Os yw'r Blaid am gael Brif Weinidog yn y Cynulliad heb Enfys yr unig obaith arall yw i'r Blaid cael fwy o aelodau na Llafur - os mae dyna'r uchelgais pam na ddywedwyd yn glir mae gobaith y Blaid yn 2011 yw bod y blaid fwyaf un yn y Cynulliad? O bosib oherwydd y byddai datganiad o'r fath mor chwerthinllyd ag ymgais 31 Kirsty Williams ar gyfer y Rhyddfrydwyr!
Byddwn wrth fy modd pe bai'r Blaid yn cael mwy o seddi na'r Blaid Lafur - ond pe bai'r annhebygol yn digwydd mi fyddai'n digwydd ar draul Llafur yn colli nifer o seddi i'r Blaid. O dan y fath amgylchiadau mae'n annhebygol y bydd gweddol Llafur yn hapus i barhau i glymbleidio a Phlaid Cymru fel y blaid iau!
Rwy'n deall problem y Blaid efo'r Enfys hefyd; bydd y problemau y mae'r Glymblaid yn San Steffan am eu gosod ar Gymru yn annioddefol o boenus ac yn annerbyniol i'r rhan fwyaf o Bleidwyr. Bydd Enfys o dan y fath amgylchiadau yn amhosibl.
Hyd y gwelaf i mae gan y Blaid 3 opsiwn ymgyrchu:
- Derbyn mae'r Blaid bydd aelod iau clymblaid Cymru'n Un #2, a cheisio ennill un neu ddau o seddau ychwanegol i gryfhau ei chyfraniad i Lywodraeth o dan Brif Weinidog Llafur
- Ceisio cynyddu nifer ei haelodau yn y Cynulliad ar draul Llafur a bod yn wrthblaid yn y Cynulliad ac i'r Llywodraeth yn San Steffan.
- Anghofio am seddi targed, a mynd am ymgyrch cenedlaethol i geisio ennill pob un bleidlais o Fôn i Fynwy a chymaint o seddi etholaeth a rhanbarthol ac sydd modd, - trin Wrecsam, Brycheiniog Maesyfed a Mynwy fel seddi targed yn ogystal â Chaerffili, Nedd ac ati.