Yr wyf am fynd am dro bach i wlad bellennig am yr ychydig ddyddiau nesaf.
Y tro diwethaf imi fod i ffwrdd o gartref ac o'r cyfrifiadur, gadawyd sylw enllibus cas am Cai Larson ar un o fy mhyst. Diolch byth mai am Cai ydoedd ac nid am unigolyn efo bwyell i'w hogi, a bod Cai wedi deall fy arafwch i gael gwared 芒'r sylw . Rhag bod yr un peth yn digwydd eto yr wyf wedi gosod cymedroli ar bob sylw, a ni chaiff yr un sylw ei gyhoeddi cyn imi gyrraedd Cymru'n 么l nos Wener nesaf.
Rwy'n ymddiheuro am yr anghyfleustra bydd hyn yn achosi i'r miloedd bydd am adael sylw yn ystod y pum niwrnod nesaf, ond gwell hynny na chael llythyr twrne i'm croesawu adref!
No comments:
Post a Comment