag oes, yn fy nhyb i.
Mae yna alw cynyddol am addysg Cymraeg, a phrin yw'r awdurdodau sy'n gallu darparu'r galw.
Ond os ydym am greu sefyllfa debyg i un yr Iwerddon lle mae pob disgybl yn derbyn addysg Gymraeg, ond bod 60% ohonynt yn anghofio'r Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol a dim ond 2% ohonynt yn dewis defnyddio'r Gymraeg, be di'r pwynt?
Mae cael y rhai sy'n gallu'r Gymraeg rŵan i ddefnyddio eu Cymraeg, cyn bwysiced, os nad yn bwysicach na sicrhau ehangu'r ddarpariaeth addysg Gymraeg. Ac mae deall paham bod y rhai ohonom sydd wedi mynd i'r drafferth o ddysgu'r iaith yn cael anawsterau wrth ei ddefnyddio yn hanfodol bwysig i'r cynllun ieithyddol. Dydy diystyru ein anhawsterau cymleth efo neillebau tebyg i Arglwydd mawr Alwyn - mae fy mhen i'n troi wrth geisio deall hynna i gyd dim yn tycio!