Mae Cai Larsen, ar Flog Menai, yn codi trafodaeth ddiddorol parthed Cyfraith Canlyniadau Anfwriadol, (The Law of Unintended Consequences). Yn ei bost mae Cai yn dadlau bod Guto Bebb a'r Blaid Ceidwadol yn Aberconwy yn gwneud cymwynas anfwriadol i Phil Edwards, ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholaeth, trwy anelu gymaint o'u hymosodiadau i gyfeiriad y Blaid. Trwy wneud hynny mae'r Ceidwadwyr yn profi mae Plaid Cymru yw'r bygythiad mwyaf i obeithion etholiadol Guto yn hytrach na'r deiliaid - Y Blaid Lafur.
Rwy'n cytuno efo dadansoddiad Cai o'r perygl tactegol i bleidiau gwleidyddol rhoi gormod o sylw i ambell i wrthwynebydd, a thrwy hynny yn codi proffil y gwrthwynebydd. I raddau dyna fu un o'r ffactorau a arweiniodd at ethol aelodau o'r BNP yn etholiadau Ewrop eleni. Trwy i'r pleidiau eraill rhybuddio bod perygl i aelodau o'r BNP i gael eu hethol, yr oeddynt hefyd yn cyhoeddi bod gwerth pleidleisio i'r ffasgwyr gan fod ennill o fewn eu gafael.
Problem post Cai, fodd bynnag, yw un o edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun
Os yw Plaid Cymru am weld cynnydd yn yr etholiad sydd ar y gweill, rhaid iddi gymryd mantais o wendid y Blaid Lafur trwy dwyn pleidleisiau oddi wrth Lafur, ond prin yw'r ymosodiadau yn erbyn Llafur sydd yn ymddangos ar Flog Menai. Yn wir yn un o sylwadau Cai i'r drafodaeth y mae o'n clodfori cyn gweinidog Llafur am wneud "joban go lew".
Yr hyn ceir ar Flog Menai, gan amlaf, yw ymosodiadau ar Lais Gwynedd ac ymosodiadau ar y Blaid Geidwadol.
Mae'r ymosod ar Lais Gwynedd yn ddealladwy, i raddau. Fe gostiodd Llais mwyafrif i'r Blaid ar Gyngor Gwynedd yn 2008. Yn anffodus mae bron y cyfan o ymosodiadau Cai ac eraill ar Lais yn tynnu sylw at yr union bynciau a achosodd i filoedd o gyn cefnogwyr y Blaid i symud i Lais yn y lle cyntaf; cau ysgolion, cau cartrefi henoed, cau cyfleusterau cyhoeddus a throi cefn ar gymunedau cefn gwlad. Mae natur y blogiadau yn erbyn Llais yn codi ei broffil fel amddiffynnydd cymunedau a'u hadnoddau.
Mae dyn yn gallu deall yr ymasiadau ar y Blaid Geidwadol hefyd. I nifer o gefnogwyr Plaid Cymru'r Blaid Geidwadol yw'r gwrthgyferbyniad mwyaf i'w gwerthoedd a'u daliadau. Ond o fod yn ymarferol does yna ddim un frwydr etholiadol rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru. Hyd yn oed yn Aberconwy a Gorllewin Caerfyrddin & Phenfro, dwyn pleidleisiau Llafur bydd yn sicrhau buddugoliaeth nid dwyn pleidleisiau Ceidwadol.
Yr hyn sydd yn amlwg yn Aberconwy yw bod yna nifer o gyn pleidleiswyr Llafur sydd ddim am bleidleisio i Lafur eto. Mae cyfran fawr o'r cyn Llafurwyr yma mewn cyfyng gyngor parthed cefnogi Plaid Cymru neu'r Blaid Geidwadol y flwyddyn nesaf. Mae'r cyfyng gyngor yn profi bod gan y bobl yma parch a / neu ddiffyg gelyniaeth tuag at y naill blaid / ymgeisydd a'r llall. Mae Cai yn gywir i ddadlau bod ymosodiadau Guto ar Phil / Plaid Cymru yn gallu dod a chanlyniadau anfwriadol yn eu sgil, y canlyniad o wneud Guto i edrych fel sinch bach sydd yn ymosod ar un y mae gan bobl parch / diffyg gelyniaeth tuag ato. Ond mae'r gwrthwyneb yn wir hefyd, mae ymosodiadau dan din gan Phil / Palid Cymru ar Guto yn rhoi Phil yn r么l y snich.
Yn Aberconwy, yng Nghymru, prin bydd selogion y Blaid bydd yn troi at y Ceidwadwyr a phrin bydd selogion y Ceidwadwyr bydd yn troi at y Blaid. Y buddugwr bydd yr ymgeiswyr sydd yn llwyddo i ymosod yn fwyaf llwyddiannus ar Lafur a chynnig polis茂au amgen i rai'r Blaid Lafur. Bydd atgasedd cynhenid Plaid Cymru tuag at y Ceidwadwyr a'i hagosrwydd i Lafur yn y Cynulliad ac agosrwydd ideoleg carfan sosialaidd ddylanwadol y Blaid i draddodiadau Llafur yn sicrhau mae'r Ceidwadwyr yng Nghymru bydd yn ennill y frwydr honno, yn union fel y gwnaethant yn etholiadau Ewrop.
Yr unig obaith sydd gan y Blaid i gael cynydd yw trwy ymosod ar wir fwci bo gwleidyddiaeth Cymru, sef y Blaid Lafur, yn hytrach nag wastraffu ei holl egni yn ymladd yn erbyn melinau gwynt y ffug anghenfil tin-flewog Ceidwadol. Os nad yw'r Blaid yn llwyddo i gael cynnydd, ar draul Llafur, mewn cyfnod lle mae Llafur ar drai yng Nghymru (fel sy'n debygol o ddigwydd eto) waeth i'r Blaid rhoi'r ffidl yn y to etholiadol!
Diolch am y sylwadau Alwyn - dwi'n cytuno efo 80% o'r uchod.
ReplyDeleteMi fyddwn yn nodi cwpl o bethau beth bynnag
(1)dydi fi yn ymsod a Guto yn gwneud hynny ddim yr um peth. Mae Guto yn ymgeisydd seneddol, blogiwr amaturaidd ydw i.
(2) Mi fydd Llafur yn ei chael hi weithiau, y canlynol yn y bethefnos diwethaf er enghraifft - http://oclmenai.blogspot.com/2009/12/kim-howells-yn-gadael-yr-adeilad.html
http://oclmenai.blogspot.com/2009/12/martyn-jones-yn-gwastraffu-amser-ac.html
http://oclmenai.blogspot.com/2009/12/syniad-wych-mr-killfoyle.html
http://oclmenai.blogspot.com/2009/12/gwan-crafllyd-ac-mewn-cariad-efo-fo-ei.html
(3) Dwi heb fynd ar ol Llafur yn lleol Llawer oherwydd nad oes yna ddim i fynd ar ei ol - maen nhw'n anweledig. Bydd hynny'n newid cyn yr etholiad. Mi fydda i hefyd yn edrych ar nifer o etholaethau Llafur tros yr wythnosau nesaf.
(4) Dydw i ddim yn gwneud sylwadau yn aml am LlG ac addysg. Mae gen i fy rhesymau i osgoi'r pwnc hwnnw. Mynd ar ol naratif LlG fydda i gan amlaf.
(5) Mae Guto'n cwyno fy mod yn pigo arno. Dwi'n anghytuno - dwi'n boenus o ymwybodol y gallaf gael amser caled ar y we os ydw i'n troelli heb fawr o sylwedd i weithio arno. Byddwn yn tybio y byddai Guto hefyd yn deall hynny.
(6) Pwynt y blogiad ti'n cyfeirio ato ydi annog gwrth geidwadwyr i fotio i'r Blaid yn Aberconwy. Dwi'n deall bod rhaid ymosod ar Lafur hefyd - ond mae dweud mai dim ond PC all guro'r Toriaid yn rhan o strategaeth y Blaid yn Aberconwy gobeithio!
Pleidleisiwr i Louis Hughes i gadw yr yrgolion ar agor.
ReplyDelete