10/08/2009

Llais Gwynedd; LLais y Bobl - Llais y Llanau?

Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol fe gyhoeddodd Llais Gwynedd ei fod am sefyll ymgeiswyr yn etholiadau’r Cynulliad 2011. Rwy’n siŵr bydd rhai’r o’r syspects arferol yn cwyno am hyn,ond hanfod democratiaeth yw bod pobl o wahanol safbwyntiau yn cystadlu am y bleidlais. Rhaid i bob democrat croesawu penderfyniad Llais, gan hynny.

O dderbyn hawl Llais i sefyll teg yw edrych ar ei obeithion etholiadol. I fod yn gwbl wrthrychol, er fy hoffter personol o nifer o’i haelodau a fy nghefnogaeth i nifer o’i hegwyddorion, rhaid dweud nad oes gan Llais (heddiw) gobaith caneri mewn pwll o nwy o guro.

Mae gan Llais nifer o broblemau sydd yn gwthio yn erbyn ei obeithion.

Yn gyntaf roedd y blaid yn fwyaf llwyddiannus yn etholaeth Dwyfor Meirion yn etholiadau’r Cyngor Sir, sef yr etholaeth efo’r mwyafrif mwyaf gan y fuddugol trwy Gymru gyfan. Dyma dalcen caled iawn. Prin byddai’r gobaith o ennill. Prin byddai’r gobaith o gael llwyddiant sbeitlyd, hyd yn oed, trwy dynnu pleidleisiau oddi wrth PC a chaniatáu i blaid arall ennill.

Os cofiaf yn iawn cafodd Llais Gwynedd dwy sedd ddiwrthwynebiad ar Gyngor Gwynedd llynedd. Yn y wardiau a enillwyd gan Llais roedd y frwydr yn un dau ymgeisydd. Yn y wardiau efo trydydd ymgeisydd fe fethodd Llais a chipio sedd. Mae hyn yn awgrymu’n gryf nad yw pleidlais greiddiol cefnogwyr Llais yn ddigon cryf i gipio sedd ar gyngor, heb son ar Gynulliad. I lwyddo mae’n rhaid i Lais Gwynedd cael ei phleidlais gadarn a rhywfaint o bleidlais gwrthwynebwyr cynhenid y Blaid. Mewn etholiad Cynulliad bydd gan y gwrthwynebwyr eraill hyn eu pleidiau eu hunain i’w cefnogi.

Ar y rhestr mae gan Llais broblem hefyd. Mae Gwynedd wedi ei rannu rhwng dwy etholaeth. Mae Arfon yn y Gogledd a Meirion yn y Canolbarth. Bydd pleidlais rhestr Llais yn cael ei rhannu rhwng y ddwy etholaeth, a bydd gan 7 allan o bob wyth o’r etholaethau rhestr dim diddordeb yn helyntion Gwynedd. Anobeithiol i Lais cipio hyd yn oed y bedwerydd safle ar y rhestrau felly?

Hwyrach!

Er, ar yr olwg gyntaf, nad oes gan Llais Gwynedd a Llais y Bobl yng Ngwent fawr sy’n amlwg yn gyffredin, mae’r ddwy blaid wedi tyfu yn organig allan o deimlad o blwyfoldeb (yn ystyr gorau’r gair). Y teimlad bod eu darn bach hwy o’r byd yn cael ei afradu ar gyfer y drefn ehangach. Yn sicr mae teimladau cyffelyb yn bodoli cyn gryfed mewn rhannau eraill o Gymru.

Pe bai modd i Lais Gwynedd a Llais y Bobl cydweithio i dapio fewn i’r ymdeimlad o ddieithrwch sy’n bodoli Cymru benbaladr yna byddid, mi gredaf, obaith i Llais y Llannau gwneud marc ar etholiad 2011 - yn arbennig felly ar y rhestrau!

10 comments:

  1. Diddorol - er dwi ddim yn meddwl bod unrhyw fodd i'r ddau Lais ymuno dan un faner. Rhaid i ti gofio bod gwahaniaethau sylfaenol iawn rhwng y ddwy blaid. Er enghraifft, plaid sosialidd ydi Llais y Bobl, a dwi ddim yn meddwl bod Llais Gwynedd cymaint i'r chwith o gwbl. Ar agwedd arall, wyt ti wir o'r farn bod modd i unrhyw blaid neu gynghrair gynnwys ar un llaw Paul Starling, ac ar y llall, dyweder, Seimon Glyn?

    O ran etholiadau'r Cynulliad dwi'n meddwl dy fod llygad dy le o ran gobeithion Llais Gwynedd. Yn gyntaf hefyd dim ond mewn dwy sedd o dan faner LlG y gall y blaid sefyll. Rwyt wedi nodi'r problemau parthed gwneud marc yn Nwyfor-Meirionnydd, ond 'does 'na ddim cefnogaeth i Lais Gwynedd yn Arfon o gwbl, felly byddai'r cystadlu'r sedd honno yn wastraff mawr ar adnoddau Llais Gwynedd mi dybiaf.

    ReplyDelete
  2. Cytuno yn llwyr a dy sylwadau. Wrth gwrs bod yn rhaid croesawu penderfyniad Llais Gwynedd i sefyll, oherwydd y bydd eu presenoldeb yn y frwydr yn rhoi rhagor o ddewis i etholwyr Gwynedd, ac mae hynny yn beth cadarnhaol.
    Wedi dweud hynny, dwi'n cytuno nad oes ganddyn nhw rhyw lawer o obaith o ddylanwadu ar y canlyniad yn y naill etholaeth na'r llall, heb son am ennill sedd. Fe wnawn nhw fwy o farc yn Meirion-Dwyfor nac yn Arfon, ond fel ti'n ei nodi, Meirion-Dwyfor yw un o'r seddi saffaf yng Nghymru. Cipiodd Dafydd El 59% o'r bleidlais yn 2007, a hynny mewn ras rhwng 4 ymgeisydd.
    Ychydig dros 1200 o bleidleisiau a gafodd Llais Gwynedd yn Arfon llynedd. Ond fel ti'n nodi, cafodd y pleidleisiau hynny eu bwrw mewn wardiau lle roedd hi'n ras dau geffyl rhwng Llais Gwynedd a Phlaid Cymru. Yn yr unig ward lle 'roedd 'na drydydd ymgeisydd - Deiniolen - dim ond 72 pleidlais a gafodd Llais Gwynedd. Dwi'n credu y bydd LlG yn cael trafferth perswadio y 1200 a bleidleisiodd iddyn nhw yn 2008 i wneud hynny eto yn 2011, heb son am ddenu mwy at yr achos.
    Ffolineb, o ran Plaid Cymru, fyddai anwybyddu'r her o du Llais Gwynedd. Ond dwi ddim yn credu y dylai Alun Ffred na Dafydd El golli cwsg dros y mater.

    ReplyDelete
  3. Hmmm...Llawer o bethau diddorol yn cael eu codi yma. Yr unig beth ddywedai yw fod yna ymdeimlad cryf ar lawr gwlad fod y Blaid wedi gadael yr ardaloedd yma i lawr ar hyd y blynyddoedd a bellach mae teurngarwch pobl tuag at y Blaid ar fin tori.
    Dwi ddim am ddarogan unrhyw beth ar hyn o bryd gan ei bod hi'n llawer rhy gynnar ond credaf yn reddfol nad oes gennych ymdeimlad clir o'r teimladau sydd yn bodoli ar lawr gwlad.
    Fydd hynny'n troi'n bleidleisau i Llais?, fe cawn weld. Gyda llaw yn y ddwy Ward yma'n Stiniog lle ddaru Llais ennill, roeddynt yn rasus tri cheffyl.

    ReplyDelete
  4. Alwyn - pam wyt ti'n meddwl y byddai unrhyw un yn gwrthwynebu i Lais Gwynedd sefyll mewn etholiad?

    'Does yna ddim yn fwy naturiol nag i blaid ddemocrataidd sefyll mewn etholiadau democrataidd.

    Dyna ydi trefn pethau.

    ReplyDelete
  5. Un pwynt bach arall - mae llawer o'r darn yn ymddangos yn ddigon rhesymol ond dydi'r syniad o gydweithredu ar y rhestrau ddim yn gwneud llawer o synwyr i mi yn bersonol.

    Ar restr y De dwyrain y byddai Llais y Bobl yn rhoi ymgeisydd, tra byddai Llais Gwynedd yn gwneud hynny yn y Gogledd ac yn y Canolbarth a'r Gorllewin.

    Mae'n anodd gweld pam y byddai'r mwyaf plwyfol yn Wrecsam neu Lanelli er enghraifft yn pleidleisio i Lais Gwynedd. Mae'n debyg y byddai pobl felly yn pleidleisio i unrhyw un bron ag eithrio LlG.

    Yn yr un modd pam y byddai rhywun o Fynwy eisiau dilyn agenda Llais y Bobl a rhoi mwy o adnoddau i Flaenau Gwent?

    Dyna ydi gwendid gwleidyddiaeth plwyfol - fedar o ond apelio'n lleol ac yn lleol iawn ar hynny.

    ReplyDelete
  6. rhydian fôn11:23 am

    Dwi'n reit falch o weld Llais Gwynedd yn sefyll yn y ddwy etholaeth - dyma'r sbardun perffaith i wthio'r Blaid at godi ei gêm. Mae Llais Gwynedd wedi amlygu rhai gwendidau yn nhrefn y Blaid, a bydd rhaid eu atgyweirio yn fuan iawn.

    Dwi ddim yn credu y gellir anwybyddu'r bbygythiad. Yn Arfon, nid oes digon o gefnogaeth i Llais Gwynedd yn yr ardaloedd trefol iddynt ennill, ond gallent rannu ein pleidlais a gadael Llafur i mewn. Ond yn Nwyfor-Meirionnydd, bydd perygl o Llais Gwynedd yn ennill neu rhannu'r bleidlais a gadael i'r Toriaid ennill gyda 'Cameron bounce'.

    ReplyDelete
  7. rhydian fôn3:10 pm

    Jobs Online for Work At Home: What the hell?! Weird.

    Alwyn: Ti'n cyfeirio at Lais y Llanau. Wyt ti'n meddwl fod hyn yn debygol? Mae pobl mewn ardaloedd gwahanol yn tueddu bod eisiau pethau gwahanol? Llais y Bobl gyda sosialaeth "purach na Llafur" a Llais Gwynedd yn wahanol iawn? Sut y byddai uno mudiadau felly o gwmpas unrhyw fath o agenda? Ni fyddai'r fath fudiad yn tueddu bod yn genedlaetholgar.

    Gweler Llais Gwynedd a faint o aelodau sydd ddim yn genedlaetholwyr. Nid beirniadaeth, dim ond mynegi'r ffaith yma. Mae Llais Gwynedd, yn enwedig aelodau fel Gwilym Euros, wedi bod yn llwyddiannus wrth gynrychioli wardiau ar Gyngor Gwynedd, ond nid oes naratif cenedlaethol i'r blaid a byddai'n anodd creu un gan fod casgliad mor eang o safbwyntiau. Sut felly y byddai Llais y Llannau yn bosib?

    ReplyDelete
  8. Gyfeillion - Ar gyfer y record, fyddai well genai rhoi fy mhen mewn ceg llew llwglyd ar y Serengeti cyn byddwn i'n ystyried rhannu unrhyw lwyfan gyda Paul Starling.

    ReplyDelete
  9. Anonymous7:10 am

    Gwilym yr wyf wedi fy siomi ac wedi fy syfrdanu i ddeall bod Llais Gwynedd yn arddel y fath greulondeb i anifeiliaid.

    Be mae llewod llwglyd a diniwed y Serengeti wedi gwneud yn erbyn ysgolion gwledig Gwynedd i haeddu'r fath fygythiad?

    ReplyDelete
  10. Hahaha - Da Iawn rwan!...mi gadwai fy mhen felly! :-)))

    ReplyDelete