I mi mae'r achos cenedlaethol yn bwysicach na phlaid ac yn amlwg bwysicach na'r Blaid. Mae gweld y niwed mae'r Blaid yng Ngwynedd yn wneud i'r achos Cenedlaethol, trwy ymddwyn fel yr Arglwydd Beeching a Mrs Thatcher yn corddi fy stumog. Mae cadw adnoddau cymdeithasol ac amddiffyn gwasanaeth cyhoeddus yn bwysicach nag arian ac elw a chreu balans cyllideb. Elfen o frogarwch a chenedlaetholdeb sydd yn ymddangos, ysywaeth, fel elfen sydd wedi ei golli gan gynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd.
Mae post diweddaraf Gwilym Euros, sydd yn cyfeirio at stori yn y rhifyn cyfredol o'r Cambrian News yn awgrymu bod Llais, hefyd, yn dechrau colli ffordd trwy roi sgorio pwyntiau gwleidyddol yn uwch nag amddiffyn y gymuned.
Yn ôl y CN mae pobl Aberdyfi wedi ymateb i benderfyniad eu Cynghorydd annibynnol lleol, Dewi Owen, i gefnogi cau ysgol y llan trwy:
cancelling Christmas turkey orders at the village butcher’s shop, which is run by Cllr Owen’s son-in-law.Rwy'n ddeall dicter y pentrefwyr, ond mae eu hymateb yn un hurt!
Fel mab i dad, rwy'n gwybod bod fy marn i a barn fy nhad yn ddwy farn gwbl annibynnol. Hyd yn oed ar yr achlysuron prin ein bod yn unfarn gytûn, damwain ydyw, nid cynllwyn!
Fel gŵr priod mae'r syniad o gael fy nghosbi am weithredoedd yr in laws yn fy nharo fel y peth gwirionaf imi ei glywed erioed. Uffar' ond doedd y diawliaid wedi pregethu wrth y musus 'cw bod llawer gwell ar gael cyn iddi gytuno fy mhriodi?
Bydd colli'r ysgol, yn ddi-os, yn hoelen yn arch bywyd pentrefol Aberdyfi. Bydd colli cigydd o fri o'r pentref yn hoelen arall. Mae'r cysyniad bod taro'r ail hoelen yn brotest dechau i wrthwynebu daro’r hoelen gyntaf yn ymateb tu hwnt i'm dirnad i, ac yr wyf yn synnu bod Llais yn ei gefnogi.
Alwyn - I fod yn deg, adrodd yr hyn sydd yn y stori yn y Cambrian News ydw i. Dwi ddim wedi dweud mod i na Llais yn cefnogi "boycott" y siop gig. Fodd bynnag o dan yr amgylchiadau, fedrai ddeallt a chydymdeimlo gyda'r pobol. Yn yr un modd a mae Dewi a'i deulu yn disgwyl cefnogaeth i'w busnes, mi roedd y rhieni yn disgwyl cefnogaeth i ysgol eu plant...Chafwyd ddim o hynny, felly "the rest is history" chydal a'r Sais ydi hynny'n iawn? Nac ydi, yn y DDAU achos ond does nelo ry'n o'r ddau benderfyniad dim i wneud gyda Llais Gwynedd. Cynghorydd Annibynol ydi Dewi Owen a dewis personnol pobol Aberdyfi ydi lle mae nhw yn gwario eu harian. Efallai yn yr achos yma fod HRF wedi colli ei ffordd ychydig? ;-)) Dolig Llawen i ti gyda llaw!
ReplyDelete