Yn ôl yr hyn yr wyf yn ddeall mae bron pob Gwyddel yn y Gweriniaeth yn gallu defnyddio'r Gwyddelig ond dim ond 5% sy'n dewis gwneud hynny - a'i dyna berwyl addysg Gymraeg?
Cefais fy nghywiro mewn ymateb gan BlogMenai:
Yn ôl cyfrifiad 2002 roedd yna 1,570,894 o siaradwyr Gwyddelig yn Iwerddon a 2,180,101 nad oeddynt yn siarad yr iaith.
Dydy ystadegau Cai, ddim cweit yn cyfateb i'r ffigyrau swyddogol, ond y maent yn ddigon agos.
Yn ôl yr hyn rwy'n ddeall mae'n rhaid i bob ysgol sydd yn derbyn arian cyhoeddus dysgu'r Gwyddelig i bob disgybl, a bod rhaid i bob athro mewn ysgol gynradd, boed yn derbyn arian cyhoeddus neu beidio, cael cymhwyster i ddysgu trwy'r Gwyddelig. Gan hynny (gyda'r eithriad o'r sawl sydd wedi mewnfudo ar ôl oedran ysgol), y mae bron i bawb yn y Gweriniaeth wedi dysgu'r iaith.
Yn ôl yr ystadegau y mae bron i 60% o'r sawl sydd wedi dysgu'r iaith Wyddelig yn yr ysgol naill ai wedi anghofio'r hyn a ddysgasant neu yn ddewis gwrthod cydnabod eu gallu yn yr iaith.
Mae'r filiwn a hanner (41%) sydd yn cydnabod eu bod yn gallu'r iaith hefyd yn gamarweiniol, gan mae dim ond cyn lleied a 80,000 (2%) sydd yn defnyddio'r iaith fel eu prif ddewis iaith. Sy'n dod a ni yn ôl i'r ddadl gymhleth.
A oes gwerth gwario arian mawr a defnyddio adnoddau di-ri i ddysgu'r iaith i bedwar miliwn, pan fo cyn lleied a 2% ohonynt yn dewis defnyddio'r iaith wedyn? Nag oes, yn fy nhyb i.
Mae yna alw cynyddol am addysg Cymraeg, a phrin yw'r awdurdodau sy'n gallu darparu'r galw.
Ond os ydym am greu sefyllfa debyg i un yr Iwerddon lle mae pob disgybl yn derbyn addysg Gymraeg, ond bod 60% ohonynt yn anghofio'r Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol a dim ond 2% ohonynt yn dewis defnyddio'r Gymraeg, be di'r pwynt?
Mae cael y rhai sy'n gallu'r Gymraeg rŵan i ddefnyddio eu Cymraeg, cyn bwysiced, os nad yn bwysicach na sicrhau ehangu'r ddarpariaeth addysg Gymraeg. Ac mae deall paham bod y rhai ohonom sydd wedi mynd i'r drafferth o ddysgu'r iaith yn cael anawsterau wrth ei ddefnyddio yn hanfodol bwysig i'r cynllun ieithyddol. Dydy diystyru ein anhawsterau cymleth efo neillebau tebyg i Arglwydd mawr Alwyn - mae fy mhen i'n troi wrth geisio deall hynna i gyd dim yn tycio!
Mae ffigyrau Cai yn gywir, Alwyn, yma (tudalen 11).
ReplyDeleteMae'n amlwg bod y CSO wedi cyhoeddi dau set o ffigyrau er mwyn peri ddryswch, ond fel y nodais mae'r ffigyrau cvymharol yn ddigon agos fel nad ydynt yn cyfranu at slwedd y ddadl!
ReplyDeleteA chwestiwn dyrys arall am ffigyrau swyddogol y CSO: mae'n rhaid i aelod o'r CU a'r WHO cyhoeddi canlyniadau cyfrifiad degol yn y blynyddoedd syn derfynu ag 0 neu 1. Pam fod ffigyrau'r CSO yn perthyn i 2002?
ReplyDeleteMi wna i flogiad bach ar gymhlethdod ieithyddol maes o law - ond mae pwynt i'w wneud am y Wyddeleg a'r Gymraeg.
ReplyDeleteMae'r Wyddeleg yn cael ei dysgu i fwyafrif llethol y Gwyddelod, ond yn yr un ffordd mae'n cael ei dysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru - mewn gwers cwpl o weithiau yr wythnos. Hyd yn ddiweddar roedd y dull o'i dysgu yn hen ffasiwn - llwyth o ramadeg a 'ballu.
Mae'n rhaid bod wedi pasio arholiad (gweddol hawdd yn ol pob son)i gael rhai swyddi. 'Dydi clywed Gwyddelig ar y stryd ddim yn beth cyffredin. Felly mae llawer yn dweud eu bod yn gallu siarad Gwyddelig oherwydd bod ganddynt gymhwyster o'r ysgol. Mi fyddwn i'n fodlon betio bod yna bobl sy'n dweud nad ydyn nhw yn siarad Gwyddeleg efo mwy o allu i siarad yr iaith na llawer o bobl sy'n dweud eu bod nhw methu siarad Cymraeg.
'Dwi wedi teithio'n weddol aml i Iwerddon, a 'dwi wedi clywed y Wyddeleg yn cael ei siarad yn naturiol sawl gwaith - yn y Gorllewin pell bron yn ddi eithriad, ond yn rhyfedd iawn ar y Falls Road hefyd. 'Dwi erioed wedi clywed neb yn siarad y Wyddeleg yn Nulyn, er bod pob iaith dan haul i'w chlywed yno.
O, ac Alwyn - cafodd cyfrifiad 2001 yn Iwerddon ei ohirio am flwyddyn oherwydd clwy'r traed a'r genau ym Mhrydain.
ReplyDeleteMaen nhw'n cymryd cyfrifiad pob pum mlynedd - does gen i ddim syniad pam nad ydi ffigyrau 06 ar gael.
Diolch am yr eglurhad am ddiffyg Cyfrifiad yn 2001, Cai ac am yr wybodaeth bod yr Iwerddon yn cyfrifo ddwywaith mor aml â gweddill y byd.
ReplyDeleteMae'n bosib mae'r rheswm am y gwahaniaeth rhwng y ffigurau wnes di eu cyhoeddi ar rai wnes i eu gweld ar wefan yr CSO yw fy mod i wedi dod ar draws rhai 2006. Mae gwefan y CSO yn un od, wedi taro ar dudalen, does dim modd ail gysylltu ag ef eto efo dolen!