Yn y dyddiau pan oedd Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn cael eu gofyn dwywaith yr wythnos roedd gan arweinydd y Blaid Ryddfrydol yr hawl i ofyn un cwestiwn mewn pob sesiwn, fel yr ail wrthblaid. Hyd yn oed yn nyddiau Joe Grimond pan nad oedd gan y Rhyddfrydwyr dim ond 6 aelod dyna oedd y drefn.
Pan benderfynwyd cael un sesiwn hanner awr yn hytrach na ddau sesiwn chwarter awr i'r PMQ's cafodd arweinydd y Rhyddfrydwyr Democrataidd hawl i ofyn dau gwestiwn ym mhob sesiwn, gan ei fod yn arweinydd ail blaid yr wrthblaid.
Y DUP, bellach, yw ail blaid fwyaf yr wrthblaid, ond grŵp Plaid/SNP yw ail grŵp mwyaf yr wrthblaid. Gan hynny mi fydda ddyn yn disgwyl i'r drefn caniatáu naill ai'r DUP neu Plaid/SNP yr hawl i ofyn dau gwestiwn, gan fod y Rhyddfrydwyr bellach yn rhan o'r llywodraeth.
Er hynny ni chafodd arweinwyr yr un o'r tair plaid eu galw i ofyn un cwestiwn i'r Prif Weinidog ar Fehefin 2il, heb son am ddau. Cafwyd un cwestiwn gan Nigle Dodds dirprwy arweinydd y DUP, ni chafwyd cyfraniad gan aelod o'r SNP na Phlaid.
Ar Fehefin 9fed nis cafwyd cwestiwn gan unrhyw aelod o'r DUP yr SNP na Phlaid. Rhaid gofyn pam?
Os oedd gan y Rhyddfrydwyr hawl i ofyn cwestiwn dwywaith yr wythnos, hyd yn oed pan nad oedd ganddynt ddim ond 6 aelod, yn sicr dylid sicrhau bod gan arweinydd y DUP hawl i ofyn un cwestiwn pob wythnos ac arweinwyr Plaid a'r SNP yr un hawl pob yn ail wythnos!
No comments:
Post a Comment