Blaenau Gwent
Pe na bai'r Blaid Lafur mewn cymaint o dwll ac yn gorfod amddiffyn gymaint o seddi bregus, Blaenau Gwent byddai un o'i dargedau i'w cipio, ac mewn etholiad pan fydd y rhod yn troi i gyfeiriad Llafur eto bydd yr etholaeth yn sicr o fynd yn ôl i'w fynwes. Un o siomedigaethau yn yr etholaeth yma yw bod dim un o'r gwrthbleidiau "swyddogol" wedi ceisio manteisio ar drafferthion Llafur ym Mlaenau Gwent er mwyn adeiladu troedle yn nhalcen caled y cymoedd Llafur.
Llais y Bobl i gadw'r sedd yn gymharol hawdd, ond synnwn i ddim pe bai Dai Davies yn ail ymuno a Llafur cyn pen tymor y llywodraeth nesaf.
Bro Morgannwg
Efo'r Blaid Lafur ar drai cyffredinol trwy Ynys Prydain, a'r aelod cyfredol yn ymddeol, mae pob rhesymeg yn dweud dyla’r Fro syrthio yn hawdd i ddwylo'r Ceidwadwyr. Ond camgymeriad bydda roi hwn yn y bag fel buddugoliaeth Ceidwadol. Mae’r bleidlais bersonol wedi bod yn draddodiadol pwysig yn y sedd yma ac mae Alana Davies y cynghorydd lleol ac ymgeisydd Llafur yn berson llawer haws i'w hoffi nag ydy Alun Cairns yr ymgeisydd Ceidwadol a dyn sydd â dawn ryfeddol i dynnu blew o drwynau pobl.
Does gan Plaid Cymru ddim gobaith mul yma, ond mae ganddi bocedi o gefnogaeth gref yn yr etholaeth (Plaid Cymru daeth yn ail agos yn etholiadau Ewrop*). O dderbyn bod Alun Cairns yn cael ei weld fel dipyn o fwgan i Bleidwyr, mae yna siawns bydd rhywfaint o bleidlais PC yn cael ei fenthyg i Lafur fel rhan o ymgais i stopio Cairns.
Buasai dyn wedi disgwyl i'r Ceidwadwyr cipio sedd y Fro yn weddol hawdd yn etholiadau'r Cynulliad yn 2007 hefyd, ond methasant o tua 80 pleidlais. Byddwn i ddim yn synnu pe bai canlyniad tebyg yn yr etholiad cyffredinol chwaith.
Brycheiniog & Maesyfed
Dyma un o'r seddi mae'r Ceidwadwyr yn eu llygadu ac sydd yn ymddangos fel un y maent am ei gipio o roi canlyniadau polau piniwn trwy'r mangl. Ond mae'r aelod cyfredol yn ddyn hawddgar sydd yn hynod boblogaidd a gweithgar yn yr etholaeth. Byddwn yn disgwyl i Roger Williams i ddal ei afael ar y sedd yn weddol rhwydd.
*Diweddariad
Mae'n debyg mae pedwaredd oedd y Blaid yn y Fro. Mi wnes i gam ddarllen stori a gyhoeddwyd gan y Blaid yn honni eu bod o fewn 750 bleidlais i ddod yn ail yn yr etholaeth, am honiad eu bod yn yr ail safle efo dim ond 750 rhwng y Blaid a'r buddugwyr. Nid y fi ydy’r unig un i gael cam argraff o'r troelli mae'n debyg.