Mae'r Blog Answyddogol wedi clywed si bod y Blaid Lafur yn wynebu anhawster i gael gafael ar ymgeisydd i ymladd Sedd Seneddol Arfon.
Mae Blog Menai yn mynegi syndod, gan mai sedd ddamcaniaethol Llafur, yw'r sedd newydd.
Y drwg efo'r deiliaid damcaniaethol yma yw bod y ffordd mae'r damcaniaeth yn cael ei phennu yn un hynod anaddas i'r drefn wleidyddol yng Nghymru.
I or symleiddio mae'r system yn edrych ar ddosbarthiad cefnogaeth plaid fesul ward yn etholiadau Cyngor 2004 ac yn defnyddio'r dosbarthiad yna i rannu'r bleidlais a bwriwyd yn etholiad San Steffan 2005 i'r seddi newydd.
Mae'n drefn sydd yn gweithio yn iawn mewn rhannau o Loegr lle mae'r 3 prif blaid yn ymladd canran uchel o seddi cyngor a lle mae pobl yn pleidleisio i'r blaid yn hytrach na'r unigolyn. Prin yw'r wardiau yng Nghymru lle ceir cystadleuaeth rhwng y cyfan o'r prif bleidiau. Yn aml iawn dim ond ymgeisydd i un o'r pleidiau sydd, gyda'r ymgeiswyr eraill oll yn annibynnol. Ac, yn aml, i John Jones Siop y Gornel byddem yn pleidleisio nid i John Jones yr ymgeisydd Rhyddfrydol.
Mae pawb, bron, yn gwybod yn iawn mae sedd gyffyrddus o saff i Blaid Cymru bydd yr Arfon newydd. Mae pawb yn gwybod mai diffyg perthnasedd y system dosbarthu sydd yn gyfrifol am roi Arfon i Lafur. Mae pawb call yn gwybod mae cadw'r sedd bydd Hywel nid ei gipio oddi wrth y Blaid Lafur.
Mae Blog Menai yn nodi bod modd i'r pleidiau mawrion cael rhywun i sefyll mewn sedd anobeithiol fel arfer o'r herwydd mae Etholaethau anobeithiol ydi'r camau cyntaf ar y grisiau i yrfa wleidyddol lewyrchus. Digon gwir. Onid yng ngogledd Cymru fu ornest anobeithiol cyntaf yr enwog Boris Johnson?
Ond mae gan y Blaid Lafur yn Arfon broblem. Mae'n sedd anobeithiol, i bob pwrpas i Lafur, mae pawb yn gwybod hynny - ond mae'r ystadegau yn dweud bydd yr ymgeisydd yn colli sedd sydd yn eiddo i Lafur - gwenwyn i yrfa wleidyddol.
Bu'n rhaid i Martin rhoi'r gorau i fod yn ymgeisydd oherwydd ei swydd newydd fel un o swyddogion y Blaid Lafur. Opsiwn orau'r Blaid Lafur yw chwifio'r rheolau mymryn a chaniatáu i Martin sefyll eto!
Bydd Martin yn colli eto yn llai o sioc na Llafur yn colli sedd, bid siwr?
Diolch am y sylwadau – dwi ddim yn cytuno efo nhw i gyd – ond ti’n codi pwyntiau diddorol.
ReplyDeleteEfallai bod angen ychydig o eglurhad ynglyn a natur Arfon cyn cychwyn. Mae hi’n Gymreig iawn o ran iaith (ag eithrio cylch Bangor), ond mae hefyd yn drefol iawn, gyda mwyafrif llethol y trigolion yn byw mewn tref (Caernarfon neu Fangor), neu mewn cyn bentref chwarel (Penygroes, Bethesda, Deiniolen ac ati). Yn yr ystyr yma mae Arfon yn fwy tebyg i Lanelli neu Ddwyrain Caerfyrddin / Dinefwr nag ydyw i Feirion neu Geredigion.
Mae wardiau trefol yng Nghymru yn fwy pleidiol wleidyddol na rhai gwledig, ac mae hyn yn wir am Arfon. Mae’r arfer o ethol cynghorwyr pleidiol yn llawer hyn yn Arfon nag yw yn Nwyfor neu Feirion, ac mae’n fwy anodd i ymgeisydd annibynnol gael ei ethol yma.
Mae’n gyfrinach agored i Lafur wneud yn dda iawn yn wardiau Arfon hen etholaeth Caernarfon yn 97, gwnaethant yn well yn 2001. Y rheswm na chollwyd hen etholaeth Caernarfon y tro hwnnw oedd bod wardiau Dwyfor yn hollol gadarn i’r Blaid. Roedd y llanw wedi dechrau troi yn ol yn Arfon erbyn 2005.
Dim ond dwy ran o dair o Arfon oedd yn hen etholaeth Caernarfon, roedd y draean arall yn hen etholaeth Conwy. Pedwerydd oedd y Blaid yn y fan honno yn 97, 01 ac 05. Ail (i Lafur) oeddynt yn Nyffryn Ogwen yn 2005 a phedwerydd ym Mangor.
Does gen i ddim mymryn o amheuaeth y byddai pethau’n agos yn 2005 petai’r etholaeth yn bodoli – a ‘dwi’n credu bod ffigyrau’r holl bleidiau yn cadarnhau hynny. Efallai na fyddai Plaid Cymru wedi colli – ond byddai’n agos.
Mae’r lli wedi troi, ac wedi troi’n sylweddol. Mae nifer o resymau am hyn.
Yn gyntaf mae yna lawer iawn o bobl mewn tref fel Caernarfon sy’n ddigon hapus i bleidleisio i Lafur neu Blaid Cymru ond ddim i neb arall. Mae eu pleidlais yn gyfnewidiol ac mae’r llanw wedi troi yn erbyn Llafur ym mhob man.
Yn ail mae gan y Blaid lawer iawn mwy o adnoddau dynol ac ariannol na Llafur yn lleol. Gwnaed defnydd go iawn o hwnnw yn y misoedd cyn etholiad y Cynulliad 2007, ac fe dorrwyd cefn Llafur yn lleol yn ystod y misoedd hynny. Adlewyrchwyd hynny mewn canlyniadau hollol erchyll i Lafur ar stadau tai mawr Caernarfon a Bangor yn etholiadau lleol 2007. Y stadau hyn ydi’r agoriad i lwyddiant etholiadol yn Arfon. Mae’r pentrefi chwarel yn llai cyfnewidiol. Does dim a ddigwyddodd yn etholiaau Ewrop yn lleol sy’n awgrymu bod sefyllfa Llafur wedi gwella – i’r gwrthwyneb.
‘Dydw i ddim yn meddwl ei bod yn debygol y bydd Martin yn dychwelyd am y tro o leiaf. ‘Dwi’n credu fy mod yn gywir i ddweud ei fod wedi rhoi’r gorau i’w ymgeisyddiaeth cyn y joban newydd. A ‘dwi’n gwybod fy mod yn gywir i ddweud bod rhesymau eraill am ei benderfyniad
Anghytuno efo Blog Menai mai arnaf ofn. Fedrith Plaid ddim dibynnu ar bleidlais i'r Blaid yn Arfon mwyach.
ReplyDeleteFedrith Llafur ddim chwaith. Does gan Hywel ddim math o brofile. Fydd Caernarfon ddim yn mynd efo Plaid eto, a Bangor wel tydi f honno ddim yn draddodiadol yn Blaid Cymru.
Dwi'n anghytuno efo di-enw uchod - mae'r bleidlais graidd i'r Blaid yn Arfon wedi caledu a chynyddu ers blynyddoedd, wele ganlyniadau'r holl etholiadau ers 2007, ac mae dweud nad oes gan Hywel Williams broffil yn gwbl anwir yn fy mhrofiad i.
ReplyDeleteOs mae un ardal o Wynedd y gall PC ddibynnu ar bleidlais gref, Arfon ydi'r rhan honno.