28/10/2010

Cymhwyster Defnyddio'r Gymraeg?

Yn 么l Cyfrifiad 2001 roedd 71% o bobl Cymru yn honni nad oedd ganddynt unrhyw wybodaeth o'r Gymraeg o gwbl.

Rwy'n amau'r ffigwr!

Cefais fy ngeni yn y Bermo, un o drefi Seisnicaf Gwynedd.

Er mae Brymis yw mwyafrif trigolion y dref, prin yw'r trigolion nad ydynt yn gwybod mae'r Bermo yw enw Cymraeg y dref, prin yw'r rhai sydd ddim yn gallu cynnig y llwnc destun iechyd da Prin yw'r rhai sydd ddim yn ymwybodol o ystyr geiriau ar arwyddion cyhoeddus megis Ysgol ac Ysbyty neu Cyfleusterau Cyhoeddus. Oni ddylem roi cymhwyster lefel 1 iddynt, er mwyn iddynt berchnogi’r iaith?

Mae nifer o fy mherthnasau a magwyd ar aelwydydd Cymraeg yn teimlo nad yw eu Cymraeg yn ddigon dda ar gyfer ymgeisio am swyddi lle mae'r Gymraeg yn gymhwyster angenrheidiol. Oni dyle bod cymhwyster galwedigaethol sydd yn gallu graddio eu defnydd o'r Gymraeg bod ar gael?

Mae 'na rywbeth hurt yn y ffaith fy mod i wedi fy magu ar aelwyd Saesneg, ond yn llawer mwy cyfforddus fy nefnydd o'r Gymraeg na fy nghefndryd a magwyd trwy'r Gymraeg .Hyder ddysgwr, mae'n debyg, yw'r ffaith bod ei ddysgu wedi ei raddio!

Oni ddylid cael cymhwyster Cymraeg yn y Gweithle sydd yn holl gynhwysol i Gymry naturiol a dysgwyr yr un fath, sy'n dweud yn bendant "dyma safon dy Gymraeg" ac mae'r safon yna sy’n dy gymhwyso at allu defnyddio'r Gymraeg ar gyfer jobyn arbennig, neu beidio?

2 comments:

  1. Mae arholiad o'r fath yn bodoli dw i'n credu yng Nghatalwnia ar gyfer y sector gyhoeddus

    ReplyDelete
  2. N么l ym 1971, bu tad cyfeilles yn gweithio ar y cyfrifiad. Wrth gasglu'r papurau, roedd yn rhaid edrych am gamsyniadau. Pan oedd rhywun yn dweud na fedrai Cymraeg, gofynnai ef: odych chi'n gwbod yr emyne i gyd bob dydd Sul te? Tybed beth yw fersiwn 2011 o'r cwestiwn yna.

    ReplyDelete