Trist oedd darllen ar Faes e bod yr hen gyfaill Glyn y bom, Glyn Rowlands Corris wedi marw yn yr ysbyty yn Aberystwyth heddiw.
Daeth Glyn i'r amlwg fel Penswyddog Sir Feirionnydd o Fyddin Rhyddid Cymru yn ystod y 60au ac fe fu yn amlwg hyd y diwedd yn y mudiad cenedlaethol. Roedd o hefyd yn asgwrn cefn i fywyd diwylliannol ardal Corris a thu hwnt.
Fel mae Prysor yn dweud amdano yn ei deyrnged ar y Maes:
Roedd Glyn yn un o stalwarts ymgyrchoedd cenedlaetholgar Cymreig milwriaethus y 1960au. Yn wladgarwr a Chymro glan gloyw i'r carn, yn weithiwr caled a gonest, yn dad i dwr o blant, ac yn gymeriad poblogaidd ac uchel ei barch ymysg y werin a'i gydweithwyr. Lejend ar lawr gwlad. Arwr i lawer iawn o bobl, yn cynnwys fi. Roedd ei naturioldeb ac annwylder, ei ysbryd a'i hiwmor a direidi, ei galon fawr a mwyn, ei ddawn siarad mewn ffordd a hoeliai eich sylw a chipio eich dychymyg, ei natur werinol, wladaidd a di-rwysg, a'i natur gynnes tu hwnt, i gyd yn bethau oedd yn eich cyffwrdd o fewn eiliadau o fod yn ei gwmni.
Wrth feddwl am ddyn milwriaethus, ymroddgar a digyfaddawd yn ei farn wleidyddol hawdd yw dychmygu cymeriad oer anghynnes blin, ond nid yn achos Glyn. Yr oedd gan Glyn yr allu prin i ddal yn gadarn gyda gwen ar ei wyneb, cynhesrwydd yn ei galon ac anwyldeb yn ei ysbryd. Dwi'm yn credu imi weld Glyn heb wen ar ei wyneb na chyfarfod ag ef heb iddo rannu jôc neu stori ddigri.
Mae gan Glyn deulu mawr a llu o gyfeillion yn ne Meirionydd a thrwy Gymru benbaladr a bydd colled ar ei ôl yn enfawr - heddwch i'w lwch.