05/12/2009

Newid hinsawdd yn gau neu'n wir - be di'r ots?

Yn ystod y dyddiau diwethaf mae mwyfwy o bobl wedi bod yn mynegi amheuon am yr ymgyrch i atal newid hinsawdd trwy honni mae ffug wyddoniaeth ac, yn bwysicach byth, mae ymgais at reoli pobl a chodi trethi yw'r holl stŵr. Mae'r ffaith bod y gwadu gwyddonol wastad yn dod efo'r un neges wleidyddol am ymyrraeth lywodraethol a threthiant yn awgrymu yn gryf bod y gwleidyddol yn bwysicach na'r wyddonol i'r gwadwyr

Gan nad ydwyf yn wyddonydd nac yn fab i wyddonydd y mae'n anodd imi wneud sylw teg am y ddadl wyddonol. Ond gan nad ydwyf yn or-hoff o ymyrraeth ddiangen yn fy mywyd na threthi di angen rwy'n gallu cydymdeimlo a rhywfaint o ddadleuon gwleidyddol y gwadwyr.

Yr wyf wedi nodi mewn post blaenorol bod cael gwared â bylbiau tryloyw (y rhai 100w 60w ac ati) yn achosi problemau gan fod y bylbiau cyrliog newydd yn amharu ar fy offer cymorth clyw, mae'n debyg eu bod yn achosi problemau i bobl efo ddiffygion gweledol hefyd. Dyma broblem dylid wedi dod i'r afael arni cyn i'r UE gwahardd y bylbiau hen ffasiwn yn llwyr.

Mae'n ymddangos imi fod polisi'r Cynulliad o gael gwared â bagiau siopau plastig un defnydd hefyd yn bolisi diffygiol. Yn ôl yr hyn yr wyf yn ddeall gan gyfaill sydd yn arbenigo yn y maes mae'r bagiau un defnydd yn bio-bydru o fewn blwyddyn neu ddwy. Mae'r bag for life o blastig tew yn cymryd 200 mlynedd i bydru, a bydd yr eco bags o blastig a ffibr yn parhau heb eu pydru mewn filflwydd. Yn waeth byth mae rhywfaint o ffibr y bagiau eco wedi ei chynhaeafu ar ffermydd lle cliriwyd fforestydd glaw er mwyn tyfu'r cnwd ffibr.

Nid ydwyf, yn amlwg, 100% yn cefnogi pob dim y mae'r ymgyrch amgylcheddol yn dweud na gwneud, ond eto rwy'n gweld problem fawr parthed dymuniad y gwrthwynebwyr i ro'r gorau i bob polisi amgylcheddol ar sail diffygion honedig yn y data newid hinsawdd. I mi nid gwyddoniaeth newid hinsawdd yw apêl gwleidyddiaeth glesni ond y dymuniad i fyw mewn byd glan a saff.

Hyd yn oed os yw newid hinsawdd yn ffug wyddoniaeth yr wyf yn parhau i ddymuno gweld llai o fagiau plastig a phaciau bwyd "poli" yn wasarn ar y strydoedd.

Hyd yn oed os yw newid hinsawdd yn ffug wyddoniaeth yr wyf yn parhau i ddymuno gweld pethau yn cael eu hail ddefnyddio a'u hailgylchu yn hytrach na'u taflu i landfill llawn llygod mawr

Hyd yn oed os yw newid hinsawdd yn ffug wyddoniaeth well gennyf byddid cael llai o nwyon gwenwynig budron yn chwydu allan o simneiau ffatrïoedd a phwerdai ar draws y byd.

Hyd yn oed os yw newid hinsawdd yn ffug wyddoniaeth yr wyf am weld y fforestydd glaw a'u hamrywiaeth o fywyd gwyllt yn cael eu hamddiffyn.

Hyd yn oed os yw newid hinsawdd yn ffug wyddoniaeth yr wyf yn croesawu datblygiadau sydd yn creu nwyddau effeithlon eu defnydd o egni bydd o gymorth i leihau fy miliau.

Newid hinsawdd neu beidio, mae symudiadau rhesymegol tuag at greu byd sydd yn lanach ac yn fwy effeithiol, yn sicr, yn well na pholisïau sydd am gadw'r byd yn fudr o aneffeithiol.

6 comments:

  1. Y broblem yn y bon ydi nad ydi pobl (ac yn bwysicach gwledydd) am newid heb y Wyddoniaeth i gefnogi hynny.

    Os oes canfyddiad bod y wyddoniaeth yn cael ei droi a'i ystumio er mwyn dod i ganlyniad arbennig, mae'n magu siniciaeth ac yn gwneud mwy o ddrwg nag o les.

    ReplyDelete
  2. Anonymous7:24 pm

    Dwi wedi cael llawn bola gyda'r bunses 'ma yn ddiweddar. Rwy'n gwrando ar Radio Cymru....newid hinsawdd hyn.....newid hinsawdd 'na.....dilyw yn Cymbria - 'newid hinsawdd'.....uwch gynhadledd newid hinsawdd.....'cannoedd o Gymru yn mynd i Lundain (Branwen Nicals yn eu canol - beth sy'n bod ar Gaerdydd?) i brotestio ynghynlch newid hinsawdd....bla bla bla....ac i gonroni'r cyfan....Beti a'i Phobol yn cyfweld gwyddonydd.....sy'n astudio......newid hinsawdd. Dwi ddim wedi gwrando cymain ar Real Radio nag wnes i heddi.

    ReplyDelete
  3. Y cwestiwn yw, nid gymaint fod newid hinsawdd yn digwydd, ond ai dyn sy'n gyfrifol? Yn sicr mae'n digwydd a hynny'n naturiol, ond mae i'w weld yn cyflymu'n ddiweddar.

    Os dywedwn nad dyn sy'n gyfrifol ac mae newid naturio yw hyn gyd, mae dal angen mynd i'r afael a'r gwastraff diddiwedd. Edrychwch ar ochrau ffordd - bagiau plastig yn sownd mewn gwrychoedd; adeiladau busnes gwasg a phob golau ymlaen; dibynnu ar y Dwyrain Canol am olew; dinistrio tirweddau gyda chloddio am fwynau copr ac alwminiwm. Boed hyn yn arwain at newid hinsawdd neu beidio, does dim anegn y fath beth.

    Ni ddylai'r llywodraeth ymyrryd ym mywydau pobol drwy wahardd nwyddau a chodi trethi, dewis yr unigolyn dylai fod. I'r rhai sy'n nadu ac yn deud mai dull o godi trethi yw ymyrraeth y llywodraeth, dylent cael eu gofyn a ydynt yn barod i gael gwared ar phetrol a glo? Mae'r mwyafrif o rhein yn mewnforion ac yn dibynnu'n fawr ar ymyrraeth y llywodraeth - gweler Irac a "diogelu'r ffynhonau olew". Dwi'n siwr y cai Iran, Irac a Saudi Arabia digon o fusnes gan India, Tsheina a marchnaoedd eraill yn y blynyddoedd i ddod gan allu atal gwerthiad i Ewrop a'r UDA. Wedyn bydd gofyn am ymyrraeth y llywodraeth am olew.

    Yr oedd sôn mae'r smotiau ar yr haul oedd yn gyfrifol am y cynydd mewn tymheredd ar y ddaear. Pan fo'r smotiau ar yr haul mewn rhes, mae gweithred yr haul yn uwch gyda mwy o belydrau uwch-fioled, is-goch, x a gama sy'n arwain at stormydd solar. Mae rhein yn digwydd tua pob 11 mlynedd gyda'r ymbelydredd ychwanegol yn gallu creu 'blackouts' trydanol wrth iddynt ymyrryd gyda pheilonau etc.

    Yn ôl y daearyddwyr yr ydym i fod ar ein ffordd at oes iâ arall, felly mae cynhesu ar y ddaear ddim i'w ddisgwyl ac o bosib o ganlyniad gweithgareddau dyn.

    Rhaid bod yn ofalus gyda'r term 'cynhesu byd eang' gan fod newid hinsawdd ddim yn golygu cynhesu i fawb. Fydd gogledd America ac Ewrop yn cynhesu, ynghyd ag Awstralia a Tsheina tra fydd ardaloedd o Affrica, India a De America'n mynd yn wlypach gan arwain at mwy o lifogydd.

    Gyda'r bwlbiau newydd maent yn allyrru pelydrau uwch-fioled ac yn cynnwys mercwri - sy'n wenwynig. Bydd rhai pobol sydd gyda chyflyrrau croen yn dioeddef o'r pelydrau uwch-fioled rwan. Doedd y problem yma ddim yn bodoli gyda'r hen fath er eu bod yn androd o aneffeithlon. Yr oedd fy nghyn narlithydd (Athro mewn gwyddorau LASER) yn prynnu llwyth o fwlbiau o'r hen fath ar gyfer y blynyddoedd i ddod oherwydd y perygl o fercwri yn y bwlbiau newydd. Wrth gwrs yr oedd ynghyd ag eraill yn gweithio ar greu bwlbiau LASER gwyn a ddylai fod yn fwy effeithlon (Labordai Sandia yn yr UDA yn gweithio ar hyn).

    Newid hinsawdd yn gelwydd? Wel mae profio wedi cael ei wneud gyda charbon deuocsid sy'n dangos ei fod yn dal pelydrau is-goch yn dda. Yn eu amsugno ac yna eu allyrru'n hwyrach sy'n golygu eu bod yn ' dal gwres'. Felly yn ôl theori y mwya o garbon deuocsid sy'n yr atmosffer, y mwya o wres fyddai'n cael ei ddal. Mae'r byd yn dibynnu ar y haen oson i adlewyrchu rhai belydrau is-goch, tra fo eraill yn cael cyrraedd y tir a wedyn cael eu hadlewyrchu. Os nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu bydd cynnydd yn y tymheredd, fel sydd i'w gael mewn tŷ gwydr neu gonservatory. Theori sydd wedi ei brofi yw hwn mewn gosodiad mewn labordy sawl tro. Yn anffodus, dim ond un tro cawn gyda byd ein hunain.

    ReplyDelete
  4. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  5. Os oes isio cynnwys ffacor economaidd fewn i leihau gwastraff: fel arfer bydd un can alwminiwm angen yr un faint o drydan i'w greu a sydd ei angen i bweru teledu am dair awr. Cawn alwminiwm bur o fwyn sy'n derbyn electrolysis, proses sydd angen tomen o drydan. Alwminiwm Môn efo Wylfa i'w hun, Dolgarrog efo generadur hydro-electrig i'w hun. Unwaith mae'r alwminiwm wedi ei echdynnu o'r mwyn, dim ond ei doddi a'i ailsiapio sydd ei hangen. Felly unwaith mae gennym yr alwminiwm dim ond ei doddi sydd ei hangen, yn lle'r llwyth o drydan gyda'r phroses o electrolysis. Golygai hyn bydd pris alwminiwm yn lleihau, mewn caniau, beiciau, ceir, awyrennau etc. Yr un peth gyda haearn, copr a phlwm - unwaith mae o gennym, does dim angen i ni ei fewnforio am brisiau gwirion.

    ReplyDelete
  6. Anonymous8:39 pm

    http://www.youtube.com/watch?v=bKrw6ih8Gto

    ReplyDelete