Y mae'n amlwg nad oes gan ddim un o'r sylwadau i fy mhost diwethaf flewj o ddim i wneud efo'r post gwreiddiol. Maent i gyd yn ymwneud a sylw enllibus a wnaed yn erbyn Cai.
Y mae Cai a fi yn hoff o anghytuno a'n gilydd. Trwy anghytuno yr ydym yn cadarnhau ein cyd amddiffyniad o'r egwyddor bod Rhydd i Bob un ei Farn ac i Bob Barn ei Llafar
Dyma'r un a'r unig blog gwleidyddol Cymraeg sydd ddim yn cymedroli sylwadau. Y rheswm "da" am beidio cymedroli yw bod cymedroli yn tarddu ar drafodaeth rydd. Y rheswm ymarferol yw fy mod yn methu bod ynghlwm i gyfrifiadur 24 awr y dydd ac yr wyf, am resymau personol, yn fwyaf tebygol o fod ar lein yn ystod oriau man y bore. Sef yr adeg pan na fydd llawer o drafodaeth "byw" yn digwydd.
Dwi ddim yn postio pob dydd yn y naill iaith na'r llall gan nad ydwyf adref 7 diwrnod yr wythnos. Yr wyf newydd ddychwelyd o gyflwyno achos Llys yng Nghaerdydd. Tra yn y Brifddinas cefais alwad ffôn yn dweud wrthyf fod cwyn am sylw enllibus yn bodoli ar fy mlog. Fe gostiodd £4 imi gael mynediad i'r we i ddileu'r sylw salw!
Dwi ddim am gymedroli pob sylw. Rwy'n postio er mwyn ymateb!
Ond mae sylwadau enllibus gan eraill yn fy ngosod i mewn sefyllfa annheg. Sef fy mod i yn cael y bai ac yn cymryd y baich cyfreithiol am bob dim mae unrhyw gôc oen gwirion am ei ddweud yn y parth sylwadau.
Yr wyf am erfyn ar y cociau wŷn i beidio a defnyddio fy mlog bach i ar gyfer sarhau eraill. Os ydych yn teimlo bod eich sarhad yn gyfiawn creuwch eich blog eich hunain a chymerwch y baich cyfreithiol ar eich ysgwyddau eich hunain.
Cachwr yw un sydd yn taflu sarhad o dan faich cyfreithiol un arall. Cachwr dan din sydd yn anharddu'r traddodiad Cymreig o ryddid mynegiant cyfrifol.
Dw'i'm wedi cymedroli sylwadau ers cryn amser bellach (wel, misoedd). Ond rhaid i rywun greu cyfrif dilys gydag Open ID (Blogge, Wordpress, TypePad etc) i adael sylwad. Ers defnyddio Open ID dw'i'm wedi cael problemau.
ReplyDeleteSiwr, fel canlyniad mae mifer y sylwadau wedi gostegu, ond yn fy marn i nad oes unrhyw werth gan sylwad wedi ei bostio gan "anonymous". Mae'n jyst galluogi darllenwr i gogio bod yn ddau neu dri neu bedwar person gwahanol.
Does gen i ddim cydymdeimlad â phobl sydd yn gwrthod creu cyfrif. Tydi creu cyfrif ddim yn amharu ar anonimiti rhywun, wedi'r cwbl.