Rhywbeth bydd o ddiddordeb i rai o fy narllenwyr hŷn, (neu i rai o rieni neu gor-rieni fy narllenwyr iau). Hyd at Ragfyr 11eg mae modd cael tocyn trên dychwelyd, i unryw orsaf ar y rhwydwaith, am ddim ond £15 ar drennau Arriva Cymru.
Rwy'n gwybod hyn gan fod rhyw wits efo B mawr wedi cynnig y fath docyn imi ar gyfer daith i Gaerdydd o Landudno ar ddiwrnod fy mhen-blwydd yn ddim ond 51!
Roedd y tocyn i bobl iau yn costio £54 - pe bawn yn rhy dlawd i fod yn browd gallaswn wedi mynd i'r brifddinas a dychwelyd am ddim ond £15!
A ydwyf wedi magu cydwybod ers y cyfnod pell yn ôl pan oeddwn yn mynd i'r Bermo yn laslanc 17 oed ac yn mynnu fy mod o dan 16 er mwyn cael tocyn bws rhad ac wedyn yn mynnu fy mod dros y deunaw er mwyn cael peint yn y Last Inn? A ydwyf yn hen ffŵl prowd am wrthod y cynnig?
Na! Mae cost y daith gyfredol yn dod ar dreuliau'r goron!
Ond siawns bydd daith siopa i Gaerdydd yn mynd a bryd gŵr ifanc sy'n ddigon anffodus i edrych dros ei 55 mlwydd cyn Rhagfyr yr 11eg!