Wedi gwylio'r newyddion heno aeth dau adroddiad dan fy nghroen, y ddau wedi eu crybwyll gan ymgyrchwyr gwyrdd.
Y gyntaf oedd y ffaith bod bylbiau hen ffasiwn 100 wat am gael eu anghyfreithlioni ar ôl i'r stoc gyfredol dod i ben. Hwre! Meddai'r gwyrddion, heb ystyried oblygiadau ymarferol eu buddugoliaeth.
Yr wyf yn drwm fy nghlyw. Yr wyf yn dibynnu ar system lŵp i wrando ar y teledu, y ffôn, y radio, y cyfrifiadur a nifer o bethau eraill. Mae'r bylbiau cyrliog yn tarddu ar y lŵp. Os oes bwlb cyrliog ar gyn mewn unrhyw ystafell yn fy nhŷ, does dim modd imi ddefnyddio fy systemau lŵp. Mae cyfeillion byr eu golwg yn cwyno bod y golau melyn sydd yn dod o'r bylbiau cyrliog yn amharu ar eu gallu i weld, o gymharu â'r golau gwyn sy'n dod o'r hen fylbiau traddodiadol.
Ni ddylid wedi dod a rheolau gwahardd yr hen fylbiau i rym, cyn darganfod ffyrdd o sicrhau bod eu hanfanteision i bobl sydd yn byw gydag anabledd wedi eu goresgyn. Ond i'r eithafwyr sydd yn gyrru'r fath gyfundrefn dydy hawliau ddim yn bwysig - naw wfft i'r anabl - y gwyrdd sydd yn bwysig!
Yr ail stori oedd yr hanes bod petrol wedi codi 2 geiniog y litr / 12 c y galwyn heddiw. Eto roedd y Gwyrddion bondigrybwyll yn croesawu'r fath beth fel modd o annog pobl allan o'u ceir ac i mewn i drafnidiaeth gyhoeddus, cyn ystyried oblygiadau'r polis!.
Mae annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn wych lle mae trafnidiaeth gyhoeddus ar gael!
'Does gen i ddim trwydded gyrru. Tacsi'r wraig yw fy mhrif fodd o drafnidiaeth.
Yr oeddwn am fynd i Gorris heddiw i angladd hen gyfaill, ar yr un pryd roedd gan yr hogiau apwyntiad deintyddol yn y Rhyl. I'r Rhyl aeth tacsi Mam, wrth gwrs, gan fy ngadael i ddefnyddio'r enwog trafnidiaeth gyhoeddus mae'r Gwyrddion am imi ei ddefnyddio.
Mae Capel Salem Corris yn 58.84 milltir o ddrws fy nghartref, yn ôl y peiriant. Llai nag awr ar 60 MyA. Llai na ddwy awr ar ddim ond 30 MyA.
Pump awr ar y bys!
Ac o deithio'r pum awr yno - dim modd i ddod adref wedi'r cofio!
Mae'n debyg bod y coloneiddwyr gwyrdd yn teimlo'n hapus iawn eu bod wedi fy rhwystro rhag creu ôl droed carbon er mwyn ffarwelio a chyfaill mynwesol.
A choloneiddwyr ydynt. Nid Gwyrdd Seisnig mo amgylchedd Cymru ond Glas. Am gadw GLESNI mae'r Cymro da, coloneiddio trwy'r propaganda gwyrdd mae'r hipis a'u Tipi Valley a'u Lammas Eco Village Seisnig.
Ar hawliau i'r anabl, mae rhaid i bawb aberthu rhywbeth. Mae'r syniad y gellir torri allyrriad carbon heb ddewisiadau anodd yn anwybyddu realiti.
ReplyDeleteBobl annwyl Rhydian rwyt yn siarad lol weithiau. Nid cwyno am "bawb yn aberthu rhywbeth" ydwyf ond am rhai pobl yn gorfod aberthu eu gallu i glywed neu i weld. Wyt ti, wir yr, yn credu bod hynny yn iawn?
ReplyDelete