Ar Freedom Central mae Peter Black AC yn ailadrodd honiad a wnaed gan Glyn Davies yr wythnos diwethaf, sef mae'r rheswm am ddiffyg ymgynghoriad a Llywodraeth Cymru parthed ddyfodol S4C oedd bod Llywodraeth y DU yn methu ymddiried yn Llywodraeth Cymru i gadw cyfrinachau. Mae'r ddau wleidydd yn gweld hyn fel beirniadaeth o Blaid Cymru wrth reswm. Mae llywodraeth y Bae yn dangos diffyg parch, yn wir yn ymddwyn yn blentynnaidd yn 么l Mr Black; agwedd od gan un sy'n honni ei fod yn rhyddfrydwr ac yn ddemocrat.
Y cwestiwn y byddwn i yn disgwyl i ddemocrat rhyddfrydig ei ofyn yw Pam ar y diawl bod angen gwneud penderfyniadau am ddarlledu Cymraeg yn gyfrinachol ac yn Llundain?
Mae diffyg parch wedi ei ddangos yn achos adrefnu S4C yn ddi os. Trwy wneud penderfyniadau am ddyfodol y Sianel yn y dirgel heb hidio am farn gwylwyr Cymraeg, heb ymgynghori a'r sawl bydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan y penderfyniad mae Jeremy Hunt wedi trin y Gymru Gymraeg gyda diffyg parch syfrdanol.
Os ydy honiad Glyn bod y manylion am gynnwys trafodaethau rhwng Ysgrifennydd diwylliant Llundain a gweinidogion Plaid Cymru wedi eu rhyddhau o fewn munudau, nid diffyg parch yw hynny; i'r gwrthwyneb mae'n dangos bod gweinidogion Plaid Cymru yn parchu'r bobl yr etholwyd hwy i'w cynrychioli - trwy beidio a'u cadw yn y tywyllwch, yn ol drefn Sansteffan.
'Dwi'n credu bod Glyn wedi cywiro rhan o flogiad Peter Black.
ReplyDeleteYmddengys mai cyhuddo Awdurdod S4C yn hytrach na Ffred o rannu cyfrinachau oedd Glyn
Rwy'n credu bod Glyn yn ceisio aralleirio ar 么l cae chwip din gan ei blaid!
ReplyDeleteDyma union eiriau Glyn:
previous discussions at private meetings between the Culture Secretary and Plaid Cymru seemed to have become public within minutes. Alun Ffred thinks it was wrong to conclude the funding agreement in what he describes as 'a couple of days'
Condemniad clir o Blaid Cymru a Ffred yn methu cadw cyfrinachedd mi dybiwn.
Ia - mae'r geiriad yn gwbl ddi amwys.
ReplyDeleteYn 么l Mark Sweney yn y Guardian ar 10 Medi:
ReplyDeleteArwel Ellis Owen, the interim chief executive of S4C, and its chairman Walter Jones were given what one source familiar with the talks described as a "dressing down" by Hunt in a meeting at the Department of Culture, Media and Sport in London yesterday.
A fyddai John Walter Jones ac Arwel Ells Owen yn gollwng y ffaith eu bod nhw wedi cael ‘dressing down’ mewn cyfarfod. Go brin.