23/10/2010

Clod haeddiannol i Guto am ei gefnogaeth i ddarlledu Cymraeg

Ar Pawb a'i Farn heno roedd y Gath yn ymboeni mae dim ond tri o'i etholwyr sydd wedi danfon e bost iddo yn erfyn arno i achub S4C. Fel un o'i etholwyr rhaid dweud bod amddiffyn darlledu Cymraeg yn bwysicach na chadw'r gorfforaeth i mi.

Rwy'n gwybod bod llawer mwy na thri o etholwyr Guto yn ymboeni am ddyfodol darlledu Cymraeg, ac mae'n rhaid ei longyfarch am ei ddadl yn Neuadd Westminster parthed y pwnc.

Mi wneis ystyried gosod ei gyfeiriad e-bost yma er mwyn i mwy na 3 o bobl Aberconwy cysylltu 芒'r AS er mwyn ei annog i barhau a'i ymgyrch dros ddarlledu Cymraeg, ond pe bawn wedi gwneud mae'n debyg y byddai'n derbyn mwy o e-byst yn ei annog defnyddio Viagra nac yn annog parhad y sianel!

Ta waeth, diolch lle mae diolch yn haeddiannol - da was!

No comments:

Post a Comment