Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi ei chynnal yn hen sir Feirionydd tair gwaith yn ystod yr hanner canrif diwethaf:
Ym 1967 yn y Bala
Ym 1997 yn y Bala
Ac eleni eto yn y Bala
Dydy’r eisteddfod heb ymweld â Thywyn, y Bermo na Harlech trwy gydol ei hanes modern. Fe fu Eisteddfod yn Nolgellau 60 mlynedd yn ôl, un yng Nghorwen 90 mlynedd yn ôl ac un yn y Blaenau 101 o flynyddoedd yn ôl.
Pan ddaw tro Meirion i wahodd yr eisteddfod eto plîs, plîs Mr Trefnydd Eisteddfodau, a oes modd ei gynnal mewn rhywle ar wahân i’r blydi Bala?
Be am Steddfod y Bermo 2019?
Does na ddim lle yn y Bermo, Harlech ydy'r lle!
ReplyDeleteMae o i weld fel mai argaeledd safle gwastad a digon mawr yw'r brif ystyriaeth yn hytrach na ble fyddai efallai'n 'elwa' yn ieithyddol/ddiwyllianol(?) ac yn arianol o ymweldiad.
ReplyDeleteMae'n teimlo braidd yn chwithig bod rhywun mor ifanc (peswch) a fi yn gallu cuofio'r tro diwethaf i'r Eisteddfod ymweld â'r un safle.
Fasa safle maes-awyr Llanbedr yn ddelfrydol, sych, gwastad a lle i 'Air Ieuan' lanio.
ReplyDeleteFasa safle maes-awyr Llanbedr yn ddelfrydol, sych, gwastad a lle i 'Air Ieuan' lanio.
ReplyDeleteAc yn gyfaddawd perffaith rhwng fy nymuniad i a dymuniad Plaid Gwersyllt – syniad bendigedig!
Mi wnaf i sortio’r canu, caiff Rhys bod yn fos ar y gelf a chrefft, a Gwersyllt rheoli’r llefaru a’r barddoni. Efo Colwyn yn gofalu am stiwardio, parcio a glanio awyrennau'r byddygions ry’n ni hanner ffordd at drefnu’r ŵyl yn barod!
Eisteddfod Llanbedr 2019 amdani!