Nid ydwyf yn hoffi gwobrau i bobl sy’n mynegi barn, boed gwobr Pulitzer neu wobrwyon 10 uchaf Iain Dale.
Y drwg yw bod anelu am y fath wobrau yn gallu ffrwyno barn.
Y mae’n ffaith hysbys bod y mwyafrif llethol o’r pyst ar flogiau gwleidyddol Gymreig yn cefnogi Plaid Cymru. Yr wyf i wedi danfon ambell i bost sy’n feirniadol o’r Blaid. Dyna fi wedi piso yn y nyth, parthed ennill pleidleisiau fel y blog Cymreig gorau yn y byd.
Pe bawn wedi brathu fy nhafod ....
Pe bawn wedi cymedroli fy meirniadaeth jyst ychydig bach ....
Pe bawn wedi ceisio deall ochr arall y ddadl yn hytrach na’i feirniadu’n hallt ....
.... A fyddai obaith mae fy mlog i fyddai’r ceffyl blaen i ennill gwobr prif blogiwr Cymru, Prydain, y Byd a thu hwnt?
Os mae’r ateb yw ie, yna mae’r gwobrau yn ffurf ar sensoriaeth!
Dyna paham nad ydwyf yn gôr hoff ohonynt.
Ta waeth, rhaid byw mewn byd lle mae’r fath gwobrau’n bod ac mi fyddai’n braf gweld un neu ddau o flogiau Cymraeg / Dwyieithog yn y 100 uchaf yn chwifio’r faner dros yr henwlad a’r heniaith.
Mae’r manylion ar sut i bleidleisio yma
Mi wna i fotio i chdi os ydi hynny'n gwneud i ti deimlo'n well.
ReplyDeleteDiolch!
ReplyDeleteMi gei di bleidlais bach yn nol ar fy nghyfrifrifon Yahoo, Hotmail ac Opera, os wyt eisiau!
Pleidleisio dros flogiau difyr dwi'n dueddol o wneud. Peth diflas ydi darllen truth gan flogiwr sy'n gwneud dim byd ond adleisio'r party line. Fe gei bleidlais gen i, HRF.
ReplyDeleteSgin i ddim problem hefo chdi yn postio sylwadau beirniadol am y Blaid...ac ydw mi rydw i'n dall i ddarllen dy flog a dwi hefyd wedi fotio i chdi...ond ddim yn rhif 1.
ReplyDeleteMi fydd hi'n Blog Plaid Cymru v Blogs Llais Gwynedd mae'n debyg.
ReplyDeletePlaid Gwersyllt
ReplyDeleteMi fydd hi'n Blog Plaid Cymru v Blogs Llais Gwynedd mae'n debyg.
Damia a fi wedi fy nal yn y canol heb bleidlais gan neb :-(